Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 1af Tachwedd, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Democratic Services 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir A. M. Wintle ddiddordeb personol heb fod yn rhagfarnu yn ymwneud â Chod Ymddygiad Aelodau yng nghyswllt cais DC/2016/00771, gan ei fod yn Gyfarwyddwr Parc Sglefrio Allffordd Trefynwy (MOSP).

 

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 143 KB

Cofnodion:

Cafodd Cofnodion Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 4 Hydref 2016 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

 

3.

CAIS DC/2015/01424 - NEWID DEFNYDD TIR I DDARPARU SAFLE CARAFANAU SIPSI YN CYNNWYS SAITH CARAFAN BRESWYL A DATBLYGIAD CYSYLLTIEDIG TIR GYFERBYN Â FFERM MAERDY UCHAF, LLANGYFIW. pdf icon PDF 269 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd ar gyfer ei wrthod am y tri rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Mynychodd y Cynghorydd D.K. Pollitt, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llantrisant Fawr y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol ar ran y cyngor cymuned:

 

           Nid yw'r cais yn cydymffurfio gyda'r Cynllun Datblygu Lleol.

 

           Bu'r safle yn destun apêl cynllunio yn 2011. Caniataodd yr Arolygiaeth Cynllunio'r apêl ar sail anghenion fel y gallai'r ymgeisydd fyw gyda'i theulu agosaf. Gweithredwyd amodau llym am nifer (2) a'r math o garafanau, union leoliad y carafanau hynny, enwau defnyddwyr pob carafán, nifer y cerbydau a ganiateir ar y safle (2) a maint y gorchudd daear a ganiateir.

 

           Ni chydymffurfiwyd ag unrhyw un o'r amodau hyn ers y dyfarniad hwnnw. Nid yw'r defnyddwyr a enwyd erioed wedi byw ar y safle a bu'r safle yn wag gan fwyaf ers hynny. Mae hyn yn diddymu'r angen am y safle.

 

           Yn syth ar ôl y dyfarniad gosodwyd gwasanaethau ar gyfer tair, nid dwy garafán.

 

           Nid yw'r carafanau ar y safle naill y math a ganiateir nac wedi eu lleoli fel oedd angen.

 

           Cafodd y safle ei orchuddio i ddechrau gyda chraidd caled. Cafodd hyn ei symud yn dilyn gweithredu gorfodaeth ond gadawyd tomen o graidd caled ar un gornel o'r safle.

 

           Yn ystod yr haf roedd pum carafán a saith cerbyd ar y safle.

 

           Gwnaed peth gwaith ffensio ac roedd angen i Swyddog Gorfodaeth y Cyngor Sir  fynd i mewn i'r safle a sicrhau bod y carafanau'n cael eu symud.

 

           Oherwydd yr hanes, mae'r cyngor cymuned yn ystyried na ellir bod yn sicr sut y bydd datblygiad y safle yn mynd rhagddo pe cymeradwyid y cais.

 

           Mae mynediad i'r safle ar hyd lon sengl hir a chul heb unrhyw leoedd pasio. Mae'r lôn hefyd yn agored i lifogydd.

 

           Gan nad oes unrhyw wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i'r safle, bydd y cynnydd mewn traffig o hyd at 14 cerbyd ynghyd â faniau teithio achlysurol yn rhoi pwysau diangen ar lif traffig ac yn groes i Bolisi NV1.

 

           Mae ymgeision blaenorol i symud carafanau i'r safle wedi arwain at ddifrod i wrychoedd.

 

           Mae'r safle mewn tir amaethyddol agored ac mae'r cais yn groes i Bolisïau LC1, LC5 a S1 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

           Bydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar y tirlun lleol a gellir ei weld o'r A449 a'r ffordd ymuno, yn arbennig yn yr hydref a'r gaeaf.

 

           Bydd y datblygiad arfaethedig yn achosi niwed sylweddol i gymeriad lleol yr ardal. Mae mewn safle anghydnaws ac nid yw'n cyd-fynd â'r ardal leol.

 

           Mae'r cyngor cymuned yn gryf yn erbyn y cais cynllunio.

 

Amlinellodd yr ymgeisydd, Mr. T. Lee, oedd yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

CAIS DC/2014/01185 - CAIS MATERION A GEDWIR AR GYFER CODI SAITH ANNEDD A GWAITH CYSYLLTIEDIG. TIR GER CWRT CLEARVIEW, DRENEWYDD GELLIFARCH. pdf icon PDF 132 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a'r ohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r 12 amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod Aelod lleol Drefach Gellifarch wedi methu mynychu'r cyfarfod ond roedd wedi anfon ei ymddiheuriadau. Roedd hefyd wedi mynegi ei gefnogaeth i'r cais drwy ohebiaeth hwyr.

 

Wrth nodi manylion y cais, mynegodd Aelod bryder am ddyluniad gwael yr eiddo fforddiadwy sy'n fyngalo ac nid oes ganddo'r un gwaith carreg â'r tai marchnad arfaethedig. Mynegwyd consyrn hefyd fod y drws cefn yn agor o'r lolfa ac nid y gegin.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle y cymerwyd gofal wrth ddylunio'r byngalo fforddiadwy. Mae'r nodweddion carreg ar y lleiniau eraill lle mae neu ffenestri bae neu gyntedd. Nid yw'r nodweddion hyn yn y byngalo fforddiadwy. Mae'r cerrig croes a'r siliau ar y byngalo fforddiadwy ac nid yw'r deunyddiau'r un fath â'r tai marchnad. Nodwyd y byddai angen ychwanegu canopi cyntedd i gyflawni safonau DQR.

 

Yn groes i'r hyn a gynigiwyd yn adroddiad y swyddog nodwyd hefyd nad oedd angen dileu'r balconïau Juliet arfaethedig fel amod cynllunio gan na fyddent yn edrych llawer mwy dros anheddau cyfagos na ffenestri mwy confensiynol.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliodd y Cynghorydd Sir M Powell fod cais DC/2014/01185 yn cael ei gymeradwyo gyda'r 12 amod a amlinellwyd yn yr adroddiad heblaw am amod 7 ac yn amodol ar i'r Panel Dirprwyedig gytuno ar driniaeth dyluniad, gweddlun a chydymffurfiaeth DQR y byngalo fforddiadwy.

 

Ar gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid y cynnig      -      13

Yn erbyn y cynnig   -       0

Ymatal                    -       0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DC/2014/01185 gyda'r 12 amod a amlinellwyd yn yr adroddiad heblaw amod 7 ac ar yr amod bod y Panel Dirprwyedig yn cytuno ar driniaeth dylunio, gweddlun a chydymffurfiaeth DQR y byngalo fforddiadwy.

 

 

5.

CAIS DC/2013/00349 - NEWID DEFNYDD LLAWR DAEAR TŶ TAFARN I DDEFNYDD MANWERTHU A CAFFE. TROSI A NEWID LLAWR CYNTAF TŶ TAFARN PRESENNOL I FFLAT. NEWID DYLUNIAD ANHEDDAU NEWYDD ARFAETHEDIG YN Y MAES PARCIO I FFURFIO PÂR O RANDAI DEULAWR. THE BRIDGE INN, STRYD Y BONT, CAS-GWENT NP16 5EZ. pdf icon PDF 177 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar 4 Hydref 2016 gydag argymhelliad ar gyfer cymeradwyaeth. Fodd bynnag, gohiriwyd ystyriaeth o'r cais i alluogi swyddogion i gydlynu gyda'r ymgeisydd i ystyried newid y dyluniad, gan y teimlai'r Pwyllgor Cynllunio nad yw ffurf y datblygiad yn gydnaws gyda chymeriad yr ardal o amgylch. Gofynnodd aelodau am eil ail-ddylunio'n llwyr. Fodd bynnag, ystyriai'r ymgeisydd mai'r cais presennol oedd y datrysiad dylunio gorau.

 

Nodwyd pe byddai'r Pwyllgor Cynllunio o blaid gwrthod y cais ar sail dylunio, cynigid rheswm dros wrthod islaw:

 

           Ystyrir bod elfen adeilad newydd y cais o ddyluniad anghydnaws ac yn ymddangosiad anghymharus yng nghyswllt cymeriad traddodiadol a chysefin yr amgylchedd adeiledig o amgylch, a ddynodwyd fel ardal cadwraeth. Byddai'r cynnig yn methu cadw neu hybu cymeriad ac ymddangosiad yr Ardal Gadwraeth a byddai'n groes i Bolisi HE1 yn y Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy a fabwysiadwyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod y Pwyllgor yng nghyswllt Polisi TAN 15, dywedodd Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle fod polisi cynllunio yn caniatáu i'r Pwyllgor gymeradwyo datblygiad preswyl ar Barth Llifogydd C1 os yw'n safle tir llwyd, os yw'n cyflawni cynllun adfywio neu gyflogaeth yr awdurdod lleol ac os yw canlyniadau llifogydd yn dderbyniol. Nodwyd fod swyddogion cynllunio yn fodlon fod y cais hwn yn cydymffurfio â'r polisi risg llifogydd.

 

Dywedodd Aelod lleol Santes Fair, oedd yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, wrth y Pwyllgor Cynllunio ei fod yn cydnabod y gwnaed gwaith ychwanegol yng nghyswllt y cais ac y rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth ddifrifol i'r mater yn y cyfarfod blaenorol. Fodd bynnag, nid oes unrhyw reswm dros newid dim o'r hyn a ddywedodd yn y cyfarfod blaenorol. Ailgyflwynwyd y cais gyda pheth gwaith ychwanegol ond nid yw wedi cyflawni'r gwrthwynebiadau a ddaeth i'r cyfarfod a fynegwyd ar ran barn leol. Fodd bynnag, mae ei sylwadau a fynegwyd yn y cyfarfod blaenorol yn dal yn berthnasol.

 

Nododd na chafodd y dyluniad ei newid ond iddo gael ei gyflwyno'n well gyda lluniadau lliw. Felly, roedd rhai Aelodau bellach yn cytuno mai'r cais, yn ei ffurf bresennol, oedd y dyluniad gorau ar gyfer y safle.

 

Fodd bynnag, roedd Aelodau eraill yn dal i ystyried fod y dyluniad yn anaddas a bod materion yn ymwneud â pharcio wedi eu hanwybyddu ac ystyrient y dylai'r cais gael ei wrthod am y rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliodd y Cynghorydd Sir R. Harris fod cais DC/2013/00349 yn cael ei gymeradwyo gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

Ar gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo        8

Yn erbyn cymeradwyo     5

Ymatal                            0  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS DC/2015/00771 - MÂN NEWID I GAIS BLAENOROL DC/2014/00412 - NEWID BOLARDAU GOLAU I OLEUADAU 4M STRYD FAWR CAE GYFERBYN Â GORSAF DÂN TREFYNWY, HEOL ROCKFIELD, TREFYNWY. pdf icon PDF 87 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a'r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo gyda'r 13 amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Hysbysodd yr Aelod lleol dros Drybridge, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y Pwyllgor y caiff y goleuadau stryd 4m o uchder arfaethedig eu gosod mewn ardal gadwraeth ac y medrid eu gweld  o Osbaston. Codwyd y bolardiau lefel isel presennol fel na fyddai'r golau o'r maes parcio yn tywynnu yn y parc sglefrio gan alluogi sglefrwyr i ddefnyddio'r parc yn hwyr yn y nos. Mynegwyd pryder y byddai dau o'r goleuadau stryd 4m o uchder arfaethedig yn tywynnu yn y parc. Mynegwyd pryder hefyd na ymgynghorwyd â Pharc Sglefrio All-ffordd Trefynwy (MOSP) yng nghyswllt y cais.

 

Ystyriwyd y gellid ychwanegu amod i sicrhau y caiff goleuadau stryd eu sgrinio i atal golau rhag tywynnu i'r parc sglefrio.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir A. Webb ac eiliodd y Cynghorydd Sir P. Murphy gymeradwyo cais DC/2016/00771 gyda'r 13 amod a amlinellir yn yr adroddiad a gydag amod ychwanegol y caiff y goleuadau stryd eu sgrinio i atal golau rhag tywynnu i'r parc sglefrio.

 

Ar gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid y cynnig       -      12

Yn erbyn y cynnig    -      0

Ymatal                     -      1

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DC/2016/00771 gyda'r 13 amod a amlinellir yn yr adroddiad a gydag amod ychwanegol y caiff goleuadau stryd eu sgrinio i atal golau rhag tywynnu i'r Parc Sglefrio.

 

 

7.

CAIS DC/2016/00415 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER ADEILADU 8 ANNEDD YN CYNNWYS 5 UNED FFORDDIADWY TIR GER Y B4293 A HEOL YR EGLWYS, LLANISIEN. pdf icon PDF 401 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a gohebiaeth hwyr, a amlinellwyd er cymeradwyaeth gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wrth nodi manylion y cais, gan ei fod yn gais amlinellol gyda'r holl faterion wedi eu cadw, mynegodd Aelodau eu cefnogaeth ond mynegwyd y pwyntiau dilynol:

 

           Roedd mynediad i'r datblygiad yn dyn ac roedd angen ei drafod i wella gwelededd y gellir ei drin ar y cam materion a gadwyd.

 

           Roedd dyluniad yr eiddo arfaethedig yn bwysig a gellir trafod hynny ar y cam materion a gadwyd.

 

           Bod Cytundeb Adran 106 yn sicrhau'r unedau tai fforddiadwy.

 

           Pan geir cytundeb terfynol, dylai swyddogion annog yr ymgeisydd i ddechrau adeiladu cyn gynted ag sy'n bosibl.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Higginson ac eiliodd y Cynghorydd A. Webb fod cais DC/2016/00415 yn cael ei gymeradwyo gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i sicrhau'r unedau tai fforddiadwy.

 

Ar gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo       -      13

Yn erbyn cymeradwyo    -      0

Ymatal                           -      0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DC/2016/00415 gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i sicrhau'r unedau tai fforddiadwy.

 

8.

CAIS DC/2015/01591 - 10 ARWYDD HYSBYSEBU RHYDD-SEFYLL MEWN GWAHANOL LEOLIADAU pdf icon PDF 176 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, nodwyd y byddai'r Adran Priffyrdd yn rheoli'r cynnwys a ddangosir ar yr hysbysiadau arfaethedig.

 

Mynegodd rhai Aelodau bryder y byddai cymeradwyo'r cais yn arwain at i ymyl priffyrdd ddod yn flêr. Felly, byddai'n anodd i fodurwyr ddarllen arwyddion o'r fath. Byddai lluniau yn hytrach na geiriad yn opsiwn gwell. Fodd bynnag, mynegodd rhai Aelodau eu cymeradwyaeth o'r cais gan fod galw am arwyddion hysbysebu rhydd-sefyll yn yr ardal. Codid yr arwyddion ar laswellt yn ymyl y ffordd gyda blodau gwyllt o amgylch.

 

Felly cynigiodd y Cynghorydd Sir R.J. Higginson ac eiliodd y Cynghorydd Sir M. Powell fod cais DC/2015/01591 yn cael ei gymeradwyo gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar gael eu rhoi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo       -      11

Yn erbyn cymeradwyo    -      1

Ymatal                           -      1

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais  DC/2015/01591 gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.   

 

                       

 

9.

CAIS DC/2015/01592 - ARWYDDION RHYDDSEFYLL MEWN GWAHANOL LEOLIADAU AR HYD YR A472. pdf icon PDF 99 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a gohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod lleol dros Lanbadog, oedd yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, wrth y Pwyllgor nad oedd yn cefnogi'r cais ar sail diogelwch, gan fod yr A472 eisoes yn ffordd brysur ac y byddai arwyddion rhyddsefyll yn debyg o dynnu sylw modurwyr. Awgrymwyd y gellid defnyddio safleoedd bws presennol i roi hysbysiadau, a fyddai yn eu tro yn opsiwn rhatach.

 

Ar ôl derbyn adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd gan yr Aelod lleol, mynegodd rhai Aelodau eu cefnogaeth dros yr Aelod lleol. Fodd bynnag, mynegodd Aelodau eraill eu cefnogaeth i'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir R.J. Higginson ac eiliodd y Cynghorydd Sir M. Powell fod cais DC/2015/1592 yn cael ei gymeradwyo gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo       -      9

Yn erbyn cymeradwyo    -      2

Ymatal                            -      1

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DC/2015/01592 gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

 

10.

CAIS DC/2015/01593 - 8 ARWYDD RHYDD-SEFYLL pdf icon PDF 172 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a gohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Wrth nodi manylion y cais, cynigiodd y Cynghorydd Sir R. J. Higginson ac eiliodd y Cynghorydd Sir M. Powell fod cais DC/2015/01593 yn cael ei gymeradwyo gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo       -      10

Yn erbyn cymeradwyo    -      1

Ymatal                           -       2

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DC/2015/01593 gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

11.

CAIS DC/2015/01594 - 6 ARWYDD RHYDD-SEFYLL pdf icon PDF 176 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a'r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y cais yn cyfeirio at gais am gyfanswm o 6 arwydd rhydd-sefyll yn y mannau dilynol ar hyd yr A48 yn ymyl Cas-gwent a Chaerwent:

 

           Dau arwydd i'w lleoli yn y A48 ger Cylchfan Parkwall (y cyfeirir atynt fel Arwyddion 1-2).

 

           Un arwydd i'w leoli ar yr A48 ger Canolfan Garddio Cas-gwent (y cyfeirir ato fel Arwydd 3).

 

           Un arwydd i'w leoli ar Ffordd Gyswllt Dyffryn Gwy ger Cylchfan High Beech, Cas-gwent (y cyfeirir ato fel Arwydd 4).

 

           Dau arwydd i'w lleoli ar yr A48 yng Nghaerwent, rhwng Heol Dinham a Pound Lane (y cyfeirir atynt fel Arwyddion 5-6).

 

Mynegodd Aelod bryder am Arwydd 3. Byddai'n lleoliad hwn yn anaddas ar gyfer arwyddion rhydd-sefyll gan y byddai'n tynnu sylw modurwyr ar y rhan brysur yma o'r priffyrdd. Gallai hefyd annog gosod posteri anghyfreithlon yn y lleoliad.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sir P. Farley i annerch y Pwyllgor Cynllunio ar y cais, gan ei fod yn Aelod dros Gas-gwent. Mynegodd yr Aelod bryder mai'r ymgeisydd yw Adran Priffyrdd Cyngor Sir Fynwy sydd hefyd yn rhoi'r cyngor technegol ar gyfer y cais. Ni chafodd y broses hon ei herio. Ni chafodd arolygon a gynhaliwyd gan yr Adran Priffyrdd eu gwneud ar gael ar gyfer dibenion craffu. Mae Cyngor y Dref a phreswylwyr lleol hefyd wedi ystyried sylwadau ar y cais. Mynegwyd pryder nad yw'r Awdurdod wedi cymryd sylw o'r farn a fynegwyd yn erbyn y cais.

 

Mewn ymateb, hysbysodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle y Pwyllgor y daeth y cais gan yr Awdurdod Priffyrdd ond ei fod yn dîm gwahanol i'r tîm sy'n rhoi sylwadau ar geisiadau cynllunio. Felly, mae swyddogion Cynllunio wedi edrych ar y cyngor a gafwyd. Mae'r archwiliadau ar gael i'r cyhoedd eu gweld ar wefan y Cyngor Sir.

 

Nodwyd y byddai'r Adran Priffyrdd yn rheoli cynnwys yr arwyddion.

 

Roedd Aelod lleol Drenewydd Gellifarch wedi nodi ei gefnogaeth i'r cais drwy ohebiaeth hwyr.

 

Mynegodd Aelod lleol Caerwent, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, ei bryder fod arwyddion 5-6 yn cael eu lleoli ar lain ganol yr A48 ac ystyriai y dylent gael eu tynnu o'r cais ar sail diogelwch.

 

Ar ôl ystyried y cais a'r sylwadau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir D. Dovey ac eiliodd y Cynghorydd Sir A. Webb fod Arwyddion 1,2 a 3 cais DC/2015/01594 yn cael eu cymeradwyo gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo             13

Yn erbyn cymeradwyo          0

Ymatal                                  0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir R. Harris ac eiliodd y Cynghorydd Sir R.J. Higginson fod Arwydd 4 cais DC/2015/2014 yn cael ei gymeradwyo gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Pwll-y-Cath, Newchurch, Cas-gwent. pdf icon PDF 2 MB

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad yr Arolygiaeth Cynllunio yn ymwneud â  phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 23 Awst 2016. Safle: Pwll-y-Cath, Newchurch, Cas-gwent, NP16 6DJ.

 

Caniatawyd yr apêl a rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd newydd yn ei lle gyda mynediad cysylltiedig, libart a gwaith tirlunio ym Mhwll-y-cath, Newchurch, Cas-gwent, NP16 6DJ yn unol ag amodau'r cais, cyfeirnod DE/2014/01489, dyddiedig 28 Tachwedd 2014, a'r cynlluniau diwygiedig a gyflwynwyd gydag ef, gyda'r amodau.

 

13.

The White House, Llanfair Cilgedin. pdf icon PDF 170 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad yr Arolygiaeth Cynllunio yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 23 Awst 2016. Safle: White House Farm, Llanfair Cilgedin, Y Fenni, NP7 9BB.

 

Gwrthodwyd yr Apêl.

 

 

14.

Monahawk Barn, Hazeldene, Comin Llanfihangel Troddi. pdf icon PDF 19 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cafodd yr apêl ei thynnu'n ôl.

 

 

15.

Apeliadau a dderbyniwyd - 21 Medi, 2016 i 20 Hydref, 2016. pdf icon PDF 67 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr apeliadau a dderbyniwyd.