Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 3ydd Hydref, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso’r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Anna Hawker, Cyfreithiwr dan Hyfforddiant, i'r cyfarfod.

 

Croesawodd y Cadeirydd, hefyd, y Cynghorydd Sir Sara Burch i'w chyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor Cynllunio gan ei bod wedi cymryd lle’r Cynghorydd Sir Ben Callard.

 

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod y Cynghorydd Sir Callard wedi ymuno â'r Cabinet yn ddiweddar ac ar ran y Pwyllgor diolchodd i'r Cynghorydd Callard am y gwaith yr oedd wedi ei wneud ar y Pwyllgor Cynllunio.

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir P. Murphy fuddiant personol a rhagfarnus yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2023/01042.

 

Hysbysodd y Pwyllgor fod posteri wedi'u dosbarthu a honnir eu bod wedi eu gwneud ganddo mewn perthynas â mater gorfodi cynllunio ar yr un tir ag sydd bellach yn destun cais DM/2023/01042. Er bod y cais presennol hwn ar wahân ac yn wahanol i'r achos gorfodi ac nad oedd y posteri wedi'u paratoi ganddo, gadawodd y cyfarfod ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais mewn perthynas â'r cais hwn.

 

3.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 243 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 12fed o Fedi 2023 gan y Cadeirydd.

 

 

4.

Cais DM/2022/00331 - Datblygu unedau masnachol sy'n addas ar gyfer defnydd dosbarthiadau B1, B2 a B8 ynghyd â gwaith allanol cysylltiedig. Tir ar Ystâd Ddiwydiannol Pont Hafren, Pill Row, Cil-y-coed. pdf icon PDF 347 KB

Cofnodion:

Ystyriom adroddiad y cais a’r argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Roedd y cais wedi cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio ar y 1af o Awst 2023 gydag argymhelliad i'w wrthod. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor wedi teimlo y dylid cymeradwyo'r cais gydag amodau priodol.

 

Wrth nodi manylion y cais, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir A. Easson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir F Bromfield y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00331 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo              -           13

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Ymatal             -           1

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Penderfynom gymeradwyo cais DM/2022/00331 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

 

5.

Cais DM/2023/01042 - Newid defnydd o amaethyddiaeth i dir ar gyfer cadw ceffylau (ôl-weithredol) a’r bwriad i adeiladu bloc stablau ar gyfer pum ceffyl, codi adeilad storio atodol, adeiladu ysgol farchogaeth. Tir i'r gogledd-orllewin o Holly Lodge Road O'r A48 i Dewstow Road, Fives Lanes, Caerwent. pdf icon PDF 311 KB

Cofnodion:

 

Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Mynychodd y Cynghorydd Mike John, sy'n cynrychioli Cyngor Cymuned Caerwent, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae Cyngor Cymuned Caerwent o'r farn na ddylid cymeradwyo'r cais hwn. Mae gwrthwynebiadau i'r cais wedi cael eu cyflwyno ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Cynllunio.

 

·         Darparwyd rhagor o nodiadau yn ystod ymweliad safle'r Pwyllgor Cynllunio diweddar.

 

·         Mae nifer o faterion sydd heb eu datrys o hyd a chwestiynau heb eu hateb ynghylch y cais hwn. Ystyriwyd y dylai'r materion hyn fod wedi cael sylw erbyn hyn.

 

·         Mae'r gymuned leol wedi bod yn gofyn am farn y Cyngor Cymuned ar y mater hwn ers 2021. Mae llawer o gwestiynau wedi'u codi ynghylch y gweithgareddau sydd wedi digwydd ar y safle hwn yn ystod y cyfnod hwn. Ystyriwyd y dylai'r Cyngor Sir fod wedi bod yn delio â'r materion hyn mewn modd amserol.

 

·         Roedd Cyngor Cymuned Caerwent wedi ymateb i'r gymuned leol gan ddweud ei fod wedi cyfeirio'r materion a godwyd at Gyngor Sir Fynwy er mwyn iddynt eu hymchwilio.

 

·         Roedd cais ar gyfer y safle hwn wedi cael ei gyflwyno’n flaenorol i'r Pwyllgor Cynllunio ar gyfer cymeradwyaeth ond fe’i gwrthodwyd.  Ar apêl, cytunodd yr Arolygydd â phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio.

 

·         Mae cais cynllunio newydd bellach wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio. Fodd bynnag, mae’r cais yn cynnwys haid fechan o geffylau, stabl fawr i'w adeiladu â blociau ar gyfer pum ceffyl a storfa gysylltiedig mewn cae yr ystyrir nad yw’n ddigon mawr ar gyfer pum ceffyl.  Mae'r cais yn cynnwys iard ymarfer corff maint maes chwarae ysgol ar gyfer y ceffylau. Mae cais am garthbwll ar y safle hefyd a ystyriwyd ei fod yn ddiangen ar gyfer stabl.

 

·         Mae gan y Pwyllgor Cynllunio adroddiad y cais, gwrthwynebiadau'r Cyngor Cymuned, y pryderon a godwyd gan y cyhoedd, cynlluniau'r safle fel ag y mae ar hyn o bryd a chynlluniau ar gyfer sut fyddai’r safle.  Gofynnodd y Cyngor Cymuned a allai'r Pwyllgor Cynllunio fod yn sicr mai cymeradwyo'r cais hwn fyddai'r penderfyniad cywir o ystyried cynifer yr amodau sydd ynghlwm wrtho.

 

·         Ystyriwyd bod nifer yr amodau sydd ynghlwm wrth y cais yn awgrymu y gallai’r cais greu problemau. Gofynnodd y Cyngor Cymuned a fyddai'r Cyngor Sir yn gallu monitro a gorfodi'r amodau hyn.

 

·         Mae’r adeiladau anawdurdodedig wedi cael eu datblygu, fel yr amlinellir yn adroddiad y cais. Mae'r ddadl yn awgrymu na ellir eu hystyried gan nad ydynt yn berthnasol.  Fodd bynnag, mae'r Cyngor Cymuned o'r farn eu bod yn berthnasol.

 

·         Mae Cyngor Cymuned Caerwent o'r farn na ddylid cymeradwyo'r cais nes bod y materion gorfodi ar y safle wedi’u datrys.

 

Mynychodd Roger Nasey, sy’n gwrthwynebu'r cais, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Ni ddylid ystyried y cais fel cais ôl-weithredol gan nad oes unrhyw un o'r strwythurau arfaethedig yn bodoli ar y safle.

 

·         Cymharwyd yr argymhelliad ar gyfer cymeradwyo'r cais â'r cais yr oedd y Pwyllgor Cynllunio  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio - Penderfyniadau a Dderbyniwyd am yr Apeliadau:

6a

1 Smithy Cottage, Crossways, Castellnewydd, Sir Fynwy NP25 5NW pdf icon PDF 163 KB

Cofnodion:

Cawsom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn 1 Smithy Cottage, Crossways, Castellnewydd, Sir Fynwy ar 22 Awst 2023.

 

Nodwyd bod yr apêl wedi cael ei chaniatáu a'r caniatâd cynllunio Cyf. DM/2021/00908 ar gyfer Cais Ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd o dir amaethyddol i ardd ac ardal wastad yn 1 Smithy Cottage, Crossways, Castellnewydd, Sir Fynwy NP25 5NW, yn cael roi ar 29ain Gorffennaf 2022 gan Gyngor Sir Fynwy. Caiff ei amrywio drwy ddiwygio amod rhif. 1, 4 a 5, a dileu amod rhif 6, fel y nodir yn yr atodlen i'r llythyr penderfyniad.