Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 191 KB Cofnodion: Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 6 Rhagfyr 2002 eu cymeradwyo a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Cofnodion: Fe wnaethom ystyried adroddiad ceisiadau DM/2020/00762 a DM/2020/00763 ynghyd â gohebiaeth hwyr, a gyflwynwyd dros wrthod y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiadau.
Cyflwynwyd ceisiadau DM/2020/00762 a DM/2020/00763 i’r Pwyllgor Cynllunio ym mis Tachwedd 2022 gydag argymhelliad ar gyfer cymeradwyaeth gydag amodau. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor Cynllunio o blaid gwrthod y ddau gais ac iddynt gael eu hailgyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol gyda rhesymau priodol dros wrthod.
Amlinellodd yr Aelod Lleol dros Langybi Fawr, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau dilynol: · Nid yw’r diwygiadau i’r cais a wnaed gan D?r Cymru yn sicrhau integriti’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI). Ni chafodd unrhyw newid sylweddol eu gwneud.
· Ni chafodd y digwyddiadau ac agwedd partïon y cais eu dileu.
· Cafodd nifer y gwesteion mewn digwyddiad ei ostwng i 70. Fodd bynnag byddai angen i’r Ganolfan Ymwelwyr gydymffurfio â rheoliadau diogelwch tân sydd ond yn caniatáu 70 o westeion ar sail diogelwch.
· Mynegodd yr Aelod lleol bryder am nifer y digwyddiadau, sef chwech ym mhob cais, a fyddai’n gyfystyr â chyfanswm o 12 digwyddiad y flwyddyn. Ystyriwyd bod y diwygiad yn amwys a gofynnwyd am eglurdeb os oedd hyn yn cyfeirio at ddigwyddiadau dan do neu awyr agored yn ogystal â’r 28 digwyddiad awyr agored y gellir eu cynnal drwy ddatblygiad a ganiateir.
· Nid yw D?r Cymru wedi dweud os y cynhelir y digwyddiadau hyn yn y ganolfan chwaraeon d?r yn ystod y tymor caeedig.
· Dan ganllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru, dylai llwybrau troed barhau ar gau yn ystod y tymor cau gaeafu adar, a fyddai felly yn ei gwneud yn anodd i bobl gael mynediad i’r ganolfan chwaraeon d?r. Gallai fod angen goleuadau ar hyd llwybrau troed ond nid oes unrhyw wybodaeth am y mater hwn yn y cynllun rheoli. Os felly, dylai Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir Fynwy gynnal arolwg i asesu effaith bioamrywiaeth y safleoedd.
· Nid yw D?r Cymru wedi cyfarch pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru o fis Medi 2020.
· Mae angen i’r Pwyllgor Cynllunio sicrhau na chaiff yr SSSI ei roi mewn risg.
· Caiff y ganolfan chwaraeon d?r ei defnyddio’n bennaf ar gyfer cyfarfodydd busnes, grwpiau chwaraeon, ymweliadau ysgol a digwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer grwpiau bywyd gwyllt ac amgylcheddol. Mynegwyd pryder y gofynnir am ganiatâd i ymestyn yr oriau agor o 6.00am i ganol nos. Ystyriwyd y byddai’r caniatâd presennol yn ddigon ar gyfer y digwyddiadau cymunedol y mae D?r Cymru yn dweud eu bod yn dymuno eu cael. Byddai ymestyn yr oriau agor tan 11.00pm gyda staff i adael y safle erbyn 12.00am yn awgrymu y ceisir caniatâd i’r safle SSSI ddod yn safle parti fydd yn cael effaith niweidiol ar fywyd gwyllt. Ystyriwyd nad oedd y ceisiadau hyn yn cydymffurfio gyda Pholisi Cynllunio Cymru.
· Dyfynnodd yr Aelod lleol lythyr Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd, yn dilyn COP15 at bob Pennaeth Cynllunio dyddiedig 20 Rhagfyr 2022.
· Gofynnwyd i’r Pwyllgor Cynllunio gadw at ei benderfyniad gwreiddiol i wrthod y ddau gais.
· Mynegwyd pryder am ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Cofnodion: Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais ynghyd â gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd ar gyfer ei wrthod am y rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.
Mynychodd yr Aelod lleol dros Gobion Fawr y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:
· Mae’r busnes presennol yn gwella’r ardal sy’n ceisio denu twristiaeth o bell.
· Mae’r busnes yn anelu i gael graddiad pum seren ac yn derbyn adolygiadau rhagorol gan westeion.
· Bydd ymwelwyr yn cyfrannu at yr economi lleol drwy ymweld â bwytai, tafarndai a siopau lleol, yn ogystal â chyfleusterau twristiaeth.
· Datblygu cynnig moethus i dwristiaid sydd angen lefelau priodol o wasanaeth a gouchwyliaeth.
· Mae’r busnes yn fenter amrywiol yn gysylltiedig gyda busnes ffermio lleol fwy na dwy filltir i ffwrdd. Caiff yr holl staff presennol sy’n gysylltiedig gyda’r fferm eu cyflogi ar y fferm. Y bwriad yw i’r busnes llety gwyliau yn Alice Springs gael ei weithredu gan weithwyr arbenigol gyda sgiliau uchel.
· Nid yw’n realistig bellach i wasanaethu’r gwesteion o leoliad o bell ar fferm ddwy filltir i ffwrdd. Mae angen cefnogaeth 24 awr ar y safle ar gyfer gwesteion a all gyrraedd ar wahanol adegau yn ystod y dydd neu gyda’r nos.
· Mae pryder dros oedolion oedrannus a gwesteion gydag anableddau a all fod angen cymorth pan fyddant yn cyrraedd yn ystod eu harhosiad. Gallai gwesteion fynd yn wael neu gael damwain pan nad oes staff ar y safle.
· Mae’r safle angen annedd Rheolwr i alluogi presenoldeb parhaus rheolwr profiadol gyda sgiliau priodol yn cynnwys hyfforddiant cymorth cyntaf. Gyda’r potensial i gael 64 o westeion ar y safle, ni ystyriwyd ei bod yn afresymol cael presenoldeb 24 awr ar y safle. Byddai’n anodd i staff ar fferm ddwy filltir i ffwrdd i ddarparu gwasanaeth o’r fath gyda’r sgiliau rheoli sydd eu hangen ar gyfer y busnes llety gwyliau.
· Byddai’r rheolwr llawn-amser yn weithiwr proffesiynol profiadol ac mae’n debyg y byddai ganddo/ganddi deulu a phartner hefyd yn cael eu cyflogi ar y safle.
· Mae’r Cyngor yn derbyn fod hwn yn fusnes hyfyw hirdymor a bod angen llanw argyfwng. Mae’r Cyngor yn croesawu’r llety gwyliau ac yn cydnabod y byddai annedd rheolwr yn rhoi rheolaeth effeithlon.
· Yr unig fater a gyflwynwyd dros wrthod y cais yw y gallai’r safle gael ei rheoli gan staff ar y fferm ddwy filltir i ffwrdd. Gwnaed awgrym am gael gofalwr nos i gyflawni anghenion llanw argyfwng. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cydnabod gofynion rhedeg a chefnogi llety twristiaeth ansawdd uchel ar gyfer hyd at 64 o westeion.
· Awgrymwyd y gellid defnyddio un o’r llety gwyliau i letya’r Rheolwr arfaethedig. Fodd bynnag, mae’r Rheolwr yn debygol i fod â phartner ac efallai blant angen ailwampio dau lety gwyliau gyda cholled sylweddol o incwm i’r safle.
· Mae’r busnes angen presenoldeb rheolwr profiadol 24-awr ar y safle gydag annedd rheolwr priodol ar y safle gyda lle i bartner a theulu.
Ar ôl ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:
· Mynegodd rhai Aelodau gefnogaeth i’r cais. Byddai cael Rheolwr llawn-amser ar ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
ER GWYBODAETH – Yr Arolygiaeth Cynllunio – Penderfyniadau Apeliadau a gafwyd |
|
60 Old Barn Way, Y Fenni. PDF 208 KB Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Cynllunio yn cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn 60 Old Barn Way, Y Fenni ar 30 Tachwedd 2022.
Nodwyd y cafodd yr apêl ei gwrthod.
|
|
Arosfa, Llanfair Iscoed, Cas-gwent. PDF 232 KB Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Cynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Arosfa Llanfair, Iscoed, Cas-gwent ar 30 Tachwedd 2022.
Nodwyd y caniatawyd yr apêl ac y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer estyniad blaen un llawr yn Arosfa, Llanfair Iscoed, Cas-gwent NP16 6LY yn unol gyda thelerau’r cais, Cyf. DM/2022/00696, dyddiedig 09 Mai 2022, gydag amodau.
|
|
The Cotlands, Beacon Road, Tryleg. PDF 171 KB Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Cynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn The Cotlands, Beacon Road, Tryleg ar 14 Tachwedd 2022.
Nodwyd y cafodd yr apêl ei gwrthod.
|
|
Little Cider Mill Barn, Heol Tre-Herbert, Croesyceiliog, Cwmbran. PDF 166 KB Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Cynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Little Cider Mill Barn, Heol Tre-Herbert, Croesyceiliog, Cwmbran ar 14 Tachwedd 2022.
Apêl A
Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl, y cadarnhawyd yr hysbysiad gorfodaeth ac y gwrthodwyd caniatâd cynllunio ar y cais y barnwyd iddo gael ei wneud dan n adran 177(5) Deddf 990 (fel y’i diwygiwyd).
Apêl B
Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.
|