Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
Datganiadau o Fuddiant
Cofnodion:
Datganodd y
Cynghorydd Sir P.R. Clarke fuddiant personol sy’n
rhagfarnu yn unol â Chod
Ymddygiad yr Aelodau parthed cais
DC/2016/01453 gan
mai ef
yw Is-gadeirydd Bwrdd
Cymdeithas Dai Sir Fynwy. Gadawodd y
cyfarfod heb gymryd rhan yn y trafodaethau na phleidleisio.
Datganodd y
Cynghorydd Sir A.M. Wintle fuddiant personol sy’n
rhagfarnu yn unol â Chod
Ymddygiad yr Aelodau parthed cais
DC/2016/01453 gan
ei fod
yn Aelod
Bwrdd ar
Fwrdd Cymdeithas Dai Sir Fynwy. Gadawodd y
cyfarfod heb gymryd rhan yn y trafodaethau na phleidleisio.
Datganodd y
Cynghorydd Sir A.
Webb fuddiant personol sy’n
rhagfarnu yn unol â Chod
Ymddygiad yr Aelodau parthed cais
DC/2016/01453 gan
ei bod yn
Aelod Bwrdd
ar Fwrdd
Cymdeithas Dai Sir Fynwy. Gadawodd y
cyfarfod heb gymryd rhan yn y trafodaethau na phleidleisio.
|
2. |
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 168 KB
Cofnodion:
Cadarnhawydcofnodion Cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio dyddiedig
10fed Ionawr 2017 ac
fe’u llofnodwyd gan y
Cadeirydd.
|
3. |
Cais DC/2016/01380 – Symud y llawr cyntaf presennol uwchben yr ystafell flaen. Symud waliau mewnol presennol a gosod rhai newydd. Drws gwydrog newydd ar flaen yr eiddo. Newid cynllun lliw ffasadau (cais am ganiatâd adeilad rhestredig). The Brittania Inn, 51 Stryd Frogmore, Y Fenni, NP7 5AR. PDF 98 KB
Cofnodion:
Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais,
a’r ohebiaeth hwyr a
gyflwynwyd, i’w wrthod am
un rheswm,
fel yr
amlinellwyd yn yr adroddiad hwn.
Mynychodd y
Cynghorydd C.D. Woodhouse, yn cynrychioli
Cyngor Tref
Y Fenni, y cyfarfod ar wahoddiad y
Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau
canlynol:
-
RoeddCyngor y Dref wedi ymateb i’r
Cyngor Sir gan yn nodi, yn amodol ar yr holl amodau cadwraeth cynllunio yn
cael eu
gwireddu a’r ymweliad
safle’n cael ei gynnal, fel y
digwyddodd, byddai Cyngor y
Dref yn
cymeradwyo argymell y cais.
-
Mae’radeilad wedi bod
yn segur am
bum mlynedd gyda’r effaith
leiaf ar y
brif stryd.
-
Byddcolli swyddi ar raddfa fechan
oherwydd y methiant i agor y
safle manwerthu hwn.
-
Gofynnwydi’r Pwyllgor
dalu sylw
arbennig i’r adroddiad
archeolegol. Mae gwahaniaethau rhwng
barn y Cyngor Sir a barn awdur yr adroddiad.
-
Mae’rCyngor Tref
yn ystyried
bod angen i’r mater hwn
gael
ei ddatrys
cyn gynted â
phosib.
Amlinelloddyr Aelod
lleol dros
Grofield, a
oedd yn
Aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio yn ogystal, y
pwyntiau canlynol:
-
YstyriwydTafarn y Britannia yn
2005 yn ddigon pwysig i
gael
ei rhestru’n Radd
II.
-
Wediymweld â’rdafarn yn ddiweddar fe’i
syfrdanwyd gan gyflwr mewnol yr adeilad.
-
Ni ellir defnyddio esgeulustod y
dafarn fel
yr esgus i
gam-drin y tu mewn ymhellach drwy
godi’r llawr cyntaf.
-
Mae’rymgeisydd wedi
honni ei
fod wedi
methu âgosod
yr adeilad
i gwmnïau.
Fodd bynnag, nid
yw gosod
adeiladau yn fater cynllunio.
-
Mae’rSwyddog Cadwraeth
wedi edrych
ar ganiatadau cynllunio a
gymeradwywyd yn ddiweddar ac
wedi bod yn
hyblyg yn
cynorthwyo’/r ymgeisydd i gynnal a
gosod yr
adeilad.
-
YmMharagraff 3 o adroddiad y cais,
mae’r polisi cynllunio
yn cyfeirio
at adeiladau treftadaeth yn y
Cynllun Datblygu Lleol
(CDLl). Mae’r ddau
bwynt bwled
yn berthnasol ac yn
arwain at Bolisi HE1 – Datblygu mewn
Ardaloedd Cadwraeth.
-
Mae’rSwyddog Cadwraeth
wedi darparu asesiad
manwl o’r eiddo
a’r rheolau a’r
rheoliadau cynllunio.
-
Yngngoleuni gwerthusiad y Swyddog
Cadwraeth a dehongliad Cadw
o’r egwyddorion cynllunio
dywedodd y byddai’n cefnogi
argymhelliad y Swyddog i wrthod y
cais.
Wediystyried adroddiad y cais
a’r safbwyntiau a fynegwyd,
mynegodd rhai Aelodau’u
cydymdeimlad â’r ymgeisydd gan
fod y llawr
dan sylw
eisoes mewn
cyflwr gwael. Hefyd,
o’r tu allan roedd
yr adeilad
yn gweddu i
gymeriad y stryd a byddai
symud y llawr cyntaf
heb greu
effaith andwyol ar gymeriad y stryd.
Byddai cymeradwyo’r cais
yn dwyn
yr adeilad
nôl i ddefnydd o fewn y
dref.
Foddbynnag, ystyriodd Aelodau
eraill fod
dewis addas
ar gael i godi’r llawr
cyntaf o 400mm gan ddarparu
digon o uchder nenfwd
i’r llawr gwaelod.
Cynigiwyd,
felly, gan y Cynghorydd Sir D. L. Edwards ac eiliwyd gan y
Cynghorydd Sir P. Murphy fod cais DC/2016/01380
yn cael
...
view the full Cofnodion text for item 3.
|
4. |
Cais DC/2016/01440 – Addasu amod i newid y cynlluniau gwreiddiol gyda chynlluniau fel yr adeiladwyd. Gosodiad Gwyliau The Chicken Shed, Heol Park House, Parkhouse, Tryleg, NP25 4PU. PDF 161 KB
Cofnodion:
Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais,
a’r ohebiaeth hwyr a
gyflwynwyd, i’w gymeradwyo
yn amodol
ar y pum
amod, fel
yr amlinellwyd yn
yr adroddiad hwn.
Mynychodd y
Cynghorydd J. Gooding, yn cynrychioli
Cyngor Cymuned Trellech, y
cyfarfod ar
wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau
canlynol:
-
RoeddThe Chicken Shed ar y rhestr
fer ar
gyfer y fedal aur Bensaernïol yn
Eisteddfod 2016. Fodd bynnag,
roedd y Cyngor Cymuned
wedi ystyried na ddylai’r
adeilad fod
wedi’i gymeradwyo i’w
addasu ac y dylid bod wedi
cymryd camau gorfodi
a’r eiddo’n cael
ei ddymchwel.
-
Y neges sy’n cael
ei throsglwyddo i’r
gymuned yw
bod pobl yn
credu y byddant yn gallu dilyn
yr esiampl
sydd wedi’i gosod.
-
Mae’rCyngor Cymuned
yn ystyried
bod yr ymgeisydd ac/neu’r asiant
wedi dangos
anfri i’r broses gynllunio.
-
Mae’rCyngor Cymuned
yn ystyried
bod yr adeilad wedi bod
yn anffawd
cynllunio o’r dechrau
i’r diwedd.
-
Mae gan y Cyngor Cymuned
beth cydymdeimlad â’r Swyddogion Cynllunio
presennol nad oeddent yn gyfrifol am y camgymeriadau. Mae mesurau’n cael
eu gosod
yn eu
lle i rwystro amgylchiad
tebyg i ddigwydd eto. Fodd
bynnag, nid
yw’r cyhoedd wedi
cael eu
hysbysu o’r camgymeriad.
-
Sylwydar ganlyniadau’r
neges wallus hon gan
fod y Cyngor Cymuned
yn ddiweddar wedi
derbyn cais, yn debyg i’r Chicken
Shed, oddi wrth breswylydd
lleol.
-
Pan dderbyniodd y Cyngor y cais
addasu gwreiddiol DC/2011/00823 roedd wedi argymell ei
wrthod ac roedd wedi ychwanegu petai’r
Adran Gynllunio o blaid
cymeradwyo’r cais, bod angen
arolwg strwythurol annibynnol
pellach yn
gyntaf. Ni wnaethpwyd hyn a
rhoddwyd caniatâd.
-
Pan ddechreuodd y
gwaith adeiladu, roedd y
muriau wedi’u tynnu a
chyplau’r to wedi’u torri
nôl fel na allent
bellach gyrraedd y muriau.
Roedd y Cyngor Cymuned
yn ystyried, yn y
cyfnod hwn,
y gallai’r hen gyplau gefnogi’r
to. Dylid bod wedi atal yr adeiladu
yn y cyfnod
hwn ond
caniataodd y Cyngor Sir iddo barhau.
-
Amgaewyd
y strwythur wedyn mewn pabell fawr. Pan
symudwyd y
babell, roedd yr adeilad yn strwythurol gyflawn
a’r hen gyplau to wedi’u
bwrw i’r neilltu.
Galwyd y Swyddogion Gorfodaeth a
darganfod yr hen gyplau
a fwriwyd
o’r neilltu’n gorwedd
ar ymyl y
safle. Cyfarwyddwyd yr
ymgeiswyr wedyn i newid
rhai o’r hen gyplau i
mewn i strwythur yr
adeilad.
-
Mae’rdarlun mewnol
ynghlwm wrth y cais
yn dangos
dau gwpwl
gwyrdd ychwanegol, i bob golwg
yn honni’u bod yn
gyplau gwreiddiol. Fodd
bynnag, mae’r Cyngor
Cymuned yn
ystyried nad oedd hyn yn bosib.
-
Mae’rCyngor Cymuned
yn ystyried
nad
addasiad yw’r adeilad.
Amlinelloddyr ymgeisydd, Mrs. S. Peacock, a oedd yn mynychu’r
cyfarfod ar
wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau
canlynol:
·
Roeddyr eiddo
wedi’i brynu wedi i
ganiatâd
cynllunio gael ei roddi.
·
Wedibuddsoddiad ariannol arwyddocaol
sefydlwyd busnes gosod
gwyliau sylweddol.
·
Roeddpwyllgor ...
view the full Cofnodion text for item 4.
|
5. |
Cais DC/2016/01453 – Dymchwel strwythurau presennol ar y safle, adeiladu 25 annedd newydd a gwaith cysylltiedig. Brookside, Ffordd Neddern, Cil-y-coed, NP26 4RJ. PDF 298 KB
Cofnodion:
Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais,
a’r ohebiaeth hwyr,
a argymhellwyd i’w
gymeradwyo yn amodol ar y pymtheg
amod, fel
yr amlinellwyd yn
yr adroddiad.
Amlinelloddyr Aelod
lleol dros
Dewstow, yn
mynychu’r cyfarfod ar
wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau
canlynol:
-
Dros y misoedd diwethaf mae’r
Aelod lleol
wedi bod yn
brysur yn
mynd i’r afael â
rhai problemau sy’n
gysylltiedig â’r cais.
-
Mae peth beirniadaeth ynghylch
nifer y coed sydd angen eu cwympo.
-
Mae arolwg ystlumod yn
awgrymu bod angen mwy o
waith parthed y mater hwn.
-
Mae angen ystyried adar yn
nythu wrth
benderfynu pryd i gychwyn y
datblygiad.
-
Mae pryderon
ynghylch y goleuo a lle
cysylltir hyn.
-
Mynegwydpryder ynghylch
cynllun yr
heol am na all yr heol gael ei chyrraedd drwy
Neddern Way.
-
Mynegwydpryder y bydd
rhai o’r tai
arfaethedig yn cael eu lleoli’n
agos iawn
i’r Eglwys. Byddai
ailgyfeirio’r tai a chymryd
yr heol
yn syth i
fyny ac o gwmpas yn creu clustog ac
yn creu
amgylchedd sy’n addas i
breswylwyr y tai ac i’r eglwys.
Nid effeithid ar
dir agored
cyhoeddus petai’r heol
yn dilyn y
llwybr hwn.
-
Byddyr ystâd newydd yn cael ei meddiannu’n bennaf gan bobl iau. Dylid
ystyried amddiffyn y cyfleusterau ar
gyfer pobl
ifanc.
-
Bydd y llwybr arfaethedig presennol
yn beryglus
i blant lleol gan y
bydd yn
rhedeg drwy’r ystâd.
-
Nidoes gan
breswylwyr lleol wrthwynebiad i
nifer y tai
ar y datblygiad arfaethedig
ond mae
angen mynd
i’r afael â’rmaterion yn ymwneud ag
adar, ystlumod, a diddymu’r llwybr
troed.
-
Dylaicynllun yr heol fod yn well o
lawer a byddai hyn yn bodloni pryderon preswylwyr.
Mynychodd y
Cynghorydd F. Rowberry, yn
cynrychioli Cyngor Tref
Cil-y-coed,
y cyfarfod ar wahoddiad y
Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau
canlynol:
·
Yngnghyfarfod Cyngor Tref
Cil-y-coed
ar y 10fed Ionawr 2017 rhoddwyd
ystyriaeth i’r cais.
Yn y cyfarfod, nodwyd bod
Pwyllgor Ardal Glannau
Hafren wedi
gwneud sylwadau’n mynegi
pryderon ynghylch mynediad
i’r safle, y llwybr
troed a’r effaith
ar y tir
a’r adeiladau o amgylch.
Felly, gwrthodwyd y cais gan y Cyngor Tref
yn amodol
ar ymgynghori pellach
gyda’r preswylwyr.
-
Tramae’r Cyngor Tref
yn cefnogi
datblygiadau sy’n dod âthai
fforddiadwy i’r ardal,
mynegwyd pryderon sylweddol
ynghylch y diffyg ymgynghori
a’r diffyg amser
ar gyfer
ymgynghori yn ystod y broses
cyn-ymgeisio.
-
Gwnaedsylwadau i aelodau
lleol y ward ar ran y cyhoedd a mynegwyd
pryderon ynghylch mynediad i
draffig o gwmpas y datblygiad.
-
RoeddCyngor Tref Cil-y-coed wedi cyfarfod eto ar y
25ain Ionawr 2017 ac
wedi ystyried y cais
diwygiedig. Roedd y Cyngor
Tref wedi
gwrthod y cais hwn am
yr un
rhesymau ag y crybwyllwyd eisoes.
Mynychodd Mr.
C. Parker, yn cynrychioli’r gwrthwynebwyr ac Eglwys
Bethania, y cyfarfod ...
view the full Cofnodion text for item 5.
|
6. |
Cais DC/2016/00880 - Datblygu hyd at 115 annedd breswyl (C30, gofod agored, tirlunio, mynediad i gerbydau o Lôn Sipsi, mynediad i gerddwyr a gwaith seilwaith a pheirianneg cysylltiedig. Tir yn Fferm Grove (ger Lôn Sipsi), Llan-ffwyst, NP7 9FF. PDF 227 KB
Cofnodion:
Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais,
a’r ohebiaeth hwyr, a
argymhellwyd i’w gymeradwyo
yn amodol
ar y 17 amod, fel yr amlinellwyd
yn yr
adroddiad a hefyd yn amodol ar Gytundeb Adran 106,
fel yr
amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynychodd y
Cynghorydd L. Palmer, yn cynrychioli
Cyngor Cymuned Llan-ffwyst, y cyfarfod ar
wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau
canlynol:
-
Mae’rCyngor Cymuned
yn argymell
gwrthod y cais.
-
Mae’rsafle’n anaddas o
ganlyniad i’w agwedd
cefn gwlad
agored.
-
Mae Pentref Llan-ffwyst wedi’i or-ddatblygu i raddau
anghymesur yn y blynyddoedd
diweddar.
-
Cafoddhyn effaith
sylweddol ar amgylchedd y
pentref.
-
Mae’rsafle arfaethedig
yn ffinio
â thai
sydd eisoes
yn bodoli
ond mae’r lleoliad
hwn o fewn
y cefn gwlad agored a
bydd mynediad i’r
datblygiad o lôn wledig.
Mae’r lôn hon eisoes
yn derbyn
llawer o draffig o Lanellen
yn dod i Lan-ffwyst.
-
Pan gaeir Pont Llanellen defnyddir y
lôn
fel ffordd
i ddargyfeirio traffig.
-
Cyfaddawdirdiogelwch cerddwyr
sy’n cerdded ar hyd y lôn hon.
-
DatblygwydPentref Llan-ffwyst
yn fawr
yn ystod y
blynyddoedd diweddar gydag
ychwanegu nifer o ddatblygiadau
tai mawr.
Arweiniodd hyn at gynnydd
mewn traffig ar heolydd lleol.
-
Bu cynnydd hefyd yn y defnydd o’r
bont Ganoloesol.
-
Ni all isadeiledd
Llan-ffwyst gynnal yr holl dai hyn.
-
Mae’rysgol leol eisoes yn llawn. Felly, ni fydd
unrhyw blant yn byw yn y datblygiad arfaethedig
yn gallu
mynychu’r ysgol leol.
-
Bu’reffaith ar amgylchedd y pentref
yn enfawr a
bydd yn
parhau i fod yn enfawr a’r
pentref yn
cael ei
droi i mewn
i dref..
-
Mae nifer o safleoedd o fewn y
Cynllun Datblygu Lleol
(CDLl) y gellid eu datblygu.
-
Mae Llan-ffwyst
wedi dyblu’i faint gan
greu blerdwf trefol
nad
yw'n ddeniadol.
-
Nidoes gan
Bentref Llan-ffwyst yr
isadeiledd i ymdopi â thai ychwanegol.
-
Mae mwy o leoliadau addas
ar gyfer
datblygu wedi’u nodi
yn y CDLl.
Mynychoddasiant yr ymgeisydd, Ms. D.
Powell, y cyfarfod ar wahoddiad y
Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau
canlynol:
-
Mae’rcynnig wedi bod
yn rhwym
wrth asesiad gofalus ac
nid oes
unrhyw wrthwynebiadau technegol eithriadol
oddi wrth
ymgynghoreion mewnol nac allanol.
-
Trabo’r safle eisoes
wedi’i neilltuo yn y
CDLl fel
safle y tu
allan
i’r ffin ddatblygu,
mae prinder
cyflenwad tir ar gyfer tai yn Sir
Fynwy.
-
Mae Canllawiau
Polisi Cynllunio Cenedlaethol
yn nodi bod
angen cynyddu’r cyflenwad o dir
adeiladu tai
a dylid rhoi pwys sylweddol ar
hyn.
-
Oscymeradwyir y cais, gwnaiff
gyfraniad ystyrlon tuag at
gwrdd â’rdiffyg hwn a
byddai’n darparu 35% o
dai
fforddiadwy sy’n cyfateb i 40
o unedau.
-
Cyfarfyddirâ
gofynion Grant
Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy’r Cyngor (CCA).
|
7. |
Cais DC/2016/01210 – Fan sefydlg arlwyo bwyd, Clwb Cymdeithasol Pont Hafren, Heol Bulwark, Bulwark, Cas-gwent, NP16 5JN. PDF 78 KB
Cofnodion:
Ystyriwydadroddiad y cais a’r
ohebiaeth hwyr a argymhellwyd
ar gyfer
cymeradwyaeth yn amodol ar y pedwar
amod
, fel
yr amlinellwyd yn
yr adroddiad.
Wediystyried adroddiad y cais,
cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir R.
Harris ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P.
Murphy fod cais DC/2016/01210 yn
cael ei
gymeradwyo yn amodol ar y pedwar
amod, fel
y’u hamlinellwyd yn
yr adroddiad.
Wedirhoi’r cais i bleidlais,
cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O
blaid cymeradwyo
-
14
Ynerbyn cymeradwyo -
0
Atal
pleidlais
-
0
Cariwyd y
cynnig.
Penderfynasomfod cais
DC/2016/01210 yn cael ei gymeradwyo yn
amodol ar y
pedwar amod, fel y’u hamlinellwyd
yn yr
adroddiad
|
8. |
ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio - Apeliadau. PDF 304 KB
Cofnodion:
Derbyniasom a
nodwyd yr
adroddiad apeliadau.
|