Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 2ail Awst, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 226 KB

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2022, ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

3.

DM/2022/00518 - Cynigir annedd newydd yn Church Cottage i atal y perygl o lifogydd yn yr annedd yn y dyfodol. Bydd y cynllun yn ymwneud â dymchwel yr annedd Church Cottage bresennol, Bayfield Road, Mounton, Sir Fynwy, NP16 6AF pdf icon PDF 155 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiadau ar y ceisiadau a’r ohebiaeth hwyr a ddaeth i law, yr argymhellwyd y dylid eu cymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiadau.

 

Fe wnaeth Aelod lleol Drenewydd Gelli-farch, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod wedi iddo gael ei wahodd gan y Cadeirydd, amlinellu’r wybodaeth a ganlyn:

 

·         Mae’r gwahaniaeth yng ngwedd y ddau adeilad, ac effaith hyn ar y lleoliad ger Eglwys Mounton, yn cael ei amlygu drwy gymharu’r darlun o’r wedd ogledd-orllewinol bresennol a’r wedd ogledd-orllewinol arfaethedig yn ei chyd-destun.

 

·         Mae'r defnydd o garreg ar waelod yr eiddo yn ymdebygu i’r eiddo sydd i'r dde wrth ddod o gyfeiriad y gylchfan i’r eglwys a'r eglwys ei hun.

 

·         Mae'r defnydd o lechi du yn wahanol iawn i'r hyn a ddefnyddir ar eiddo lleol a gall greu ymddangosiad sefydliadol rywsut nad yw’n cyd-fynd â’r cyd-destun lleol.

 

·         Ni fydd y lliw pren du yn pylu i liw bedwen arian.

 

·         Er i’r arolygiad o’r safle gael ei gynnal yn ystod diwrnod cynnes o haf, mae'r ardal yn dywyll ac yn ddiflas iawn am ran helaeth o fisoedd y gaeaf.

 

·         Disgrifiwyd y bwthyn presennol fel un nad yw’n tynnu sylw ato’i hun, gyda’i ochr yn wynebu’r ffordd, ond bydd yr adeilad arfaethedig yn fwy amlwg gan y bydd yn wynebu'r ffordd.

 

·         Yn ôl sylwadau Cyngor Cymuned Matharn, er y cydnabyddir y problemau o ran llifogydd ar y safle hwn a rhinweddau pensaernïol yr annedd arfaethedig, teimlwyd mai dyma'r adeilad anghywir ar gyfer y lleoliad hwn.

·         Nid yw’r bwthyn presennol yn tynnu sylw ato’i hun yn ei ardal gadwraeth yn Eglwys Mounton ar hyn o bryd, ond nid dyna’r achos gyda’r adeilad arfaethedig. Nid yw'r cynnig yn cyd-fynd, yn ategu nac yn ymdebygu i’r arddull lleol, ac mae ei faint a'i linellau yn wahanol i'r anheddau eraill ym mhentref Mounton.

·         Mae'r deunyddiau y bwriedir eu defnyddio yn wahanol i'r rhai mewn mannau eraill o fewn yr ardal gadwraeth yn y pentref.

 

·         Am y rhesymau a grybwyllwyd, mae Cyngor Cymuned Matharn yn argymell y dylid gwrthod y cais.

 

·         O ran Polisïau Cynllunio DES1, mae adran C yn cyfeirio at yr ymdeimlad o le ac mae adran G yn cyfeirio at yr angen i ddefnyddio'r bensaernïaeth draddodiadol lle bo'n briodol.

 

·         O ran yr ardal o harddwch naturiol, mae Polisi LC4 yn cyfeirio at y graddau y mae ansawdd dyluniad a’r defnydd a wneir o ddeunyddiau priodol yn cyd-fynd â thirwedd yr ardal a'r traddodiad o ran adeiladau. Mae Polisi LC5 yn sôn am bwysigrwydd nodweddion a phatrymau traddodiadol. Mae TAN 12 yn cyfeirio at ddyluniad o ansawdd da o fewn y cyd-destun lleol.  Mae'n sôn hefyd am elfennau nodweddiadol y lleoliad.

 

·         Wrth ymweld â’r safle ar hyd Heol St. Lawrence, cyn cyrraedd Mounton, collir cymeriad yr ardal oherwydd yr amrywiaeth yn nyluniad y tai. Diben cadwraeth yw cadw neu wella cymeriad neu ymddangosiad yr ardal.

 

·         Mae'r adeilad presennol wedi'i ddisgrifio yn y datganiad treftadaeth fel un nad yw’n tynnu gormod o sylw ato’i hun, ond mae'r adeilad hwn yn gwbl groes  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

DM/2022/00699 - I addasu amod rhif 6 o ganiatâd cynllunio DC/2007/00551 1 Conygree, Pill Row, Cil-y-coed, NP26 5JD pdf icon PDF 139 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ar y cais a’r ohebiaeth hwyr a ddaeth i law, yr argymhellwyd y dylid ei gymeradwyo.

 

Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y wybodaeth a ganlyn:

 

·         Mae digon o le i ddau gerbyd barcio y tu allan i’r adeilad.

 

·         Pennwyd ardal i’w throi’n ardal addurniadol y gellid ei throi yn ôl yn lle parcio.

 

·         Mae digon o le yn y lleoliad i ymwelwyr barcio cerbydau.

 

·         Mae’n bosibl parcio heb gyfyngiadau ar ymyl y ffordd y tu allan i’r lleoliad.

 

·         Y sawl sy’n gwneud y cais yw’r unig berchennog bellach ar y tir, sy’n eiddo preifat.

 

·         Ystyriwyd nad oedd unrhyw reswm i wrthod y cais ar sail cynllunio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir B. Callard, wedi’i eilio gan y Cynghorydd Sir J. McKenna, y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00699 fel yr argymhellwyd gan y swyddog yn yr adroddiad.

 

Wrth bleidleisio ar y cynnig, pleidleisiwyd fel a ganlyn:

 

O blaid y cynnig                      -           13

Yn erbyn y cynnig       -           0

Ymatal rhag pleidleisio            -           1

 

Pleidleisiwyd o blaid y cynnig.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00699 fel yr argymhellwyd gan y swyddog yn yr adroddiad.

 

 

5.

DM/2021/00037 - Codi un tŷ pâr, deulawr mewn rhan o ardd â mynediad a pharcio cysylltiedig (Caniatâd cynllunio amlinellol) pdf icon PDF 169 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ar y cais, yr argymhellwyd y dylid ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106.

 

Ailgyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio at ddibenion egluro pwynt penodol. Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 8 Mehefin 2022, trafododd yr Aelodau’r cynnig a phenderfynwyd ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106, ac yn ddibynnol ar ddiwygio Amod 9 fel a ganlyn:

 

·         Dylai graddfeydd uchaf ac isaf paramedrau taldra’r annedd fod yn 8 metr ar ei uchaf a 4 metr ar ei isaf.

 

Yn y cyfarfod, nodwyd bod diffyg eglurder yn y drafodaeth ynghylch y gwahaniaeth rhwng y man mynediad a’r dreif / man parcio a’r hyn a ystyriwyd yn y cyfnod amlinellol. Gan hynny, er mwyn cadarnhau’r mater hwn, ailgyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio.

 

Nodwyd bod y pwynt mynediad o’r lôn wedi’i osod o fewn y cais amlinellol ac nad oedd wedi dangos ffordd o gael mynediad at y safle. Heblaw’r mynediad ei hun, bydd dyluniad y dreif / man parcio yn cael ei ystyried fel rhan o’r materion sydd wedi eu cadw’n ôl.

 

Wrth nodi manylion y cais, cynigiodd y Cynghorydd Sir S. McConnel, wedi’i eilio gan y Cynghorydd Sir M. Powell, y dylid cymeradwyo cais DM/2021/00037 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106.

 

Wrth bleidleisio ar y cynnig, pleidleisiwyd fel a ganlyn:

 

O blaid y cynnig                      -           14

Yn erbyn y cynnig                   -           0

Ymatal rhag pleidleisio            -           0

 

Pleidleisiwyd o blaid y cynnig.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2021/00037 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106.  

 

 

 

6.

DM/2021/0173 - Cadw garej ddomestig pdf icon PDF 59 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ar y cais a’r ohebiaeth hwyr a ddaeth i law, yr argymhellwyd y dylid ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar 5 Gorffennaf 2022 gydag argymhelliad y dylid cymeradwyo’r cais. Fodd bynnag, penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio oedi’r broses o ystyried y cais fel y gellid trafod ymhellach â’r sawl a wnaeth y cais.

 

Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 5 Gorffennaf 2022, rhoddodd swyddogion dri opsiwn i’r sawl a wnaeth y cais:

 

·         Newid yn ôl i’r cynllun gwreiddiol (a gymeradwywyd).

·         Lleihad o 500mm i’w ystyried ymhellach.

·         Cadw’r cynnig fel ag y mae.

 

Yn dilyn trafodaethau gyda swyddogion, gofynnodd y sawl a wnaeth y cais i’r Pwyllgor Cynllunio benderfynu ar y cais fel y’i cyflwynwyd yn wreiddiol i’r Pwyllgor ar 5 Gorffennaf 2022.

 

Ar y sail hon, awgrymwyd y rheswm a ganlyn i wrthod y cais os yw’r Pwyllgor Cynllunio yn credu bod y cynnig presennol yn annerbyniol:

 

·         Oherwydd ei raddfa a’i fàs annerbyniol, nid yw’r cynnig yn parchu ffurf, graddfa, màs a dyluniad y lleoliad ac felly mae’n mynd yn groes i faen prawf c) Polisi DES1 Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.

 

Wrth nodi manylion y cais, mynegodd y Pwyllgor Cynllunio ei siom nad oedd y sawl a gyflwynodd y cais wedi mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 

Cynigiwyd felly gan y Cynghorydd Sir B. Callard, wedi’i eilio gan y Cynghorydd Sir M. Powell, y dylid gwrthod cais DM/2021/01735 am y rheswm a ganlyn:

 

·         Yn sgil ei raddfa a’i fàs annerbyniol, nid yw’r cynnig yn parchu ffurf, graddfa, màs a dyluniad y lleoliad ac felly mae’n mynd yn groes i faen prawf c) Polisi DES1 Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.

 

Wrth bleidleisio ar y cynnig, pleidleisiwyd fel a ganlyn:

 

O blaid gwrthod y cais            -           11

Yn erbyn gwrthod y cais         -           1

Ymatal rhag pleidleisio            -           2

 

Pleidleisiwyd o blaid gwrthod y cais.

 

Penderfynwyd y dylid gwrthod cais DM/2021/01735 am y rheswm a ganlyn:

 

·         Yn sgil ei raddfa a’i fàs annerbyniol, nid yw’r cynnig yn parchu ffurf, graddfa, màs a dyluniad y lleoliad ac felly mae’n mynd yn groes i faen prawf c) Polisi DES1 yng Nghynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.

 

 

7.

ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio - Apeliadau a Dderbyniwyd: pdf icon PDF 182 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr apelau newydd a ddaeth i law yr Adran Gynllunio ar gyfer y cyfnod rhwng 28 Mai a 20 Gorffennaf 2022.