Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 4ydd Hydref, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Democratic Services 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chododd Aelodau unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 108 KB

Cofnodion:

Cafoddcofnodion y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 6 Medi 2016 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd. 

3.

CAIS DC/2015/01431 - DYMCHWEL SIEDIAU DIWYDIANNOL PRESENNOL A CHODI 60 FFLAT GWESTY GYDA GWASANAETH, SBA CYRCHFAN 3,8700 M SG, DATBLYGIAD DEFNYDD CYMYSG ATEGOL (HYD AT 3,000 M SG), CANOLFAN YNNI, TIRLUNIO, MAES PARCIO A DATBLYGIAD ATEGOL ARALL. HEFYD CYMERADWYO MATERION ARGADWEDIG AR GYFER MYNEDIAD. PARC MENTER VALLEY, HEOL HADNOCK, TREFYNWY, NP25 3NQ. pdf icon PDF 211 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y cynnig a gohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth, gyda'r 22 amod a amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 3 Mai 2016 gydag argymhelliad i'w wrthod. Yn y cyfarfod bu Aelodau yn pwyso a mesur ac ystyried goblygiadau risg llifogydd y datblygiad yn erbyn buddion economaidd adeiladu gwesty a sba yn y safle. Byddai'r datblygiad arfaethedig yn rhoi buddion economaidd sylweddol i'r ardal a gwella golwg y safle.

 

Felcanlyniad i fuddion sylweddol neilltuol y datblygiad arfaethedig, ni dderbyniwyd yr argymhelliad i wrthod y cais ar sail llifogydd.

 

Hysbyswydaelodau fod gwrthwynebiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau. Caiff y manylion eu hamlinellu mewn gohebiaeth hwyr.

 

Yropsiynau sydd ar gael i Bwyllgorau Cynllunio yw:

 

           Rhoi caniatâd tebyg i'r penderfyniad blaenorol gydag amod ychwanegol yn gofyn am fanylion y cynllun rheoli llifogydd.

 

           Gwrthod y cais megis yn adroddiad y swyddog.

 

           Gohirio i wneud modelu pellach.

 

Amlinelloddyr Aelod lleol dros Wyesham, oedd yn mynychu'r cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol:

 

           Gohiriwyd penderfyniad y cais am chwe mis.

 

           Y fantol yw pwyso a mesur y risg llifogydd posibl yn erbyn buddion economaidd y cynnig.

 

           Fel aelod Ward, mae'r buddion economaidd yn bwysicach na'r risg llifogydd posibl.

 

           Mae angen mawr am swyddi yn Nhrefynwy a bydd y cynnig yn dod â swyddi i'r ardal. Cyflawnir buddion eraill i'r ardal megis twristiaeth a hyrwyddo Sir Fynwy.

 

           Gofynnodd yr Aelod lleol i'r Pwyllgor Cynllunio ystyried cymeradwyo'r cais i alluogi sicrhau buddion cadarnhaol i'r dref.

 

HysbysoddPennaeth Cynllunio, Tai a Rheoli Lle yr Aelodau pe byddai'r Awdurdod o blaid cymeradwyo'r cynllun y byddai'n rhaid i ni fel Awdurdod ei gyfeirio at Weinidog Llywodraeth Cymru i weld os yw'n dymuno galw'r cais i mewn oherwydd natur y datblygiad a risg llifogydd.

 

Mae'rCadeirydd wedi caniatáu siarad cyhoeddus ychwanegol yng nghyswllt y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd a Cyfoeth Naturiol Cymru i annerch y Pwyllgor. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwrthod y cais ond roedd yr ymgeisydd wedi'i dderbyn.

 

Mynychodd Ms. J. Kitcher, Arweinydd Datblygu Prosiect ar gyfer y Gwesty a'r Sba, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

           Roedd yr ymgeisydd yn ystyried bod cymeradwyaeth unfrydol i'r cais ym Mai 2016 yn ffafriol iawn.

 

           Mae'r modelu risg llifogydd wedi awgrymu na fyddai effeithiau niweidiol mewn man arall ac roeddent yn hyderus y byddai'r modelu llifogydd yn cadarnhau hyn.

 

           Ystyriai'r Ymgeisydd fod ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru yn afresymol, er bod yr ymgeisydd yn derbyn rôl Cyfoeth Naturiol Cymru mewn rhoi cyngor technegol am lifogydd a risg llifogydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynd tu hwnt i'r eglurhad y gofynnodd y Pwyllgor amdano ac yn bod yn farnwr ac yn rheithgor ar  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

CAIS DC/2016/00714 - DWY ANNEDD PÂR, TIR CEFN 61 CILGANT Y PARC, Y FENNI. pdf icon PDF 117 KB

Cofnodion:

 

Ystyriwyd y cais a'r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r saith amod a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i sicrhau cyfraniad ariannol tuag at dai fforddiadwy yn yr ardal.

 

Roedd Ms. Y. Spencer, yn gwrthwynebu'r cais, yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd yr wybodaeth ddilynol:

 

Gofynnoddpreswylwyr lleol na ddylid defnyddio dwysedd tai adeilad newydd gan fod y datblygiad mewnlenwi yma mewn ardal sydd eisoes yn un breswyl. Dywedodd y swyddog fod eisoes gynsail yn yr ardal leol yn berthnasol i'r cais. Mae preswylwyr lleol yn dadlau nad oes hynny. Ni chafodd y cais arall am ddwy annedd pâr yng Nghilgant y Parc erioed eu hadeiladu ac mae'r caniatâd hwnnw wedi dod i ben.

 

Effaithgronnus y cynnig yn y cais presennol a chais y datblygwyr a gymeradwywyd yn wreiddiol yw creu stad tai fach ar safle lle'r oedd un eiddo. Mae pobl eraill yn aros am benderfyniad y Pwyllgor Cynllunio cyn cyflwyno ceisiadau tebyg mewn ardaloedd sefydledig o'r dref. Bydd penderfyniad y Pwyllgor yn gosod cynsail newydd. Apêl ardal hyn yw ei gofod a'i chymeriad.

 

Mae adroddiad y swyddog achos yn sôn am gynigion i ddymchwel garej a sied. Roedd y ddwy lain wedi eu cofrestru dan ddwy weithred teitl ar wahân pan brynwyd yr eiddo gwreiddiol. Mae'r garej a'r sied wedi eu lleoli o fewn ffin y llain arall lle rhoddwyd caniatâd cynllunio eisoes. Dylai'r dymchwel yma fod wedi ei gynnwys pan y dylai'r cais hwnnw fod wedi ei ystyried. Gan fod y dymchwel yn cyfeirio at eiddo arall, mae preswylwyr yn gofyn iddo fod yn destun cais ar wahân. Os yw'r Pwyllgor Cynllunio yn cytuno i ddymchwel yr adeiladau hyn, bydd yn galluogi mynediad o'r de. Mae'r swyddog achos yn dweud y bydd y fynedfa i'r cais presennol o'r gogledd. Fodd bynnag, mae gan breswylwyr bryderon y bydd traffig adeiladu a thraffig arall yn cael mynediad o Gilgant y Parc os cymeradwyir y cynnig. Bydd hyn yn achosi perygl i gerddwyr a thraffig ar heol brysur.

 

Yngnghyswllt y fynedfa, caiff hawl tramwy'r cyhoedd rhwng Cilgant y Parc ac Ysguborwen ei groesi gan gerbydau'n defnyddio'r fynedfa yma. Dangosodd arolwg gan breswylwyr bod 154 o gerddwyr ond dim cerbydau'n defnyddio'r fynedfa hon rhwng 8.00am a 9.00am ar fore dydd Mawrth prysur. Felly, nid yw cerddwyr wedi arfer gyda cherbydau yn y lleoliad yma.

 

Mae preswylwyr yn croesawu'r amod i ostwng y gwrych ar hyd ymyl orllewinol safle'r cais. Fodd bynnag, mae ardaloedd cyfyngedig i'r tir i'r gogledd sy'n dal i gyflwyno perygl i gerddwyr. Dylid sefydlu darpariaethau iechyd a diogelwch cyn caniatau unrhyw symudiad traffig i ac o'r safle o gofio am y mathau o gerddwyr agored i niwed sy'n defnyddio'r llwybr hwn.

 

Cymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA) yw perchen y tir dan sylw. Dywed y  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

CAIS DC/2013/00349 - NEWID DEFNYDD LLAWR DAEAR TŶ TAFARN I DDEFNYDD MANWERTHU A CHAFFE. TROSI AC ADDASU LLAWR CYNTAF Tŷ TAFARN PRESENNOL I DDARPARU FFLAT. DIWYGIO DYLUNIAD YR ANHEDDAU NEWYDD A GYNIGIR YN Y MAES PARCIO I FFURFIO DWY FFLAT DEULAWR. THE BRIDGE INN, STRYD Y BONT, CAS-GWENT, NP16 5EX. pdf icon PDF 119 KB

Cofnodion:

Ystyriwydadroddiad y cais a gohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

AmlinelloddAelod lleol Santes Fair, oedd yn mynychu'r cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd, y pryderon dilynol yng nghyswllt y cais:

 

           Nid yw wedi derbyn unrhyw ohebiaeth neu gyfathrebiad ar y mater hwn fel Cynghorydd Tref Cas-gwent.

 

           Derbyniodd gyfathrebiad gan Gynghorydd Tref Cas-gwent yn dweud y derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau am y cais hwn. Nid yw'r cynnig yn gydnaws gyda'r ardal a bydd yn achosi anghyfleuster i breswylwyr lleol i'r datblygiad.

 

           Anogodd y Pwyllgor Cynllunio i ystyried o ddifrif y sylwadau a gyflwynwyd gan breswylwyr lleol a Chyngor Tref Cas-gwent.

 

           Roedd yr Aelod lleol wedi derbyn gohebiaeth gan breswylydd lleol fel sy'n dilyn:

 

-           Dim ond yn yr arolwg safle a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2016 y clywodd y preswylydd lleol am y cais.

 

-           Mae'r preswylydd lleol yn byw'n agos iawn at y datblygiad arfaethedig a'i wrthwynebiadau i'r cynlluniau yw:

 

         Bydd yr eiddo a gynigir yn edrych yn anghydnaws ac yn rhy fawr i'r llain fach a'r lleoliad a bydd yn cuddio'r golau a'r olygfa o lan yr afon i'w eiddo ef.

 

         Mae eisoes fwy na 600 o eiddo'n cael eu hadeiladu ar waelod Cas-gwent a gofynnodd os oedd angen adeiladu t? arall.

 

         Dim gwrthwynebiad i drosi'r dafarn yn gaffe a siop.

 

         Pryderon am ddarpariaeth parcio. Mae'r cyfleusterau parcio ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr ar lannau'r afon eisoes yn gyfyngedig a gan y byddai maes parcio'r dafarn yn cael ei datblygu, caiff diffyg darpariaeth parcio ei waethygu.

 

         Bydd datblygu'r maes parcio yn niweidiol i gynlluniau'r dyfodol ar gyfer y dafarn gan na fyddai datblygu siop hen greiriau a siop goffi ar waelod y dref yn gynaliadwy oherwydd diffyg cyfleusterau parcio.

 

           Y prif wrthwynebiad i'r asesiad traffig yw nad yw'n ymddangos ei fod yn rhoi ystyriaeth lawn i'r holl gyd-destun. Os oes siopau, caffe, parcio ar gyfer preswylwyr ar y datblygiad newydd, ynghyd â defnydd y tir a gaiff ei ddefnyddio eisoes ar gyfer gwahanol ddibenion parcio, awgrymodd yr Aelod lleol ei bod yn debygol y bydd rhai canlyniadau difrifol a fan leiaf oll bod angen ailystyried yr asesiad priffyrdd.

           Gofynnodd yr aelod lleol i'r holl sylwadau gan breswylwyr lleol a Chyngor Tref Cas-gwent gael eu hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

DywedoddPennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle wrth y Pwyllgor y cynhaliwyd ymgyngoriad ar y cais ac y codwyd hysbysiad ar y safle.

 

Arôl ystyried yr adroddiad a'r sylwadau gan yr Aelod lleol, teimlai rhai Aelodau nad oedd ffurf y datblygiad yn addas ar gyfer yr ardal ac nad oedd yn gydnaws gyda chymeriad yr ardal o amgylch. Roedd y safle o fewn ardal gadwraeth lle diogelid barn preswylwyr. Byddai cymeradwyo'r cais yn arwain at i olygfeydd preswylwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS DC/2015/00938 - DYMCHWEL ANNEDD BRESENNOL A GAREJ AR WAHÂN. CODI ANNEDD A GAREJ AR WAHÂN YN EU LLE. ADLEOLI MYNEDIAD CERBYD PRESENNOL. ORCHARD HOUSE, LLANBADOG, BRYNBUGA. pdf icon PDF 197 KB

Cofnodion:

Ystyriwydadroddiad y cais a gohebiaeth hwyr, a gyflwynwyd ar gyfer gwrthodiad am y ddau reswm a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar 6 Medi 2016 gydag argymhelliad ar gyfer cymeradwyo. Fodd bynnag, nid oedd Aelodau wedi cytuno gyda'r argymhelliad ac roeddent o blaid gwrthod y cais ar sail maint, dyluniad a diogelwch priffordd.

 

Amlinelloddyr Aelod lleol dros Lanbadog, oedd yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol:

 

           Eglurodd i aelodau'r cyhoedd oedd yn bresennol nad yw'n cymryd unrhyw rhan wrth wneud penderfyniad yng nghyswllt y broses Pwyllgor Cynllunio. Mae'n gwneud ei sylwadau ar ôl gwrando ar ac ystyried ei barn cyn bwneud ei phenderfyniad. Y Pwyllgor Cynllunio sy'n gwneud penderfyniadau ar gynigion cynllunio. Fel yr Aelod lleol, bydd yn gwneud sylwadau ar ran preswylwyr lleol.

 

           Nid yw'r preswylwyr yn ystyried nad yw'r cofnodion yn adlewyrchu'r cyfarfod blaenorol yn llawn.

 

           Mae preswylwyr yn dal i fod yn bryderus am leoliad y cynnig, bod y dyluniad yn annerbyniol a'u bod yn ystyried y fynedfa a gynigir yn beryglus.

 

           Mae pryder yr Aelod lleol am ddiogelwch y briffordd yn parhau. Mae'r fynedfa newydd, a graffwyd gan y swyddogion priffyrdd, yn dderbyniol i'r safle.

 

           Yng nghyswllt y dyluniad, cafodd ei negodi rhwng Swyddogion Cynllunio Sir Fynwy a'r ymgeiswyr a'u hasiant. Mae'r aelod lleol yn ystyried fod y dyluniad yn flaengar ac yn amgylcheddol gadarn.

 

Arôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd gan yr Aelod leol, mynegodd rhai Aelodau eu cefnogaeth i'r cais gan y teimlwyd fod y fynedfa newydd yn well na'r fynedfa bresennol, bod y maint yn dderbyniol a bod y dyluniad yn flaengar. Roedd yr Adran Priffyrdd wedi adolygu'r fynedfa newydd ac wedi mynegi ei chefnogaeth ei fod yn fwy diogel na'r fynedfa bresennol.

 

Foddbynnag, mynegodd rhai Aelodau eraill eu pryder am y cais ac ystyried y byddai'r annedd newydd arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar yr ardal o amgylch ac na fyddai'n gydnaws gyda dyluniad eiddo cyfagos.

 

Felly cynigiwyd gwrthod cais DC/2015/00938 ar sail maint a dyluniad yr annedd newydd arfaethedig ac na fyddai'n gydnaws gyda chymeriad ac ymddangosiad yr ardal o amgylch.

 

Argael eu rhoi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid gwrthod               9

Ynerbyn gwrthod            5

Ymatal                            0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwydgwrthod cais DC/2015/00938 ar sail maint a dyluniad yr annedd newydd arfaethedig ac y byddai'n anghydnaws gyda chymeriad ac ymddangosiad yr ardal o amgylch.

 

 

 

7.

Adroddiad cadarnhau Gorchymyn Cadwraeth Coeden MCC264 – Cae Elga, Osbaston 2016. pdf icon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Derbyniwydadroddiad i ystyried cadarnhad Gorchymyn Cadwraeth Coed darpariaethol rhif MCC264 (2016) heb ei addasu.

 

Hysbyswydaelodau fod y Cyngor wedi derbyn ymholiad cyn-cais gam berchnogion Cae Elga, Heol Highfield, Osbaston. Ar 11 Mawrth 2016 gwnaeth y Swyddog Achos ymweliad safle i drafod posibilrwydd mewnlenwi i ddatblygiad yn yr ardd fawr yng nghefn yr eiddo. Yn ystod yr ymweliad, nodwyd fod coeden Wellingtonia aeddfed ar ffin gogleddol y llain. Roedd y Swyddog Achos wedi hysbysu'r tirfeddianwyr y byddai'r goeden yn ystyriaeth sylweddol mewn cais cynllunio gan ei bod yn ychwanegu cymeriad i'r ardal ac y byddai angen ei chadw a'i diogelu yn ystod unrhyw ddatblygiad arfaethedig.

 

Cynyr ymweliad i'r safle bu'r Swyddog Coed yn trafod y goeden gyda'r swyddog achos ac yng ngoleuni'r dystiolaeth ffotograffig ynghyd â golygfeydd o'r goeden ar Google Street View, daethpwyd i'r farn fod gorchymyn cadwaeth coeden (TPO) yn briodol yn yr amgylchiadau. Paratowyd TPO darpariaethol dyddiedig 12 Ebrill 2016 a'i gyflwyno i'r tirfeddianwr ac eiddo cyfagos gan roi cyfle i'r derbynwyr i gyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig (y cyfnod hysbysiad). Mae'n ofynnol i gyfnodau hysbysiad fod o leiaf 28 diwrnod. Daeth yr hysbysiad yn yr achos hwn i ben ar 25 Mai 2016.

 

Derbyniwydun llythyr yn gwrthwynebu i'r Gorchymyn.

 

Arôl ystyried yr adroddiad, cynigiwyd ac eiliwyd bod Gorchymyn Cadwraeth Coed rhif MCC264 (2016) yn cael ei gadarnhau heb ei addasu.

 

Argael eu rhoi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid y cynnig -            14

Ynerbyn y cynnig -           0

Ymatal -                            0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd y gellir cadarnhau Gorchymyn Cadwraeth Coed rhif MCC264 (2016) heb addasiad.

 

8.

Apêl yn Erbyn Penderfyniad - Fferm Palace, St. Tewdric Lôn yr Eglwys, Matharn, Sir Fynwy, NP16 6JA. pdf icon PDF 169 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad yr Arolygiaeth Cynllunio yn cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle ar 17 Awst 2016. Safle: Palace Farm, Lon Eglwys Tewdric Sant, Mathern, Sir Fynwy, NP16 6JA.

 

Gwrthodwyd yr apêl.

 

 

 

9.

Appeal Decision - 22 Punchbowl View, Llanfoist, Abergavenny, Monmouthshire, NP7 9FL. Apêl yn Erbyn Penderfyniad - 22 Punchbowl View, Llan-ffwyst, Y Fenni, Sir Fynwy, NP7 9FL. pdf icon PDF 142 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd adrodidad yr Arolygiaeth Cynllunio yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle ar 6 Gorffennaf 2016. Safle: 22 Punchbowl View, Llanffwyst, Y Fenni, Sir Fynwy, NP7 9FL.

 

Gwrthodwyd yr apêl a chadarnawyd yr Hysbysiad Gorfodaeth.

 

 

10.

Apeliadau a dderbyniwyd. pdf icon PDF 54 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr apeliadau a dderbyniwyd.