Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Meirion Howells wedi datgan buddiant personol ac o fuddiant sy’n rhagfarnu, yn unol gyda’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau, a hynny ar gyfer cais  DM/2018/01995, gan ei fod yn aelod pwyllgor o Gymdeithas Sifig Brynbuga a oedd wedi gwrthwynebu’r cais. Roed wedi gadael y cyfarfod felly, ac nid oedd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais a oedd yn ymwneud gyda’r cais hwn.  

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 275 KB

Cofnodion:

Roedd cofnodion o’r cyfarfod Pwyllgor Cynllunio, o’r 7fed Chwefror  2023, wedi eu cytuno a’u llofnodi gan y Cadeirydd. 

 

3.

Cais DM/2018/01995 - Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl â 6 annedd, gyda’r prif fynediad oddi ar Stryd Baron gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl. The Willows, 20 Stryd Baron, Brynbuga, Sir Fynwy, NP15 1AS. pdf icon PDF 362 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid ei gymeradwyo, yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.  

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar 6ed Rhagfyr 2022 gydag argymhelliad ar gyfer ei gymeradwyo. Roedd yr argymhelliad wedi ei gytuno gan y Pwyllgor Cynllunio, yn amodol ar ddau amod ychwanegol, sef:

 

• Cydymffurfiaeth gyda’r lefelau safle cymeradwy (er mwyn rheoli materion llifogydd)  

• Cynllun Lliniaru Llifogydd i’w gyflwyno ar gyfer y materion ar gadw.

 

Hefyd, mae’r cynnig i gymeradwyo yn amodol ar wiriad gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’u bod wedi ystyried effaith y llifogydd sydd yn gysylltiedig gyda  Nant Olway wrth asesu’r wybodaeth am lifogydd sydd wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd a bod y materion yma yn cael eu cytuno gan y Panel  Dirprwyo.

 

Roedd yr Aelod Lleol Ceidwadol ar gyfer Llanbadog a Brynbuga wedi mynychu’r cyfarfod drwy wahoddiad gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r wybodaeth ganlynol:

 

·         Roedd y Cynghorydd Kear wedi hysbysu’r Pwyllgor ei fod yn Gadeirydd ar Gymdeithas Sifig Brynbuga. Fodd bynnag, mae wedi ymatal, o ran y mater hwn, rhag cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth o fewn y Gymdeithas.  

 

·         Yn dilyn cyflwyniad gan Reolwr Tîm yr Ardal Rheoli Datblygu, roedd yr Aelod lleol wedi cadarnhau ei fod yn fodlon ac yn cefnogi’r cais gan fod pryderon trigolion lleol wedi eu lliniaru. 

 

Roedd asiant yr ymgeisydd, Nick Bowen, wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei wahodd gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Mae mwy na 50 o dai ym Mill Street a Baron Street lle y bydd lefelau llifogydd yn lleihau  hyd at 100mm o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig hwn. Mae gwelliannau yn cael ei gwneud i’r llwybrau cyfeirio llifogydd ar hyd a lled y safle.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Jan Butler ac eiliwyd hyn y Cynghorydd Sir Su McConnel fod cais DM/2018/01995 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar yr amodau sydd eu hamlinellu yn yr adroddiad a dau amod pellach, sef:

 

• Cydymffurfiaeth gyda’r lefelau safle cymeradwy (er mwyn rheoli materion llifogydd)  

• Cynllun Lliniaru Llifogydd i’w gyflwyno ar gyfer y materion ar gadw.

 

Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo              -           15

Yn erbyn cymeradwyo           -                      0

Ymwrthod rhag pleidleisio                   -           0

 

Cafodd y cynnig ei gymeradwyo.

 

Roeddem wedi cytuno bod y cynnig DM/2018/01995 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar yr amodau sydd eu hamlinellu yn yr adroddiad a dau amod pellach:

 

• Cydymffurfiaeth gyda’r lefelau safle cymeradwy (er mwyn rheoli materion llifogydd)  

• Cynllun Lliniaru Llifogydd i’w gyflwyno ar gyfer y materion ar gadw.

 

4.

Cais DM/2022/01042 – Adeiladu 70 cartref, seilwaith draenio cynaliadwy, gofod agored, heolydd, llwybrau a mannau parcio mewnol, tirlunio a phlanhigion a seilwaith. Tir yn Vinegar Hill, Gwndy, Sir Fynwy. pdf icon PDF 316 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a'r ohebiaeth hwyr a argymhellwyd i’w cymeradwyo yn amodol ar yr amodau sydd eu hamlinellu yn yr adroddiad.   

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer dwyrain Magwyr a Gwndy, y Cynghorydd Sir Angela Sandles, wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei gwahodd gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Mae yna hanes o wrthwynebiad i ddatblygu’r safle sydd yn mynd yn ôl i 2013.

 

·         Caniatawyd Caniatâd Cynllunio Amlinellol yn 2021.

 

·         Roedd y Cyngor Cymuned wedi gwrthwynebu’r datblygiad. 

 

·         Mae cwynion wedi eu derbyn gan drigolion yngl?n â’r safle sydd yn ymwneud gyda mynediad, s?n, draenio, traffig a chontractwyr.

 

·         Nid oes yna ofod agored gwyrdd ar gyfer cerddwyr o unrhyw un o’r ystadau tai cyfagos.

 

·         Mae’r cae, sy’n cael ei adnabod fel Parsel B, yn ofod cymunedol a ddefnyddiwyd yn ddyddiol.

 

·         Mae’r blodau a’r planhigion wedi newid dros y blynyddoedd.  

 

·         Mae canol y cae yn cael ei osgoi gan nad yw’r d?r yn draenio o’r ardal. 

 

·         Mae yna fynediad cyfyngedig i’r safle.

 

·         Mae’r safle yn swnllyd gan ei fod yn 50m o briffordd yr M4 gyda’r allyriadau a ddaw o’r cerbydau.  

 

·         Mae’r ardaloedd o gwmpas yn boblog iawn gyda nifer o  eiddo newydd gael eu hadeiladu.  

 

·         Mae’r ddwy ysgol gynradd leol yn llawn, nid oes yna ddeintyddion GIG, ac mae’r Feddygfa leol eisoes yn hynod brysur ac wedi ei llethu.  

 

·         Mae’r traffig sydd yn gadael naill ai ystadau Dancing Hill neu Rockfield eisoes yn achosi tagfeydd i fyny’r bryniau bob dydd o’r wythnos tra’n gadael i fynd i’r gwaith / ysgol ar eu ffordd i’r B4245. Ystyriwyd y bydd hyn yn gwaethygu wrth i ni fynd ymlaen petai’r datblygiad yn cael ei gymeradwyo.  

 

Roedd asiant yr ymgeisydd, Kate Coventry, wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Mae adroddiad y cais yn gynhwysfawr ac yn amlinellu pam y dylid cymeradwyo’r cais.  

 

·         Mae’r safle o fewn Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor Sir.  

 

·         Mae’r safle wedi ei lleol ger ardal sydd yn llawn adeiladau ym Magwyr a Gwndy ac yn cysylltu dyraniad cynllun defnydd cymysg cymeradwy yn  Rockfield Farm sydd eisoes yn cael ei adeiladu ac yn ffurfio rhan o ffordd gyswllt rhwng y dwyrain a’r gorllewin.  

 

·         Roedd y Pwyllgor wedi cymeradwyo’r cais hybrid yn y cyfarfod yn Ionawr 2022. Roedd grant cyllid nawr wedi ei dderbyn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Roedd y gwaith adeiladu wedi dechrau ar safle  A gyda’r rhai cyntaf i symud i mewn yng Ngorffennaf  2023.

 

·         Nid oes unrhyw wrthwynebiad gan ymgyngoreion statudol fel sydd wedi ei amlinellu yn adroddiad y cais.  

 

·         Bydd y cynllun yn arwain at 70 o gartrefi o fewn Parsel B o’r safle dynodedig ehangach.  

 

·         Mae’r cynllun, drwy gyllid grant, yn medru sicrhau cydymffurfiaeth gyda'r polisi bod 25% o’r tai yn rhai fforddiadwy er mwyn delio gyda’r prinder tai ar draws y Sir.  

 

·         Mae’r cynllun wedi ei adeiladu o gwmpas seilwaith gwyrdd, gan gynnwys coridorau allweddol yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin ac o’r gogledd i’r de ar draws y parsel o  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

ER GWYBODAETH – Yr Arolygiaeth Gynllunio – Penderfyniadau am Apelau Sydd Wedi Eu Derbyn:

5a

Sied Brookside, Ffordd Llancaio, Gwehelog. pdf icon PDF 196 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi derbyn yr adroddiad Arolygiaeth Gynllunio sydd yn ymwneud gyda phenderfyniad i apelio, a hynny’n dilyn ymweliad gyda’r safle a gynhaliwyd  yn Brookside Shed, Heol Llancaio, Gwehelog ar 9fed Ionawr 2023.           

 

Nodwyd fod yr apêl wedi ei wrthod.