Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mercher, 10fed Ionawr, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir Sara Burch fuddiant personol nad yw yn rhagfarnu yn unol â’r Cod Ymddygiad Aelodau yng nghyswllt cais DM/2023/01030, gan ei bod hefyd yr Aelod Cabinet perthnasol pan wnaed y penderfyniad i ryddhau’r safle i Gymdeithas Tai Sir Fynwy ar gyfer tai fforddiadwy.

 

Datganodd y Cynghorydd sir Phil Murphy fuddiant personol sydd yn rhagfarnu yn unol â’r Cod Ymddygiad Aelodau yng nghyswllt cais DM/2023/01042. Hysbysodd y Pwyllgor y cafodd posteri eu cylchredeg yn honni iddynt ddod ganddo ef yng nghyswllt mater gorfodaeth cynllunio ar yr un tir sy’n awr yn destun cais DM/2023/01042. Er bod y cais cyfredol ar wahân ac yn wahanol i’r achos gorfodaeth ac nad ef oedd wedi paratoi’r posteri, gadawodd y cyfarfod heb gymryd unrhyw ran yn y drafodaeth na phleidleisio arno yng nghyswllt y cais hwn.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 153 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 5 Rhagfyr 2023 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

3.

Cais DM/2023/01042 – Newid defnydd o amaethyddol i dir ar gyfer cadw ceffylau (ôl-weithredol), cynnig i godi bloc stablau ar gyfer pump ceffyl, codi adeilad storio ategol, adeiladu manege. Tir i’r gogledd-orllewin o Heol Holly Lodge o’r A48 i Heol Dewstow, Fives Lane, Caerwent. pdf icon PDF 428 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd dros wrthod am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Cafodd y cais ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio yn dilyn penderfyniad y Cyngor i beidio cytuno ar gynnig i gymeradwyo’r cais yn y cyfarfod ar 3 Hydref 2023. Felly, yn unol â Chod Ymarfer Cynllunio (Chwefror 2023), cafodd y cais ei ohirio i ystyried y rhesymau dros wrthod yn seiliedig ar y drafodaeth o fewn y cyfarfod.

 

https://www.youtube.com/live/Xt9tbCEMmCU?si=HYqrgI9FM6S1ZvpK&t=189

 

Wrth nodi manylion y cais a’r farn a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir John Crook ac eiliodd y Cynghorydd Sir Emma Bryant y dylid gwrthod y cais DM/2023/01042 am y rhesymau dilynol:

 

·         Mae’r cais yn orddatblygiad gan ei fod o raddfa a defnydd sy’n anghydnaws gyda’r lleoliad cefn gwlad agored gan arwain at effaith niweidiol ar gymeriad y tirlun yn methu cydymffurfio gyda Pholisïau LC1 a RE6 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

·         Bydd y datblygiad yn arwain at lefel annerbyniol o draffig a fydd yn niweidiol i breswylwyr a defnydd presennol y lôn un trac presennol heb fawr o leoedd pasio, yn groes i Bolisi MV1 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Pan roddwyd y mater i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

Dros wrthod                -           11

Yn erbyn gwrthod       -           1

Ymatal             -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd gwrthod cais DM/2023/01042 am y rhesymau dilynol:

 

  • Mae’r cais yn cyfrif fel gorddatblygiad gan ei fod o faint a defnydd sy’n anghydnaws gyda’r lleoliad cefn gwlad agored gan arwain at effaith niweidiol ar gymeriad y tirlun gan fethu cydymffurfio gyda Pholisïau LC1 a RE6 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

  • Bydd y datblygiad yn arwain at lefel annerbyniol o draffig fydd yn niweidiol i breswylwyr a defnyddwyr presennol y lôn un-trac presennol heb fawr o leoedd pasio, yn groes i Bolisi MV1 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

 

4.

Cais DM/2023/01329 – Newid Defnydd Byngalo Glebe i dŷ annedd C3 o’r Anecs a’r Gosodiad Gwyliau a gafodd ganiatâd dan DC/2007/00778 a DC/2017/01200. Glebe Bungalow, Heol Ysgol Llandeilo, Llandeilo Bertholau, y Fenni, NP7 6NU. pdf icon PDF 163 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd dros wrthod am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

https://www.youtube.com/live/Xt9tbCEMmCU?si=iCHwFEs_uzArSq7P&t=1655

 

Wrth nodi manylion y cais a’r farn a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Ann Webb ac eiliodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell y dylid gohirio ystyried cais rhif  DM/2023/01329 er mwyn iddo gael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i’w gymeradwyo gydag amodau priodol.

 

Pan roddwyd y mater i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

Dros ohirio                   -           12

Yn erbyn gohirio          -           1

Ymatal             -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd gohirio cais DM/2023/01329 er mwyn ei ailgyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i’w gymeradwyo gydag amodau priodol.

 

5.

Cais DM/2023/00711 – Ail-agor porth presennol. Treetops, Heol Talycoed, Llandeilo Groesenni, y Fenni. pdf icon PDF 54 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

https://www.youtube.com/live/Xt9tbCEMmCU?si=BIXPa2srm7SD4S4X&t=3386

 

Wrth nodi manylion y cais a’r farn a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell ac eiliodd y Cynghorydd Su McConnel fod cais DM/2023/00711 yn cael ei gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Pan roddwyd y mater i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

Dros gymeradwyo      -           14

Yn erbyn cymeradwyo -          0

Ymatal                         -            0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais  DM/2023/00711 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

6.

Cais DM/2023/01030 – Datblygiad preswyl arfaethedig ar 46 o anheddau fforddiadwy, mannau parcio ceir, tirlunio a gwaith cysylltiedig. Tir i’r gogledd o Ysgol Cil-y-coed, lleolir ger Woodstock Way, Cil-y-coed. pdf icon PDF 298 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

https://www.youtube.com/live/Xt9tbCEMmCU?si=_nptMk7eL4INfDdx&t=4510

 

Wrth nodi manylion y cais a’r sylwadau a wnaed, cynigiodd y Cynghorydd Sir Dale Rooke ac eiliodd y Cynghorydd Sir Su McConnel gymeradwyo adroddiad DM/2023/01030 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Pan roddwyd y mater i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

Dros gymeradwyo      -           12

Yn erbyn cymeradwyo -          0

Ymatal                         -            1

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2023/01030 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

7.

Cais DM/2023/01242 – Adeiladu gweithdy a storfa beiriannau a datblygiad cysylltiedig. Llan Farm, Heol Nant i The Grange, The Hendre, Trefynwy, NP25 5NX. pdf icon PDF 153 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

https://www.youtube.com/live/Xt9tbCEMmCU?si=wiJ3trDZs_oCro43&t=6413

 

Wrth nodi manylion y cais a’r farn a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Su McConnel ac eiliodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell fod cais DM/2023/01242 yn cael ei gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Pan roddwyd y mater i’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

Dros gymeradwyo      -           13

Yn erbyn cymeradwyo -          0

Ymatal                         -            0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2023/01242 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

8.

ER GWYBODAETH – Yr Arolygiaeth Gynllunio- Penderfyniadau am Apeliadau a Costau a dderbyniwyd:

Cofnodion:

8a

Penderfyniad Apêl - 25 Beaulieu Barn, Heol Kymin, y Kymin, Sir Fynwy. pdf icon PDF 206 KB

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn 25 Beaulieu Barn, Heol Kymin, Y Kymin, Sir Fynwy ar 7 Rhagfyr 2023.

 

Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.

 

8b

Penderfyniad ar Gostau - 25 Beaulieu Barn, Heol Kymin, y Kymin, Sir Fynwy pdf icon PDF 182 KB

Cofnodion:

Cawyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at y penderfyniad costau yng nghyswllt  25 Beaulieu Barn, Heol Kymin, Y Kymin, Sir Fynwy.

 

Nodwyd y gwrthodwyd y cais am ddyfarniad costau.

 

8c

Penderfyniad Apêl – Tir ger Hardwick Cottage, Hardwick Hill, Cas-gwent, Sir Fynwy pdf icon PDF 222 KB

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd ar dir ger Hardwick Cottage, Hardwick Hill, Cas-gwent, Sir Fynwy ar 7 Rhagfyr 2023.

 

Nodwyd y cafodd yr apêl ei ganiatau ac y rhoddwyd caniatâd cynllunio gyda’r amodau a nodir yn rhestr yn adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio.

 

8d

Penderfyniad Apêl – Tir gyferbyn â Rose Cottage, Llanbadog, Brynbuga, Sir Fynwy. pdf icon PDF 192 KB

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd ar dir gyferbyn â Rose Cottage, Llanbadog, Sir Fynwy ar 7 Rhagfyr 2023.

 

Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.

 

8e

Penderfyniad Apêl – Tir yn Nistyllfa Silver Circle, Pleasant View Barn, Heol Ninewells, Catbrook, Tryleg, Sir Fynwy. pdf icon PDF 241 KB

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Nistyllfa Silver Circle, Pleasant View Barn, Heol Ninewells, Cabrook, Tryleg, Sir Fynwy ar 9 Mai 2023.

 

Apêl A

 

Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.

 

Apêl B

 

Nodwyd y caniatawyd yr apêl yng nghyswllt sail (g) yn unig, ond y’i gwrthodwyd fel arall. Cafodd yr Hysbysiad ei amrywio drwy ddileu’r geiriau ‘tri mis’ a dodi’r geiriau ‘chwe mis’ yn eu lle o’r dyddiad y daeth yr Hysbysiad i rym. Cafodd yr Hysbysiad ei gynnal gyda’r amrywiad hwn.

 

8f

Penderfyniad ar Gostau – Tir yn Nistyllfa Silver Circle, Pleasant View Barn, Heol Ninewells, Catbrook, Tryleg, Sir Fynwy. pdf icon PDF 136 KB

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at y penderfyniad ar gostau yng nghyswllt tir yn Nityllfa Silver Circle, Pleasant View Barn, Heol Ninewells, Catbrook, Tryleg, Sir Fynwy.

 

Nodwyd y gwrthodwyd y cais am ddyfarnu costau.