Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 5ed Gorffennaf, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Democratic Services 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir A. Webb fuddiant personol a manteisiol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau yn gysylltiedig â chais cynllunio DC/2016/00532 o ganlyniad i’w hadnabyddiaeth o’r ymgeisydd. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio ar y cais.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 163 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 7fed Mehefin 2016 a llofnodwyd hwy gan y Cadeirydd. Wrth wneud hynny, hysbysodd y Pennaeth Cynllunio, Llefydd a Menter y Pwyllgor fod y diwygiadau i Brotocol Siarad Cyhoeddus y Pwyllgor Cynllunio wedi cael ei gytuno gan benderfyniad Aelod Cabinet unigol., Bydd y protocol newydd mewn grym erbyn cyfarfod y  Pwyllgor Cynllunio yn Awst 2016.

 

3.

DC/2015/01136 - PODIAU GLAMPIO ARFAETHEDIG GYDA BLOC CYFLEUSTODAU A GWASANAETHAU. FAIROAK, STRYD RUMBLE, MONKSWOOD, NP15 1QG. pdf icon PDF 129 KB

Cofnodion:

Mynychodd Mr. P. Fletcher, yn cynrychioli’r gwrthwynebwyr i’r cais, y cyfarfod ar wahoddiad yr Is-gadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar y tri amod ar ddeg, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad. Derbyniwyd gohebiaeth hwyr hefyd yn gysylltiedig â’r cais hwn.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol dros Lanbadog, yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad yr Is-gadeirydd, y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae heolydd traffig sengl i’r safle yn ei wneud yn anaddas i’r datblygiad arfaethedig.

 

·         Cerbydau gwersylla ac ôl-gerbydau aml. Ni ellir rheoli’r mathau a’r meintiau hyn o gerbydau yn cyrraedd y safle arfaethedig. 

 

·         Nid oes unrhyw amwynder o fewn pellter cerdded hwylus i’r safle.

 

·         Petai’r busnes yn dirwyn i ben, mynegwyd pryder ynghylch y defnydd o’r bloc gwasanaethau newydd, gan fod hwnnw’n annedd sylweddol parhaol. 

 

·         Mae D?r Cymru’n cadw briff gwylio’n gysylltiedig â’r tanc carthion.  

 

·         Mae symud y podiau ddwywaith y flwyddyn yn chwerthinllyd ond wrth wneud hynny, bydd y cais yn cydymffurfio â’r polisi. Nid oedd yr Aelod lleol yn hollol si?r ai hon oedd y ffordd gywir o weithredu materion cynllunio

 

·         Sut caiff symudiadau o’r fath eu monitro?

 

·         Mae potensial i ehangu’r safle.

 

·         Mae Stryd Rumble yn llwybr tarw i Goytre. Cydnabyddir mai lôn gul yw Stryd Rumble gyda llefydd pasio cyfyngedig ac mae arni arwydd yn nodi nad yw’n addas i gerbydau trwm.

 

·         Rhoddodd y Rheolwr Traffig a Rheoli Datblygu ystyriaeth i gynnydd posib ym maint y traffig ac mae o’r farn nad oes bellach sail i gynnal gwrthwynebiad ar sail diogelwch y briffordd. Fodd bynnag, ni fydd yr adran draffig yn darparu cludiant ysgol i blant Sir Fynwy ar hyd y lôn hon. Ystyrir y lôn yn anaddas ar gyfer gyrru bws ysgol ar hyd y ffordd hon. Mae plant ysgol yn cerdded ar hyd y lôn hon bob dydd.

 

·         Os caiff y cais ei gymeradwyo, fe fydd yn peryglu plant a phreswylwyr lleol ymhellach.

 

 

·         Mae preswylwyr Stryd Rumble yn gwrthwynebu’r cais ar sail diogelwch y ffordd, colli amwynder, ac maent yn credu nad yw’r cais yn cydymffurfio â pholisïau T2 ac EP1.

·         Mae Stryd Rumble yn gymhleth. Mae iddi nodweddion unigryw ac ni ellir eu gwerthfawrogi ond gan bobl sydd wedi byw yno ân gyfnod.

 

·         Bydd troi’r lôn yn lôn fasnachol yn ei newid yn andwyol i’r rhan fwyaf o’r deiliaid, er budd ariannol un person.

 

·         Mae’r lôn eisoes dan straen dan y galwadau presennol a osodir arni o ganlyniad i draffig drwy’r amser, draeniad a chyfanrwydd strwythurol. Mae’r lôn yn ddigon llydan i un car ac mae ymylon serth mewn mannau.

 

·         Mae plant ysgol, beicwyr, cerddwyr c?n, marchogion a phobl oedrannus yn cerdded ar yr heol. Mae cerbydau mawr amaethyddol yn cludo gwartheg hefyd yn defnyddio’r lôn.

 

·         Mae’r cyfyngiad cyflymder o 60 milltir yr awr yn annog y bobl nad ydynt yn lleol i yrru’n llawer cyflymach na’r hyn gaiff ei  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

DC/2013/00474 - ESTYNIAD LLAWR CYNTAF I 5 A 5A STRYD CHIPPENHAMGATE I ROI UN ANNEDD UN YSTAFELL WELY GYDA THRI LLE PARCIO AR LEFEL DAEAR pdf icon PDF 201 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar chwe amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad. Derbyniwyd gohebiaeth hwyr hefyd yn gysylltiedig â’r cais hwn.

 

Wrth nodi manylion y cais mynegodd Aelodau’u cefnogaeth i’r cais ond mynegwyd eu pryder ynghylch y deunyddiau arfaethedig. Ystyriwyd bod angen newid deunyddiau’r wal allanol a’r to ac y dylid darparu rendrad gwyn â tho llechi.  

 

Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir A.M. Wintle ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir D.L.S. Dovey bod cais DC/2013/00474 yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf i ganiatáu amser i swyddogion gydgysylltu â’r ymgeisydd gyda’r gobaith o newid deunyddiau’r wal allanol a’r to ac y dylid darparu rendrad gwyn â tho llechi.  

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

 

O blaid gohirio’r cais - 12

Yn erbyn gohirio’r cais - 0

Atal pleidlais – 0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC DC/2013/00474 yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf i ganiatáu amser i swyddogion gydgysylltu â’r ymgeisydd gyda’r gobaith o newid deunyddiau’r wal allanol a’r to ac y dylid darparu rendrad gwyn â tho llechi.

 

 

 

 

 

5.

DC/2015/00832 - CAIS AR GYFER GWAITH DIWYGIEDIG I DRAWSNEWID YSGUBOR YN CYNNWYS CYNYDDU LIBART PRESWYL. pdf icon PDF 76 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar yr un amod fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad.

 

Wrth nodi manylion y cais hysbyswyd yr Aelodau fod yr addasiad i’r ysgubor wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a’i gymeradwyo yn 2014.  Fodd bynnag, ni chafodd yr ysgubor ei haddasu yn unol â’r manylion a gymeradwywyd. Diben y cais a gyflwynwyd yw rheoleiddio’r tramgwydd i reoli cynllunio. Y brif broblem yw’r wal ffin ac fe argymhellwyd bod hon yn cael ei lleihau fel yr amlinellwyd yn yr amod i’r adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod lleol dros Gaerwent, hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei fod yn cytuno â’r cais fel y mae ar hyn o bryd, a’r wal ffin yn dal yr un uchder â’i huchder cyfredol.

 

Wedi ystyried y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod lleol,  cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir D. Evans bod cais DC/2015/00832 yn cael ei gymeradwyo, gyda symud yr un amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

Ar gyfer cymeradwyo’r cais – 10

Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0

Atal pleidlais – 2

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2015/00832 yn cael ei gymeradwyo gyda symud yr un amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

           

 

6.

DC/2015/00890 - TIR YNG NGHEFN BWTHYN BEDFONT, HEOL Y DRENEWYDD, GOETRE. ANNEDD PEDAIR YSTAFELL WELY AR DIR GAREJ I GEFN BYTHYNNODD BEDFONT. pdf icon PDF 102 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar y chwe amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad. Derbyniwyd gohebiaeth hwyr hefyd yn gysylltiedig â’r cais hwn.

 

Wrth nodi manylion y cais hysbyswyd yr Aelodau fod yr ymgeisydd yn barod i symud agwedd dormer y cais yn dilyn y pryderon a godwyd. Byddai cynllun diwygiedig yn cael ei gyflwyno yn ymgorffori’r newid hwn. Hysbysodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio-Llefydd y Pwyllgor y gellid ychwanegu amod i ddiddymu hawliau datblygu caniataol.

 

Wedi ystyried y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir D.L.S. Dovey ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy bod cais DC/2015/00890 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar y chwe amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad ac yn amodol ar amod ychwanegol bod hawliau datblygu caniataol yn cael eu diddymu.  .

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

Ar gyfer cymeradwyo’r cais - 12

Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0

Atal pleidlais – 0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2015/00890 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y chwe amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad ac yn amodol ar amod ychwanegol bod hawliau datblygu caniataol yn cael eu diddymu           

 

 

 

 

7.

DC/2015/01210 - DATBLYGIAD PRESWYL ARFAETHEDIG YN CYNNWYS TAIR ANNEDD GER 21 STRYD FOUR ASH. TIR GYFERBYN I 21 STRYD FOUR ASH, BRYNBUGA. pdf icon PDF 115 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar y saith amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad. Derbyniwyd gohebiaeth hwyr hefyd yn gysylltiedig â’r cais hwn.

 

Mynegodd yr Aelod lleol dros Frynbuga, hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei gefnogaeth i’r cais.

 

Wedi ystyried y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod lleol,  cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir B. Strong ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R.J. Higginson bod cais DC/2015/01210 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar y saith amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad.

 

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

Ar gyfer cymeradwyo’r cais - 12

Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0

Atal pleidlais – 0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2015/01210 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar y saith amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad.

.

 

8.

DC/2016/00444 - DARPARU SGRIN DDIGIDOL O FEWN FFRAM DDIOGEL A NODWYD AR HYSBYSFWRDD PRESENNOL Y GYMDEITHAS DDINESIG, GOFOD CYHOEDDUS AGORED, STRYD GROES, Y FENNI. pdf icon PDF 77 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar y chwe amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad.

 

Mynegodd yr Aelod lleol dros Grofield, hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei gefnogaeth i’r cais.

 

Nodwyd bod Cyngor Tref Y Fenni yn cefnogi’r cais.

 

Wedi ystyried yr adroddiad ar y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir D.L. Edwards ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell bod cais DC/2016/00444 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar y chwe amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad. 

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

Ar gyfer cymeradwyo’r cais - 12

Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0

Atal pleidlais – 0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2016/00444 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar y chwe amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad.

 

9.

DC/2016/00494 - NEWID DEFNYDD GWESTY GYDA DEFNYDD C1 I A1, A2 A A3 AR Y LLAWR DAEAR GYDA DEFNYDD B1 I'R LLAWR CYNTAF A'R AIL LAWR, GWESTY SWAN, STRYD GROES, Y FENNI, NP7 5ER. pdf icon PDF 163 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar y pedwar amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad. Derbyniwyd gohebiaeth hwyr hefyd yn gysylltiedig â’r cais hwn.

 

Mynegwyd pryder nad oedd Cyngor Tref Y Fenni wedi ymateb i’r cais, dylid gohirio ystyried y cais gan y Pwyllgor Cynllunio nes i sylwadau o’r fath gael eu derbyn.

 

Nodwyd bod y Swyddogion Cynllunio wedi e-bostio’r cais a hefyd wedi anfon copi drwy’r post i Glerc Cyngor Tref Y Fenni er mwyn i’r cais gael ei ystyried gan Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor Tref. Fodd bynnag, nodwyd bod Clerc y Dref wedi bod ar absenoldeb salwch ac ymddangosai nad oedd y mater hwn wedi cael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor Tref.

 

Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir D.L. Edwards ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell bod cais DC/2016/00494 yn cael ei ohirio a’i drafod yng  nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio i ganiatáu amser i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Tref Y Fenni ystyried y cais a chyflwyno sylwadau i Adran Gynllunio Cyngor Sir Fynwy.  

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid gohirio’r cais - 12

Yn erbyn gohirio’r cais - 0

Atal pleidlais – 0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2016/00494 yn cael ei ohirio a’i drafod yng  nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio i ganiatáu amser i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Tref Y Fenni ystyried y cais a chyflwyno sylwadau i Adran Gynllunio Cyngor Sir Fynwy.

 

 

 

 

 

10.

DC/2016/00529 - DARPARU DEC PREN WEDI'I GODI AR GYFER TŶ HAF COED MEWN GARDD. 4 TOYNBEE CLOSE, OSBASTON, TREFYNWY, NP25 3NU. pdf icon PDF 73 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar y ddau amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad.

 

Wrth nodi manylion y cais, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell bod cais DC/2016/00529 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar y ddau amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

Ar gyfer cymeradwyo’r cais - 12

Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0

Atal pleidlais – 0

 

Cariwyd y cynnig.

.

 

Penderfynasom fod cais DC/2016/00529 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar y ddau amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad.

 

 

11.

DC/2016/00532 - TŶ GWYDR 2.3M X 3M - SYLFAEN PRIDD TU MEWN. SIED GARDD 3M X 3.7M I STORIO COED A GLO. HEFYD DARPARU CYSGOD I'R TŶ GWYDR RHAG GWYNTOEDD UCHEL. ROCKMON VIEW, ROCKFIELD, TREFYNWY. pdf icon PDF 71 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar y ddau amod ar ddeg, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad. Derbyniwyd gohebiaeth hwyr hefyd yn gysylltiedig â’r cais hwn.

 

 

Wrth nodi manylion y cais, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir R.J. Higginson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy bod cais DC/2016/00532 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar y ddau amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

Ar gyfer cymeradwyo’r cais - 11

Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0

Atal pleidlais – 0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2016/00532 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar y ddau amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

 

12.

CasCastle Oak, Brynbuga, Sir Fynwy NP15 1SG. pdf icon PDF 160 KB

Cofnodion:

Derbyniasom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a gyfeiriai at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle ar 14eg Mehefin 2016, safle Castle Oak, Brynbuga, Sir Fynwy NP15 1SG.

 

Gwrthodwyd yr apêl.

 

 

13.

Old Shop Cottage, Star Hill, Llanishen, Sir Fynwy, NP16 6NT. pdf icon PDF 184 KB

Cofnodion:

Derbyniasom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a gyfeiriai at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle ar 24ain Mai 2016, safle Old Shop Cottage, Star Hill, Llanisien, Sir Fynwy NP16 6NT.

 

Gwrthodwyd yr apêl.

 

 

14.

Apeliadau i’w derbyn- Mai i Fehefin 2016. pdf icon PDF 49 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr apeliadau a dderbyniwyd rhwng Mai a Mehefin 2016.

 

 

Hysbysodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio-Llefydd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am wirfoddolwyr ar gyfer peilot a oedd yn ymwneud ag Aelodau ward mewn trafodaethau cyn-ymgeisio. Dyma brawf 12 mis yn cychwyn ym Medi 2016. Mae’r Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio-Llefydd wedi rhoddi enw Cyngor Sir Fynwy gerbron fel awdurdod gwirfoddoli. Bydd hyn yn caniatáu i Aelodau gymryd rhan yn y broses lawer cynt.