Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Please note that in order to watch this meeting online via Microsoft Teams you may need to download the Teams app to your device. The meeting will be available to watch after the event on our youtube channel. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir A. Easson fuddiant personol heb fod yn rhagfarnol yng nghyswllt y Cod Ymddygiad Aelodau o ran cais DM/2020/01328, gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd yn bersonol.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir R. Greenland fuddiant personol heb fod yn rhagfarnol yng nghyswllt y Cod Ymddygiad Aelodau o ran cais DM/2020/00875, gan y gellir gweld safle’r cais yn y pellter o’i dramwyfa. Mae mor bell i ffwrdd fel nad yw’n effeithio ar ei eiddo. Mae adroddiad y swyddog yn sôn am eglwys gyfagos St Thomas à Becket. Mae wedi addoli yn yr eglwys am flynyddoedd lawer.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 137 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 3 Tachwedd 2020 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

3.

Cais DM/2020/00712 – Caniatâd cynllunio ôl-weithredol ar gyfer newid mynediad cerbyd. Cae (2140) Lôn Waelod, Mynyddbach, Cas-gwent, NP16 6BU. pdf icon PDF 179 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei chymeradwyo gyda’r pump amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Roedd y Cynghorydd I. Martin, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Drenewydd Gellifarch wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn amlinellu gwrthwynebiadau’r cyngor cymuned i’r cais, a gafodd ei ddarllen i’r Pwyllgor Cynllunio gan y Pennaeth Cynllunio, fel sy’n dilyn:

 

‘Yn ein hymateb ar 7 Awst tynnodd Cyngor Cymuned Drenewydd Gellifarch sylw at bedwar mater sydd angen eu diweddaru:

 

1.    Diogelwch priffordd. Rydym yn parhau i fod yn bryderus, ac felly o leiaf 6 cymydog, fod lledaenu’r fynedfa yn golygu y gallai fod mwy o ddefnydd yn cynnwys cerbydau mwy a hirach a/neu beiriannau angen cylch troi llydan a chyflymder araf iawn pan fyddant yn gadael y safle. Mae hyn ar drofa ddall ac ar gyffordd y B4523 gyda Lôn Waelod gan felly greu perygl diogelwch ffordd sylweddol i ddefnyddwyr ffyrdd eraill yn cynnwys y llu o seiclwyr a beiciau modur. Rydym yn cadw ein gwrthwynebiad i’r cais ar sail diogelwch priffyrdd.

2.    Llwybr troed 17. Ar ôl cyfeirio at y mapiau yn dangos y llwybr troed a ddiffiniwyd yn gyfreithiol, sylwn fod llwybr troed 17 yn adawedig (“Llwybr Troed Gadawedig”) drwy’r safle. Mae’r cyhoedd wedi defnyddio llwybr troed sydd wedi ei sefydlu ond heb ei gofnodi am o leiaf 40 mlynedd (‘Llwybr Troed Arall’). Deallwn i Gyngor Sir Fynwy yn y 1980au godi llwybr troed, stepiau ac arwydd ar gyfer y Llwybr Troed Arall.

 

Cytunwn gyda’r Swyddog Llwybrau Troed yn ei adroddiad ar 30 Hydref na fedrir defnyddio’r Llwybr Troed Gadawedig ar yr aliniad a gofnodwyd yn gyfreithiol ar ei gyfer.

 

Deallwn fod gan y Swyddog Llwybrau Troed yn awr bryderon am lwybr y llwybr troed ac nad yw adroddiad y Swyddog Cynllunio nad oes ganddo unrhyw wrthwynebiad bellach yn gywir.

 

Byddai’r gymuned leol yn feirniadol iawn o unrhyw gynnig i ailagor y Llwybr Troed Gadawedig oherwydd ei effaith negyddol ar yr amgylchedd a’i fod yn achosi bygythiad i ddiogelwch gan y byddai’n dod allan ar y B4253 ar y drofa ddall a nodwyd uchod. Mae’r graddiant anffafriol ar waelod Lôn Waelod yn achosi i draffig sy’n teithio yn y ddau gyfeiriad i ddefnyddio’r ochr honno o’r ffordd. Mae preswylwyr wedi sôn am beryglon cerddwyr yn croesi’r rhyngdoriad neilltuol hwn. Mae’r Llwybr Troed Amgen mewn lleoliad mwy diogel.

 

Mae angen eglurhad ar gynllun diwygiedig yr ymgeisydd gan nad yw’n dangos fod y pyst ffens a osodwyd yn ymestyn tu hwnt i orchudd y goeden dderw ac yn anghywir drwy beidio dilyn y Llwybr Troed Gadawedig.

 

Mae canllawiau Llwybr Troed a Phrotocolau Cyngor Sir Fynwy yn ei gwneud yn glir y gall yr Awdurdod Cynllunio ystyried bod angen datrys bodolaeth y Llwybr Troed Arall mewn cysylltiad gydag ystyriaeth y cais cynllunio. Ystyriwn y dylai’r cais gael ei wrthod neu ohirio nes caiff llwybr y llwybr troed ei ddatrys.

 

Gan fod yr ymgeisydd yn bwriadu cadw anifeiliaid ar y safle yna os yw’r Pwyllgor o blaid rhoi caniatâd, byddai angen i ni ofyn am  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cais DM/2020/00875 – Newid defnydd bloc stabl i lety gwyliau hunangynwysedig. Stablau, Church Farm, Lôn Church Cottage, Llanwynell, Devauden. pdf icon PDF 193 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo yn destun i’r naw amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Awgrymodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu y dylai’r Pwyllgor ystyried cymeradwyo y cais gyda’r amod bod cytundeb cyfreithiol Adran 106 hefyd yn cael ei sicrhau i ystyried y safleoedd gwyliau a’u clymu gyda’r deiliad fferm yn Church Farm.

 

Roedd Aelod lleol Devauden yn bresennol yn y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

·         Mae’r Aelod lleol yn gyffredinol o blaid arallgyfeirio ffermydd a llety twristiaid lle’n briodol. Fodd bynnag, mae’r cais hwn wedi creu llawer o gynnen.

 

·         Cafodd yr adeilad ei godi yn 1988 a chafodd ei ddisgrifio’n wreiddiol fel stabl. Fodd bynnag, dywedodd yr ymgeisydd na chafodd erioed ei ddefnyddio ar gyfer y diben hwnnw ond ar gyfer defaid.

 

·         Mae’r ymgeisydd yn awr yn byw yn Devauden sydd yng nghanol eu menter amaethyddol gyda’r safle hwn yn ddarn o dir ar y cyrion.

 

·         Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn 2008 ar gyfer to goleddf newydd. Roedd waliau croen dwbl newydd gydag agoriadau ffenestri a drysau wedi eu codi cyn 2008 sy’n golygu eu bod yn awr yn gyfreithiol hyd yn oed er na wnaed cais am ganiatâd cynllunio bryd hynny.

 

·         Yn 2018 gyda’r waliau â statws cyfreithiol, cynhaliwyd trafodaeth cyn gwneud cais gyda Swyddogion Cynllunio ond ni chyflwynwyd cais bryd hynny.

 

·         Y llynedd cafodd wal ei chodi ar gyfer trin gwartheg ond nid yn y safle lle rhoddwyd caniatâd cynllunio. Ni chafodd y wal ei defnyddio ar gyfer y diben hwnnw. Mae’r wal yn ymestyn 1.9 metr, ar un pwynt, i’r tir cyfagos. Mae’r Aelod lleol yn ystyried na fedrai’r adeilad hwn fod wedi ei wneud yn gyfreithiol pe byddai’r wal wedi cael ei chodi yn y safle y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer.

 

·         Cyfeiriodd yr Aelod lleol at Bolisi Cynllunio T2 sy’n cyfeirio at lety ymwelwyr. Wrth edrych ar yr eithriadau i T2, un o’r cwestiynau a ofynnir yw ‘a yw hyn yn adeilad fferm presennol sy’n cael ei ddefnyddio?’ Nid oes t? fferm ar y safle. Mae’n edrych fel adeiladau fferm diffaith. Nid oes adeilad fferm gweithredol ar y safle.

 

·         Darllenodd yr Aelod lleol ran B o Bolisi Cynllunio T2.

 

·         Os yw’r waliau dros 10 oed mae ganddynt statws cyfreithiol. Fodd bynnag nid yw T2 yn dweud y dylid rhoi ystyriaeth i unrhyw beth h?n na 10 mlynedd.

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol am ystyriaeth ofalus i’r cais ac os y gwnaed hyn ar gyfer osgoi’r rheoliad  cynllunio.

 

·         Nid oes unrhyw ddyluniad rhesymol yn yr adeilad arfaethedig. Mae’n iwtalitaraidd iawn ac yn anghydnaws mewn termau polisi.

 

·         Cafodd nifer o goed eu cwympo ar ffin y safle yn ddiweddar gan wneud y safle yn amlwg iawn o’r llwybr troed cyfagos.

 

·         Nid yw’r Aelod lleol yn ystyried fod y datblygiad arfaethedig yn addas ar gyfer ei addasu dan Bolisi Cynllunio T2 a gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried gwrthod y cais ar y sail hwn.

 

 

·         Mae Swyddogion Priffyrdd wedi ystyried bod y fynedfa yn addas. Fodd bynnag, mae’r fynedfa yn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cais DM/2020/01036 – Ad-leoli mynediad a chlwyd, phlannu newydd a chadw trac mynediad.Bluebell Farm, Heol Blackbird Farm, Earlswood. pdf icon PDF 153 KB

Cofnodion:

Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo gyda’r ddwy amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Roedd y Cynghorydd I. Martin, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Drenewydd Gellifarch, wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn amlinellu gwrthwynebiad y cyngor sir i’r cais, a ddarllenwyd i’r Pwyllgor Cynllunio gan y Pennaeth Cynllunio, sef:

 

‘Mae Cyngor Cymuned Drenewydd Gellifarch yn gwrthwynebu’r cais hwn.

Efallai nad yw’r Pwyllgor Cynllunio yn gwybod am gais DC/2017/00607 oedd yn bron yn union yr un geiriad ?’r cais hwn, ac am benderfyniad Cyngor Sir Fynwy i’w wrthod ar sail:

1 Oherwydd ei leoliad amlwg, byddai’r fynedfa a’r ffordd a gynigir yn nodweddion anghydnaws a fyddai’n niweidiol i gymeriad yr ardal. Byddai gan y datblygiad effaith niweidiol sylweddol ar gymeriad ac ymddangosiad y tirlun gwledig yn groes i bolisïau DES1 (c), (e) a (h), LC1 a LC5 y Cynllun Datblygu Lleol.

2 Mae’r fynedfa newydd a gynigir yn ymlediad gwneuthuredig diangen ar draws ardal agored amlwg na fyddai’n rhoi mynediad rhwydd a diogel ac a fedrai o bosibl niweidio iechyd a chyfleuster defnyddwyr ffordd eraill yn groes i Bolisi MV1 a meini prawf (a) ac (e) Polisi DES1 Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.

 

Nid ydym yn ymwybodol fod y polisïau cynllunio hynny wedi newid ers y gwrthodiad hwnnw.

 

Ystyriwn fod yr adroddiad gan Lime Transport yn anghywir oherwydd:

 

1. Mae ganddo bennawd Mynedfa Amaethyddol a Gynigir ac mae’n cyfeirio at amaethyddiaeth. Preswylfa breifat ac nid fferm yw hyn. Nid oes cyfiawnhad dros roi ffordd breifat ar draws dau gae. Mae’r fynedfa ar gyfer symud ceffylau y preswylwyr eu hunain, ac nid yw cadw’r ceffylau hynny yn weithgaredd amaethyddol..

 

2. Ym mharagraff 1.1.3 mae’n dweud nad oes unrhyw newid defnydd ar y fferm ac y bydd nifer a math o symudiadau cerbyd a achosir gan y safle yn parhau heb newid. Felly, nid oes unrhyw effaith ar y rhwydwaith ffyrdd ehangach yn gysylltiedig gyda’r fynedfa ychwanegol hon..

 

Yn flaenorol, roedd mynediad drwy Lôn Blackbird Farm ac nid Old Road. Mae Old Road yn gul iawn gyda gall cyfyngedig i weld a gwrychoedd uchel, heb unrhyw leoedd pasio yn ôl i’r briffordd (gweler para 2.14 – mae:  lled lon cerbyd cyfyngedig wrth groesffordd Old Road/Bluebell Road). Mae eisoes yn beryglus ar gyfer modurwyr a cherddwyr fel ei gilydd.

 

Rydym yn siomedig nad yw Priffyrdd wedi cefnogi gwrthodiad Cyngor Sir Fynwy yn 2017 na fyddai’n rhoi mynediad rhwydd a diogel a gallai o bosibl niweidio ar ddiogelwch a chyfleuster defnyddwyr ffordd.

 

Ymhellach rydym yn anghytuno gyda’r Papur Gwerthuso Tirlun a Gweledol sy’n dweud na fedrid gwahaniaethu rhwng y trac arfaethedig ag ymddangosiad y cae. Nid yn unig y gellir gweld y trac fel y’i gosodwyd ar hyn o bryd ar unwaith oherwydd natur agored y tirlun ond hefyd bydd defnyddio blychau ceffyl dros y trac yn y gaeaf yn achosi olion sylweddol gan fod angen sylfaen mwy cadarn i’r ffordd yn nes ymlaen. Er gwaethaf y penderfyniad cynharach i wrthod, cafodd y ffordd yn awr ei gosod.  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cais DM/2018/00757 – Cynnig i newid defnydd hen reilffordd, a gaiff hefyd ei defnyddio ar hyn o bryd fel mynediad fferm, i drac fferm a thrac seiclo/llwybr troed defnydd cymysg. Bydd angen clirio peth tyfiant, deunydd wyneb a gosod wyneb llwybr a chodi ffens mewn rhannau i wahanu traffig fferm o seiclwyr/cerddwyr. Hen linell rheilffordd, Woodside, Brynbuga i dir i’r gorllewin o safle Coleg Gwent, Monkswood. pdf icon PDF 161 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn destun i’r 10 amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Mynychodd yr Aelod lleol dros Lanbadog y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

  • Mae potensial yn y cynnig ond mae rhai problemau.

 

  • Mae rhan o’r llwybr yn mynd ar hyd arglawdd a gallai fod problemau strwythurol yn ymwneud â phont.

 

  • Caiff y fynedfa beryglus ar draws yr A472 ei chydnabod a gallai mynd i’r afael â’r mater hwn fod o fudd i breswylwyr Woodside yng nghyswllt cyflymder traffig.

 

  • Mae’r llwybr yn croesi fferm waith gyda gyrr o 200 o wartheg a gaiff eu symud yn rheolaidd ar hyd ac ar draws y llwybr.

 

  • Mae angen i wyneb y trac gael ei adeiladu’n dda i sefyll lan i’w defnydd nhw a defnyddwyr eraill.

 

  • Mynegwyd pryder am fater defnyddwyr beiciau a cherddwyr yn dod i gysylltiad gyda gwartheg a pheiriannau fferm ar hyd y llwybr.

 

  • Mae’n llwybr hamdden.

 

  • Mynegwyd pryder am atebolrwydd pe byddai aelod o’r cyhoedd yn cael ei anafu ar ôl dod i gysylltiad gyda gwartheg/peiriannau fferm tra’n teithio ar hyd y llwybr.

 

  • Mae rhan olaf y llwybr ar draws caeau agored ger y ganolfan farchogaeth. Bydd ceffylau yn y cae o bryd i’w gilydd a mynegwyd pryder am aelodau o’r cyhoedd yn dod i gysylltiad â nhw. Mae hefyd bryder am y potensial i glwydi gael eu gadael ar agor yn galluogi da byw i adael y cae.

 

  • Byddai angen ystyried ffens ar draws y cae hwn i atal cyswllt rhwng da byw ac aelodau o’r cyhoedd.

 

  • Gallai mynd drwy’r ganolfan farchogaeth fod yn llwybr arall ar gyfer y fynedfa.

 

  • Mynegwyd consyrn y bydd adran o’r llwybr yn rhedeg yn agos at gartrefi lleol ac ystyriwyd bod hynny yn tresmasu ar y preswylwyr hyn. Dylid ystyried llwybr arall ar y sail hwn. Dylai’r budd dynol gael ei gymryd gymaint o ddifri â’r mater amgylcheddol gan yr effeithir ar amwynder preswyl.

 

  • Mynegwyd consyrn y bydd beicwyr modur yn gwaethygu lefelau s?n.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Mae ffermwyr lleol wedi mynegi pryder am y cynnig a sut y byddant yn ymdopi pan fydd y llwybr seiclo yn weithredol. Mae angen trafod gyda’r ffermwr tenant.

 

·         Hysbysodd Rheolwr Tîm Ardal Datblygu Rheoli y Pwyllgor fod mater rhwymedigaeth yn disgyn tu allan i’r broses Cynllunio. Byddai angen cyfeirio unrhyw bryderon a godid at y Rheolwr Prosiect ar gyfer y cais. Daw ymgysylltu gyda’r ffermwr a phreswylwyr lleol o fewn amodau a byddai’n briodol cynnal ymgynghoriad am y mannau lloches ac archwiliadau diogelwch, yn ogystal â’r cynigion sgrinio ger y ddau gymydog a ddynodwyd. Rhagwelid y gellid sicrhau datrysiad rhesymol drwy amodau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir G. Howard ac eiliodd y Cynghorydd Sir M. Feakins i gymeradwyo cais DM/2018/00757 gyda’r 10 amod a amlinellir yn yr adroddiad. Byddir yn gofyn i’r Rheolwr Prosiect gydlynu gyda’r ffermwyr tenant ar hyd y llwybr i helpu rhoi manylion y cynllun fel mae’n effeithio ar ddefnydd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cais DM/2019/02012 – Cynnig i ddatblygu 24 uned gofal ychwanegol (Defnydd Dosbarth C2), mynediad a maes parcio, tirlunio, trin ffiniau a dull o amgau. Tir i’r De o fwyty Brewers Fayre, Heol Iberis, Llan-ffwyst. pdf icon PDF 393 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd ystyriaeth i adroddiad y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo.

 

Rhoddwyd adroddiad ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar 6 Hydref 2020 gydag argymhelliad gan swyddogion i wrthod y datblygiad arfaethedig. Ni wnaeth Aelodau dderbyn yr argymhelliad hwn a gohiriwyd y cais i’w gymeradwyo yn destun i amodau. Cafodd yr amodau islaw eu cytuno yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 3 Tachwedd 2020.

 

Ers y penderfyniad hwn, gofynnodd yr ymgeisydd am ddiwygio amod rhif 13 i dynnu’r cyfyngiad fod y llety gofal ychwanegol i’w ddefnyddio yn llwyr yn gysylltiedig â chartref gofal stad Foxhunters. Mae hyn oherwydd bod y llety gofal ychwanegol a gynigir o fewn y cais hwn yn fath gwahanol o ddarpariaeth gofal ac yn hollol ar wahân i stadau Foxhunter. Mae’r gofal ychwanegol ar gyfer pobl gydag ystod eang o anghenion gofal ychwanegol o symudedd, llesgedd, anabledd corfforol, nam ar y golwg a’r clyw, MS a phroblemau eraill gyda chyfyngiad oedran o 55 neu drosodd.

 

O gofio am yr eglurhad hwn gan yr ymgeisydd, argymhellodd swyddogion ddiwygio amod rhif 13 i’r dilynol:

 

13        i) Bod yr unedau a gymeradwyir dan hyn yn cael eu defnyddio’n llwyr ar gyfer cartrefi gofal ychwanegol fewn Dosbarth D2 Gorchymyn Cynllunio Tref a Gwlad (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y’u diwygiwyd).

 

            ii) Caiff y llety gofal ychwanegol a gymeradwyir drwy hyn ei ddefnyddio gan bobl 55 oed neu h?n, a chaiff ei ddefnyddio’n llwyr ar gyfer llety gofal ychwanegol.

 

Rheswm: Er mwyn osgoi amheuaeth fel ag i ddefnydd wedi ei awdurdodi o unedau gofal agos.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais, cynigiodd y Cynghorydd Sir G. Howard ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Clarke i gymeradwyo’r mân newid yng ngeiriad amod rhif 13, sef:

 

13        i) Caiff yr unedau a gymeradwyir drwy hyn eu defnyddio’n llwyr ar gyfer cartrefi gofal ychwanegol o fewn Dosbarth C2 Gorchymyn Cynllunio Tref a Gwlad (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y’i diwygiwyd).

 

            ii) Caiff y llety gofal ychwanegol a gymeradwyir drwy hyn eu defnyddio gan bersonau 55 oed neu h?n, a chânt eu defnyddio’n llwyr ar gyfer llety gofal ychwanegol.

 

Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo  -           14

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Ymatal                                    -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r mân newid i eiriad amod rhif 13, sef:

 

13        i) Y caiff yr unedau a gymeradwyir drwy hyn eu defnyddio’n llwyr ar gyfer cartrefi gofal ychwanegol o fewn Dosbarth C2 Gorchymyn Cynllunio Tref a Gwlad (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y’i diwygiwyd).

 

            ii) Caiff y llety gofal ychwanegol a gymeradwywyd drwy hyn eu defnyddio gan bersonau 55 oed neu h?n, a chânt eu defnyddio yn llwyr ar gyfer llety gofal ychwanegol.

 

 

8.

Cais DM/2020/00703 – Adeiladu tŷ tair ystafell wely. Pwllmeyric House, Pwllmeurig, Cas-gwent. pdf icon PDF 163 KB

Cofnodion:

Roedd yr ymgeisydd wedi tynnu’r cais yn ôl cyn dechrau’r cyfarfod.

 

9.

Cais DM/2020/00968 – Codi ysgubor amaethyddol ar gyfer gwair a pheiriannau. Tir yn Llanvihangel Court, Devauden, Cas-gwent. pdf icon PDF 152 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo yn destun i’r pump amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Wrth nodi manylion y cais dynodwyd fod y to a gynigir ar hyn o bryd yn llen sment ffibr llwyd. Fodd bynnag, gellid ychwanegu amod am liw’r to.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir A. Webb ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Clarke i gymeradwyo cais DM/2020/00968 yn destun i’r pump amod a amlinellir yn yr adroddiad gydag amod ychwanegol bod lliw’r to yn cael ei gytuno cyn rhoi’r penderfyniad, gyda’r dewis am liw gwyrdd tywyll.

 

Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo          -    11

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Ymatal                         -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2020/00968 yn destun i’r pump amod a amlinellwyd yn yr adroddiad gydag amod ychwanegol y cytunir ar liw’r to cyn cyhoeddi’r penderfyniad, gyda’r dewis am liw gwyrdd tywyll.

 

 

10.

Cais DM/2020/01328 – Adeiladu 2 dŷ pâr 2 ystafell wely yng ngardd rhif 7 Heol Parc, Cil-y-coed. 73 Heol Parc, Cil-y-coed, NP26 4EL. pdf icon PDF 157 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad y cais a gyflwynwyd ar gyfer gwrthodiad am un rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Amlinellodd Aelod lleol Dewstow, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau dilynol:

 

·         Bydd y datblygiad mewnlenwi yn medru defnyddio’r tir yn effeithol a rhoi mynediad rhwydd i amwynderau presennol drwy gerdded, seiclo ac yn y blaen, gan ostwng yr angen i ddefnyddio cerbydau preifat.

 

·         Bydd yr anheddau yn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

 

·         Nid yw’r safle yn safle tir cefn.

 

·         Nid oedd yn ymarferol ymestyn y brif annedd i deras oherwydd byddai cael rhyng-gysylltiad ffisegol yn golygu problemau mynediad a chreu ar gyfer yr annedd arfaethedig bresennol drwy ale gyda hawliau cyfreithiol cysylltiedig perchnogaeth o’r gofod. Felly, dymchwel y t? allan a’r cynllun i ffurfio llwybr a a gaiff eu rannu ar yr ochr honno.

 

·         Mae’r cynnig yn cydymffurfio gyda’r Canllawiau Cynllunio Atodol yn ymwneud â datblygiad mewnlenwi graddfa fach gyda llai na 10 annedd fel y’u diffinnir ym mholisïau H1, H2, H3 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

·         Mae’r nodweddion tirlun presennol a golygfeydd ar draws y safle yn cefnogi hyn ac yn gydnaws gyda’r ardal o amgylch.

 

·         Mae’r tir yn ddigon mawr ar gyfer mwy o dai a hefyd gynllunio ar y safle. Bydd y gofod gardd yn debyg i dai presennol yn yr ardal.

 

·         Bydd yr anheddau arfaethedig yn manteisio o ofod gardd preifat ar gyfer defnydd hamdden y preswylwyr.

 

·         Bydd y datblygiad arfaethedig yn gydnaws gyda llinell adeiladu anheddau eraill.

 

·         Bydd y deunyddiau a ddefnyddir yn gydnaws gyda’r anheddau gwreiddiol a chyfagos. Bydd y to yn debyg i doau anheddau presennol ac yn ategu’r golwg stryd.

 

·         Ni fydd safle’r tai newydd yn effeithio ar breifatrwydd cymdogion gan na fydd unrhyw ffenestri ar y naill dalcen na’r llall

 

·         Mae Canllawiau Cynllunio Atodol yn awgrymu ei bod yn ddymunol cael gofod o 50 metr rhwng prif weddau Bydd gofod o 13 metr yn yr achos hwn. Mae ffactor lliniaru ar gyfer y gofod 13 metr gan fod garej fawr ar wahân gerllaw fydd yn cysgodi agweddau a allai ymyrryd.

 

·         Mae nifer fawr o enghreifftiau ar draws Cil-y-coed lle cafodd y gofod 50 metr a ddymunir ei lacio, gyda’r pellter yn bum metr mewn rhai amgylchiadau.

 

·         Mae’r cynnig yn ateb holl ofynion y Canllawiau Cynllunio Atodol.

 

·         Mae’r Aelod lleol yn cefnogi cymeradwyo y cais a gofynnodd i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried yr amgylchiadau lliniaru yng nghyswllt y gofod 13 metr ac yn ystyried cymeradwyo’r cais.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Hysbysodd Rheolwr Tîm Ardal Rheoli Datblygu y Pwyllgor nad yw’r anheddau arfaethedig yn unedau fforddiadwy. Mae’r anheddau yn unedau marchnad.

 

·         Mae’r anheddau yn anymarferol. Nid oes digon o le y naill ochr na’r llall o bob annedd. Byddai’r safle yn fwy addas i gael dim ond un annedd ar y safle.

 

·         Byddai ceir wedi parcio yn dominyddu blaen y tai.

 

·         Byddai cymeradwyo’r cais yn arwain at orddatblygiad y safle.

 

·         Cytunodd rhai aelodau gyda’r farn a fynegwyd gan yr Aelod lleol gan yr  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Cais DM/2020/01517 – Trosi cyfran ecwiti un o’r unedau fforddiadwy yn gyfraniad ariannol. Swan Meadow, Heol Trefynwy, Y Fenni, NP7 5HF. pdf icon PDF 29 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo gyda diwygiad i’r Weithred Amrywiad yn y Cytundeb Adran 106 gwreiddiol.

 

Ym mis Mehefin 2014 cymeradwyodd y Pwyllgor Cynllunio ganiatâd cynllunio DC/2013/00304 ar gyfer adeiladu 38 o fflatiau ymddeol. Roedd cymeradwyaeth yn destun Cytundeb Adran 106 am gyfraniad ariannol i’w gwneud yn ofynnol fod dwy o’r unedau yn fflatiau “cyfran aur” lle gallai’r fflatiau gael eu cynnig naill ai i berson oedrannus neu berson a enwebwyd gan y Cyngor fel bod yn methu diwallu eu hanghenion tai ar y farchnad agored. Diffinnir “person oedrannus” fel rhywun dros 60 a/neu gymar person o’r fath dros 55 oed. Cafodd un o’r unedau eu gwerthu fel hynny gyda’r Cyngor yn awdurdodi’r gwerthiant ar werth y farchnad llai gostyngiad o 30%. Ar ôl cael gostyngiad o 30%, mae angen i’r perchennog gytuno ar gyfamod i gydymffurfio gyda’r drefn ailwerthu. Fodd bynnag, ceisiodd Adran Tai Cyngor Sir Fynwy werthu’r ail eiddo i “Berson Dynodedig” ond bu’n aflwyddiannus. Felly cynigir diwygio Cytundeb Cyfreithiol A106 i roi cyfraniad ariannol i’w werthu ar gyfer darparu tai fforddiadwy mewn man arall yn yr ardal. Mae gwerth presennol y farchnad yn £229,950 gan wneud y cyfranddaliad 30% yn werth £68,985.

 

Dynodwyd y pwyntiau dilynol wrth nodi manylion y cais:

 

·         Cwestiynwyd gwerth y fflat o £229,950. Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Cynllunio fod gwerth yr eiddo yn dod gan ddau asiant lleol. Cafodd yr eiddo ei farchnata fel annedd dwy ystafell wely ar y pris cyfran aur. Aiff y cyfraniad ariannol a geir yn ôl i’r stoc tai fforddiadwy.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir M. Powell ac eiliodd y Cynghorydd Sir P. Clarke i gymeradwyo cais DM/2020/01517 gyda diwygiad i’r Weithreded Amrywiad i’r Cytundeb Adran 106 gwreiddiol.

 

Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo    -          11

Yn erbyn cymeradwyo -         3

Ymatal                        -           0

 

Cariwyd y cynnig

Penderfynwyd cymeradwyo cais  DM/2020/01517 gyda diwygiad i’r Weithred Amrywiad i’r Cytundeb Adran 106 gwreiddiol.

 

12.

ER GWYBODAETH – Yr Arolygiaeth Cynllunio – Penderfyniadau Apeliadau a dderbyniwyd:

12a

Pwllmeyric Lodge, Badgers Meadow, Pwllmeurig. pdf icon PDF 126 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad yr Arolygiaeth Cynllunio sy’n ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Pwllmeyric Lodge, Badgers Meadow, Pwllmeyric ar 19 Hydref 2020.

 

Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.

 

12b

Worthybrook Farm, Wonastow, Trefynwy. pdf icon PDF 145 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad gan yr Arolygiaeth Cynllunio sy’n ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Worthybrook Farm, Wonastow, Trefynwy ar 19 Hydref 2020.

 

Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.

 

 

12c

Worthybrook Farm, Wonastow, Trefynwy – Penderfyniad ar Gostau. pdf icon PDF 126 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad yr Arolygiaeth Cynllunio sy’n ymwneud â chais am gostau yng nghyswllt Apêl Cyf.: APP/E6840/A/20/3257266. Cyfeiriad safle: Worthybrook Farm, Wonastow, Trefynwy.

 

Nodwyd y gwrthodwyd y cais am ddyfarnu costau.