Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 4ydd Gorffennaf, 2017 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Hysbysodd Y Cynghorydd Sir M. Feakins y Pwyllgor ei fod wedi trafod ceisiadau DC/2017/00159 a DC/2017/00188 mewn cyfarfod o Gyngor Tref Trefynwy cyn iddo gael ei ethol fel Cynghorydd Sir ac felly gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan na phleidleisio ar y ceisiadau.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 127 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 6ed Mehefin 2017 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

3.

CAIS DC/2016/00537 - DILEU AMODAU 10, 11 A 12 (CYFYNGU GOSODIAD GWYLIAU) CANIATÂD CYNLLUNIO DC/2014/00441. BYTHYNNOD HAZEL AC OAK, FFERM WERNDDU, HEOL ROSS, LLANDEILO BERTHOLAU, Y FENNI. pdf icon PDF 157 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. 

 

Roedd Aelodau wedi codi pryderon yn yr archwiliad safle ynghylch y diffyg gwybodaeth farchnata oedd ar gael mewn perthynas â’r cais hwn a bod angen ymarfer marchnata mwy cynhwysfawr i asesu a oedd galw am lety wedi’i osod yn ystod gwyliau. 

 

Cynigiwyd, felly, gan Y Cynghorydd Sir M. Feakins ac eiliwyd gan Y Cynghorydd Sir R.J. Higginson i ni fod o blaid gohirio cais DC/2016/00537 I gyfarfod yn y dyfodol i ganiatáu i’r Swyddogion ofyn am ymarfer marchnata mwy cynhwysfawr gyda’r bwriad o asesu a oes galw am lety wedi’i osod yn ystod gwyliau.

 .

Wedi pleidleisio, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid gohirio             -           15

Yn erbyn gohirio      -  0

Atal pleidlais                -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom i ni fod o blaid gohirio cais DC/2016/00537 i gyfarfod yn y dyfodol i ganiatáu i’r Swyddogion ofyn am ymarfer marchnata mwy cynhwysfawr gyda’r bwriad o asesu a oes galw am lety wedi’i osod yn ystod gwyliau.

 

4.

CAIS C/2017/00159 - DWY ANNEDD AR WAHÂN A LÔN MYNEDIAD YN YMESTYN Y LÔN BRESENNOL. CAE ELGA, HEOL HIGHFIELD, OSBASTON, TREFYNWY, NP25 3HR. pdf icon PDF 110 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 mewn perthynas â chyfraniad at dai fforddiadwy.

 

Amlinellodd yr Aelod Lleol dros Dixton gydag Osbaston, a fynychai’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol:

 

Llifogydd a Draeniad 

 

·         Mae’r ardal mewn perygl o orlifoedd sydyn, ynghyd â gorlifo yn y gaeaf o ganlyniad i’r pridd trwm cleiog a goledd y llethr.

 

·         Mae gan yr Aelod Lleol brofiad personol o orlifoedd sydyn.

 

·         O blith gwrthwynebwyr Heol Highfield, dim ond un gwrthwynebydd sydd yn uwch i fyny na Chae Elga, gyda phum gwrthwynebydd islaw’r eiddo. Mae pob un o’r gwrthwynebwyr hyn wedi crybwyll y draenio a’r llifogydd.

 

·         Ni wrthwynebodd yr anheddau ar Heol Agincourt, sy’n edrych dros y safle hwn, y cais.

 

·         Efallai na allai system ddraenio gynaliadwy (SUDS) ymdopi ag effeithiau gorlif haf sydyn. 

 

·         Mae gan y tai modern sy’n ffinio â’r safle broblemau draenio cyfredol.

 

·         Efallai bod angen arolygu’r pridd cyn cymeradwyo’r cais i asesu hyfywedd SUDS.

 

Carthion

 

·         Mae preswylwyr lleol wedi hysbysu’r Aelod Lleol fod pibell garthion sy’n rhedeg dan Heol Highfield yn is na’r safonau mabwysiadu, a wrthododd D?r Cymru ei mabwysiadu’n wreiddiol, ond sydd wedi’i mabwysiadu’n ddiweddarach. 

 

·         Gan mai tanc carthion sydd yng Nghae Elga, a’r tai newydd arfaethedig yn is na lefel yr heol, mynegwyd pryder efallai na allai’r system garthion bresennol allu ymdopi â’r tair annedd newydd ynghlwm wrthi. 

 

·         Mae’r tanc carthion wedi torri yn y gorffennol gan beri problemau i nifer o anheddau, am gyfnod o amser.

 

·         Byddai angen system bwmpio ar gyfer yr anheddau newydd. Gallai methiant mecanyddol posib yn y dyfodol arwain at ryddhau carthion fyddai’n effeithio ar anheddau lleol.

 

Graddfa’r Datblygiad

 

·         Nid yw preswylwyr lleol yn ffafrio graddfa arfaethedig y datblygiad.

 

·         Symud coed, agosatrwydd lleiniau o bersbectif parcio, symud swmp priodol o ofod amwynder ar gyfer adeilad ar raddfa Cae Elga.  Byddai preswylwyr yn ei chael yn fwy derbyniol petai’r ymgeisydd yn dychwelyd â chais am un annedd yn hytrach na dwy annedd. 

 

Mynychodd Ms. K. Potts, yn cynrychioli gwrthwynebwyr i’r cais, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae Heol Highfield yn serth, yn gul a heb balmant.

 

·         Mae byw’n iach yn cymell cerdded.

 

·         Mae rhieni â phlant ifanc a choetsis yn cerdded i’r ysgol gynradd leol, mae plant h?n yn cerdded i’r tair ysgol uwchradd ac mae pobl oedrannus yn cerdded i’r safle bws lleol, yn cadw’n heini er mwyn helpu i leihau llygredd traffig drwy beidio â defnyddio cerbydau. 

 

·         Mae’r lleoliad eisoes yn beryglus i gerddwyr, yn enwedig ar oriau brig amserau ysgol a gwaith.

 

·         Mae traffig sylweddol yn teithio lan a lawr y rhiw, yn aml yn teithio ar gyflymder gormodol ar yr amserau brig hyn.

 

·         Bydd nifer y symudiadau traffig ychwanegol a gynhyrchir yn ddyddiol gan y lleiniau parcio newydd a’r nifer o gerbydau ynghlwm wrth ddatblygiad y safle yn gwaethygu’r posibilrwydd o berygl.

 

·         Bydd gorddatblygu’r safle’n peryglu  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

CAIS DC/2017/00188 - DWY ANNEDD DDEULAWR AR WAHÂN YNG NGARDD GEFN ROSEBROK. ROSEBROOK, WATERY LANE, TREFYNWY, NP25 3AT. pdf icon PDF 102 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar yr wyth amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar yr amod ychwanegol, fel yr amlinellwyd mewn gohebiaeth hwyr ynghylch amddiffyn coed. Hefyd, yn amodol ar gyfraniad tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy oddi-ar-y-safle drwy gyfrwng Cytundeb Adran 106.

.

Wrth nodi manylion y cais, cynigiwyd gan Y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan Y Cynghorydd Sir R. J. Higginson fod cais DC/2017/00188 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr wyth amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar amod ychwanegol, fel yr amlinellwyd mewn gohebiaeth hwyr ynghylch amddiffyn y coed. Hefyd, yn amodol ar gyfraniad tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy drwy gyfrwng Cytundeb Adran 106. 

 

Wedi pleidleisio, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo -           11

Yn erbyn cymeradwyo        -  0

Atal pleidlais                           -            2

 

Cariwyd y cynnig. 

 

Penderfynasom fod cais DC/2017/00188 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr wyth amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar amod ychwanegol, fel yr amlinellwyd mewn gohebiaeth hwyr ynghylch amddiffyn coed. Hefyd, yn amodol ar gyfraniad tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy oddi-ar-y-safle drwy gyfrwng Cytundeb Adran 106.

 

6.

CAIS DC/2017/00257 - CADW BLOC STABAL UN LLAWR GYDA CHLADIN COED A DAU GYNHWYSYDD YN SEFYLL AR BEN EU HUNAIN; CLWYDI DUR A FFENSIO NEWYDD; ADEILADU DAU STABAL NEWYDD. BLACKWALL STUD, STOKE BARN, MAGWYR. pdf icon PDF 85 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y pedwar amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wrth nodi manyldeb y cais, ystyriwyd y dylai amod 3 gael ei ddiwygio i atal y cyfeiriad at y clwydi’n cael eu symud nôl bum metr, fel y maent eisoes. Dylai Amod 3 gael ei ddiwygio i sicrhau bod y clwydi’n cael eu paentio’n wyrdd tywyll o fewn tri mis o ddyddiad y caniatâd, petai’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais. 

 

Mynegwyd pryder ynghylch materion iechyd a diogelwch mewn perthynas â’r clwydi ‘pigog’. Hysbyswyd y Pwyllgor gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Swyddog Monitro nad oedd hon yn ystyriaeth gynllunio.  Fodd bynnag, roedd yn fater diogelwch y dylid mynd i’r afael ag ef gan yr ymgeisydd.

 

Cynigiwyd, felly, gan Y Cynghorydd Sir R.J. Higginson ac eiliwyd gan Y Cynghorydd Sir P. Murphy bod cais DC/2017/00257 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pedwar amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac y dylai amod 3 gael ei ddiwygio i atal y cyfeiriad at y clwydi’n cael eu symud nôl bum metr, fel y maent eisoes. Dylai Amod 3 gael ei ddiwygio hefyd i sicrhau bod y clwydi’n cael eu paentio’n wyrdd tywyll o fewn tri mis o ddyddiad y caniatâd.

 

Wedi pleidleisio, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo -           13

Yn erbyn cymeradwyo        -  0

Atal pleidlais                           -            1

 

Cariwyd y cynnig. 

 

Penderfynasom fod cais DC/2017/00257 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pedwar amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac y byddai  amod 3 yn cael ei ddiwygio i atal y cyfeiriad at y clwydi’n cael eu symud nôl bum metr, fel y maent eisoes. Byddai Amod 3 yn cael ei ddiwygio hefyd i sicrhau bod y clwydi’n cael eu paentio’n wyrdd tywyll o fewn tri mis o ddyddiad y caniatâd.

 

7.

CAIS DC/2017/00444 - CYNNIG I DROSI YSGUBORIAU AMAETHYDDOL SEGUR I 2 ANNEDD. FFERM NEW HOUSE, FELINFACH, BRYNBUGA. pdf icon PDF 249 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar yr wyth amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar ddatrys yr amodau lliniaru ystlumod gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Swyddog Ecoleg y Cyngor Sir. Hefyd, yn amodol ar lwyddo i gael cyllid tuag at Gytundeb Adran 106 ar gyfer tai fforddiadwy.  

 

Wedi ystyried adroddiad y cais, cynigiwyd gan Y Cynghorydd Sir A. Davies ac eiliwyd gan Y Cynghorydd Sir P. Murphy bod cais DC/2017/00444 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr wyth amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar ddatrys yr amodau lliniaru ystlumod gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Swyddog Ecoleg y Cyngor Sir. Hefyd, yn amodol ar gyfraniad tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy drwy gyfrwng    .

Cytundeb Adran 106.

 

Wedi pleidleisio, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo -           13

Yn erbyn cymeradwyo        -  0

Atal pleidlais                           -            1

 

Cariwyd y cynnig. 

 

Penderfynasom fod cais DC/2017/00444 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr wyth amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar ddatrys yr amodau lliniaru ystlumod gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Swyddog Ecoleg y Cyngor Sir. Hefyd, yn amodol ar gyfraniad tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy drwy gyfrwng Cytundeb Adran 106.

 

 

8.

Penderfyniad apêl  – White House, Gwehelog pdf icon PDF 151 KB

Cofnodion:

Derbyniasom dderbyn adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 11eg Mai 2017. Safle: White House, Heol Pant y Rheos, Gwehelog, Trefynwy.

 

Caniatawyd yr apêl a rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer adeilad sydd yn bodoli eisoes (ysgubor geifr) ynghlwm wrth d?-allan yn White House, Heol Pant y Rheos, Gwehelog, Trefynwy, yn unol â thelerau’r cais, Cyf. DC/2016/01221, dyddiedig 21 Hydref 2016, yn amodol ar yr amod canlynol:

 

1) Bydd y datblygiad yn cael ei gyflawni yn unol â’r cynlluniau a’r dogfennau a gymeradwywyd: 1238(2)/PLN/01 (Ysgubor Geifr fel y’i Hadeiladwyd); 1238(2)/PLN/02 (Cynllun Safle Ysgubor Geifr).

 

9.

Penderfyniad apêl - Tŵr Caxton, Rockfield. pdf icon PDF 172 KB

Cofnodion:

Derbyniasom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a gyfeiriai at benderfyniad apêl a wnaethpwyd yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 11eg Mai 2017. Safle: T?r Caxton, Fferm Newbolds, Rockfield, Trefynwy.

 

Caniatawyd yr apêl a rhoddwyd caniatâd cynllunio parthed ‘Diwygiad ar gyfer caniatâd cynllunio presennol DC/2013/00623. Adsefydlu ac estyn cyn-borthdy hela i ddarparu annedd 1 i 3 ystafell wely i gynnwys adeiladu

t?-allan yn Nh?r Caxton, Fferm Newbolds, Rockfield, Trefynwy. Yn dilyn gwrthod y cais am ddiwygiad ansylweddol yn Nh?r Caxton, Fferm Newbolds, Rockfield, Trefynwy yn unol â thelerau’r cais, Cyf. DC/2016/01131, dyddiedig 27ain Medi 2016, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr atodlen i’r llythyr penderfyniad.