Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 6ed Rhagfyr, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Democratic Services 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaeth Aelodau unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 131 KB

Cofnodion:

Cafoddcofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 1 Tachwedd 2016 a'u cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

 

3.

CAIS DC/2012/00754 – DYMCHWELIAD ARFAETHEDIG Y FICERDY CYFREDOL AC ADEILADU FICERDY NEWYDD AC 11 TŶ NEWYDD GAN GYNNWYS PEDAIR UNED O DAI FFORDDIADWY – CYNLLUN DIWYGIEDIG YN CYNNWYS TREFNIADAU PARCIO DIWYGIEDIG, GWEDDLUNIAU DIWYGIEDIG, ASESIAD ECOLEGOL DIWYGIEDIG, ADRODDIAD PEIRIANNYDD STRWYTHUROL AC ADRODDIAD YMCHWILIAD TIR (HALOGIAD). 38 HILLCREST ROAD, WYESHAM, TREFYNWY, NP25 3LH. pdf icon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a'r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r 13 amod ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i sicrhau pedair uned o dai fforddiadwy ar y safle.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor Cynllunio fod y cais yn hen gynnig a ohiriwyd gan y Pwyllgor ar 5 Tachwedd 2013 i alluogi'r swyddogion i gydlynu gyda'r ymgeisydd parthed newidiadau i ddyluniad y tai, darpariaeth parcio i gydymffurfio gyda'r canllawiau a fabwysiadwyd gan y Cyngor, cael sylwadau Priffyrdd, derbyn adroddiad halogiad ac adroddiad ar sefydlogrwydd y tir.

 

Amlinellodd Aelod lleol Wyesham, oedd yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol:

 

  • Mae preswylwyr Wyesham wedi mynegi pryderon yng nghyswllt y cais.

 

  • Derbyniwyd deiseb gyda 278 llofnod yn ymwneud â'r cais.

 

  • Mae tri mater o gonsyrn ond y mwyaf yw halogiad ar y safle. Cynhaliwyd profion ac argymhellodd y swyddog amgylcheddol arbenigol samplo ychwanegol.

 

  • Mae'rprofion wedi dangos amrywiaeth o lygryddion ond y prif ganfyddiadau yw benzopyrene, asbestos a phridd wedi'i wneud.

 

  • Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer benzopyerene yw 5mg fesul cilogram. Mae'r canlyniadau'n awgrymu 6.06mg y cilogram.

 

  • Drosgyfnod o flynyddoedd mae tystiolaeth y bu tipio anghyfreithlon ar y safle. Roedd yn beth cyffredin i hyn ddigwydd yn ymwneud â thipio deunydd peryglus ar draws yr holl safle.

 

  • Defnyddiodd y Cyngor fel safle cadw wrth adeiladu'r adeiladau preffab newydd.

 

  • Byddai'rcynnig yn adeiladu dros ran fwyaf halogedig y safle. Rhoddir pilen dros y safle a rhoi pridd drosto. Bydd nodyn ar weithredoedd yr eiddo yn hysbysu perchnogion am y mater. Nid yw hyn o ddim sicrwydd i breswylwyr.

 

  • Bu ymsuddiant ar un ochr i'r safle. Mae rhai preswylwyr wedi profi symudiad yn eu gerddi a'u garejys.

 

  • Nidyw cynigion y peiriannydd yn rhoi sicrwydd i breswylwyr.

 

  • Mae pryderon am y ffordd newydd a mynediad i Heol Hillcrest.

 

  • Gofynnoddyr Aelod lleol i'r Pwyllgor ystyried gohirio'r cais nes y cynhaliwyd profion pellach.
  • Mae angen ymchwiliad pellach yn ogystal â strategaeth ar gyfer adferiad llawn.

 

Roedd y Cynghorydd S. Wilson, yn cynrychioli Cyngor Tref Trefynwy, yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

  • PleidleisioddPwyllgor Cynllunio Cyngor y Dref dros wrthod y cynnig nifer o flynyddoedd yn ôl a nodir y rhesymau yn yr adroddiad amlinellol.

 

  • FelCynghorydd Tref ar gyfer yr ardal, gofynnwyd i'r Cynghorydd Wilson siarad ar ran pobl leol gan fod rhai eisiau mynegi lefel neilltuol o gefnogaeth ar gyfer y datblygiad.

 

  • Roedd y ddeiseb yn rhoi teimlad cyffredinol fod pawb yn erbyn y cynllun ac ystyriai rhai preswylwyr nad felly yr oedd.

 

  • Mae'rpryderon gan y bobl sy'n gwrthwynebu'r datblygiad ac mae'r rhesymau pam fod pobl yn ei gefnogi yn cyfeirio at yr un mater o halogiad ar y safle.

 

  • Mae cefnogwyr a gwrthwynebwyr i'r datblygiad fel ei gilydd eisiau gweld yr amodau cywir yn cael ei gweithredu i'r datblygiad ar gyfer profion a mesurau gofalu digonol wrth ymyrryd ar y datblygiad ei hun.

 

4.

CAIS DC/2016/00287 – ESTYNIAD I YSGUBOR BEAULIEU I DDARPARU MAN MEWNOL ADDAS I DDARPARU AR GYFER SAFON FODERN O LETY PRESWYL BYW. YSGUBOR BEAULIEU, 25 HEOL Y CYMIN, Y CYMIN, TREFYNWY, NP25 3SD. pdf icon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir R.J. Higginson y cyfarfod cyn y penderfynwyd ar y cais ac ni wnaeth ddychwelyd.

 

Ystyriwydadroddiad y cais a gohebiaeth hwyr, a gyflwynwyd ar gyfer ei wrthod am y tri rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.

 

AmlinelloddAelod lleol Wyesham, oedd yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol:

 

           Roedd yr ymgeisydd wedi rhoi crynodeb i'r Pwyllgor Cynllunio o hanes cynllunio'r deng mlynedd diwethaf yng nghyswllt y safle.

 

           Mae'r eiddo yn fach ac yn gyfyng iawn tu mewn gan arwain at amodau byw anodd.

 

           Ni fu'r polisïau cynllunio a weithredwyd ar gyfer y cais a'r safle yn gyson.

 

           Cafodd caniatâd ar gyfer trawsnewid yr ysgubor ei roi yn wreiddiol yn 2006. Nododd yn y polisi hwnnw fod yn rhaid iddo fedru rhoi gofod byw digonol.

 

           Nid oedd unrhyw ddatganiad yn y Cynllun Datblygu Unedol yn datgan yr ystyrid y byddai 250 metr ciwbig yn gyfaint mewnol derbyniol ar gyfer safonau byw modern. Fel y saif ar hyn o bryd, mae Ysgubor Beaulieu yn 187 metr ciwbig. Fodd bynnag, ni chydymffurfiwyd â'r polisi hwnnw pan roddwyd cymeradwyaeth.

 

           Rhoddwyd cyngor cyn-cynllunio nad yw'n ymddangos ei fod yn cyfateb gyda'r gwahanol bolisïau.

 

           Mae angen cymryd ymagwedd synnwyr cyffredin yng nghyswllt y cais fel y gall yr ymgeisydd gael cartref sy'n ddigon mawr i fyw ynddo.

 

           Nid oes unrhyw wrthwynebiadau gan y gymuned.

 

           Gofynnwyd i'r Pwyllgor Cynllunio ystyried cymeradwyo'r cais.

 

Roedd Mr. D. Edge, yn cefnogi'r cais, yn bresennol yn y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

           Nid yw preswylwyr lleol yn gwrthwynebu'r cais.

 

           Mae rhai preswylwyr wedi cefnogi'r cais mewn ysgrifen.

 

           Mae Cyngor Tref Trefynwy yn cefnogi'r cais.

 

           Mae'r eiddo yn ddi-os yn fach ac mae ganddo amrywiaeth o broblemau.

 Un ardal fyw sydd gyda sinc a ffwrn tra bod hefyd gegin groes. Mae'r ardaloedd paratoi a storio mewn ystafell ar wahân. Mae mynediad i ystafell ymolchi rhwng dau hanner y gegin.

 

           Mae synnwyr cyffredin yn dweud nad yw hyn yn drefniant glanwaith.

 

           Nid yw'r eiddo yn amlwg i'r llygad. Mae gwrych gwledig traddodiadol o amgylch yr eiddo ac mae wedi ei sgrinio'n gymharol dda.

 

           Bydd yr estyniad i'r gorllewin ymaith o'r llwybr troed cyhoeddus.

 

           Mae'r cynnydd mewn maint o 86% yn fach mewn gwirionedd oherwydd maint presennol yr eiddo.

 

           Mae pobl leol yn gysurus gyda'r estyniad arfaethedig.

 

           Mae angen cymryd agwedd hyblyg, synnwyr cyffredin yng nghyswllt y cais hwn.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle nad oes unrhyw anghysondeb yn y polisïau cynllunio ac mae'r penderfyniadau a gymerwyd yn gyson. Nid yw'r cynnydd ym maint yr eiddo arfaethedig yn cyfiawnhau mynd yn erbyn polisi cynllunio a dylid gwneud penderfyniadau yn unol â'r Cynllun  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

CAIS DC/2016/00895 – ADEILADU ARCHFARCHNAD NEWYDD, MAES PARCIO A GWAITH TIRWEDDU CYSYLLTIEDIG. MARCHNAD WARTHEG Y FENNI, LION STREET, Y FENNI, NP7 5TR. pdf icon PDF 284 KB

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorydd Sir D. Evans y cyfarfod cyn ystyried y cais ac ni ddychwelodd.

 

Ystyriwyd y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r 25 amod ac yn amodol ar y Cytundeb A106 diwygiedig yn cwmpasu'r gofynion blaenorol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Amlinellodd Aelod lleol ward y Priordy, a fynychodd y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol:

 

           Ar ôl cynnal arolygon yn y ward bu pwysau cymunedol sylweddol i'r cais gael ei benderfynu o blaid y datblygiad.

 

           Gofynnodd preswylydd lleol am i safle bws gael ei leoli yn agos at yr archfarchnad arfaethedig.

 

           Mae gan yr Aelod lleol gydymdeimlad gyda sylwadau gr?p seiclo y Fenni ac mae wedi nodi ei gefnogaeth. Ystyriwyd bod angen ffordd newydd o edrych ar ffyrdd seiclo yn nhref y Fenni.

 

           Tref Trosiant y Fenni - byddai'r Aelod lleol yn annog yr ymgeisydd i ddefnyddio cyflenwyr lleol lle bynnag sy'n bosibl.

 

           Mae Cymdeithas Ddinesig y Fenni wedi cyflwyno sylwadau.

 

           Yn gyffredinol, mae'r Aelod lleol o blaid y cynnig ond byddai'n annog yr ymgeisydd i gysylltu gyda chymdeithasau lleol i drin unrhyw faterion o gonsyrn sydd ar ôl.

 

Roedd y Cynghorydd C. Woodhouse, yn cynrychioli Cyngor Tref y Fenni, yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

           Aeth 12 mlynedd heibio ers agor tendrau ar gyfer datblygu safle'r Farchnad.

 

           Amcangyfrifir y cafodd £20m o arian y Fenni eu gwario y tu allan i'r dref yn ystod y cyfnod hwn o ddeuddeg mlynedd.

 

           Pleidleisiodd Cyngor y Dref yn ddiweddar o blaid y cais. Fodd bynnag, mae angen rhai newidiadau, sef:

 

-           Mae  angen i'r ffordd drwodd rhwng Stryd Llew a Stryd y Farchnad fod yn weladwy i annog pobl i siopa yn yr archfarchnad a hefyd o fewn y dref.

 

-           Gellid addurno waliau gwag y datblygiad arfaethedig gyda murlun yn rhoi sylw i ?yl Fwyd y Fenni, yr ?yl Seiclo a'r Rali Stêm, er enghraifft i ddangos ymdeimlad o berthyn i bobl y Fenni.

 

-           Gallai'r Fenni helpu i ran-gyllido hyn gyda'r ymgeisydd a phartneriaid.

 

-           Byddai defnyddio mwy o garreg yn gwneud y datblygiad yn fwy sionc a gwneud iddo edrych yn fwy gwledig.

 

-           Y Ddeddf Teithio Llesol - hoffai'r Gr?p Seiclo weld y llwybr cerdded ar ochr orllewinol y datblygiad yn dod yn ofod ar y cyd.

 

-           Mae gan Gyngor y Dref bryderon am groesi ar Heol y Parc ac yn ystyried bod angen gwneud hyn yn fwy diogel.

 

-           Mae angen cael asesiad traffig cyn-Morrison's ac wedi-Morrison's fel y gellir dynodi canlyniadau'r datblygiad arfaethedig.

 

Roedd Mr. P. Hannay, Cadeirydd Tref Trosiant y Fenni, yn cynrychioli gwahanol wrthwynebwyr i'r cais, yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

Hoffai'r gwrthwynebwyr weld yr amodau pendant dilynol yn cael eu cynnwys yn y cais:

 

           Dylai fod amod hollol bendant y byddir yn gwneud i'r cynllun gydymffurfio gydag arfer gorau Deddf Teithio Llesol 2013 sy'n rhwymo'n gyfreithiol. Nid yw'n  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS DC/2016/00921 – ADEILADU DAU DŶ UN LLAWR, MYNEDFA NEWYDD A MAN PARCIO. Y TIR GERLLAW FFERM Y FAENOR, ROGIET. pdf icon PDF 216 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a'r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r wyth amod a hefyd yn amodol ar Gytundeb Adran 106 ar gyfer cyfraniad ariannol i'w ddefnyddio tuag at ddarparu tai fforddiadwy yn yr ardal leol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Roedd Ms. R. Collett, a wrthwynebai'r cais, yn bresennol yn y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

           Mae hwn yn grynodeb lefel uchel o wrthwynebiadau manwl iawn 11 o breswylwyr Sir Fynwy.

 

           Mae'r cais yn ymwneud ag amgylchedd eglwys restredig gradd II* a'r hawl tramwy cyhoeddus pwysig cysylltiedig rhwng gofod agored gwyrdd/meysydd chwarae ac eglwys rhestr gradd II*.

 

           Mae eglwys rhestr gradd II* yn ffurfio rhan o'r 8% uchaf o adeiladau rhestredig yn y wlad. Mae gan y safle arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol ac fel amwynder pentref.

 

           Mae gan y rheswm am restru gysylltiad annatod at safle fferm y faenor a'r amgylchedd. Mae'r manylion fel sy'n dilyn:

 

-           Rhan o safle'n cynnwys y ffermdy, buarth ac adeiladau fferm Fferm Manor House ac eglwys a mynwent Santes Fair. Gwerth gr?p gydag eitemau rhestredig cyfagos yn Fferm Manor House.

 

           Yn gyffredinol mae cais cynllunio a chynigion lluosog yn cynnwys isrannu’r tai presennol yn safle Manor Farm yn golygu ardal drefol sylweddol fwy helaeth a dwys nag sy'n  addas ar gyfer y gosodiad lled-wledig yma.

 

           Mae bellach bum annedd ar y safle. Bydd y byngalos arfaethedig yn cynyddu hyn i saith annedd a bydd trosi'r ail ysgubor yn arwain at bosibilrwydd nifer fwy eto o anheddau. Mae hyn yn agosáu at 9/10 annedd ac yng nghynllun adnau gwreiddiol y Cynllun Datblygu Lleol gwrthododd y tîm cynllunio'r safle yma fel bod yn anaddas ar gyfer y nifer yma o dai.

 

           Yng nghyswllt Fframwaith Cenedlaethol Cynllunio Polisi, roedd gan y gwrthwynebwr bryderon dan benodau 7  a 12 am: dwysedd, tirlun a gwneud i leoedd edrych yn well ar gyfer pobl sy'n byw yn Rogiet a hawliau tramwy. Mae dwysedd y cynnig yn golygu y byddai angen darpariaeth parcio sylweddol. Er enghraifft, a thybio y bydd 10 annedd, amcangyfrifir y bydd angen darpariaeth ar gyfer 30 car. Mae'n anochel y bydd hyn yn dinistrio gofod gwyrdd ac yn amharu ar osodiad yr adeiladau rhestredig. Felly, mae gostwng dwysedd tai o'r cynnig presennol yn ymddangos yn addas.

 

           Bydd cerbydau dosbarthu / biniau gwastraff / leiniau golchi ac yn y blaen, sylfeini anheddiad dynol mewn cais mor ddwys, preifatrwydd isel yn amlwg iawn i ddefnyddwyr yr hawl tramwy cyhoeddus rhwng yr Eglwys a'r gofod gwyrdd agored/caeau chwarae a bydd yn amharu ar fwynhad preswylwyr o'r cyfleusterau pentref.

 

           Mae'r gwrthwynebwyr yn credu y bydd cam 2 y datblygiad yn gosod cynsail gwael iawn ar gyfer cam 3.

 

           Cafodd dull cynllunio a chadwraeth y safle ei gyfeirio at Reolwr Craffu y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CAIS DC/2016/00297 – SAFLE SIPSI PEDWAR PLOT GYDA PHOB PLOT Â LLE AR GYFER CARTREF SYMUDOL, CARAFÁN DEITHIOL, ADEILAD AML-BWRPAS A MAN PARCIO. Y STABLAU NEWYDD, HEOL Y FENNI, LLANCAYO. pdf icon PDF 264 KB

Cofnodion:

Ystyriwydadroddiad y cais a gohebiaeth hwyr, a gyflwynwyd ar gyfer ei wrthod gyda phedwar rheswm fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Amlinelloddyr Aelod lleol dros Lanbadog, oedd yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol ar ei rhan ei hun a chymdogion lleol.

 

Nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

Sylwadaupreswylwyr:

 

           Mae preswylwyr wedi pryderu am y diffyg parch a ddangoswyd i'r holl ddeddfwriaeth a gweithdrefnau y disgwylir i berchnogion cartrefi gydymffurfio â nhw.

 

           Ar ôl darllen adroddiad yr Awdurdod Cynllunio, mae preswylwyr yn cefnogi'r argymhelliad dros wrthod caniatâd cynllunio.

 

           Mae'r adroddiad yn amlygu'r holl doriadau mewn polisi a deddfwriaeth y mae'r cais yn eu cynnig.

 

           Os yw'r Pwyllgor Cynllunio yn penderfynu gwrthod caniatâd cynllunio, mae preswylwyr wedi gofyn y dylai'r preswylwyr ddychwelyd y llain i'w gyflwr presennol fel tir amaethyddol a gweithredu amserlen ar gyfer gwneud hynny. Mae preswylwyr yn pryderu y gallai'r broses hon gymryd cryn amser.

 

           Mae preswylwyr yn bryderus y gallai'r defnyddwyr anwybyddu unrhyw orchymyn a roddir gan yr Awdurdod ac y gallent barhau i fyw ar y safle. Bu tystiolaeth ers peth amser fod y defnyddwyr yn anwybyddu gweithdrefn cynllunio.

 

           Mae preswylwyr wedi gofyn y cwestiynau dilynol:

 

- Fydd yr Awdurdod yn mynnu bod y tir yn cael ei ddychwelyd i'w gyflwr blaenorol?

 

- Pa amserlen a roddir ar gyfer gorffen y gwaith hwn?

 

- Sut y caiff yr amodau eu plismona?

 

Sylwadau'rAelod lleol:

 

           Mae hwn yn gais ôl-weithredol nad yw'n cydymffurfio gyda Chynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.

 

           Mae'n ceisio osgoi'r broses datblygu arferol.

 

           Gresynu faint o amser a gymerwyd i dderbyn cais.

 

           Mae'r hyn a gynigir yn anaddas ar gyfer Llancaio, ardal o dirlun naturiol yn Sir Fynwy.

 

           Mae'n hyderus fod y swyddogion wedi cynnal pob asesiad angenrheidiol ar yr amgylchiadau perthnasol i'r cais.

 

           Mae'n adroddiad cynhwysfawr iawn.

 

           Os yw'r Pwyllgor Cynllunio yn penderfynu gwrthod y cais, mae'n bwysig y caiff amodau eu cynnwys i ddychwelyd y tir i'w gyflwr amaethyddol blaenorol o fewn amserlen addas a hefyd i sicrhau y gwneir y gwaith yn iawn.

 

           Mae'r safle yn anaddas ar gyfer ei datblygu ac mae'n gofyn i'r Pwyllgor Cynllunio ystyried gwrthod y cais.

 

Roedd y Cynghorydd M. Goodwin, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Gwehelog, yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

Mae Cyngor Cymuned Gwehelog yn argymhell gwrthod y cais ar y seiliau dilynol:

 

           Polisi LC1 - Adeilad newydd mewn cefn gwlad agored - Mae tybiaeth yn erbyn datblygiad adeiladu newydd mewn cefn gwlad agored os nad oes cyfiawnhad drosto dan y polisi cynllunio cenedlaethol.

 

           Mae'r cais cynllunio yn ddatblygiad mewn cefn gwlad agored sy'n mynd yn groes i'r Cynllun Datblygu Lleol.

 

           Pwynt cyfeirio 6.1.2.5 - rhoi fframwaith ar gyfer asesu cynigion ar  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

CAIS DC/2015/01588 – TRAWSNEWIDIAD GYDAG ADDASIADAU AC ESTYNIADAU I GYN ORIEL I DDARPARU 2 DŶ NEWYDD. YR HEN EFAIL, 34 STRYD MARYPORT, BRYNBUGA, NP15 1AE. pdf icon PDF 219 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a gohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r saith amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

AmlinelloddAelod lleol Brynbuga, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau dilynol:

 

           Mae darparu dwy annedd yn anaddas yn y lleoliad yma.

 

           Mae'r ddarpariaeth parcio presennol yn gyfyngedig iawn. Mae unrhyw barcio oddi ar stryd yn tueddu i beidio bod ar gael drwy'r dydd.

 

           Bu damwain traffig ffordd angheuol yn ymyl yr eiddo. Mae diogelwch priffyrdd yn broblem yn y lleoliad.

 

           Mae'r Adran Priffyrdd yn gwrthwynebu'r cais.

 

           Mae'r Swyddog Treftadaeth wedi cyfeirio at ffenestr cegin rhif 32 Stryd Maryport. Byddai cymeradwyo'r cais yn gostwng faint o olau a geir drwy'r ffenestr hon yn gostwng yn sylweddol.

 

           Pan fydd yr estyniad wedi'i gwblhau, yr olygfa fydd wal frics/rendr.

 

           Mae Cyngor Tref Brynbuga yn gwrthwynebu'r cais.

 

           Mae preswylwyr ledled Brynbuga yn gwrthwynebu'r cais.

 

           Mae lle ar gyfer adeilad yn y lleoliad yma ond mae'n rhaid iddo fod yr adeilad cywir fydd yn bodloni anghenion yr eiddo cyfagos.

 

           Dywedodd yr Aelod lleol y bydd yn cynnig bod y cais yn cael ei wrthod.

 

Ystyriwyd y gellid gohirio'r cais i ganiatáu trafodaeth gyda'r ymgeisydd i ostwng nifer yr anheddau arfaethedig o ddwy i un. Fodd bynnag nodwyd fod yr ymgeisydd eisiau adeiladu dwy annedd yn y lleoliad.

 

Trafododdaelodau'r ffens 1.2m, a nodir yn yr adroddiad. Fodd bynnag, hysbysodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle y Pwyllgor y gallai'r ymgeisydd godi ffens 2 metr o uchder yn y lleoliad dan hawliau datblygu a ganiateir.

 

Arôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd gan yr Aelod lleol, cynigiodd y Cynghorydd Sir B. Strong ac eiliodd y Cynghorydd Sir A. Webb ein bod o blaid gwrthod cais DC/2015/01588 oherwydd gorddatblygiad y safle ar gyfer dwy annedd yn arwain at effaith annerbyniol ar barcio stryd. Yr adroddiad i gael ei ailgyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio i'w ystyried gyda rhesymau priodol am wrthod.

 

Argael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid gwrthod              -          10

Ynerbyn gwrthod           -          0

Ymatal                           -          1

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwydein bod o blaid gwrthod cais DC/2015/01588 oherwydd gorddatblygiad y safle ar gyfer dau d? yn arwain at effaith annerbyniol ar barcio stryd. Yr adroddiad i'w ailgyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio i'w ystyried gyda rhesymau priodol dros wrthod.

 

 

9.

CAIS DC/2016/01033 – DYMCHWELIAD ARFAETHEDIG O ADEILAD AR GYFER ALINIAD CORIDOR YR M4 (CAIS AM GANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG). TŶ’R COETIR, MAGWYR. pdf icon PDF 124 KB

Cofnodion:

GadawoddAelod lleol Brynbuga y cyfarfod cyn ystyried y cais hwn ac ni wnaeth ddychwelyd.

 

Ystyriwydadroddiad y cais a gohebiaeth hwy yn argymhell fod Llywodraeth Cymru yn galw'r cais i mewn. Bydd hyn yn sicrhau  y cymerir y penderfyniad ar Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer dymchwel yn iawn ar yr un pryd â'r penderfyniad ar ffordd liniaru arfaethedig yr M4. Amlinellir amodau yn yr adroddiad pe byddai Llywodraeth Cymru o blaid cymeradwyo Caniatâd Adeilad Rhestredig.

 

RoeddAelod lleol ward y Felin yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

           Mae'n ddyletswydd ar yr Awdurdod Cynllunio i gynnal egwyddorion y Cynllun Datblygu Lleol a'r polisïau ynddo.

 

           Mae'n adeilad gwych. Mae llawer o bobl leol yn ystyried ei fod yn adeilad pwysig a gwerthfawr iawn gyda llawer o gysylltiadau hanesyddol.

 

           Mae'r cais yn afreolaidd iawn ac yn anghyflawn. Dywedodd y Swyddog Cynllunio na allai'r Awdurdod hwn benderfynu ar y cais oherwydd nad yw'r arolygon ystlumod wedi'u cwblhau. Fodd bynnag, bu tystiolaeth y bu ystlumod yn clwydo yno ond yn 2015 penderfynwyd nad oedd clwydfa ystlumod yn yr adeilad.

 

           Dywedodd y Swyddog Ecoleg fod y fethodoleg a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwnnw yn annigonol.

 

           Dywed polisi cynllunio cenedlaethol fod yn rhaid bod cyfiawnhad llawn am geisiadau ar gyfer dymchwel adeilad rhestredig a rhaid eu craffu cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Dylai dymchwel unrhyw adeilad rhestredig gael ei ystyried fel eithriadol a bod angen y cyfiawnhad cryfaf posibl. Wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer dymchwel llwyr neu sylweddol adeiladau rhestredig, dylai awdurdodau roi ystyriaeth i gyflwr yr adeilad. Mae'r adeilad hwn mewn cyflwr perffaith. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y caiff yr adeilad ei golli, neu ar ei orau, ei ddefnyddio ar gyfer adfer deunyddiau.

 

           Ni ddylai awdurdodau lleol awdurdodi dymchwel adeilad rhestredig i baratoi ar gyfer datblygiad newydd os nad yw'n bendant y bydd y datblygiad hwnnw yn mynd rhagddo.

 

           Nid oes sicrwydd y caiff Llwybr Du yr M4 ei ddewis fel y llwybr ar gyfer ffordd liniaru M4 ar hyn o bryd. Cafodd yr ymchwiliad cyhoeddus ei ohirio ymhellach gan fod rhagolygon twf traffig amhriodol neu ddigonol i gyfiawnhau’r datblygiad ar hyn o bryd. Felly, nid yw'n ymddangos fod y ddau amod y mae'n rhaid eu bodloni yn cael eu hateb.

 

           Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn galw'r cais hwn i mewn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried nad yw'r adeilad yn bwysig. Mae Swyddog Cadwraeth yr Awdurdod yn credu'n wahanol a dywedodd fod yr adeilad yn hynod iawn gyda John Noble yn bensaer.

 

           Yn olaf, mae gan y cais astudiaeth anghyflawn o ystlumod.

 

           Gofynnodd yr Aelod lleol i'r Pwyllgor ystyried un ai wrthod y cais neu ei ohirio nes bod y cais un ai'n ddigonol neu y gwneir penderfyniad ar y Llwybr Du.  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

CAIS DC/2015/00972 – ADEILADU 8 TŶ (3 UNED FFORDDIADWY A 5 TŶ AR Y FARCHNAD). Y TIR NESAF AT WALNUT TREE COTTAGE, HEOL NEWPORT, LLANGYBI. pdf icon PDF 273 KB

Cofnodion:

Ystyriwydadroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd ar gyfer ei wrthod gyda'r pedwar reswm a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

HysbysoddPennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle y Pwyllgor y gofynnodd yr ymgeisydd am ohirio ystyriaeth y cais gan y bu newidiadau i'r cynllun a dyluniad y datblygiad yr ymddengys eu bod yn goresgyn y rhesymau am wrthod.

 

Yngngoleuni'r wybodaeth hon, cynigiodd y Cynghorydd Sir P. Clarke ac eiliodd y Cynghorydd Sir A. Wintle y dylid gohirio cais DC/2015/00972 i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio i ystyried newidiadau i gynllun a dyluniad y datblygiad.

 

Argael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid gohirio             -        10

Ynerbyn gohirio          -        0

Ymatal                        -         0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwydgohirio cais DC/2015/00972 i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio i ystyried newidiadau i gynllun a dyluniad y datblygiad.

 

 

 

 

11.

CAIS DC/2015/01541 - CLODDIO 1,500 METR CIWBIG O GARREG AI DDIBENION ADEILADU YN UNIG; CARREG AR GYFER TOCIO, WALIAU SYCH, LLECHFEINI, LINTELI A CHONGLFEINI. CLEDD-Y-TAN WOOD, CILGWRRWG, NEWCHURCH, CAS-GWENT. pdf icon PDF 204 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a gohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r naw amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Arôl ystyried adroddiad y cais cynigiodd y Cynghorydd Sir D. Edwards ac eiliodd y Cynghorydd Sir M. Powell gymeradwyo cais DC/2015/01541 gyda'r naw amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Argael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo       -          10

Ynerbyn cymeradwyo    -          0

Ymatal                           -          0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwydcymeradwyo cais DC/2015/01541 gyda'r naw amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

12.

CAIS DC/2016/0884 – CAIS CYNLLUNIO LLAWN AM GYFLEUSTER GOFAL, MAES PARCIO, TIRWEDDU A GWAITH CYSYLLTIEDIG. Y TIR YN WESTGATE, A465 – FFORDD BLAENAU’R CYMOEDD, LLAN-FFWYST, NP7 9AQ. pdf icon PDF 282 KB

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorydd Sir A. Webb y cyfarfod cyn ystyried y cais hwn ac ni ddychwelodd. Gadawodd Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle y cyfarfod yn ystod ystyriaeth yr eitem hon.

 

Ystyriwyd y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r naw amod a amlinellir yn yr adroddiad a hefyd y ddwy amod a amlinellir mewn gohebiaeth hwyr.

 

Arôl ystyried adroddiad y cais, mynegodd y pwyllgor ei gefnogaeth a chanmolodd yr ymgeisydd am ddyluniad y cyfleuster gofal cysylltiedig,. Fodd bynnag, gofynnwyd i'r ymgeisydd os medrid newid ychydig ar y toeau fel eu bod yn bargodi'r adeilad yn hytrach na bod yn gyfwastad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir M. Powell ac eiliodd y Cynghorydd Sir D. Edwards gymeradwyo cais DC/2016/0884 gyda'r wyth amod a amlinellir yn yr adroddiad a hefyd gyda'r ddwy amod a amlinellwyd mewn gohebiaeth hwyr.

 

Argael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo       -          9

Ynerbyn cymeradwyo    -          0

Ymatal                           -          0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwydcymeradwyo cais DC/2016/0084 gyda'r wyth amod a amlinellir yn yr adroddiad a hefyd y ddwy amod arall a amlinellir mewn gohebiaeth hwyr.

 

 

 

 

13.

Perllan y Goeden Werdd, Glascoed. pdf icon PDF 171 KB

Cofnodion:

Derbyniwydadroddiad yr Arolygiaeth Cynllunio yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 16 Medi 2016. Safle: Stôr Perllan y Goeden Werdd, Heol Coed Chambers, Glascoed, Sir Fynwy NP4 0TF.

 

Gwrthodwyd y cais.