Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir Phil Murphy fuddiant personol,nad yw’n rhagfarnu yn unol â chod ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2024/00985, gan fod ei fab yn arfer gweithio gyda'r ymgeisydd.
https://www.youtube.com/live/-yKxMQuBYJs?si=-KWIfTe0xP76BMr-&t=65
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cadarnhaodd a llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 5ed Medi 2024.
https://www.youtube.com/live/-yKxMQuBYJs?si=EPcovDI08NEdlIDL&t=25
|
|
Cofnodion: Ystyriom adroddiad y cais a'r ohebiaeth hwyr a gyflwynwyd ar gyfer ei wrthod am un rheswm a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar 5ed Tachwedd 2024. Fodd bynnag, oherwydd afreoleidd-dra gweithdrefnol yn y cyfarfod hwnnw, mae'r cais wedi'i ailgyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio i'w ystyried.
https://www.youtube.com/live/-yKxMQuBYJs?si=Uf1sVdL69CC3WCSs&t=201
Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Fay Bromfield ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Meirion Howells ein bod yn bwriadu cymeradwyo cais DM / 2024 / 00985 gydag amodau priodol.
Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid argymhelliad swyddogion - 7 Yn erbyn argymhelliad swyddogion - 8 Ymatal - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynwyd ein bod yn bwriadu cymeradwyo cais DM/2024/00985 ac y dylid ei ailgyflwyno i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol gydag argymhelliad i'w gymeradwyo gydag amodau priodol.
|
|
Cofnodion: Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr yr argymhellwyd eu bod yn cael eu cymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106.
Amod 4 i gael ei ddiwygio fel a ganlyn:
'Ni fydd unrhyw adeiladau ar safle'r cais yn cael eu defnyddio cyn 31/12/2027, oni bai bod y gwaith o uwchraddio’r system garthffosiaeth gyhoeddus, y bydd y datblygiad yn draenio iddi, wedi'i gwblhau a bod cadarnhad ysgrifenedig o hyn wedi'i roi i'r Awdurdod Cynllunio Lleol gan D?r Cymru neu bod manylion datrysiad amgen addas wedi'u cyflwyno a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.'
https://www.youtube.com/live/-yKxMQuBYJs?si=ONO7cUqzOiyGoqW9&t=3055
Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Tony Easson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Su McConnel bod cais DM/2023/01019 yn cael ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 9 Yn erbyn cymeradwyo - 4 Ymatal - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynwyd gymeradwyo cais DM/2023/01019 yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb Adran 106.
Amod 4 i gael ei ddiwygio fel a ganlyn:
'Ni fydd unrhyw adeiladau ar safle'r cais yn cael eu defnyddio cyn 31/12/2027, oni bai bod y y gwaith o uwchraddio’r system garthffosiaeth gyhoeddus, y bydd y datblygiad yn draenio iddi wedi'i gwblhau a bod cadarnhad ysgrifenedig o hyn wedi'i roi i'r Awdurdod Cynllunio Lleol gan D?r Cymru neu bod manylion datrysiad amgen addas wedi'u cyflwyno a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.'
|
|
Cofnodion: Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
https://www.youtube.com/live/-yKxMQuBYJs?si=bTlhgTLjt9O82t4k&t=8226
Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Tony Easson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Jayne McKenna bod cais DM/2024/00409 yn cael ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 12 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymatal - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynom gymeradwyo cais DM/2024/00409 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr yr argymhellwyd eu bod yn cael eu cymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106.
https://www.youtube.com/live/-yKxMQuBYJs?si=jmNZFeQB2Z7WiHDf&t=9397
Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Su McConnel ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Maureen Powell y dylid cymeradwyo cais DM/2023/01387 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106. Yn ogystal, bod dau amod ychwanegol yn cael eu hychwanegu er mwyn rhoi sylw i dirlunio caled a dulliau o gau tir.
Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 9 Yn erbyn cymeradwyo - 1 Ymatal - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynwyd gymeradwyo cais DM/2023/01387 yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb Adran 106. Yn ogystal, bod dau amod ychwanegol yn cael eu hychwanegu er mwyn rhoi sylw i dirlunio caled a dulliau o gau tir.
|