Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Democratic Services
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir P.R. Clarke fuddiant personol manteisiol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau parthed Cais Cynllunio DC/2015/01291, gan ei fod yn Aelod Bwrdd o Gymdeithas Tai Sir Fynwy. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na bwrw pleidlais.
Datganodd y Cynghorydd Sir D. Evans fuddiant personol manteisiol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau parthed Cais Cynllunio DC/2015/01291, gan ei fod yn Aelod Bwrdd o Gymdeithas Tai Sir Fynwy. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na bwrw pleidlais.
Datganodd y Cynghorydd Sir V.E. Smith fuddiant personol manteisiol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau parthed Cais Cynllunio DC/2015/01291, gan ei bod yn Aelod Bwrdd ac yn denant Cymdeithas Tai Sir Fynwy.
Datganodd y Cynghorydd Sir A.M. Wintle fuddiant personol manteisiol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau parthed Cais Cynllunio DC/2015/01291, gan ei fod yn Aelod Bwrdd o Gymdeithas Tai Sir Fynwy. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na bwrw pleidlais.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. PDF 150 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 12ted Awst 2016 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.
|
|
Cofnodion: Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynychodd y Cynghorydd Sir G. Thomas, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Llanofer, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
· Yn cynrychioli cymuned o breswylwyr mwy oedrannus.
· Roedd y mynediad gwreiddiol i’r adeilad ar hyd T? Tyrpengwm. Mae hwn bellach wedi’i ddileu gan yr ymgeisydd.
· Mynediad mwy hwylus fyddai i’r R53 sydd â mynediad llai uniongyrchol i’r B4598 sy’n heol brysur iawn,
· Mae hyn yn creu perygl ffordd ychwanegol ar yr heol brysur hon.
· Mae ffryntiad ffordd o gaeau eraill i’r R53.
· Byddai Cyngor Cymuned Llanofer yn dymuno i’r Pwyllgor Cynllunio ailystyried y cais i weld a ellid darparu mynediad mwy hwylus ar sail diogelwch. .
Rhoddwyd i’r ymgeisydd gyfle i fynnu’i hawl i ymateb. Fodd bynnag, gwrthododd y cynnig i roi’i achos gerbron y Pwyllgor Cynllunio.
Wedi ystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd nododd Aelodau fod y gwelliannau a wnaed i’r cais wedi symud y materion yn ymwneud â’r traffig yn cael mynediad i’r B4598.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R.J. Higginson bod cais DC/2015/01380 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol: :
O blaid cymeradwyo’r cais - 11 Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0 Abstentions - 0
Cariwyd y cynnig. : .
Penderfynasom fod cais DC/2015/01380 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a gyflwynwyd a’r argymhelliad i’w wrthod am un rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Hysbysodd y Pennaeth Cynllunio’r Pwyllgor o’r newidiadau i’r cais, fel y dynodwyd mewn gohebiaeth hwyr ac yna eto mewn gohebiaeth hwyrach.
Amlinellodd yr Aelod lleol dros Wyesham, a oedd yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol o blaid y cynnig:
· Bu llawer o ymgynghori.
· Y farn gyffredinol yw y byddai cymeradwyo’r cais yn arwain at fwy o waith i dref Trefynwy, a byddai’n darparu llety oedd ei wir angen ar dwristiaid yn ymweld â’r dref.
· Byddai gwelliant gweledol i’r safle petai’r cais yn cael ei gymeradwyo.
Amlinellodd Mr. D. Cummings, yn cynrychioli Siambr Fasnach Trefynwy, a oedd yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol o blaid y cynnig::
· Derbyniwyd sawl llythyr o gefnogaeth o blaid y cais.
· Byddai cymeradwyo’r cynnig yn darparu budd ariannol i Frynbuga, sef swm o £3.1M y flwyddyn, bob blwyddyn.
· Byddai’r datblygiad arfaethedig yn fwy cydnaws â’r ardal o gwmpas, gan ychwanegu at y gwelliannau a wnaed eisoes dros y 15 mlynedd ddiwethaf.
· Ychydig iawn o effaith fydd ar lif y traffig lleol.
· Mae’r datblygwyr wedi cwrdd â’r gofynion yn ymwneud â llifogydd yn yr ardal.
· Mae digon o rybudd o lifogydd posib yn yr ardal h.y. derbynnir rhybudd o saith awr o leiaf.
· Ni fydd unrhyw risg i bobl nac eiddo petai’r cais yn cael ei gymeradwyo.
Wedi ystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Roedd angen cydbwyso’r materion yn ymwneud â llifogydd gyda manteision y cynllun.
· Mae’r profion a amlinellir yn TAN 15 yn cynnwys goblygiadau llifogydd. Mae tri phrawf y mae’n rhaid i’r cais lwyddo ynddynt, a chyflawnir hyn parthed y ddau gyntaf. Fodd bynnag, dengys y trydydd prawf fod yn rhaid i ganlyniadau llifogydd fod yn dderbyniol.
· Mae’r cynlluniau diwygiedig yn dangos y caiff yr adeilad ei godi yn uwch na lefelau llifogydd sy’n cynnwys llefydd parcio ceir.
· Mae angen i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wirio gyda’r ymgeisydd y modelu a ddarparwyd. Nes i hyn gael ei gyflawni, erys gwrthwynebiad i’r cynllun drwy gyfrwng swyddogion cynllunio. Os mai hwn yw’r unig wrthwynebiad gellid dirprwyo’r penderfyniad i’r Panel Dirprwyaeth er mwyn i’r cynllun gael ei gymeradwyo ar yr amod bod y modelu’n cael ei gwblhau gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
· Nodwyd nad oes ffordd o ddianc sych a fyddai’n beryglus i wasanaethau brys.
· Mae’r ymgeiswyr wedi honni, petai llifogydd sylweddol, byddai’u cynllun rheoli’n arwain at y safle’n cael ei wacáu mewn amser.
· Petai’r cynllun yn cael ei ganiatáu, byddai’n rhaid hysbysu’r Gweinidog a allai wedyn alw’r cais i mewn.
· Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch effaith weledol y cynllun arfaethedig, nodwyd yr ymdrinnid â’r mater adeg materion a gadwyd yn ôl..
· Byddai manteision cael gwesty yn y lleoliad hwn yn sylweddol.
· Byddai rhybudd digonol petai llifogydd yn digwydd yn y lleoliad hwn gan ganiatáu i westeion a staff adael yr adeilad mewn hen ddigon o amser. ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Cofnodion: Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar y tri amod ar ddeg, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynychodd yr Aelod lleol dros Glascoed, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd ac ystyriodd fod rhai materion yn gysylltiedig â’r cais oedd angen eu datrys. Fodd bynnag, gellid goresgyn y rhain. Dylid ystyried sgrinio priodol.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan Aelod ystyriwyd y dylid ychwanegu amod i sicrhau bod y glwyd yn cael ei lleoli nôl i mewn i’r safle er mwyn osgoi llesteirio’r lôn; y manylion i’w cyflwyno a’u cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol a’u cyflawni yn ôl yr argymhelliad.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R. Hayward bod cais DC/2015/00499 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y tri amod ar ddeg, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac y dylid ychwanegu amod i sicrhau bod y glwyd yn cael ei lleoli nôl i mewn i’r safle er mwyn osgoi llesteirio’r lôn; y manylion i’w cyflwyno a’u cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol a’u cyflawni yn ôl yr argymhelliad.
Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol: :
O blaid cymeradwyo’r cais - 11 Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0 Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasom fod cais DC/2015/00499 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y tri amod ar ddeg, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac y dylid ychwanegu amod ychwanegol i sicrhau bod y glwyd yn cael ei lleoli nôl i mewn i’r safle er mwyn osgoi llesteirio’r lôn; y manylion i’w cyflwyno a’u cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol a’u cyflawni yn ôl yr argymhelliad
|
|
Cofnodion: Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar y pedwar amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Amlinellodd y Rheolwr Ceisiadau Cynllunio a Gorfodaeth yr adroddiad, ynghyd â’r ohebiaeth hwyr a gohebiaeth hwyrach eto, i’r Aelodau.
Wedi derbyn yr adroddiad, ystyriwyd y dylid ychwanegu amod arall i sicrhau bod gwelliant mewn gwelededd ym mynediad y safle drwy gynnal y clawdd ar uchder o 1 metr ar hyd ymyl gorllewinol y safle, yn gyfagos i’r llwybr i gerddwyr.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy bod cais DC/2015/01291 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pedwar amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac y dylid ychwanegu amod ychwanegol i sicrhau y caiff gwelededd ei wella ar y mynediad i’r safle, drwy gynnal y clawdd ar uchder o 1 metr ar hyd ymyl gorllewinol y safle, yn gyfagos i’r llwybr i gerddwyr.
Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol: :
O blaid cymeradwyo’r cais - 8 Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0 Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasom fod cais DC/2015/01291 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pedwar amod fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac y dylid ychwanegu amod ychwanegol i sicrhau y caiff gwelededd ei wella ar y mynediad i’r safle, drwy gynnal y clawdd ar uchder o 1 metr ar hyd ymyl gorllewinol y safle, yn gyfagos i’r llwybr i gerddwyr.
|
|
Cofnodion: Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w wrthod am ddau reswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a’r ohebiaeth hwyr.
Atgoffodd y Rheolwr Ceisiadau Cynllunio a Gorfodaeth y Pwyllgor Cynllunio fod y cais wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor ar 12fed Ebrill 2016 gydag argymhelliad i’w gymeradwyo. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor Cynllunio o blaid gwrthod y cais am y rhesymau canlynol:
· Byddai’r ysgol arfaethedig yn arwain at swm sylweddol ac annerbyniol o draffig ychwanegol yn yr ardal na ellir ei dderbyn ar Common Road (sydd â chapasiti cyfyngedig gan mai lôn wledig ydyw) a byddai’n peri gwrthdaro rhwng cerbydau a niwed i ddiogelwch ar y briffordd. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch ar y briffordd yn yr ardal a byddai’n mynd yn erbyn Polisi MV1 Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy. (CDLlSF).
· Byddai’r ysgol arfaethedig yn cael effaith andwyol ar amwynder yr ardal o ganlyniad i s?n a gweithgarwch ychwanegol gyda symudiadau traffig ychwanegol a fyddai’n cael effaith niweidiol ar gymeriad yr ardal wledig hon, gan fynd yn erbyn Polisi EP1 y Cynllun Datblygu Lleol.
Cytunwyd bod y cais yn cael ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio gyda rhesymau priodol dros ei wrthod.
Wedi derbyn yr adroddiad, a’r ohebiaeth hwyr, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P.R. Clarke ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir A.M. Wintle bod cais DC/2015/01322 yn cael ei wrthod am ddau reswm fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a’r ohebiaeth hwyr.
Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol: :
O blaid gwrthod y cais - 11 Yn erbyn gwrthod y cais - 0 Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasom fod cais DC/2015/01322 yn cael ei wrthod am ddau reswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a’r ohebiaeth hwyr.
|
|
Cofnodion: Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar ddau amod ar bymtheg, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 a amlinellwyd yn yr adroddiad yn ogystal. . .
Dywedodd yr Aelod lleol dros Ward y Castell, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, fod rhai o’r coed Holywell Close yn ymddangos fel petaent yn marw a gobeithid y gellid cadw rhai o’r coed gwell.
Wedi derbyn yr adroddiad a’r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir D. Evans bod cais DC/2015/01587 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar ddau amod ar bymtheg, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 a amlinellwyd yn yr adroddiad yn ogystal.
Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol: :
O blaid cymeradwyo’r cais - 11 Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0 Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasom fod cais DC/2015/01587 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar ddau amod ar bymtheg, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 a amlinellwyd yn yr adroddiad yn ogystal.
|
|
Cofnodion: Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar y pedwar amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar y materion a godwyd mewn gohebiaeth hwyr.
Mynegodd yr Aelod lleol dros Ward y Castell, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei chefnogaeth i’r cais.
Wedi derbyn yr adroddiad a’r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R.J. Higginson y dylai cais DC/2016/00219 gael ei gymeradwyo yn amodol ar y materion a amlinellwyd mewn gohebiaeth hwyr, sef:
· Dylid gadael allan Amod 2 yn cyfeirio at reoli oriau agor y feithrinfa arfaethedig.
· Dylid gadael allan y gair ’dydd’ o amod 3 i osgoi dryswch, gan y gallai’r adeilad fod ar agor y tu hwnt i oriau golau dydd..
· Dylid ychwanegu amod i sicrhau manylion y cyfleuster chwarae arfaethedig yn yr awyr agored gan gynnwys rhoi wyneb arno a chyfrwng i’w amgáu, a dylai’r rhain gael eu cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn cychwyn defnyddio’r uned a’r cyfleuster chwarae awyr agored. · Dylid gweithredu cynllun rheoli’r maes parcio.
Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol: :
Ar gyfer cymeradwyo’r cais - 11 Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0 Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig. .
Penderfynasom fod cais DC/2016/00219 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y materion a amlinellwyd yn yr adroddiad, sef:
· Gadael allan Amod 2 yn cyfeirio at reoli oriau agor y feithrinfa arfaethedig.
· Dylid ychwanegu amod i sicrhau manylion y cyfleuster chwarae arfaethedig yn yr awyr agored gan gynnwys rhoi wyneb arno a chyfrwng i’w amgáu, a dylai’r rhain gael eu cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn cychwyn defnyddio’r uned a’r cyfleuster chwarae awyr agored.
· Dylid gweithredu cynllun rheoli’r maes parcio. .
|
|
Rhaglen drafft Cyfarwyddyd cynllunio Atodol. PDF 255 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: · Derbyniasom Raglen Ddrafft Canllawiau Cynlluniau Atodol Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.
Penderfynasom gymeradwyo’r rhaglen ddrafft ar gyfer paratoi canllawiau cynllunio atodol ac argymell i’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros faterion cynllunio, yn unol â hynny.
|
|
Adolygu Cynllun Dirprwyo a Chod Ymarfer Cynllunio. PDF 279 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniasom adroddiad ynghylch y Cynllun Dirprwyaeth Cynllunio diwygiedig i adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth a newid teitlau swyddi a gwella eglurder.
Penderfynasom:
(i) gymeradwyo’r Cynllun Dirprwyaeth Cynllunio i’w fabwysiadu gan y Cyngor Llawn;
(ii) fod y Pennaeth Cynllunio’n cael ei awdurdodi i ddiweddaru’r Cynllun Dirprwyaeth Cynllunio diwygiedig yn y dyfodol mewn perthynas â chywiriadau ffeithiol i’r teitlau swyddi.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniasom adolygiad o’r Gwasanaeth Ynghylch Cyngor Cyn Ymgeisio a manylion y cynnig i gynyddu’r ffioedd mae’r Cyngor yn eu codi ar gwsmeriaid.
Penderfynasom nodi’r adolygiad o’r Gwasanaeth Ynghylch Cyngor Cyn Ymgeisio a chymeradwyo’r cynnydd arfaethedig mewn costau am y gwasanaeth hwn i’r Aelod Cabinet ei fabwysiadu.
|
|
10 Heol Y Fenni, Brynbuga, Sir Fynwy, NP15 1SB - Penderfyniad yr apêl. PDF 142 KB Cofnodion: Penderfyniad Apêl yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer 10 Heol Y Fenni, Brynbuga, Sir Fynwy. NP15 1SB
Penderfyniad: Gwrthodwyd yr apêl.
|
|
Update by the Head of Planning Cofnodion: |