Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Cadarnhau cywirdeb y cofnodion canlynol:

2a

Pwyllgor Cynllunio – 12 Ionawr 2022. pdf icon PDF 296 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 12 Ionawr 2022 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

2b

Pwyllgor Cynllunio – 1 Chwefror 2022. pdf icon PDF 167 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 1 Chwefror 2022 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

3.

DM/2020/00400: Adeiladu lôn seiclo gaeedig, mynediad i gerbydau a maes parcio – Tir drws nesaf i’r Fferm Cae Rasio a Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Llan-ffwyst, Y Fenni pdf icon PDF 296 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei chymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad yn cynnwys yr amodau diwygiedig mewn gohebiaeth hwyr, yr amod ychwanegol ar y Cynllun Rheoli Digwyddiadau a datrys yr asesiad priodol yn ymwneud â phroblem ffosffadau draeniad aflan gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol dros Llan-ffwyst Fawr, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau dilynol:

 

·         Mynegwyd pryder am broblemau traffig o amgylch y safle, yn neilltuol broblemau parcio posibl yn digwydd ar y safle ar gyfer y digwyddiadau mwy a gynhelir yn y safle.

 

·         Dynodwyd safle’r ysgol fel ardal bosibl ar gyfer darparu parcio ar yr achlysurol hyn. Fodd bynnag, pan fyddai hynny’n llawn, gallai cerbydau fod yn debygol o barcio yn y stad breswyl gyfagos sydd eisoes yn profi traffig ysgol.

 

·         Awgrymwyd y gallai cae heb fod o fewn y terfyn llinell goch ddarparu tua 300 o ofodau parcio. Ni chynigiwyd bod hyn yn amod yn yr adroddiad. Cafodd y safle hefyd ei gynnig fel safle ar gyfer rhandiroedd felly ni fedrid ei ddefnyddio ar gyfer parcio ceir ychwanegol.

 

·         Gall mynediad i’r safle fod yn anodd gyda llawer o draffig yn yr ardal ar rai adegau o’r dydd. Byddai traffig ychwanegol o’r llwybr seiclo a gynigir yn gwaethygu’r problemau traffig yn yr ardal. Cynhaliwyd arolygon trafnidiaeth ar ddydd Sul yn ystod y cyfnod clo nad yw’n adlewyrchu’n gywir y symudiadau cerbyd yn yr ardal. Ystyriwyd y dylid bod wedi cynnal arolwg pellach.

 

·         Mynegwyd pryder am sut y gweithredid yr amod i reoli d?r brwnt.

 

·         Roedd cynyddu s?n gan y gynulleidfa yn mynychu digwyddiadau mawr ar y safle yn achos pryder.

 

·         Mae angen trafod diogelwch tu allan i oriau.

 

Mewn ymateb, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu yr wybodaeth ddilynol i’r Pwyllgor:

 

·         Yng nghyswllt y materion am leoedd ychwanegol i barcio, dywedodd fod swyddogion yn edrych ar roi hyn yn amod yn y Cynllun Rheoli digwyddiadau.

 

·         Byddai d?r brwnt yn fater i’r Awdurdod ei weithredu a’i fonitro. Fel ran o’r Cynllun Draeniad D?r Brwnt, byddem yn edrych am gynllun gan y contractwr a benodir iddynt gadarnhau i ble y byddant yn symud y gwastraff i sicrhau y caiff ei osod tu allan i’r ardal ffosffadau.

 

·         Bydd y digwyddiadau a gynhelir ar y safle ar raddfa lai a rhagwelir mai nifer fach o gynulleidfa a ddisgwylir.

 

·         Gellir rheoli diogelwch tu allan i oriau drwy gael rhwystr i atal y trac rhag cael ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod hwn.

 

Rhoddodd y Cydlynydd Seilwaith Cymunedol yr wybodaeth ddilynol i’r Pwyllgor:

 

·         Cafodd yr ardal ychwanegol ar gyfer parcio ei hystyried fel safle bosibl ar gyfer rhandiroedd. Fodd bynnag, cafodd y safle ei ddiystyru gan fod y cae mewn gorlifdir ac mae llifogydd yno ar rai adegau o’r flwyddyn.

 

·         Ni ragwelir y cynhelir llawer o ddigwyddiadau mawr ar y safle.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar gyfer y maes parcio ychwanegol ac os y  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

DM-2020-01495 - Eiddo 4 ystafell newydd ar dir y drws nesaf i’r Royal George Hotel - Tir i’r gorllewin o’r Royal George Hotel, Heol Forge, Tyndyrn pdf icon PDF 252 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac sy’n destun Cytundeb Adran 106.

 

Amlinellodd Aelod lleol St. Arvans, sydd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau dilynol:

 

·         Mae darpariaeth lleoedd parcio o fewn Tyndyrn yn gyfyngedig.

 

·         Mynegwyd pryder na fydd darpariaeth parcio ddigonol ar gyfer y cais.

 

·         Mae’r mannau parcio tu allan i’r gwesty yn gul ac mae angen cadarnhad am faint o fannau parcio hygyrch i’r anabl sydd wrth ddrws blaen y gwesty.

 

·         Roedd safle’r cais wedi ei sefydlu’n wreiddiol fel motel gyda darpariaeth parcio.

 

·         Mae Polisi Safonau Parcio Sir Fynwy yn 20 oed ac ystyriwyd fod angen adolygu hyn wrth symud ymlaen.

 

Roedd Cyngor Cymuned Tyndyrn wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn amlinellu gwrthwynebiad y cyngor cymuned i’r cais. Darllenodd y Pennaeth Cynllunio ef i’r Pwyllgor Cynllunio, fel sy’n dilyn:

 

Mae Cyngor Cymuned Tyndyrn a phreswylwyr lleol yn flaenorol wedi codi pryderon sylweddol am effaith y cais arfaethedig wrth ostwng lefel y ddarpariaeth lleoedd parcio yng Ngwesty’r Royal George (Wild Hare).

 

Mae pryderon Cyngor Cymuned Tyndyrn ar y mater hwn yn parhau ac ni chawsant eu datrys yn foddhaol.

 

Yn gyntaf, mae’n rhaid cydnabod fod Tyndyrn eisoes yn dioddef problemau sylweddol gyda lleoedd parcio, oherwydd fod y boblogaeth helaeth o ymwelwyr yn gyson yn fwy na’r ddarpariaeth parcio sydd ar gael ar y pentref. Mae’r holl fannau parcio yn y pentref yn llawn yn rheolaidd ac, fel canlyniad, mae ceir wedi parcio ar briffyrdd cyhoeddus, ymylon ffyrdd a lonau preswyl, ac mae’n ddealladwy fod hynny’n achosi problemau yn ymwneud â diogelwch y cyhoedd a thraffig a phryderon gan breswylwyr lleol. Os caniateir y datblygiad arfaethedig, byddai hyn yn arwain at golli tua 12 o fannau parcio ceir yng nghefn y gwesty. Yn y cyd-destun a esbonnir uchod, ni all Cyngor Cymuned Tyndyrn gefnogi unrhyw gynnig a fyddai â’r canlyniad o ostwng y mannau parcio ceir sydd ar gael yn y pentref.

 

Yn ail, mae angen eglurhad ar y ffigurau a ddefnyddir yn y cais cynllunio cyfredol ac adroddiad y pwyllgor cynllunio gan eu bod yn anghyson gyda’r sefyllfa bresennol yn y safle, Mae Cyngor Cymuned Tyndyrn yn nodi:

 

·         Mae adroddiad y pwyllgor cynllunio yn nodi fod 38 man parcio o flaen y gwesty ar hyn o bryd ac mai’r nifer fyddai eu hangen yw 34, felly byddai’r gofyniad yn cael ei gyrraedd.

 

·         Nid yw hyn yn gywir. Mae’r maes parcio tu blaen i’r gwesty ar hyn o bryd wedi ei osod a’i farcio ar gyfer 28 o leoedd parcio (h.y. 10 lle yn llai na’r adroddiad a roddir fel y ffigur cyfredol yn adroddiad y pwyllgor cynllunio). Nid yw Cyngor Cymuned Tyndyrn yn deall o ble neu sut y cafodd adroddiad y pwyllgor cynllunio y ffigur o 38 lle.

 

·         Fel y nodir uchod, mae capasiti presennol lleoedd parcio yng nghefn y gwesty tua 12 lle ar hyn o bryd. O gyfuno hynny gyda’r 28 o leoedd parcio sydd wedi eu marcio tu flaen y gwesty,  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

DM-2021-01416: Cynnig i adeiladu dau floc cawod/toiled er mwyn gwasanaethu ymwelwyr y safle a’r gwersyll cyfagos - yr Hen Orsaf, Tyndyrn, Cas-gwent, NP16 7NX pdf icon PDF 355 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a gafodd ei argymell ar gyfer ei chymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Mynegodd Aelod lleol St. Arvans, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei chefnogaeth i’r cais.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Dylid rhoi dyfais mwy addas yn lle’r llifoleuadau ar dalcen adeilad yr Hen Orsaf i fod yn gydnaws gyda’r ardal o amgylch gyda golwg ar ostwng llygredd golau ar y safle.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir A. Webb ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy y dylid cymeradwyo cais DM/2021/01416 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Cofnodwyd y pleidleisiau dilynol pan roddwyd y mater i bleidlais:

 

Dros gymeradwyo      -           13

Yn erbyn cymeradwyo -         0

Ymatal             -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2021/01416 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

6.

ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Cynllunio - Penderfyniadau a gafwyd am apeliadau

6a

Penderfyniad Apêl Costau Greenfield Llan-ffwyst pdf icon PDF 282 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad yr Arolygiaeth Cynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad costau yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Greenfield, Heol Merthyr, Llan-ffwyst ar 13 Gorffennaf 2021.

 

Nodwyd y cafodd y cais am ddyfarniad costau ei ganiatáu yn rhannol yn y telerau a nodir yn yr adroddiad Penderfyniad Costau.

6b

Penderfyniad Apêl Greenfield Llan-ffwyst pdf icon PDF 287 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad yr Arolygiaeth Cynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Greenfield, Heol Merthyr, Llan-ffwyst ar 13 Gorffennaf 2021.

 

Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.

 

6c

Penderfyniad Apêl Manor Garage Rogiet pdf icon PDF 309 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad yr Arolygiaeth Cynllunio yn cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd ar dir ger Manor Garage, Heol Rogiet, Rogiet, ar 15 Tachwedd 2021.

 

Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.