Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 6ed Mehefin, 2017 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Etholiad Cadeirydd.

Cofnodion:

Apwyntiwyd Y Cynghorydd Sir R. Edwards fel Cadeirydd.

 

2.

Apwyntiad Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Apwyntiwyd Y Cynghorydd Sir P.R. Clarke fel Is-gadeirydd.

3.

Apwyntio Llefarydd yr Wrthblaid

Cofnodion:

Apwyntiwyd Y Cynghorydd Sir R.G. Harris fel Llefarydd yr Wrthblaid.

4.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Hysbysodd Y Cynghorydd Sir M. Feakins y Pwyllgor ei fod wedi trafod cais  DC/2016/01478 mewn cyfarfod o Gyngor Tref Trefynwy ac felly fe adawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio.

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 115 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 25ain Ebrill 2017 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

6.

CAIS DC/2017/00453 - NEWID DEFNYDD O A1/A3 DEFNYDD CYMYSG I DDEFNYDD A3 LLAWN FEL SIOP TECAWE YN GWEITHREDU 7 DIWRNOD YR WYTHNOS TAN 11PM, 1 THE BARTON, SGWÂR AGINCOURT, TREFYNWY, NP25 3BT. pdf icon PDF 117 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y naw amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Mynychodd Mr. D. Cummings, Cadeirydd Siambr Fasnach Rhanbarth Trefynwy y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol yn gefnogaeth i’r cais:

 

·         Mae’r ymgeisydd wedi rhedeg yn llwyddiannus y Bwyty Indian Summer a thecawe yn Nhrefynwy am gyfnod o 12 mlynedd.

 

·         Yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf cafodd yr ymgeisydd ei gyflogi fel Swyddog Datblygu Cymunedol gan Gyngor ar wahân i Gyngor Sir Fynwy ac mae nawr yn dymuno dychwelyd i’r dref a rhedeg tecawe.

 

·         Mae nifer o lythyron yn cefnogi’r cais a hefyd nifer o lythyron yn gwrthwynebu’r cais gan breswylwyr, yn bennaf ynghylch materion fel synau ac arogleuon. 

 

·         Mae’r Swyddog Achos wedi cydnabod y materion hyn ac mae wedi’i wneud yn amod o’r Adran Gynllunio’n argymell y cais hwn i’w gymeradwyo ac roedd angen mwy o waith ynghylch materion y ffan echdynnu a’r hidlyddion.

 

·         Mae’r lleoliad arfaethedig yn agos at nifer o fwytai eraill a thafarndai gyda thrwyddedau i weithredu tan 11.00pm,gydag un tafarndy mawr yn gweithredu tan 1.00am.

 

·         Mae lleoliad y tecawe arfaethedig y tu allan i ffryntiadau siopa cynradd, lle rydym yn ymgeisio’n gyfrifol i amddiffyn newid defnydd o fanwerthu A1 i A3.

 

·         Mae’r ymgeisydd yn ceisio cynnig amrywiaeth ar thema lwyddiannus.

 

·         Gobeithid y byddai’r Pwyllgor Cynllunio’n edrych yn ffafriol ar y cais hwn wrth benderfynu’i gasgliadau.

 

Wedi ystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, mynegodd mwyafrif y Pwyllgor Cynllunio’u cefnogaeth i’r cais. Roedd y lleoliad yn addas, hwn fydd yr unig decawe o’i fath o fewn y dref a bydd mynediad i gerbydau’n hawdd, gan greu braidd dim rhwystrau.

 

Cyfeiriodd un aelod at yr oriau agor arfaethedig fel y mynegwyd yn yr amodau i adroddiad y cais a gofynnodd, ar ddydd Sul, a allai’r adeilad gau’n gynt na 10.30pm, gan fod dydd Sul yn ddiwrnod gorffwys.

 

Cynigiwyd, felly, gan Y Cynghorydd Sir R.G. Harris ac eiliwyd gan Y Cynghorydd Sir P. Murphy bod cais DC/2017/00453 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y naw amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo  -           13

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Atal pleidlais                           -            0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2017/00453 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y naw amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

7.

CAIS DC/2008/00723 - TROSI ADEILADAU CYN 1700 YN 23 RHANDY, DYMCHWEL STRWYTHURAU AR ÔL 1900 AC ADEILADU 31 RHANDY NEWYDD, TŶ TROY, LLANFIHANGEL TRODDI, TREFYNWY, NP25 4HX. pdf icon PDF 254 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a gyflwynwyd i’w wrthod yn amodol ar y chwe rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ac y dylid cyflwyno Hysbysiad Gwaith Brys Adran 54 dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) mewn perthynas â thrwsio’r to a phropio’r nenfydau plastr sydd wedi’u haddurno’n drwm yn yr eiddo.   

 

Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Roedd llythyr wedi’i anfon at yr ymgeisydd yng Ngorffennaf 2016 yn amlinellu’r problemau a’r hyn oedd yn ofynnol parthed yr adeilad er mwyn edrych yn ffafriol ar y cais gan y Pwyllgor Cynllunio.

 

·         Mynegodd yr Aelodau’u cefnogaeth i argymhelliad y Swyddog i ni fod o blaid gwrthod y cais ond ein bod yn barod i ganiatáu estyniad i gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 1af Awst 2017.  Os na fydd gwybodaeth ddigonol wedi’i derbyn erbyn y terfyn amser hwn yna bydd y Pwyllgor yn ystyried y cais gydag argymhelliad i’w wrthod.

 

·         Roedd Aelodau’n gytûn bod cadwraeth yr adeilad yn fater o flaenoriaeth.

 

·         Mynegodd yr Aelodau’u cefnogaeth dros gyflwyno hysbysiad gwaith brys.

 

·         Mewn ymateb i gais bod estyll yn cael eu gosod ar rai o’r ffenestri yn gymorth i gadw’r adeilad, nodwyd bod Swyddogion yn edrych ar weithio gyda’r ymgeisydd i’w annog i ymgymryd â’r gwaith  a oedd yn angenrheidiol cyn mynd ati i osod estyll ar y ffenestri.  Mae’n bosib y gellid cyflwyno dau hysbysiad gydag un hysbysiad yn cyfeirio at y to a’r nenfydau plastr ac os bydd yn angenrheidiol, gellid cyflwyno hysbysiad  ychwanegol parthed gosod estyll ar y ffenestri. Gallai fod angen cynnal manyleb i wirio ffenestr wrth ffenestr.

 

·         Nodwyd bod yr ymgeisydd yn awchus i weithio gyda Swyddogion. Fodd bynnag, os na dderbynnid y wybodaeth erbyn 31aim Gorffennaf  2017, gellid cyflwyno pwerau dirprwyedig i’r Swyddogion wneud y  penderfyniad os na dderbynnir y wybodaeth dechnegol ddisgwyliedig erbyn y dyddiad hwn. 

 

Cynigiwyd  gan Y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan Y Cynghorydd Sir D. Dovey bod cais DC/2008/00723 yn cael ei wrthod yn amodol ar y chwe rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac y rhoddid pwerau dirprwyedig i’r Swyddogion wneud y  penderfyniad os na dderbynnir y wybodaeth dechnegol ddisgwyliedig erbyn 31ain Gorffennaf  2017.  Hefyd, bod yr awdurdod yn cael caniatâd i gyflwyno’r Hysbysiad Gwaith Brys.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid y cynnig          -           14

Yn erbyn y cynnig       -           0

Atal pleidlais                -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2008/00723 yn cael ei wrthod yn amodol ar y chwe rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a bod pwerau dirprwyedig yn cael eu rhoddi i’r Swyddogion i wneud y penderfyniad os na dderbynnir y wybodaeth dechnegol ddisgwyliedig erbyn 31ain Gorffennaf 2017. Hefyd bod caniatâd yn cael ei roddi i’r Awdurdod gyflwyno Hysbysiad Gwaith Brys.

 

8.

CAIS DC/2015/00095 - DATBLYGIAD PRESWYL GYDA FFYRDD CYSYLLTIEDIG, DRAENIAD AC YN Y BLAEN, FFERM IFTON MANOR, CHESTNUT DRIVE, ROGIET, CIL-Y-COED  NP26 3TH. pdf icon PDF 208 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a gyflwynwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar yr amodau, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac mewn gohebiaeth hwyr ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i neilltuo dwy uned o dai fforddiadwy.

 

Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Roedd y safle’n lleoliad delfrydol ar gyfer y cais hwn.

 

·         Roedd y lluniadau ar raddfa fechan heb fanylion ynghylch y toeon. Petai’r toeon ar y tai newydd yn debyg i doeon y tai sydd yno eisoes yna byddai hyn yn briodol. Gellid darparu manylion ychwanegol. 

 

·         Byddai’r ffenestri i’r tai yr un fath yn y blaen a’r cefn.

 

·         Bydd yr heolydd ar y datblygiad wedi’u gwneud i fyny i safonau lle gellid eu mabwysiadu ond bydd i fyny i’r datblygwr drosglwyddo’r rhain ymlaen i’r Awdurdod eu mabwysiadu. Mae’r rhan fwyaf o ddatblygwyr yn gwneud hyn. 

 

·         Bydd wal gerrig at ymyl ffin y datblygiad.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch amod 7 mewn perthynas â’r wal ffin, nodwyd y gallai’r geiriad gael ei newid.

 

·         Nodwyd bod lle ar y safle i ddwy uned o dai fforddiadwy’n unig.  Fe’u gwiriwyd gan y gymdeithas dai ac maent yn cwrdd â Gofynion Ansawdd Datblygu (GAD).

 

Cynigiwyd gan Y Cynghorydd Sir D. Evans ac eiliwyd gan Y Cynghorydd Sir R.J. Higginson bod cais DC/2015/00095 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a bod amod ychwanegol /er gwybodaeth yn cael ei ychwanegu, fel yr amlinellwyd mewn gohebiaeth hwyr. Amod 7 i’w ddiwygio i gynnwys cyfeiriad at drwsio’r wal gerrig ar y ffin ddeheuol ag anheddau sydd yno eisoes. Hefyd, bod Cytundeb Adran 106 yn cael ei ddarparu i neilltuo dwy uned o dai fforddiadwy. 

.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid y cynnig          -           14

Yn erbyn y cynnig       -           0

Atal pleidlais                -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2015/00095 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a bod amod ychwanegol /er gwybodaeth yn cael ei ychwanegu, fel yr amlinellwyd mewn gohebiaeth hwyr. Amod 7 i’w ddiwygio i gynnwys cyfeiriad at drwsio’r wal gerrig ar y ffin ddeheuol ag anheddau sydd yno eisoes. Hefyd, bod Cytundeb Adran 106 yn cael ei ddarparu i neilltuo dwy uned o dai fforddiadwy.

.

 

9.

CAIS DC/2015/00767 - CADW A CHWBLHAU SWYDDFA FEDDYGOL NEWYDD, SAFLE CYN- DOILEDAU CYHOEDDUS, TYNDYRN. pdf icon PDF 188 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a gyflwynwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y chwe amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. 

 

Mynychodd yr Aelod Lleol dros St. Arvans, hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd a mynegodd ei chefnogaeth i’r cais.

 

Wedi ystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod Lleol, cynigiwyd gan Y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan Y Cynghorydd Sir A. Webb bod cais DC/2015/00767 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar chwe amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo  -           14

Yn erbyn cymeradwyol          -           0

Atal pleidlais                           -            0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2015/00767 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar chwe amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

10.

CAIS DC/2016/00883 - DATBLYGIAD MEISTR CYNLLUNIEDIG 13.8 HECTAR O DIR AR GYFER DEFNYDD PRESWYL A DEFNYDD CYFLOGAETH; HYD AT 266 UNED BRESWYL ARFAETHEDIG A THUA 5575 METR SGWÂR O OFOD LLAWR B1, FFERM ROCKFIELD, GWNDY, NP26 3EL. pdf icon PDF 422 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a gyflwynwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar yr amodau, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn yr ohebiaeth hwyr. Hefyd yn amodol ar gyfraniad cynllunio  lle dynodir penawdau’r telerau yn yr adroddiad a chytuno Cytundeb Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

 

Mynychodd yr Aelod Lleol dros The Elms y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae Magwyr a Gwndy wedi cael eu datblygu dros y blynyddoedd ond ni ddatblygwyd y seilwaith ar yr un raddfa.

 

·         Heb ganolfan gymunedol a chysylltiadau trafnidiaeth gwael, mae amwynderau’n ddiffygiol yn y gymuned ac fe’i llethir gan alwadau traffig.

 

·         Mynegwyd pryder na fydd y gymuned yn gallu ymdopi â’r boblogaeth gynyddol o ddatblygiad arfaethedig Rockfield.

 

·         Petai’r Pwyllgor Cynllunio’n ystyried cymeradwyo’r cais, gofynnodd yr Aelod Lleol i’r Pwyllgor geisio atebion oddi wrth y datblygwr ynghylch y materion canlynol:

 

-       Pryderon ynghylch y gyffordd T sy’n ymuno â’r B4245.

 

-       Traffig yn goryrru yw prif bryder y preswylwyr lleol.

 

-       Bydd 266 o dai ychwanegol yn creu 400+ o gerbydau.

i

-       Gallai cerbydau’n goryrru drwy heolydd Gwndy greu perygl posib i’r cyhoedd.

 

-       Mae angen sefydlu mesurau cywir i leihau goryrru gormodol.

 

-       Mewn perthynas â’r ardal o ddiwydiannau ysgafn B1 yng nghefn y datblygiad, a osodir unrhyw gyfyngiadau pwysau ar Dancing Hill neu drwy’r datblygiad?

 

-       Mynegwyd pryder mewn perthynas â’r perygl a osodir gan gerbydau dosbarthu nwyddau yn teithio drwy’r ardaloedd preswyl hyn.

 

-       Derbyniwyd llawer o gwynion oddi wrth breswylwyr Gwndy ynghylch parcio ar Pennyfarthing Lane o ganlyniad i dagfa pan adewir neu pan gesglir disgyblion o gwmpas Ysgol Gwndy.

 

-       Mae angen parcio oddi ar y ffordd i liniaru’r angen i barcio ar y lôn a fydd yn sicr o waethygu o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig. Gofynnodd yr Aelod Lleol i’r mater hwn gael ei adolygu.

 

-       Mae’r Aelod Lleol yn croesawu cyllid Adran 106 ar gyfer safle’r Tri Chae.

 

-       Mae angen gwella Gorsaf Magwyr ynghyd ê chael gwasanaethau bysiau gwell..

 

-       Dylid ailsefydlu Gorsaf Magwyr..

 

-       Byddai llwybr troed Magwyr a Gwndy i Rogiet yn elwa o gael llwybr beicio.

 

-       Mae angen y cyfraniadau a restrir yn fuan iawn cyn i’r datblygiad gael ei gyfanheddu er mwyn i’r prosiectau a restrir ddechrau dod â gwelliant i’r preswylwyr cyfredol a newydd.

 

-       Mae angen i breswylwyr gyfranogi yn y cynllunio ac yn nyluniad y datblygiad hwn. 

 

Mewn ymateb i’r materion a godwyd gan yr ELOD Lleol, nodwyd:

 

·         Parthed y terfyn amser i gyllid Adran 106, codwyd y materion yn gysylltiedig â’r Tri Chae mewn gohebiaeth hwyr. Mae hwn yn cyfeirio at yr hen ganolfan gymuned arfaethedig. Felly, mae’r Swyddogion yn argymell bod y cyfraniad o  £800,000 yn mynd tuag at yr un prosiect hwn. Hefyd, cynhaliwyd trafodaethau gyda’r ymgeisydd parthed y terfynau amser ar gyfer darparu’r cyllid hwn.

 

·         Mae cyfraniad y Tri Chae yn debygol o ddod o Gyfnodau A & D (Cyfnod 1).

 

·         Mae cyfraniad y Tri Chae yn debygol o ddod o Gyfnodau A & D  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

CAIS DC/2016/01478 - DYMCHWEL GAREJ GYSYLLTIEDIG BRESENNOL AC ADEILADU BYNGALO NEWYDD YNG NGARDD GEFN, 78 HEOL HENFFORDD, TREFYNWY, NP25 3HJ. pdf icon PDF 146 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a gyflwynwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y 13 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar Gytundeb Adran 106  yn sicrhau’r cyfraniad ariannol.

 

Wrth nodi manylion y cais mynegodd rhai Aelodau’u cydymdeimlad â’r cymdogion a oedd wedi gwrthwynebu’r cais. Fodd bynnag, ystyriwyd nad oedd unrhyw resymau dros wrthod y cais ar sail cynllunio gan ei fod yn cydymffurfio â pholisi cynllunio ac na fyddai’n niweidio’n annerbyniol ar amwynder cymdogion. 

 

Mynegodd Aelodau eraill bryder mewn perthynas â’r cais a dan Bolisi DES1 – ystyriaethau dylunio cyffredinol. Ystyriwyd, o dan y polisi hwn, gallai fod sail i wrthod y cais. Bydd gan y byngalo newydd ardd gefn fechan a bydd traffig yn mynd heibio’n glos i’r tai presennol.

 

Gellid ystyried Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a’r effeithiau ar iechyd meddwl a chorfforol gyda symud yr ardd a’r effaith andwyol a llai hyn ei greu. Roedd teimlad o orddatblygu gyda symud yr ardd.

 

Hysbysodd Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lleoedd y Pwyllgor, ar y raddfa hon, roedd y datblygiad yn dderbyniol. Fe fydd peth effaith ar y cymdogion. Fodd bynnag, ystyriwyd na fyddai’r effaith andwyol ar y cymdogion yn ddigon arwyddocaol i argymell gwrthod y cais.

 

Wedi trafod adroddiad y cais, cynigiwyd gan Y Cynghorydd Sir L. Brown ac eiliwyd gan Y Cynghorydd Sir D. Dovey ein bod o blaid gwrthod cais DC/2016/01478 ar sail Polisi DES1 a‘r Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, yn enwedig wrth gyfeirio’n benodol at ‘Gymru Iachach’. 

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid gwrthod           -           5

Yn erbyn gwrthod       -           8

Atal pleidlais                -           0

 

Ni chariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2016/01478 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y 13 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar Gytundeb Adran 196 yn sicrhau’r cyfraniad ariannol.

 

12.

CAIS DC/2017/000164 - YMESTYN CYFNOD CANIATÂD CYNLLUNIO DC/2010/00993 (A GYMERADWYWYD AR 7 MAWRTH 2012 GAN GYNGOR SIR FYNWY). GREEN DRAGON PARTNERSHIP, SGWÂR SANT TOMOS, TREFYNWY NP25 5ES. pdf icon PDF 91 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a gyflwynwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y 12 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wedi trafod adroddiad y cais, cynigiwyd Y Cynghorydd Sir P. Murphy ac  eiliwyd gan Y Cynghorydd Sir M. Powell bod cais DC/2017/000164 yn cael  ei gymeradwyo yn amodol ar y 12 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo  -           13

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Atal pleidlais                           -            0

 

Cariwyd y cynnig.

.

 

Penderfynasom fod cais DC/2017/000164 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y 12 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

13.

CAIS DC/2017/00401 - TYNNU, GWAREDU AC AMNEWID STRWYTHUR PREN SY'N BODOLI EISOES AR SAIL TEBYG AM DEBYG. NEWID DEFNYDD I DIR A AMLINELLWYD YN Y GWYRDD AR GYNLLUNIAU. TIR A DDEFNYDDIWYD YN FLAENOROL AR GYFER GRIN BOWLIO I WERSYLLA YN UNIG. TAFARN GLASCOED, MONKSWOOD. pdf icon PDF 109 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a gyflwynwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar yr un amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Roedd gan yr Aelod Lleol dros Lanbadoc, yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, amheuon ynghylch y materion yn ymwneud ag  agwedd wersylla’r cais. Fodd bynnag, roedd y materion hyn bellach wedi’u datrys. Mynegodd, felly, ei chefnogaeth i’r cais.

 

Wedi trafod adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod Lleol, cynigiwyd gan Y Cynghorydd Sir R.J. Higginson ac eiliwyd gan Y Cynghorydd Sir R.G. Harris bod cais DC/2017/00401 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar un amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo              -           13

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Atal pleidlais                -           0

 

Cariwyd y cynnig.

.

 

Penderfynasom fod cais DC/2017/00401 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr un amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

 

14.

Trosi gydag addasiadau ac estyniadau i gyn oriel i roi dwy annedd. The Old Smithy, 34 Stryd Maryport, Brynbuga, Sir Fynwy, NP15 1AE. pdf icon PDF 170 KB

Cofnodion:

Derbyniasom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio mewn perthynas â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 24ain Ebrill 2017.  Safle: The Old Smithy, 34 Stryd Maryport, Brynbuga, Sir Fynwy, NP15 1AE.

 

Caniatawyd yr apêl a rhoddwyd caniatâd cynllunio yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd ar derfyn y penderfyniad.