Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 10fed Ionawr, 2017 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Democratic Services 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan Aelodau.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 179 KB

Cofnodion:

Cadarnhawydcofnodion y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 6ed Rhagfyr 2016 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

 

3.

CAIS DC/2015/00972 – ADEILADU 8 TŶ (3 UNED FFORDDIADWY A 5 TŶ AR Y FARCHNAD). Y TIR NESAF AT WALNUT TREE COTTAGE, HEOL NEWPORT, LLANGYBI. pdf icon PDF 198 KB

Cofnodion:

Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr a gyflwynwyd, i’w gymeradwyo yn amodol ar y 10 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar gytundeb cyfreithiol Adran 106 yn gwneud cais bod tair o’r unedau’n unedau fforddiadwy a’u bod yn cael eu trosglwyddo i ddarparwr tai cymdeithasol.

 

Wrthnodi manylion y cais, atgoffwyd Aelodau bod y cais wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio yn ei gyfarfod ar 6ed Rhagfyr 2016 gydag argymhelliad i’w wrthod. Roedd y penderfyniad parthed y cais wedi’i ohirio er mwyn ystyried diwygiadau i’r cynllun arfaethedig a dyluniad y datblygiad.

 

Mae cynlluniau diwygiedig nawr wedi’u cyflwyno yn dangos newidiadau i ddyluniad yr unedau preswyl a gyda chynllun diwygiedig yn dangos ffordd fynediad wedi’i pheiriannu llai a threfniant parcio mwy rhesymol. Gwnaed diwygiadau hefyd i’r ddau fflat ar leiniau 5 a 6. Ail-leolwyd y fynedfa i ochr ogleddol yr adeilad ac mae nawr risiau gorchuddiedig. Dim ond dwy ffenestr sydd nawr ar y wedd ogledd-ddwyreiniol (yn wynebu tuag at Llangybi House) ac mae’r ddwy’n gwasanaethu ystafell ymolchi.

 

Mynychodd y Cynghorydd J. Love, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Llangybi, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

 

  • Mae’rCyngor Cymuned yn edifar na chynhaliwyd ymweliad safle. Cyrhaeddodd Cynghorwyr Cymuned ar y dyddiad yn Rhagfyr dim ond i ddeall bod yr ymweliad wedi’i ohirio tan i’r diwygiadau y gwnaed cais amdanynt gael eu cyflwyno.

 

  • Nidaeth Aelodau’r Pwyllgor i’r safle i gael gwell darlun o nodweddion y lleoliadau.

 

  • Ni ellid dangos prif bryderon y Cyngor Cymuned yn eu gwir gyd-destun.

 

  • Mae Swyddog Treftadaeth y Cyngor Sir yn honni bod gan ran isaf, fwyaf dwyreiniol Llangybi gymeriad hollol wahanol, unigryw, am y ffin â’rLôn Ynys gul, hanesyddol wledig, gyda llawer o adeiladau rhestredig, eglwys restredig Gradd II* gyda murlun unigryw, yn agored i effeithiau dirgryniadau’r ddaear, dwy fynwent a ffynnon sanctaidd hynafol rhestredig gan Cadw. Effeithir yn ddifrifol ar y cyfan gan agosrwydd a dwysedd y datblygiad.

 

  • Difethiryr olygfa werdd o Langybi o Wentwood ar draws y gweirgloddiau d?r hynafol ac mae’r Cyngor Cymuned yn rhagfynegi y bydd preswylwyr posib y safle hwn yn y dyfodol naill ai’n cwyno am orlifo neu ganu wyth cloch eglwys. 

 

  • Yrhyn sy’n gwneud y cynlluniau’n amhriodol yn ogystal yw gor-amlygrwydd y pum eiddo gwerth marchnadol mawr gyda rhy ychydig o lawer o eiddo fforddiadwy nad ydynt yn ddeniadol o ran dyluniad, gyda’r tri eiddo arfaethedig yn un bloc bychan yn unig gyda dau fflat un ystafell wely lled ar wahân ac un arall, dim un ohonynt â garej. 

 

  • Mae Cynllun a Arweinir gan y Gymuned 2014 yn ymrwymo’r  Cyngor Cymuned i gefnogi dymuniadau preswylwyr  am fwy o dai fforddiadwy, ond heb fod am fwy o dai gwerth marchnadol mawr, eto mae’r datblygiad arfaethedig hwn yn gwneud ond  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

CAIS DC/2013/00571 - CANIATÂD CYNLLUNIO AMLINELLOL GYDA PHOB MATER WEDI EU CADW YN ÔL,  HEBLAW AM FYNEDIAD, AR GYFER HYD AT 200 ANNEDD. TIR I ORLLEWIN A466 A DE HEOL MOUNTON, CAS-GWENT. pdf icon PDF 276 KB

Cofnodion:

Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr a gyflwynwyd, i’w wrthod am y pedwar rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, â’r rheswm ychwanegol dros wrthod, fel yr amlinellwyd yn yr ohebiaeth hwyr. 

 

Mynegoddyr Aelod lleol dros Kingsmark, hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei gefnogaeth i argymhelliad y swyddog i wrthod y cais am y rhesymau a amlinellwyd.

 

Wediystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod lleol, mynegodd yr Aelodau eu cefnogaeth hefyd i argymhelliad y swyddog i wrthod y cais am y rhesymau a amlinellwyd.

 

Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R. Hayward fod cais DC/2013/00571 yn cael ei wrthod am y pedwar rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, â’r rheswm ychwanegol dros wrthod, fel yr amlinellwyd yn yr ohebiaeth hwyr.

 

Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid gwrthod                    -           13

Ynerbyn gwrthod               -              0

Atal pleidlais                                -      0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasomfod cais DC/2013/00571 yn cael ei wrthod am y pedwar rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, â’r rheswm ychwanegol dros wrthod, fel yr amlinellwyd yn yr ohebiaeth hwyr.

 

 

 

 

5.

CAIS DC/2015/01588 – TRAWSNEWIDIAD GYDAG ADDASIADAU AC ESTYNIADAU I GYN ORIEL I DDARPARU 2 DŶ NEWYDD. YR HEN EFAIL, 34 STRYD MARYPORT, BRYNBUGA, NP15 1AE. pdf icon PDF 221 KB

Cofnodion:

Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais a gyflwynwyd, i’w wrthod am yr un rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wrthnodi manylion y cais, atgoffwyd yr Aelodau fod y Pwyllgor Cynllunio o blaid gwrthod y cais yn ei gyfarfod ar 6ed Rhagfyr 2016 a’i fod yn cael ei ail-gyflwyno i’r Pwyllgor gyda rhesymau priodol dros wrthod.

 

Wediystyried adroddiad y cais, cynigiwydgan y Cynghorydd Sir B. Strong ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Clarke fod cais DC/2015/01588 yn cael ei wrthod am yr un rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid gwrthod                    -           13

Ynerbyn gwrthod               -              0

Atal pleidlais                                -      0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasomfod cais DC/2015/01588 yn cael ei wrthod am yr un rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

 

6.

CAIS DC/2016/00287 – ESTYNIAD I YSGUBOR BEAULIEU I DDARPARU MAN MEWNOL ADDAS I DDARPARU AR GYFER SAFON FODERN O LETY PRESWYL BYW. YSGUBOR BEAULIEU, 25 HEOL Y CYMIN, Y CYMIN, TREFYNWY, NP25 3SD. pdf icon PDF 156 KB

Cofnodion:

Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y pedwar amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wrthnodi manylion y cais, atgoffwyd yr Aelodau fod y Pwyllgor Cynllunio o blaid cymeradwyo’r cais yn ei gyfarfod ar 6ed Rhagfyr 2016 a’i fod yn cael ei ail-gyflwyno i’r Pwyllgor gyda rhesymau priodol dros ei gymeradwyo gydag amodau priodol.

 

Wediystyried adroddiad y cais, mynegodd mwyafrif y Pwyllgor eu cefnogaeth i’r cais gyda’r amodau a amlinellwyd. Fodd bynnag, ailadroddodd rhai Aelodau fod y cais yn groes i bolisi cynllunio ac na allent gefnogi cymeradwyo’r cais.

 

Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R.J. Higginson fod cais DC/2016/00287 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pedwar amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.  

 

Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo                        -           9

Ynerbyn cymeradwyo                   -            3

Atal pleidlais                                   - 1

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasomfod cais DC/2016/00287 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pedwar amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad

 

 

 

 

 

7.

CAIS DC/2016/00322 - ADEILADU UNED 6 (SEF CAM OLAF CYNLLUN DATBLYGIAD CYFFREDINOL AR GYFER CADW IARD ADEILADWYR BRESENNOL AC AMNEWID ADEILADAU PRESENNOL - DC/2013/00367) YN CYNNWYS UNED UN LLAWR AR WAHÂN (12.6M X 11.1M X 4M I'R BARGOD). IARD ADEILADWYR, HEOL CAS-GWENT, BRYNBUGA, NP15 1HN. pdf icon PDF 96 KB

Cofnodion:

Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr a gyflwynwyd, i’w gymeradwyo yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Mynegoddyr Aelod lleol dros Frynbuga, hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei gefnogaeth i’r cais.

 

Wediystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod lleol, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir B. Strong ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Clarke fod cais DC/2016/00322 yn cael ei gymeradwyo ynamodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo                        -           13

Ynerbyn cymeradwyo                   -              0

Atal pleidlais                                   -   0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasomfod cais DC/2016/00322 yn cael ei gymeradwyo ynamodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

8.

CAIS DC/2016/00388 - TROSI ADEILAD FFERM SEGUR YN LLETY PRESWYL ATEGOL. MILL FARM, DINGESTOW, NP25 4DY. pdf icon PDF 79 KB

Cofnodion:

Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr a gyflwynwyd, i’w gymeradwyo yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wediystyried adroddiad y cais, cynigiwydgan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R. J. Higginson fod cais DC/2016/00388 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo                        -           13

Ynerbyn cymeradwyo                   -              0

Atal pleidlais                                   -   0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasomfod cais DC/2016/00388 yn cael ei gymeradwyo ynamodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

 

9.

Penderfyniad Apêl - Tŵr Caxton. pdf icon PDF 145 KB

Cofnodion:

Derbyniasomadroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a gyfeiriodd at ddau benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar  25ain  Hydref 2016.   

 

Apêl A – App. E6840/C/16/3154351 - Safle:  Tir yn Nh?r Caxton, Newbolds Farm, Rockfield, Trefynwy, Sir Fynwy, NP25 5SY.

 

1.  Caniateiryr apêl ar sail (e) ac (f), ac amrywir yr hysbysiad gorfodi  drwy ddileu’r gofyniad yn Rhestr 4 ac amnewid y gofyniad yn Rhestr 4.

 

 Dymchwel y t? allan yn rhannol drwy symud y to a gostwng y muriau i lefelau’r bondo a nodir yn Nyluniad Rhif 1233-02c, fel y cymeradwywyd dan ganiatâd cynllunio cyf DC/2013/00623, a symud o’r tir unrhyw ddeunyddiau sy’n weddill, ac nad oes eu hangen i gwblhau’r t? allan, yn unol â’rDyluniad hwnnw, a thrwy ddileu 3 mis calendr a’i amnewid â 6 mis calendr fel yr Amser ar gyfer Cydymffurfio.

 

2. Yn amodol ar yr amrywiadau hyn, mae’r hysbysiad gorfodi’n cael ei gynnal, a gwrthodwyd caniatâd cynllunio ar y cais y tybir iddo gael ei wneud dan adran 177(5) o Ddeddf 1990 fel y’i diwygiwyd.

 

Apêl B App. /E6840/A/16/3154336 – Safle:  Tir yn Nh?r Caxton, Newbolds Farm, Rockfield, Trefynwy, Sir Fynwy, NP25 5SY.

 

Roeddyr apêl wedi’i gwrthod.

 

 

 

 

 

10.

Penderfyniad Apêl - Heol y Capel, Y Fenni. pdf icon PDF 121 KB

Cofnodion:

Derbyniasomadroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a gyfeiriodd at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 14eg Rhagfyr 2016.  Safle:  109A Heol y Capel, Y Fenni, NP7 &DR.

 

Roeddyr apêl wedi’i gwrthod.

 

 

11.

Penderfyniad Apêl - The Old Coach House, Llanisien. pdf icon PDF 145 KB

Cofnodion:

Derbyniasomadroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a gyfeiriodd at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 22ain Tachwedd 2016.  Safle:  Tir gerllaw The Old Coach House, Llanisien.

 

Roeddyr apêl wedi’i gwrthod.