Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 1af Hydref, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 38 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 6 Awst 2024 a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

 

https://www.youtube.com/live/5Yfq1B8CkVE?si=Y-oeosgbAoAoWdjn&t=88

 

3.

Cais DM/2023/01198 - Adeiladu 2 uned ddofednod ychwanegol a seilwaith cysylltiedig ar fferm ddofednod sefydledig. Fferm Coombe, Melin Cwm i Drenewydd Gelli-farch, Drenewydd Gelli-farch. pdf icon PDF 247 KB

Cofnodion:

Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad a’r geiriad diwygiedig ar gyfer amod 3 a’r rheswm dros amod 10, a nodir mewn gohebiaeth hwyr.

 

https://www.youtube.com/live/5Yfq1B8CkVE?si=Dho9AkWYKde9Rjsv&t=126

 

Wrth nodi manylion y cais a’r sylwadau a gafwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Jayne McKenna ac eiliodd y Cynghorydd Sir Ann Webb fod  cais DM/2023/01198 yn cael ei gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad a’r geiriad diwygiedig i amod 3 a’r rheswm dros amod 10, a nodir mewn gohebiaeth hwyr fel sy’n dilyn:

 

3. Caiff yr holl wastraff soled a gynhyrchir gan  y datblygiad a gymeradwyir drwy hyn ei allforio i safle treuliwr anaerobig gyda thrwydded briodol a’rholl dd?r brwnt i waith trwyddedig trin d?r gwastraff. Ni chaiff unrhyw wastraff soled na d?r gwastraff, wedi ei drin neu heb ei drin, ei daenu yn uniongyrchol ar unrhyw dir. Bydd gweithredwr y datblygiad a gymeradwyir drwy hyn yn cadw cofnodion yn dangos derbyn yr holl ddeunydd a allforir gan y safle porwr anaerobig a bydd ar gael i’r Awdurdod Cynllunio Lleol pan wneir cais. Bydd y datblygiad yn cydymffurfio bob amser gyda’r Cynllun Gwrtaith a D?r Brwnt a gyflwynwyd gan  Ian Pick Associated Cyf dyddiedig Mehefin 2023. Os oes unrhyw elfennau o’r Cynllun Gwrtaith a D?r Brwnt yn newid yn y dyfodol, yn arbennig gyrchfan dderbyniol ar gyfer unrhyw wastraff soled neu dd?r, mae’n rhaid cyflwyno cynllun newydd ar gyfer rheoli gwrtaith a d?r brwnt i’r awdurdod cynllunio lleol a bydd gweithredu yn siedau 5 a 6, a gymeradwyir drwy hyn, yn dod i ben nes caiff y cynllun rheoli newydd ei gymeradwyo mewn ysgrifen gan yr awdurdod cynllunio lleol.

 

Rheswm: Sicrhau y gwaredir yn gywir â’r gwastraff o’r fferm yn awr a hefyd yn y dyfodol er mwyn osgoi llygru’r amgylchedd.

 

Cafodd y rheswm dros amod 10 ei adael allan o’r adroddiad (Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu) a chaiff felly ei roi yma:

 

Rheswm: Diogelu cynefinoedd a rhywogaethau a warchodir dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

 

Cofnodwyd y pleidleisiau canlynol pan roddwyd y mater i’r bleidlais:

 

O blaid cymeradwyo        - 12

Yn erbyn cymeradwyo     -  0

Ymatal                              - 2

 

Derbyniwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2023/01198 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad a’r geiriad diwygiedig i amod 3 a’r rheswm dros amod 10, a nodir mewn gohebiaeth hwyr, fel sy’n dilyn:

 

3. Caiff yr holl wastraff soled a gynhyrchir gan  y datblygiad a gymeradwyir drwy hyn ei allforio i safle treuliwr anaerobig gyda thrwydded briodol a’r holl dd?r brwnt i waith trwyddedig trin d?r gwastraff. Ni chaiff unrhyw wastraff soled na d?r gwastraff, wedi ei drin neu heb ei drin, ei daenu yn uniongyrchol ar unrhyw dir. Bydd gweithredwr y datblygiad a gymeradwyir drwy hyn yn cadw cofnodion yn dangos derbyn yr holl ddeunydd a allforir gan y safle  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

ER GWYBODAETH - Apeliadau a gafwyd – 1af Ebrill i’r 30ain Mehefin 2024. pdf icon PDF 108 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr apeliadau cynllunio a gafwyd gan yr Adran Cynllunio ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill i 30 Mehefin 2024.

 

https://www.youtube.com/live/5Yfq1B8CkVE?si=BVBz3lgvnKhjmDJU&t=2788