Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Etholom y Cynghorydd Sir P. Murphy yn Gadeirydd

 

2.

Penodi Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Penodom y Cynghorydd Sir D. Rooke yn Is-Gadeirydd.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Sir S. McConnel ddatganiad o fuddiant personol, heb ragfarn yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau mewn perthynas â chais DM/2022/00460 gan ei bod yn ffrind ac yn gydweithiwr i bartner yr ymgeisydd. Ni chymerodd ran yn y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Sir J. McKenna ddatganiad o fuddiant personol, heb ragfarn yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau mewn perthynas ag eitem 7.1 ar yr agenda mewn perthynas â Brentra Farmhouse, Pentre Road, Llangovan.

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 230 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar y 5ed o Ebrill 2022 ac fe’u harwyddwyd gan y Cadeirydd.

 

5.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Ar ran y Pwyllgor Cynllunio, diolchodd y Cadeirydd i’r cyn Gynghorydd Sir Ruth Edwards am ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio. Roedd y Cynghorydd Sir Edwards wedi bod yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Cynllunio am sawl blwyddyn ac wedi arwain y Pwyllgor drwy gydol y cyfnod yma.

 

Dymunodd y Cadeirydd hefyd ddiolch i’r cyn Gynghorydd Sir Roger Harris am ei rôl fel llefarydd yr wrthblaid ar Banel Dirprwyo’r Pwyllgor Cynllunio. Roedd y Cynghorydd Harris wedi cefnogi’r Pwyllgor Cynllunio a’r Panel Dirprwyo am sawl blwyddyn.

 

Roedd angen llefarydd yr wrthblaid newydd ar y Panel Dirprwyo. Penderfynom mai’r Cynghorydd Sir A. Webb fyddai’r llefarydd newydd ar ran yr wrthblaid.

 

6.

Cais DM/2022/00212 – Ailddatblygu safle presennol Ysgol Uwchradd Brenin Harri VIII, yn cynnwys codi Ysgol 3-19 y Fenni (Dosbarth D1), yn cynnwys darpariaeth addysgol Dechrau’n Deg, meithrinfa, ysgol isaf, ysgol uchaf a 6ed dosbarth; darparu gofod agored yn cynnwys ardaloedd cymdeithasol a chwarae anffurfiol caled a meddal; ardal gemau aml-ddefnydd; ardaloedd ysgol goedwig a darpariaeth llain chwaraeon yn cynnwys lleiniau glaswellt/pob tywydd; darparu adeilad cyfarpar, priffyrdd, mynediad, parcio ceir, tirlunio, seilwaith gwyrdd a gwaith draeniad, dymchwel adeiladau/ strwythurau’r ysgol bresennol a’r holl waith cysylltiedig. Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII, Hen Heol Henffordd, Y Fenni, NP7 6EP. pdf icon PDF 529 KB

Cofnodion:

Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Roedd Mr. P Hannay, Cadeirydd Tref Bontio'r Fenni (ATT) wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â'r cais ac fe’i darllenwyd i'r Pwyllgor Cynllunio gan Swyddog Cynllunio, fel a ganlyn:

 

'Pe bai'r Pwyllgor yn dewis cymeradwyo'r prosiect hwn heddiw, byddem yn gofyn i'r amodau cadarn canlynol gael eu hychwanegu at y gymeradwyaeth hon.

 

1.    Problemau Teithio Llesol

 

Er bod rhai addasiadau wedi'u gwneud i'r cynigion gwreiddiol o ran symudiad cerddwyr/beicwyr a cherbydau yn y fynedfa ddwyreiniol yn unol â chais gwahanol randdeiliaid, nid oes addasiadau tebyg sy'n ofynnol ac angenrheidiol wedi eu gwneud ar gyfer y fynedfa orllewinol.

 

Yn yr un modd, nid yw gwelliannau i lwybrau teithio llesol sy'n dod i’r safle o'r dwyrain a'r gorllewin wedi cael eu hystyried fel rhan o'r prosiect unwaith mewn oes hwn. Dylid gosod amodau i sicrhau bod y gwelliannau yma’n cael eu gweithredu os yw'r cynnydd cychwynnol arfaethedig o 30% o ran targedau beicio disgyblion yn mynd i gael eu cymryd o ddifri.

 

2.    Perfformiad ynni di-garbon

 

Er bod ymrwymiad amlinellol i fonitro perfformiad ynni'r adeilad newydd yn natganiad Ynni Strategol McCann, byddem yn awgrymu y dylid gosod amod ffurfiol er mwyn sicrhau fod y contractwr a’r ymgynghorydd yn gwneud ac yn talu am unrhyw gywiriadau ac addasiadau os oes targedau carbon nad ydynt yn cael eu cyrraedd.  (Mae angen nodi bod y deunydd sydd ar gael i'r cyhoedd sy’n egluro sut y bydd systemau ynni’n gweithio yn yr adeilad yn anodd iawn i’w deall). Rydym yn gobeithio bod rhywun yng Nghyngor Sir Fynwy wedi fetio pob un o'r cynigion yn llawn er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni arfer gorau o ran ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd y mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo iddo.)

 

3.    Diogelu

 

Mae nifer o randdeiliaid wedi cyflwyno materion diogelu difrifol wrth ymateb yn anffurfiol i'r broses hon. Mae’r ymatebion sydd wedi eu rhoi yn annigonol.   Rydym yn awgrymu y dylid gosod amod sy’n golygu y dylid monitro a chofnodi pob digwyddiad sy’n ymwneud â diogelu yn yr ysgol isaf. Er mwyn cefnogi’r amod yma, dylid ymrwymo i ddarparu adnoddau digonol er mwyn cywiro’r annigonolrwydd yma pe byddai’n codi - ac rydym yn disgwyl iddo godi.

 

4.    Prosesau Ymgynghori â Rhanddeiliaid

 

Bydd y Cyngor a'i swyddogion yn y maes cynllunio a’r maes addysg yn ymwybodol o'r anniddigrwydd sylweddol a fynegwyd mewn sawl cylch cyhoeddus mewn perthynas â chynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y prosiect hwn yn ystod pob cam ffurfiol.

 

Byddem yn gofyn i adolygiad trylwyr iawn gael ei gynnal o fewn y 12 mis nesaf ar y gwersi i'w dysgu a’u rhoi ar waith ar gyfer unrhyw brosiect o'r maint yma ac unrhyw brosiect sydd o gymaint o bwys i’r cyhoedd yn y dyfodol. Gofynnwn hefyd, gan nad oes gan y Cyngor unrhyw gyngor pensaernïol annibynnol ar ochr y cleient, fod prosiectau o'r fath, fel mater o drefn, yn cael eu cyflwyno i banel Adolygu Dyluniadau Comisiwn Dylunio  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cais DM/2019/00184 – Cynnig am Log Pod a thoiled compost ar sylfaen garreg ar gyfer dibenion twristiaeth, rhoi wyneb carreg wedi’i rolio ar y lleoedd parcio presennol oddi ar y stryd a’r ardal troi, symud gwrych i wella gwelededd y fynedfa bresennol. Old Park Cottage, Heol Gethley, Parkhouse, Tryleg. pdf icon PDF 377 KB

Cofnodion:

Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol, y Cynghorydd Sir J McKenna, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:

 

·         Roedd trigolion lleol wedi nodi bod y tir wedi'i adael i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent ac wedi cael ei werthu. Nodwyd fod hyn wedi achosi gofid ymysg trigolion.

 

·         Ystyriwyd nad oedd y tir wedi cael ei ddefnyddio at y diben a fwriadwyd ac roedd bellach yn fater sifil yn hytrach nag ystyriaeth cynllunio.

 

·         Dymuniad yr Aelod lleol oedd i’r tir barhau i fod mor gyfeillgar â phosibl i fywyd gwyllt a chael cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd.

 

·         Mae'r cais ar gyfer un pod ac ystyriwyd na fyddai'r cais yn niweidiol i'r amgylchedd nac yn creu llawer o draffig ar y briffordd.

 

·         Mae'r fynedfa wedi'i lleoli ar ddarn syth o ffordd sy'n ymddangos yn ddiogel o ran mynd i mewn ac allan o'r safle.

 

·         Mae cynlluniau ar y gweill i gael gwared â 50 metr o'r gwrych. Gallai hyn gael effaith o ran dibenion cynefin. Fodd bynnag, bydd rhaglen ailblannu’n digwydd.

 

·         Mae'r Aelod lleol yn fodlon gydag amod 11 yr adroddiad sy’n nodi y bydd uchder y gwrych yn cael ei gadw i 2.4m o leiaf.  Bydd hyn hefyd yn sicrhau fod y pod yn llai gweladwy o'r briffordd.  Fodd bynnag, nodwyd y bydd y safle yn fwy agored yn ystod misoedd y gaeaf oherwydd y bydd llai o ddail.

 

·         Mynegwyd pryder yngl?n â pha mor agos yw'r pod at eiddo cyfagos o ran llygredd s?n.  Fodd bynnag, cydnabuwyd mai dim ond dau berson fydd yn gallu cysgu yn y pod ac felly ychydig iawn s?n sy'n debygol o ddeillio o’r pod.

 

·         Nid yw'r perchnogion yn byw ar y safle. Mae angen sicrhau fod problemau o ran lefelau s?n gormodol yn cael eu datrys pe byddent yn codi, ac mae angen cael gwybod sut y byddant yn mynd i’r afael â hwy.

 

·         Nid oes cyfleusterau cawod a golchi dwylo ar y safle.  Nid oes d?r ar y safle ychwaith ar gyfer paratoi bwyd.

 

·         Dylid hybu twristiaeth o fewn Sir Fynwy.

 

·         Mae'n annhebygol y bydd un pod yn cael effaith fawr ar yr ardal.  Fodd bynnag, mynegodd yr aelod lleol y byddai’n pryderu pe byddai’r safle'n cael ei ehangu.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau sydd wedi’u cyflwyno, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Yn wreiddiol, roedd y cynllun gyfer llain amwynder.  Fodd bynnag, nodwyd na fyddai hyn yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio.  Felly, newidiodd yr ymgeisydd y cynllun yn gynllun ar gyfer pod glampio.  Pe byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo, byddai amod yn cael ei osod a fyddai’n sicrhau na fyddai’r un ymwelydd yn cael aros yn hirach na 28 diwrnod y flwyddyn.

 

·         Archwiliwyd y gwrych gan ecolegydd. Teimlwyd y dylid cadw'r gwrych yn ei linell bresennol gan ei fod yn darparu preifatrwydd i drigolion cyfagos.

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch diffyg darpariaeth d  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cais DM/2019/01867 – Dwy annedd newydd ar wahân gyda garejys, lleoedd parcio, ffyrdd mynediad a thirlunio. Tir i’r cefn o Rosebrook, Watery Lane, Trefynwy. pdf icon PDF 524 KB

Cofnodion:

Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106.

 

Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:

·         Mae'n rhaid i'r ymgeisydd ymrwymo i gytundeb Adran 106 cyn i'r caniatâd gael ei roi.  Fel arfer telir arian Adran 106 pan fydd yr eiddo wedi'i gwblhau.

·         Bydd y manylion yngl?n â'r d?r ffo ar y wyneb o flaen y datblygiad  angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn perthynas â gollwng y cwrs d?r.  Bydd angen caniatâd draenio cynaliadwy gan yr ymgeisydd hefyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir B. Callard ac eiliodd y Cynghorydd Sir A. Easson y dylid cymeradwyo cais DM/2019/01867 yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106.

 

Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo  -           16

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Ymatal                        -            0

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2019/01867 yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106.

 

 

 

 

 

9.

Cais DM/2020/01288 – Cais am gymeradwyaeth ôl-weithredol i ystafell gyfarpar, wal gadw, tanc olew a sied ardd fel y’u codwyd. The Gables, Lôn Wainfield, Gwehelog, Brynbuga. pdf icon PDF 189 KB

Cofnodion:

Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i addasu amod 3 fel a gannlyn.

 

·         O fewn tri mis o ddyddiad y caniatâd hwn bydd manylion y tri blwch ystlum ac adar, un i'r blaen a’r ddau sydd agosaf at gefn yr adeilad, fel y dangosir ar luniad LSC/01 A, yn cael eu cyflwyno i a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio lleol.  Dylid cyflwyno’r manylion sydd wedi’u cymeradwyo o fewn tri mis o’r gymeradwyaeth a'u cadw felly am byth.

 

Roedd Ms. A.M. Smale, a oedd yn gwrthwynebu'r cais, wedi paratoi recordiad fideo a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynllunio ac amlinellwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae Amod 1 adroddiad y swyddog yn gofyn i'r Pwyllgor gymeradwyo cynlluniau yn y tabl isod.  Fodd bynnag, nid oes tabl yn yr adroddiad i'w adolygu. Mynegwyd pryder ynghylch pa luniau oedd angen eu cymeradwyo a chwestiynwyd a oedd y tabl wedi'i gyhoeddi mewn digon o bryd er mwyn rhoi cyfle iddo gael ystyriaeth briodol.

 

·         Dywed y Gwasanaeth Cynghori Cynllunio Llywodraeth Leol mewn perthynas ag Amodau Cynllunio 'a yw'n rhan o ardal y cais?' Dim ond i’r linell goch o fewn y cais y mae amod dilys yn berthnasol oni bai ei fod yn amod Grampian.  Os yw y tu allan i'r llinell goch mae angen iddo fod yn rhan o gytundeb Adran 106.

 

·         Mae Amod 2 adroddiad y swyddog yn ei gwneud yn ofynnol i waith ecoleg gael ei wneud ar dir sydd y tu allan i linell goch y cais.  Mae'n debygol na fydd modd gorfodi’r amod yma.

 

·         Mae Porth Cynllunio Sir Fynwy o dan y pennawd 'do I need SAB approval' yn diffinio gwaith adeiladu o dan Adran 3 Deddf Rheoli D?r Llifogydd 2012 fel unrhyw beth sy'n cwmpasu tir megis patios neu fan parcio car (drive) yn strwythur at ddibenion cymeradwyaeth SAB. Mae'r ddeddf yn berthnasol i bob gwaith dros 100 metr sgwâr. Mae adroddiad y cais yn nodi nad yw’r cais cyfochrog yn cynnwys ardal adeiladu newydd.   Fodd bynnag, teimlwyd mai celwydd yw hyn, a phe byddai’n cael ei dderbyn y bydda’n torri’r ddeddf.  Mae lluniad yr ymgeisydd yn nodi bod ardal y gwaith adeiladu’n 333 metr sgwâr - ardal sydd wedi ei chreu gan y wal gadw a adeiladwyd yn anghyfreithlon.

 

·         Mae'r cynllun draenio arfaethedig tu allan i'r llinell goch felly does dim modd ei reoli drwy'r caniatâd cynllunio yma.

 

·         Mae’r gwaith peirianneg arfaethedig yn yr ardd gefn yn agos at goed, nid oes arolwg coed wedi ei wneud ac nid oes datganiad dull aboriamaeth wedi ei gyflwyno. Teimlwyd y dylid cywiro hyn cyn i benderfyniad gael ei wneud ar y cais.

 

·         Mae adroddiad y cais yn nodi bod gan y garej arfaethedig uwch lefel ar gyfer gofod storio ychwanegol.  Byddai garej un llawr gyda gofod atig neu hyd yn oed adeilad un llawr a hanner yn ddigon.

 

·         Mae'r adroddiad garej arfaethedig yn nodi fod y cynnig yn dderbyniol ochr yn ochr â'r eiddo sy'n  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Cais DM/2020/00933 – Garej ddwbl ar wahân gyda gofod storio drosti. The Gables, Lôn ?Wainfield, Gwehelog, Brynbuga. pdf icon PDF 185 KB

Cofnodion:

Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Roedd Ms. A.M. Smale, a oedd yn gwrthwynebu'r cais, wedi paratoi recordiad fideo a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynllunio.  Mae manylion y gwrthwynebiad wedi'u hamlinellu yn y cais cynllunio blaenorol DM/2020/01288.

 

Roedd Mr. P Sulley, yr ymgeisydd, wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â'r cais a ddarllenwyd i'r Pwyllgor Cynllunio gan Swyddog Cynllunio, fel a ganlyn:

 

'Hoffwn gymryd y cyfle hwn i egluro sawl pwynt a wnaed mewn perthynas â'r cais cynllunio a gyflwynwyd ar gyfer garej ddwbl gyda gofod storio uwch ei ben fel a ganlyn: -

 

Cyf: - 5.2.4 Mwynder Preswyl

 

·         Rydym yn nodi’r sylwadau a wnaed mewn perthynas â barn y cymydog ar y garej unwaith y bydd wedi ei adeiladu. Er hyn, hoffem nodi bod mwyafrif llethol trigolion y lôn yn gallu gweld garejis ei gilydd. Er mwyn cuddio ein garej rhag eiddo cyfagos, ac er mwyn paratoi at ddatblygu’r eiddo, plannwyd Gwrych Ffawydden. Dewiswyd y gwrych gan drigolion T?-Gerrig ac fe’i plannwyd ar y cyd â thrigolion The Gables. Unwaith y bydd yn gwbl aeddfed, dylai’r gwrych gyrraedd uchder o rhwng 3m-5m a bydd, felly, yn lleihau effaith weledol unrhyw agwedd ar y garej.

 

·         Yn anffodus, mae trigolion T?-Gerrig wedi torri o leiaf 0.5 metr oddi ar dop y gwrych yn ddiweddar, golyga hyn na fydd yn tyfu cymaint.

 

·         Mae maint y garej wedi ei gynllunio i gwrdd ag anghenion y perchennog. Does dim gofod ar gyfer storio yn yr eiddo gan fod yr ystafelloedd gwely yn y gofod to.  Er bod gwrthwynebiadau wedi'u gwneud o ran uchder yr adeilad, mae’r effaith weledol ar eiddo cyfagos yn cael ei leihau oherwydd topograffi'r tir. Mae sawl eiddo arall ar Wainfield Lane sydd, hefyd, â garejis uchder dwbl.

 

Cyf: - Bioamrywiaeth / Ecoleg

 

 

 

Yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd gan y swyddog cynllunio, rydym o’r farn nad oes wnelo gwrthwynebiad rhai o drigolion Wainfield Lane ddim â’r gwaith o ddatblygu/gwella’r eiddo, yn enwedig o ystyried fod pob eiddo’n unigryw, ac nad oes safon na gorffeniad y dylid meincnodi yn eu herbyn.

 

Cafodd y gwaith cychwynnol i'n heiddo ei wneud yn dilyn cytundeb llawn gyda thrigolion T?-Gerrig. Roeddynt yn gefnogol yn y lle cyntaf. Oherwydd ddigwyddiadau anffodus, nid dyma’r sefyllfa bellach,  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Cais DM/2021/00037 – Codi un tŷ deulawr ar wahân yn rhan o’r ardd gyda mynediad a pharcio cysylltiedig (caniatâd cynllunio amlinellol). Tir i’r gorllewin o Stray Leaves, Lôn yr Ysgol, Y Narth, Trefynwy. pdf icon PDF 165 KB

Cofnodion:

Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol dros Mitchel Troy a Trellech United, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae digon o le a y plot ar gyfer annedd mewnlenwi.

 

·         Roedd cymydog wedi mynegi pryder yngl?n â mynediad.  Fodd bynnag, mae tair mynedfa i’r safle.

 

·         Mae cymysgedd o anheddau ar y cul-de-sac sef byngalos, byngalos dormer ac anheddau deulawr.

 

·         Hoffai'r Aelod lleol weld dyluniad sy’n cyd-fynd â’r rhain o ran uchder.  Felly, byddai ystyried annedd dormer yn fwy ffafriol ar hyn o bryd gan y byddai hyn yn cael llai o effaith weledol ar y cul-de-sac.

 

Roedd Mr. D Lloyd, sydd yn erbyn y cais, wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â'r cais ac fe’i darllenwyd i'r Pwyllgor Cynllunio gan Swyddog Cynllunio, fel a ganlyn:

 

'Mae cais yn cael ei wneud am gymeradwyaeth amlinellol am d? ar wahân pum ystafell wely gyda garej ddwbl ar blot gardd yn Y Narth. Mae pob mater ac eithrio mynediad wedi’i neilltuo.

 

Mae 2 prif bryder.

 

Mynediad

 

Mae 3 pwynt i'w nodi yma:

 

1.            Byddwch wedi gweld o’ch ymweliad â’r safle ddydd Mawrth bod mynediad i'r safle yn wael iawn. Mae sawl ffordd o gyrraedd y safle arfaethedig, ac nid oes yr un ohonynt yn addas ar gyfer traffig adeiladu trwm na cherbydau maint canolig hyd yn oed. Bydd unrhyw ymgais i ddod â deunydd yn uniongyrchol i'r safle yn arwain at ddifrod i eiddo a ffiniau.                    

 

Llwyddodd perchnogion T? Gwyn, sydd ar y ffordd sy’n arwain at y datblygiad arfaethedig, ddod ag achos cyfreithiol yn erbyn un o'r cwmnïau cludwyr mawr yn ddiweddar am ddifrod a wnaed i wrychoedd a waliau gan gerbyd mawr.

 

2.            Unwaith y bydd y cerbydau ar y safle, mae mynediad drwy'r lôn breifat yn gul iawn ac ychydig iawn o opsiynau sydd ar gael o ran troi cerbydau, hyd yn oed ceir.  Mae angen mynediad i gerbydau brys at breswylydd oedrannus.

Mae’n rhaid i unrhyw draffig adeiladu gael ei leoli ar y safle ei hun. Ni ddylid rhwystro'r lôn breifat ar unrhyw adeg

 

3.            Mae mynediad, dreif a chylch troi arfaethedig y datblygiad, uniongyrchol gyferbyn â phrif ystafell wely Lindsey, sy’n fyngalo un llawr. Mae dimensiynau a maint y t? yn awgrymu mai teulu sydd â nifer o geir a fydd yn byw yn yr eiddo. Golyga hyn y bydd traffig i mewn ac allan trwy gydol y dydd a gyda’r nos.  Bydd hyn yn cael effaith eithriadol ar les trigolion Lindsey.

 

Mae angen i unrhyw gynlluniau rheoli adeiladu nodi fod yn rhaid anfon nwyddau mawr i rhywle arall, ac y bydd yn rhaid ei ddadlwytho a’i drosglwyddo i’r safle mewn cerbyd o faint addas.

 

Dimensiynau

 

Mae dimensiynau mwyaf y cais amlinellol hwn yn golygu y bydd yr annedd arfaethedig yn cael effaith fawr a gormesol ar fyngalo "Lindsey". At hyn bydd yn niweidio amwynder, gofod, llygredd  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Cais DM/2021/00340 – Adeilad amaethyddol pwrpas cyffredinol (ar gyfer da byw a chadw peiriannau a phorthiant). Tir i’r gogledd-ddwyrain o Heol Ty Freeman, Gwehelog, Sir Fynwy. pdf icon PDF 187 KB

Cofnodion:

Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Ymgynghorwyd â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac maent yn fodlon bod y cynllun rheoli tail yn ffordd dderbyniol o gael gwared â’r tail o'r safle ac na fydd cynnydd andwyol mewn ffosffadau a fyddai'n niweidiol i'r ardal gyfagos.

 

·         Mae'r estyniad hwn yn dderbyniol gan nad yw ei ffurf a'i faint yn afresymol ar y safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir M. Powell ac eiliodd y Cynghorydd Sir A. Easson y dylid cymeradwyo cais DM/2021/00340 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo              -           15

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Ymatal             -           0

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Penderfynom gymeradwyo cais DM/2021/00340 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

13.

Cais DM/2021/00961 – Codi adeilad storio ffrwythau/eco amaethyddol gyda thoiled compost a phaneli solar. Tir ger Comin Gwehelog, Gwehelog Fawr, Brynbuga, NP15 1RE. pdf icon PDF 189 KB

Cofnodion:

Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

·         Dylid cael gwared ag amod 4.

 

·         Dylid ychwanegu amod ychwanegol er mwyn cydymffurfio ag adran 6.2 o'r arfarniad ecoleg.

 

Roedd Mr R. Cole, sy’n gwrthwynebu’r cais ac yn cynrychioli gwrthwynebwyr eraill, wedi paratoi recordiad fideo ac fe’i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynllunio. Amlinellwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Nid yw’r gwrthwynebwyr yn cytuno gydag adroddiad y cais ac maent yn teimlo y dylid fod wedi argymell gwrthod y cais.

 

·         Does dim cyfiawnhad dros gael adeilad newydd o'r maint hwn ac at y defnydd yma yng nghefn gwlad agored o ystyried mai polisi'r Cyngor a pholisi'r Llywodraeth yw cymeradwyo am resymau arbennig a rhoi pwyslais ar ddefnyddio adeiladau sy’n bodoli’n barod.

 

·         Mae maint yr adeilad yn anghymesur â’r allbwn gan mai dim ond tua dwy erw o goed ffrwythau ifanc sydd yno.

 

·         Mae'n rhesymol disgwyl i holl gynnyrch perllan fechan gael ei brosesu yn rhywle arall.

 

·         Ni fyddai elfen creu swyddi'r cais yn cael ei effeithio ac efallai y byddai mwy o sgôp o ran datblygu ymhellach.   Mae'r ymgeisydd wedi dweud y gallai fod eisiau defnyddio'r adeilad at ddibenion eraill fel bragu.  Mae gwrthwynebwyr yn poeni bod cymeradwyo'r sied ffrwythau yn cael ei weld fel anogaeth o ran ei ddisgwyliadau fod ceisiadau pellach yn mynd i gael eu cymeradwyo a fydd yn  cyfiawnhau costau sylweddol yr adeilad hwn.

 

·         Nid yr ymgeisydd yw perchennog trac mynediad y safle hwn.  Felly, er mwyn cydymffurfio ag Amod 4 sy’n cael ei argymell, byddai angen caniatâd partïon eraill, gofyniad a ddiystyrwyd yn ddiweddar, a hynny heb ganiatâd cynllunio, drwy dynnu wyneb trac gwellt a’i ail wynebu gyda haen o scaplings.

 

·         Gofynnodd y gwrthwynebwyr i benderfyniad y Pwyllgor Cynllunio gael ei ohirio nes y gellir rhoi ystyriaeth lawn i’r ansicrwydd ynghylch y problemau mynediad. Mae llythyr wedi cael ei anfon at y Cyngor yngl?n â'r mater yma.

 

·         Ond os yw'r Pwyllgor Cynllunio â'i fryd ar gymeradwyo'r cais, gofynnodd y gwrthwynebwyr iddynt ddiwygio dau amod, fel a ganlyn:

 

-       Dylid gorffen Amod 3 gyda 'ac ni ddylid mewnforio unrhyw gwrw ffrwythau na chynhwysion cynnyrch eraill i’r safle ac ni ddylid manwerthu ar y safle'. Y rheswm dros ddiwygio'r amod yw er mwyn sicrhau nad oes manwerthu’n digwydd ac nad yw’n cael ei ddefnyddio at ddibenion diwydiannol.

 

Byddai hyn yn lleihau amwysedd ac yn rhoi sicrwydd i wrthwynebwyr fod gan yr Awdurdod Cynllunio reolaeth lawn dros unrhyw newidiadau o ran y defnydd o’r adeilad.

 

-       Dylai amod 4 ei gwneud yn ofynnol i roi wyneb caled ar y trac sy’n arwain at yr adeilad cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn.   Mae'r wyneb meddal sydd wedi ei osod yn ddiweddar yn annhebygol o ymdopi â thraffig adeiladu.

 

Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Rheoli Datblygu yr Ardal wrth y Pwyllgor mai cyngor swyddogion yw bod Amod 4 yn cael ei ddileu.  O ran y newidiadau arfaethedig i Amod 3, mae'r amod wedi'i ddrafftio'n eglur ac mae’n amlinellu’n union pa ddefnydd y gellir ei wneud  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Cais DM/2021/01693 – Dymchwil annedd bresennol a chodi annedd yn ei lle ac annedd ychwanegol. Overdale, 1 Heol St Lawrence, Cas-gwent, NP16 5BJ. pdf icon PDF 190 KB

Cofnodion:

Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Mynychodd yr Aelod lleol dros Mount Pleasant y cyfarfod trwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae'r gwaith o ddymchwel y t? gwag yn cael ei groesawu.  Ond mae gwrthwynebwyr yn gofyn i’r datblygiad newydd sy'n cael ei adeiladu’n lle’r eiddo presennol ddefnyddio'r un ôl troed a bod yn adeilad tebyg o ran ffurf, cymeriad a maint.

 

·         Teimlwyd nad yw'r cais yn cyfateb i’r hyn y mae’n ei ddisodli.   Mae ôl troed y datblygiad yn fwy na’r  eiddo presennol, mae’n wynebu cyfeiriad gwahanol o 90 ° ac mae hyn yn groes i'r tai sydd wedi'u lleoli ar Heol St Lawrence. Yn ogystal â'r newid hwn, mae'r ymgeisydd am adeiladu annedd pedair ystafell wely arall y tu ôl i'r eiddo newydd.

 

·         Mae'r Aelod lleol o'r farn bod y cais yn golygu mewnlenwi sylweddol. Mae'n effeithio ar yr ecoleg leol, ac mae hefyd yn golygu fod sawl preswylydd yn colli mwynder gan y bydd mwy o geir yn mynd a dod ac y bydd llygredd o ran swn, golau ac aer.   Mae hyn i gyd yn digwydd ar un o'r darnau o ffordd mwyaf heriol yn y Sir,  sydd hefyd yn ffinio â pharth rheoli ansawdd aer.

 

·         Mae'r trigolion wedi mynegi pryderon sylweddol. Mae’r rhain wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad y cais, ac maent wedi achosi pryder sylweddol yn lleol.

 

·         O ran yr annedd newydd, mae gan drigolion bryderon difrifol ynghylch adroddiad y cais, yn benodol, 6.13, sy’n ymwneud â'r cynnig i droi’r annedd newydd 90° fel nad yw’n wynebu’r blaen.   Bydd yn edrych yn sylweddol wahanol i’r tai eraill ar y stryd dan sylw.  Ni fydd yr adeilad newydd yn cydffurfio’n weledol.

 

·         Creu annedd ychwanegol yng nghefn y plot yw'r elfen sy’n achosi fwyaf o bryder yngl?n â’r cais  gan y teimlir bod hyn arwain at or ddatblygu’r safle ac nad oes cyfiawnhad.

 

·         Bydd yr elfen yma o'r cais yn effeithio ar drigolion sy’n byw wrth ochr y plot ac wrth ei gefn. Os caiff ei gymeradwyo bydd yr annedd yn edrych dros gartrefi trigolion eraill a bydd yr effaith ar y trigolion hefyd yn cynnwys colli preifatrwydd, aflonyddwch traffig yn sgil mwy o gerbydau’n mynd a dod a bydd hyn hefyd achosi llygredd aer, s?n a golau.

 

·         Mae trigolion yn cwestiynu 6.1.5 o'r adroddiad yngl?n â sut y bydd codi annedd newydd mewn gofod a oedd yn ardd yn gwella'r cymeriad lleol.

 

·         Mae'r Aelod lleol yn anghytuno mai dyma un o'r safleoedd mwyaf cynaliadwy o fewn y Sir.

 

·         Yn 2019 fe gyhoeddodd yr Awdurdod argyfwng hinsawdd.  Teimlwyd bod cymeradwyo'r cais hwn yn mynd yn groes i gyhoeddiad yr Awdurdod o argyfwng hinsawdd.

 

Mewn ymateb, hysbysodd Rheolwr Rheoli Datblygu yr Ardal y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

·         O ran rheoli ansawdd aer, un annedd ychwanegol yw hon. Ymgynghorwyd ag adran Iechyd yr Amgylchedd ac ni chodwyd unrhyw wrthwynebiadau.

 

·         O ran llygredd golau a s?n, mae ffens  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Cais DM/2022/00460 – Addasu amod 1 (Cyfyngiad i Amserau Agor) ar gyfer penderfyniad cynllunio DC/2014/00314. Gemma Thomas Hair Lounge, New Inn Cottage, The Cutting, Llan-ffwyst, Y Fenni. pdf icon PDF 133 KB

Cofnodion:

Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Mynegodd yr Aelod lleol dros Lan-ffwyst a Gofilon, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, ei gefnogaeth i'r cais.

 

Wrth nodi manylion y cais, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir A. Easson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir F Bromfield y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00460 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo              -           15

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Ymatal             -           0

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Penderfynom gymeradwyo cais DM/2022/00460 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

 

 

16.

ER GWYBODAETH – Yr Arolygiaeth Gynllunio – Penderfyniadau Apêl a dderbyniwyd.

16a

Bentra Farmhouse, Heol Pentre, Llangofan. pdf icon PDF 172 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Ffermdy Bentra, Heol Pentre, Llangovan ar y 1af Mawrth 2022.

 

Nodwyd gennym fod yr apêl wedi'i chaniatáu ac mae'r caniatâd cynllunio Cyfeirnod DM/2020/01805 i 'ddisodli balconi Juliet presennol gyda balconi pren/gwydr' yn Ffermdy Bentra, Heol Pentre, Llangovan, NP25 4BU, a roddwyd ar 7 Ebrill 2021 gan Gyngor Sir Fynwy, yn cael ei newid drwy ddileu amod Rhif 3.

 

16b

Little Hervells Court (gelwir hefyd yn Envy), Cas-gwent. pdf icon PDF 162 KB

Cofnodion:

Cawsom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn 5 Little Hervells Court (a elwir hefyd yn Envy), Cas-gwent ar 21 Tachwedd 2021.

 

Nodom bod yr apêl wedi'i gwrthod a chadarnhawyd fod yr hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig (LBEN) yn parhau’n ei le.

 

 

 

17.

Apeliadau newydd a ddrbyniwyd 1 Gorffennaf 2022 i 27 Mai 2022. pdf icon PDF 66 KB

Cofnodion:

Nodom yr apeliadau newydd sydd wedi eu derbyn gan yr Adran Gynllunio ar gyfer y cyfnod o 1af o Ionawr 2022 i 27ain o Fai 2022.