Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 6ed Chwefror, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Sir Sara Burch ddatganiad o fuddiant personol a rhagfarnol yn unol â’r Cod Ymddygiad Aelodau yng nghyswllt cais DM/2022/01831, oherwydd ei hymgyfraniad blaenorol gyda’r cynllun ac ymgynghoriad pan oedd yn Aelod Cabinet yn gyfrifol am Deithio Llesol. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd unrhyw ran yn y drafodaeth neu bleidleisio ar hynny.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Sir Dale Rooke ddatganiad o fuddiant personol a rhagfarnol yn unol â’r Cod Ymddygiad Aelodau yng nghyswllt cais DM/2023/01562, gan ei fod yn un o gynrychiolwyr Cyngor Tref Cas-gwent sydd wedi cefnogi Gr?p Parc Chwaraeon Cyfeilion y Dell. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd unrhyw ran yn y drafodaeth neu bleidleisio ar hynny.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 170 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 10 Ionawr 2024 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

3.

Cais DM/2022/01831 - Gwelliannau i'r cysylltedd presennol i gerddwyr a beicwyr ar draws Dolydd y Castell trwy ddarparu llwybrau sy'n cydymffurfio â Theithio Llesol. Gan gynnwys uwchraddio llwybrau presennol, pwyntiau mynediad ac ailosod y bont droed bresennol dros Afon Gafenni. Tir yn Nolydd y Castell, Y Fenni, Sir Fynwy. pdf icon PDF 370 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei chymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

https://www.youtube.com/live/7mdGfiFwxF8?si=68S9tIDlk5j72kJu&t=201

 

Wrth nodi manylion y cais a’r sylwadau a gafwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Ann Webb ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Emma Bryn y dylid cymeradwyo cais  DM/2022/01831 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Pan y’i rhoddwyd i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo          -    12 

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Ymatal           -           1

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais  DM/2022/01831 gyda’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

4.

Cais DM/2023/01562 - Amnewid ac adleoli'r man chwarae presennol i blant ym Mhant y Castell. Bwriedir symud yr holl eitemau offer chwarae presennol ac ail-leoli ychydig ar ffin y maes chwarae i'r gogledd, oddi wrth Wal y Dref. Gosod offer ychwanegol rhwng y man chwarae wedi’i hadleoli a’r ffynnon ddŵr a gosod llithren fanc uchel o lefel uchaf y safle i lawr i’r llwybr troed isaf. Man Chwarae, Pant y Castell, Welsh Street, Cas-gwent. pdf icon PDF 173 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

https://www.youtube.com/live/7mdGfiFwxF8?si=DntnTVRduPJbxDxe&t=4115

 

Wrth nodi manylion y cais a’r sylwadau a gafwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Ann Webb ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Emma Bryn y dylid cymeradwyo cais DM/2023/01562 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Pan y’i rhoddwyd i’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo  -           14 

Yn erbyn cymeradwyo           -          0

Ymatal                       - 0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais  DM/2023/01562 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

5.

Cod Ymarfer Cynllunio (Diwygiedig). pdf icon PDF 378 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd y Cod Ymarfer Cynllunio diwygiedig.

 

https://www.youtube.com/live/7mdGfiFwxF8?si=n_sBUaJ4Z9YsAwnb&t=4949

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Fay Bromfield ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Dale Rooke y dylid cymeradwyo’r Cod Ymarfer Cynllunio diwygiedig heb ei ddiwygio ac iddo gael ei gyfeirio at Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Fynwy ar 11 Mawrth 2014.

 

Pan y’i rhoddwyd i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid y cynnig                    - 14

Yn erbyn y cynnig                 - 0

Ymatal                         -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2023/01562 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad..

 

6.

ER GWYBODAETH - Apeliadau Cynllunio a Dderbyniwyd - 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2023. pdf icon PDF 333 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr apeliadau cynllunio a gafwyd gan yr Adran Cynllunio ar gyfer y cyfnod 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2023.