Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso’r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Anna Hawker, Cyfreithiwr dan Hyfforddiant, i'r cyfarfod.
Croesawodd y Cadeirydd, hefyd, y Cynghorydd Sir Sara Burch i'w chyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor Cynllunio gan ei bod wedi cymryd lle’r Cynghorydd Sir Ben Callard.
Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod y Cynghorydd Sir Callard wedi ymuno â'r Cabinet yn ddiweddar ac ar ran y Pwyllgor diolchodd i'r Cynghorydd Callard am y gwaith yr oedd wedi ei wneud ar y Pwyllgor Cynllunio.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir P. Murphy fuddiant personol a rhagfarnus yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2023/01042.
Hysbysodd y Pwyllgor fod posteri wedi'u dosbarthu a honnir eu bod wedi eu gwneud ganddo mewn perthynas â mater gorfodi cynllunio ar yr un tir ag sydd bellach yn destun cais DM/2023/01042. Er bod y cais presennol hwn ar wahân ac yn wahanol i'r achos gorfodi ac nad oedd y posteri wedi'u paratoi ganddo, gadawodd y cyfarfod ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais mewn perthynas â'r cais hwn.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 243 KB Cofnodion: Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 12fed o Fedi 2023 gan y Cadeirydd.
|
|
Cofnodion: Ystyriom adroddiad y cais a’r argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Roedd y cais wedi cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio ar y 1af o Awst 2023 gydag argymhelliad i'w wrthod. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor wedi teimlo y dylid cymeradwyo'r cais gydag amodau priodol.
Wrth nodi manylion y cais, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir A. Easson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir F Bromfield y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00331 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 13 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymatal - 1
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynom gymeradwyo cais DM/2022/00331 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion:
Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynychodd y Cynghorydd Mike John, sy'n cynrychioli Cyngor Cymuned Caerwent, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
· Mae Cyngor Cymuned Caerwent o'r farn na ddylid cymeradwyo'r cais hwn. Mae gwrthwynebiadau i'r cais wedi cael eu cyflwyno ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Cynllunio.
· Darparwyd rhagor o nodiadau yn ystod ymweliad safle'r Pwyllgor Cynllunio diweddar.
· Mae nifer o faterion sydd heb eu datrys o hyd a chwestiynau heb eu hateb ynghylch y cais hwn. Ystyriwyd y dylai'r materion hyn fod wedi cael sylw erbyn hyn.
· Mae'r gymuned leol wedi bod yn gofyn am farn y Cyngor Cymuned ar y mater hwn ers 2021. Mae llawer o gwestiynau wedi'u codi ynghylch y gweithgareddau sydd wedi digwydd ar y safle hwn yn ystod y cyfnod hwn. Ystyriwyd y dylai'r Cyngor Sir fod wedi bod yn delio â'r materion hyn mewn modd amserol.
· Roedd Cyngor Cymuned Caerwent wedi ymateb i'r gymuned leol gan ddweud ei fod wedi cyfeirio'r materion a godwyd at Gyngor Sir Fynwy er mwyn iddynt eu hymchwilio.
· Roedd cais ar gyfer y safle hwn wedi cael ei gyflwyno’n flaenorol i'r Pwyllgor Cynllunio ar gyfer cymeradwyaeth ond fe’i gwrthodwyd. Ar apêl, cytunodd yr Arolygydd â phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio.
· Mae cais cynllunio newydd bellach wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio. Fodd bynnag, mae’r cais yn cynnwys haid fechan o geffylau, stabl fawr i'w adeiladu â blociau ar gyfer pum ceffyl a storfa gysylltiedig mewn cae yr ystyrir nad yw’n ddigon mawr ar gyfer pum ceffyl. Mae'r cais yn cynnwys iard ymarfer corff maint maes chwarae ysgol ar gyfer y ceffylau. Mae cais am garthbwll ar y safle hefyd a ystyriwyd ei fod yn ddiangen ar gyfer stabl.
· Mae gan y Pwyllgor Cynllunio adroddiad y cais, gwrthwynebiadau'r Cyngor Cymuned, y pryderon a godwyd gan y cyhoedd, cynlluniau'r safle fel ag y mae ar hyn o bryd a chynlluniau ar gyfer sut fyddai’r safle. Gofynnodd y Cyngor Cymuned a allai'r Pwyllgor Cynllunio fod yn sicr mai cymeradwyo'r cais hwn fyddai'r penderfyniad cywir o ystyried cynifer yr amodau sydd ynghlwm wrtho.
· Ystyriwyd bod nifer yr amodau sydd ynghlwm wrth y cais yn awgrymu y gallai’r cais greu problemau. Gofynnodd y Cyngor Cymuned a fyddai'r Cyngor Sir yn gallu monitro a gorfodi'r amodau hyn.
· Mae’r adeiladau anawdurdodedig wedi cael eu datblygu, fel yr amlinellir yn adroddiad y cais. Mae'r ddadl yn awgrymu na ellir eu hystyried gan nad ydynt yn berthnasol. Fodd bynnag, mae'r Cyngor Cymuned o'r farn eu bod yn berthnasol.
· Mae Cyngor Cymuned Caerwent o'r farn na ddylid cymeradwyo'r cais nes bod y materion gorfodi ar y safle wedi’u datrys.
Mynychodd Roger Nasey, sy’n gwrthwynebu'r cais, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
· Ni ddylid ystyried y cais fel cais ôl-weithredol gan nad oes unrhyw un o'r strwythurau arfaethedig yn bodoli ar y safle.
· Cymharwyd yr argymhelliad ar gyfer cymeradwyo'r cais â'r cais yr oedd y Pwyllgor Cynllunio ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio - Penderfyniadau a Dderbyniwyd am yr Apeliadau: |
|
1 Smithy Cottage, Crossways, Castellnewydd, Sir Fynwy NP25 5NW PDF 163 KB Cofnodion: Cawsom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn 1 Smithy Cottage, Crossways, Castellnewydd, Sir Fynwy ar 22 Awst 2023.
Nodwyd bod yr apêl wedi cael ei chaniatáu a'r caniatâd cynllunio Cyf. DM/2021/00908 ar gyfer Cais Ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd o dir amaethyddol i ardd ac ardal wastad yn 1 Smithy Cottage, Crossways, Castellnewydd, Sir Fynwy NP25 5NW, yn cael roi ar 29ain Gorffennaf 2022 gan Gyngor Sir Fynwy. Caiff ei amrywio drwy ddiwygio amod rhif. 1, 4 a 5, a dileu amod rhif 6, fel y nodir yn yr atodlen i'r llythyr penderfyniad.
|