Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir Laura Wright fuddiant personol a rhagfarnus yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2022/01525, gan fod ganddi berthynas sydd eisoes yn bodoli gydag un o wrthwynebwyr a threfnwr y ddeiseb, Jay Shipley. Jay Shipley yw Dirprwy Brif Swyddog Cyngor Tref y Fenni. Mae'r Cynghorydd Sir Wright hefyd yn Gynghorydd Tref, ac mae hi wedi trafod y cais hwn yn anffurfiol gyda Jay Shipley cyn ymuno â Phwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Fynwy. Cytunodd y Cynghorydd Sir Wright i ddarllen datganiad i'r Pwyllgor Cynllunio ar ran Jay Shipley, yn lle aelod y ward. Yna gadawodd y cyfarfod ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais.
https://youtu.be/ZpeG2A-ofSM?si=B5WpJ6sUziAWkyvU&t=53
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 3fed o Fedi 2024 gan y Cadeirydd.
https://youtu.be/ZpeG2A-ofSM?si=rwq7Z4GlriS2WNXZ&t=93
|
|
Cais DM/2023/01341 - Adeiladu Annedd Newydd. 33 Stryd Maryport, Brynbuga, NP15 1AE. Cofnodion: Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr yr argymhellwyd eu bod yn cael eu cymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106.
https://youtu.be/ZpeG2A-ofSM?si=si5B5A2r9gGlIIpO&t=154
Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Jan Butler ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Laura Wright y dylid cymeradwyo cais DM/2023/01341 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106.
Ymatalodd y Cynghorydd Sir Tony Easson rhag pleidleisio mewn cysylltiad â'r cais hwn gan ei fod wedi gadael y cyfarfod am gyfnod byr yn ystod y drafodaeth cyn ailymuno â'r cyfarfod.
Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 12 Yn erbyn cymeradwyo - 2 Ymatal - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2023/01341 yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb Adran 106.
Bydd y ddogfen Asesu Canlyniad Llifogydd, 33 Maryport Street, Brynbuga, Sir Fynwy, NP15 1AE, Cyfeirnod Adroddiad 199824-F01, a baratowyd gan Ashfield Solutions Group, dyddiedig 04/07/2024 yn cael ei chynnwys yn y rhestr o gynlluniau cymeradwy ac nid y ddogfen a baratowyd gan JBA dyddiedig 25/08/2020 fel y nodir yn adroddiad y pwyllgor. Amod 5 i'w ddiweddaru yn unol â hynny.
|
|
Cofnodion: Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr yr argymhellwyd eu bod yn cael eu cymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106. Yn ogystal, bod yr amodau ychwanegol canlynol yn cael eu hatodi:
· Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd nes bod cynllun ar gyfer gwella bioamrywiaeth, gan gynnwys amserlen ar gyfer gweithredu, wedi'i gyflwyno’n ysgrifenedig i'r awdurdod cynllunio lleol a'i fod wedi’i gymeradwyo ganddynt. Bydd y datblygiad yn cael ei wneud yn unol â'r manylion sy’n cael eu cymeradwyo.
· Er gwaethaf darpariaethau Erthygl 3, Atodlen 2, Rhan 1 Dosbarthiadau B & C o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2013 (neu unrhyw Orchymyn sy'n dirymu ac ailddeddfu'r Gorchymyn hwnnw gydag addasiad neu heb addasiad) ni chaniateir ychwanegu at, newid nac ehangu'r to.
https://youtu.be/ZpeG2A-ofSM?si=48GzQwgI1lEDPFwc&t=3214
Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Su McConnel ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Jan Butler y dylid cymeradwyo cais DM/2022/01525 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106. Hefyd, bod yr amodau ychwanegol canlynol yn cael eu hatodi:
Ymatalodd y Cynghorydd Sir Jayne McKenna rhag pleidleisio mewn cysylltiad â'r cais hwn gan ei bod wedi gadael y cyfarfod am gyfnod byr yn ystod y drafodaeth cyn ailymuno â'r cyfarfod.
Cynhaliwyd pleidlais electronig. Fodd bynnag, oherwydd pa mor agos oedd y bleidlais - roedd y canlyniad o fewn dwy bleidlais neu lai, cafodd paragraff 27.27.6 o Gyfansoddiad Cyngor Sir Fynwy ei alw i rym:
Pan fydd y canlyniad yn 2 neu lai o bleidleisiau neu pan fydd angen i’r Cadeirydd ystyried bwrw pleidlais sy’n penderfynu, cynhelir cofrestr yn yr un arddull â phleidlais a gofnodwyd er mwyn sicrhau bod y canlyniad y tu hwnt i amheuaeth. Bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer pob opsiwn yn cael eu nodi yn y cofnodion.
Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 6 Yn erbyn cymeradwyo - 7 Ymatal - 0
Ni chymeradwywyd y cynnig.
Bu i ni benderfynu ein bod yn bwriadu gwrthod cais DM/2022/01525 ar sail diogelwch priffyrdd o ystyried lled y dreif a rennir. Felly, bydd y cais yn cael ei ailgyflwyno i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol gyda rhesymau priodol dros ei wrthod.
|
|
Cofnodion: Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Roedd y cais hwn wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio ar 5ed Tachwedd 2024. Fodd bynnag, oherwydd afreoleidd-dra gweithdrefnol yn y cyfarfod dan sylw, roedd y cais wedi cael ei ailgyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio i'w ystyried ar y 3ydd Rhagfyr 2024. Penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog.
Yn unol â’r protocol sydd wedi’i fabwysiadu, mae'r cais bellach yn cael ei ailgyflwyno gydag amodau i'w cytuno gan yr Aelodau.
https://youtu.be/ZpeG2A-ofSM?si=1-EanYsaaZbf4fqN&t=6016
Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Tony Easson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Meirion Howells bod cais DM/2024/00985 yn cael ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 13 Yn erbyn cymeradwyo - 1 Ymatal - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynom gymeradwyo cais DM/2024/00985 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr yr argymhellwyd eu bod yn cael eu cymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106.
https://youtu.be/ZpeG2A-ofSM?si=Kr6kZKn5y7cR4_vK&t=7052
Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Jan Butler ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Maureen Powell y dylid cymeradwyo cais DM/2024/00442 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106. Hefyd, bod amod ychwanegol yn cael ei atodi er mwyn rheoli goleuadau lefel isel ar y safle.
Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 14 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymatal - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynwyd gymeradwyo cais DM/2024/00442 yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106. Hefyd, bod amod ychwanegol yn cael ei atodi er mwyn rheoli goleuadau lefel isel ar y safle.
|
|
Cofnodion: Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
https://youtu.be/ZpeG2A-ofSM?si=sqYcaUGxbVfWZvBk&t=8036
Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Su McConnel ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Maureen Powell bod cais DM/2024/01199 yn cael ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 12 Yn erbyn cymeradwyo - 2 Ymatal - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynom gymeradwyo cais DM/2024/01199 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|