Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Democratic Services
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan yr Aelodau.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. PDF 133 KB Cofnodion: Cadarnhawydcofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 7fed Chwefror 2017 ac fe’u ;llofnodwyd gan y Cadeirydd.
|
|
Cofnodion: Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr a gyflwynwyd, i’w wrthod am y tri rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Roeddyr Aelod lleol dros St. Mary’s yn analluog i fynychu cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio i siarad ynghylch y cais hwn. Fodd bynnag, roedd y Cadeirydd wedi cytuno y byddai Aelod o’r Pwyllgor yn cyfleu ei safbwyntiau i’r Pwyllgor, fel a ganlyn:
Wediystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod lleol,mynegodd yr Aelodau’r pryderon canlynol:
Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir R. J. Higginson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy fod cais DC/2010/00969 yn cael ei wrthod am y tri rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid gwrthod - 13 Ynerbyn gwrthod - 0 Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasomfod cais DC/2010/00969 yn cael ei wrthod am y tri rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr a gyflwynwyd, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar yr wyth amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar yr amodau, felyr amlinellwyd yn yr ohebiaeth hwyr, yn ymwneud ag isadeiledd Gwyrdd ac Ecoleg. Hefyd, yn amodol ar Gytundeb Adran 106 yn ei gwneud yn ofynnol bod naw o’r unedau preswyl yn cael eu darparu fel tai fforddiadwy naill ai ar gyfer perchnogaeth cartref ar gost isel neu rent cymdeithasol; bod cyfraniad ariannol o £56,438 yn cael ei wneud yn lle tai fforddiadwy parthed lleiniau arfaethedig 1 a 2, a chyfraniad ariannol i’w wneud ar gyfer mabwysiadu Clôs Pentwyn.
Amlinelloddyr Aelod lleol dros Shirenewton, yn bresennol yn y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol:
Lleolir y safle o fewn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a chytunwyd yr egwyddor o ddatblygu ar y safle hwn. Fodd bynnag, gwnaed y pwyntiau canlynol:
Hysbysodd y Rheolwr Traffig a Datblygu y Pwyllgor fod yr ymgeisydd wedi dangos y gallant ddarparu cerbytffordd 4.8 metr o led sy’n lled safonol ar gyfer datblygiad preswyl, sy’n fwy na digonol i ganiatáu cerbyd cyflenwi safonol a char i basio. Darperir llwybr troed hefyd sy’n cysylltu i mewn i’r ddarpariaeth llwybr troed bresennol i mewn i Glôs Pentwyn ac ar yr A48.
Parthedtirlunio, bydd yr ymgeisydd, fel rhan o’r Cytundeb Adran 278, yn talu swm gohiriedig ar gyfer rhwymedigaethau cynnal a chadw’r ardal a dirluniwyd yn y dyfodol. Gellir negodi manylion technegol y tirlunio yn hwyrach. Felly, mae’r egwyddorion yno i ddarparu cyfrwng ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Cofnodion: Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynychoddyr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol parthed ceisiadau DC/2016/01449 a DC/2016/01452 sy’n cyfeirio at y ddarpariaeth o hysbysfyrddau digidol yn Y Fenni.
Yregwyddorion y tu ôli’r ddarpariaeth o hysbysfyrddau digidol:
Mynegoddyr Aelod lleol dros Grofield, hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei gefnogaeth i’r cais ac nid oed ganddo wrthwynebiad i’w leoliad. Roedd yr adborth oddi wrth y cyhoedd ynghylch y bwrdd presennol wedi bod yn ardderchog.
Gofynnoddyr Aelod Cabinet i’r Pwyllgor ystyried cadw’r lliw presennol, fel gyda’r holl hysbysfyrddau digidol eraill, i gynnal yr edrychiad.
Wediystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, mynegodd yr Aelodau eu cefnogaeth i’r cais gan ddiolch i’r Aelod Cabinet am y gwaith a gyflawnwyd ganddo i yrru’r mater hwn rhagddo.
Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir D. Edwards ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell fod cais DC/2016/01449 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a bod amod ychwanegol yn cael ei ychwanegu i sicrhau bod ffrâm y sgrin yn las, nid du, i weddu i’r hysbysfwrdd y mae i gael ei osod arno. .
Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 13 Ynerbyn cymeradwyo - 0 Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasomfod cais DC/2016/01449 yn cael ei gymeradwyo ynamodol ary ddau amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a bod amod ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Cofnodion: Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Ystyriai’rAelod lleol dros Grofield, hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y bydd yr hysbysfwrdd digidol arfaethedig yn cael ei leoli yn y lle anghywir. Ystyriai y byddai’n well petai wedi’i leoli ym mhen pellaf Sgwâr Sant Ioan yn agos i Siop Sue Ryder.
Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu y Pwyllgor y gellid symud, os bydd angen, y bin gwastraff a’r cynhwysydd planhigion, sydd wedi’u lleoli ar hyn o bryd gerllaw'r safle arfaethedig ar gyfer y bwrdd arddangos digidol, i wella mynediad. Nid oedd y cynllun yn adlewyrchu’n glir y lleoliad arfaethedig ac ni leolir yr arwydd i greu rhwystr i symudiadau cerddwyr mewn cyfuniad â dodrefn stryd arall.
Dewiswyd y lleoliad ar gyfer y byrddau arddangos digidol fel un o’r tair ardal o fewn y dref lle gellid lleoli byrddau arddangos digidol. Bydd y lleoliad hwn yn tynnu sylw cerddwyr sy’n mynd heibio a bydd yn wynebu’r gogledd, fel gyda’r ddau fwrdd arall, i osgoi golau tanbaid o’r haul. Mae’r ceblau trydan eisoes yn eu lle yn y lleoliad hwn, nesaf at Gabinet BT.
Wediderbyn adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, ystyriai mwyafrif yr Aelodau y lleolir y bwrdd arddangos digidol arfaethedig yn y lle cywir gan fynegi’u cefnogaeth i’r cais.
Wedigwrando ar yr eglurhad parthed y rhesymeg y tu ôl i leoliad y bwrdd arddangos digidol arfaethedig, roedd yr Aelod lleol yn fodlon â’rcais.
Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir D. Edwards ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy fod cais DC/2016/01452 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a bod amod ychwanegol yn cael ei ychwanegu bod yr hysbysfwrdd yn las i weddu i eraill yn y canol tref.
Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 13 Ynerbyn cymeradwyo - 0 Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasomfod cais DC/2016/01452 yn cael ei gymeradwyo ynamodol ary ddau amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a bod amod ychwanegol yn cael ei ychwanegu bod yr hysbysfwrdd yn las i weddu i eraill yn y canol tref.
|
|
Cofnodion: Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynegoddyr Aelod lleol dros Trellech United, hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei gefnogaeth i’r cais.
Wediystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwydgan y Cynghorydd Sir D. Blakebrough ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P.R. Clarke fod cais DC/2017/00090 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 13 Ynerbyn cymeradwyo - 0 Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasomfod cais DC/2017/00090 yn cael ei gymeradwyo ynamodol ary ddau amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
|
|
Cynllun Datblygu Lleol Drafft Ganllawiau Cynllunio Atodol Llety Twristiaeth Cynaliadwy. PDF 145 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoesomystyriaeth i’r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar Lety Twristiaeth Cynaliadwy, gyda’r bwriad o’u cyflwyno ar gyfer ymgynghori.
Penderfynasomgymeradwyo’r Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft (CCA) ar Lety Twristiaeth Cynaliadwy gyda’r bwriad o’u cyflwyno ar gyfer ymgynghori ac argymell i’r Aelod Cabinet dros Arloesi, Menter a Hamdden yn unol â hynny.
|
|
Penderfyniad Apêl - Heol y Capel, Y Fenni. PDF 122 KB Cofnodion: Derbyniasomadroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a gyfeiriodd at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 6ed Chwefror 2017. Safle: 1Heol y Capel, Y Fenni.
Cawsai’rapêl ei gwrthod.
|
|
Penderfyniad Apêl - Highway Barn, Llanfihangel Troddi. PDF 141 KB Cofnodion: Derbyniasomadroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a gyfeiriodd at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 23ain Rhagfyr 2016. Safle: Highway Barn, Common Road, Llanfihangel Troddi.
Caniatawydyr apêl a rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer estyniad ateg un llawr ar y wedd orllewinol (y cefn) yn Highway Barn, Common Road, LlanfihangelTroddi NP25 4JB yn unol â thelerau’r cais, Cyf. DC/2016/00917, dyddiedig 02 Awst 2016, a’r cynlluniau a gyflwynwyd gydag ef, yn amodol ar yr amodau canlynol:
1) Bydd y datblygiad yn cychwyn heb fod yn hwyrach na phum mlynedd o ddyddiad y penderfyniad hwn.
2) Cyflawnir y datblygiad yn unol â’rcynlluniau a’r dogfennau canlynol: 01 (Lleoliad a chynllun safle); 02 (Gweddau a chynlluniau presennol), 03 (Gweddau a chynlluniau arfaethedig); 04 (Lluniad isometrig presennol); 05 (Lluniad isometrig presennol); 06 (Lluniad isometrig presennol); 07(Lluniad isometrig presennol); 08 (Lluniad isometrig arfaethedig); 09 (Lluniad isometrig arfaethedig); 10 (Lluniad isometrig arfaethedig); ac 11 (Lluniad isometrig arfaethedig).
3) Diogelir y coed derw yn unol â’rargymhellion a osodwyd yn Adran 6 o Arolwg BS 5837 a Datganiad o Ddull Coedyddiaeth a baratowyd gan Ymgynghoriaeth Coed Broadway dyddiedig Gorffennaf 2016.
|
|
Penderfyniad Apêl - Yr Hen Stabal, Y Fenni. PDF 152 KB Cofnodion: Derbyniasomadroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a gyfeiriodd at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 12fed Ionawr 2017. Safle: Tir yn Yr Hen Stabl, Dwyrain Heol yr Undeb, tu cefn i 150 Heol St. Helens, Y Fenni.
Caniatawydyr apêl ar sail (e), ac amrywiwyd yr hysbysiad gorfodi drwy osod “neu wedi’i staenio” yn ail ran y gofyniad yn Rhestr 4 o’r hysbysiad fel y bydd yn darllen “Dylid newid y ffenestri a’r drysau i bren wedi’i baentio neu wedi’i staenio”, a thrwy ddileu 3 mis calendr a’i amnewid â 6 mis calendr fel yr amser ar gyfer cydymffurfio a nodwyd yn Rhestr 4 o’r hysbysiad. Yn amodol ar yr amrywiadau hyn, mae’r hysbysiad gorfodi’n cael ei gynnal, a gwrthodwyd caniatâd cynllunio ar y cais y tybir iddo gael ei wneud dan adran 177(5) o Ddeddf 1990 fel y’i diwygiwyd.
|
|
Apeliadau a dderbyniwyd. PDF 221 KB Cofnodion: Derbyniasom a nodwyd yr apeliadau a dderbyniwyd.
|
|
Nodi newid dyddiad cyfarfod Mai 2017: O 2 Mai 2017 i 25 Ebrill 2017, yn dechrau am 2.00pm. Cofnodion: Bu’n rhaid newid dyddiad cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ym Mai ac fe’i cynhelir nawr ar ddydd Mawrth 25ain Ebrill 2017 yn cychwyn am 2.00pm
|