Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Sir Jayne McKenna wedi datgan buddiant personol ac sy’n rhagfarnu yn unol gyda Chod Ymddygiad yr Aelodau o ran cais DM/2022/00494 gan ei bod yn aelod o Gyngor Cymuned Drenewydd Gelli-farch cyn Ebrill  2022.  Yn ystod y cyfnod hwn, roedd wedi pleidleisio ar gais DM/2022/00494.  Gadawodd y cyfarfod ac nid oedd wedi cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth neu bleidlais wedi hyn.  

 

Roedd y Cynghorydd Sir Meirion Howells wedi datgan buddiant personol na sy’n rhagfarnu yn unol gyda Chod Ymddygiad yr Aelodau o ran cais  DM/2021/00691 gan ei fod yn adnabod yr unigolyn sy’n cyflwyno’r cais.  Roedd y Cynghorydd Sir  Howells wedi ymwrthod rhag pleidleisio ar y cais hwn.  

 

Roedd y Cynghorydd Sir Tony Easson wedi datgan buddiant personol na sy’n rhagfarnu yn unol gyda Chod Ymddygiad yr Aelodau o ran cais  DM/2022/00492 gan ei fod yn aelod o’r Panel Heddlu a Throseddu.

 

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 195 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod Pwyllgor Cynllunio ar 2ail Awst  2022 ac fe’u harwyddwyd gan y Cadeirydd.

 

3.

Cais DM/2021/01823 – Newid defnydd o dir amaethyddol i ddatblygiad Un Blaned. Tir i’r de o Fferm Trecastell, Heol Trecastell, Llangofan, Sir Fynwy. pdf icon PDF 251 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo, a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a chytundeb cyfreithiol Adran 106.  

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer  Llanfihangel Troddi a  Thryleg Unedig wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei wahodd gan y Cadeirydd ac wedi gwneud y pwyntiau canlynol: 

 

·         Mae pryderon wedi eu mynegi am effaith yr adeiladau arfaethedig ar y tirwedd gan y byddant yn hynod amlwg yn ystyried misoedd yr hydref a’r gaeaf.  

 

·         Mae’n ofyniad hanfodol o ‘One Planet Development’ (OPD) bod yna ‘effaith ysgafn’ ar yr amgylchedd gydag effaith bositif ar y tirwedd.  

 

·         Mae canllaw’r OPD yn datgan na ddylai aneddiadau a strwythurau sefyll yn amlwg mewn mannau cyhoeddus a dylent wella’r tirwedd lle y maent wedi eu gosod.  

 

·         Roedd adroddiad y cais yn datgan fod y Swyddog Tirwedd yn ystyried y cynnig yn dderbyniol, ar yr amod bod mwy o fanylder am elfennau o’r cynnig a sut y bydd yn cael ei gynnal a’i gadw yn y tymor hir.  

 

·         Roedd yr Aelod lleol wedi cyfeirio at yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad  fel sydd yn ymwneud gyda’r tirwedd ac ymddengys bod angen  gwybodaeth ychwanegol sylweddol. Mynegwyd pryderon nad yw’r rhain yn cael eu hystyried a’u datrys yn ystod y cyfnod cais.

 

·         Awgrymwyd y dylai’r ymgeisydd ystyried cyflwyno’r wybodaeth sydd angen er mwyn caniatáu’r Pwyllgor Cynllunio i wneud penderfyniad gwybodus ar y cais.  

 

·         Ysgubor Cruck fydd yn fwyaf hawdd ei weld yn sgil y ffaith y bydd yn uchel ar y safle ac ni fydd yna do gwellt ond to sydd wedi ei wneud o fetel neu lechi.  Mae’r cynllun yn datgan fod y yr union ddefnydd a’r lliw i’w diwygio fel bod modd ail-ddefnyddio darn sydd yno ar hyn. Ond nid ymddengys fod yn fatn a od yn yr adroddiad ar gyfer y cais.  

 

·         Mae’r ymgeisydd yn bwriadu adeiladu gweithdy ac ysgubor gyda deunyddiau sydd wedi eu hail-hawlio o’r safle a bydd ymddangosiad y strwythurau i bosib yn wahanol i’r hyn sydd yn y lluniau yn y cais. Mynegwyd pryderon fod cynnal yr amgylchedd yn allweddol ac nid yw hyn yn dderbyniol. Mae angen mwy o eglurder yngl?n â’r mater hwn. 

 

·         Mynegwyd pryder hefyd am yr effaith y bydd y trac mynediad hir yn ei gael ar y tirwedd gan y bydd yn croesi  cwrs d?r. Ni chredwyd bod hyn yn cael ‘effaith ysgafn’ ar yr amgylchedd.

 

·         Mae canllaw’r OPD yn datgan y dylid cwrdd â’r holl anghenion am dd?r drwy gyfrwng y d?r sydd ar y safle.  Mae dwy nant ar y safle ac roedd y ddwy wedi sychu dros yr haf.

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol am fanylion yngl?n â’r glaw sydd yn cael ei gynaeafu.  

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol a fydd yna unrhyw fonitro annibynnol yn digwydd.  

 

·         Yr argraff sydd gan drigolion yw bod y cais yn ystyried ‘yn weddol ysgafn’ o ran sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r Polisi yna. Mae’r adeilad mewn ardal wledig agored gyda  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cais DM/2021/01763 - Newid Defnydd y Tir i Loches Anifeiliaid. Llety dros dro ar wedd carafán deithio, i alluogi staff i weithio yn y Lloches Anifeiliaid i aros dros nos yn achlysurol i gynorthwyo gydag anifeiliaid sy’n wael neu wedi anafu. Fferm Rhewl, Drenewydd Gellifarch i Fferm Rhewl, Drenewydd Gellifarch, Cas-gwent. pdf icon PDF 147 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo,a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.  

 

Roedd yr ymgeisydd wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei wahodd gan y Cadeirydd ac wedi gwneud y pwyntiau canlynol: 

 

·         Mae’r noddfa ar gyfer anifeiliaid yn cynnig cartref i anifeiliaid nad yw pobl yn eu dymuno mwyach, sydd wedi eu hesgeuluso, eu cam-drin a’u diystyru.

 

·         Ar hyn o bryd, mae’r safle yn gartref i 200 o anifeiliaid fferm. Mae’r fferm yn elusen gofrestredig.

 

·         Mae’r safle yn cynnwys 62 erw gyda choedwigoedd a thir ffermio isel.

 

·         Mae perllannau wedi eu plannu hefyd ynghyd â phlanhigion a hardd perlysiau meddyginiaeth ar gyfer yr anifeiliaid. Mae’r ymgeisydd yn  dad-ddofi tir ar hyd a lled y noddfa.

 

·         Mae gwaith wedi ei wneud gydag elusennau bywyd gwyllt ers 2019. Mae ystlumod heb rieni yn cael eu cynorthwyo i fynd yn ôl i’r byd gwyllt yn y noddfa.

 

·         Mae 50 blwch ar gyfer llygod bach wedi eu gosod yn y coedwigoedd.

 

·         Nid yw gwrtaith a chemegau byth yn cael eu defnyddio ar y tir ac mae’r anifeiliaid yn derbyn bwyd organig ac sydd heb ei addasu’n enetig. 

 

·         Matt Pritchard, y cogydd enwog, yw noddwr y noddfa.

 

·         Mae’r noddfa wedi ei phleidleisio fel un o hoff noddfeydd anifeiliaid y DU yn 2020 a 2021.

 

·         Mae tîm  staff y noddfa  wedi yn byw’n lleol ac mae hyd at 230 o wirfoddolwyr yn helpu gyda digwyddiadau bach.  

 

·         Mae’r noddfa yn cael ei chefnogi gan roddion a digwyddiadau codi arian.  

 

·         Mae pobl leol yn dod i adnabod y noddfa ac yn dymuno ymweld a gwirfoddoli yno. Mae’r ffocws ar les yr anifeiliaid sydd yn golygu nad oes modd i bobl fynd yno i ymweld ar hap. Fodd bynnag, mae ymweliadau teilwredig wedi eu trefnu.   

 

·         Nid yw hon yn fenter fasnachol ond yn noddfa fechan sydd am helpu anifeiliaid mewn angen, yn amddiffyn yr amgylchedd ac yn cynnig cymorth a lles i bobl sydd eu hangen.

 

·         Mae angen carafán er mwyn caniatáu staff i aros yno dros nos a helpu anifeiliaid sydd yn sâl yn ystod argyfyngau. 

 

Roedd yr Aelod lleol dros Drenewydd Gelli-farch wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei wahodd gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Mae’r noddfa wedi ei lleoli oddi ar heol wledig sydd yn amhriodol o gul. Roedd yr Aelod lleol wedi cyfeirio at farn yr Adran Briffyrdd yn adroddiad  y cais sydd yn amlinellu mai ychydig iawn o drafnidiaeth gynaliadwy sydd yn ardal gydag ymwelwyr yn gorfod teithio mewn ceir. Mae’r diwrnodau agored yn creu traffig ychwanegol ac mae hyn wedi ei briodoli i’r nifer uchel o ddiwrnodau agored yn y noddfa sydd yn niweidio diogelwch a chapasiti y rhwydwaith priffyrdd cul, gwledig.  Mae’r Adran Briffyrdd yn argymell y dylid cyfyngu ar y nifer o ddiwrnodau agored yn y noddfa   drwy osod amod sydd wedi ei eirio’n ofalus.

 

·         Roedd y cais yn rhan o gais ar y cyd blaenorol a oedd yn delio gyda’r agwedd o agor ar  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cais DM/2022/00696 – Cynnig am estyniad blaen un llawr. Arosfa, Llanfair Iscoed, Sir Fynwy, NP16 6LY. pdf icon PDF 101 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell cymeradwyo’r cais, a hynny’n amodol ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.  

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Caerwent, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, wedi hysbysu’r Pwyllgor fod yna bryder yn lleol am hyd yr estyniad. 

 

Roedd y Cynghorydd M. John, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Caerwent, wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei wahodd gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Mae’r Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cais o dan Bolisi H6 – estyn aneddiadau gwledig.  

 

·         Er mwyn diogelu cymeriad cefn gwlad, dylai estyniadau i aneddiadau sydd y tu allan i ffiniau’r pentref fod yn rhai diymhongar ac yn parchu neu’n gwella ymddangosiad yr annedd presennol.  Os yw’r annedd o natur draddoaidol, rhaid parchu ei ffurf bresennol ym mhatrwm a siâp y deunydd a’r hyn a ddefnyddir. 

 

·         Nid yw’r Cyngor Cymuned yn credu fod y cais yn cwrdd â gofynion Polisi H6.

 

·         Mae unrhyw estyniad a fydd yn arwain at gynnydd o fwy na 50% ym maint yr annedd gwledig yn cael ei ystyried fel arfer yn rhywbeth sydd cydymffurfio gyda Pholisi H6.

 

·         Mae’r Cyngor Cymuned yn ystyried bod yr eiddo hwn yn meddu ar rinweddau a dylid ei ystyried fel annedd gwledig traddodiadol o ran yr amgylchedd  lleol. Maent yn nodwedd anarferol a’n  rhan o gymeriad y lleoliad. Mae’r aneddiadau yn debyg iawn i fythynnod y  coedwigwyr sydd wedi eu lleoli gerllaw.  

 

·         O ran hawliau datblygu a ganiateir, ni fyddai’r estyniad yma yn cael ei ganiatáu fel ag y mae.  

 

·         Mae’r Cyngor Cymuned yn deall nad yw  hawliau datblygu a ganiateir yn atal cais cynllunio ond maent yn cynnig cyfeirnod pan yn ystyried ceisiadau. 

 

·         Nid oes dim o’r tai setliadau tir yn y gymdogaeth agos neu estynedig yn meddu ar estyniadau ar y blaen. Mae rhai wedi eu hymestyn i’r ochr. Mae rhai o’r tai yma yn meddu ar gyntedd (porch) sydd yn gyson gyda’r adeiladau gwreiddiol.  

 

·         Mae’n anodd deall sut y mae modd disgrifio’r estyniad yma fel  eilradd. Mae’r dyluniad o’r estyniad arfaethedig wrth yrru allan o’r pentref ar yr  A48 yn wahanol i’r lluniau sy’n cael eu dangos o bwynt arall.  

 

·         Mae pryderon gan y Cyngor Cymuned am faint y datblygiad arfaethedig a’r cynnydd ym maint bwthyn o’r maint gwreiddiol. Cynnydd o 61% ers 2013.

 

·         Mae’r Cyngor Cymuned wedi argymell bod y cais yn cael ei wrthod. 

 

Roedd Mr. S. Roderick, sydd yn gwrthwynebu’r cais, wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Dyluniad ac effaith ar y cymeriad lleol, paragraffau  b, c, e a g o Bolisi DES1 yn berthnasol.

 

·         Mae’r estyniad yn fawr iawn ar flaen yr eiddo sydd ger y ffin. Nid yw’n ‘porch’. Mae’n ymestyn 4 metr o’r blaen, yn fwy na hanner maint yr annedd ac yn 4 o led.  

 

·         Bydd bron 16 gwaith yn fwy na phorth pren a bydd modd ei weld o’r pentref. Mae dipyn yn fwy na’r estyniadau sydd gan gymdogion ac mewn aneddiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cais DM/2021/00691 - Newid defnydd ysgubor amaethyddol i B1 (diwydiannol ysgafn/swyddfa) yn cynnwys gosod cladin newydd. Bwriedir defnyddio’r adeilad fel safle ar gyfer cynhyrchu ystod fach o ddiodydd finegr seidr afal wedi’i eplesu a diodydd tonic, a chonfennau yn anelu i wella iechyd naturiol y coludd. Fferm Parc, Heol Parc, Llangybi, Brynbuga, Sir Fynwy. pdf icon PDF 88 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell cymeradwyo’r cais, a hynny’n amodol ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.  

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Llangybi Fawr, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, wedi amlinellu’r canlynol:

·         Roedd wedi nodi’r gwrthwynebiad a dderbyniwyd yngl?n â’r traffig ar Heol Parc ac roedd wedi codi’r gwrthwynebiadau yma gyda’r Adran Briffyrdd.

 

·         Mae’r arwyddion at Heol y Parc i’w huwchraddio ac i’w gosod yn yr wythnosau nesaf.

 

Wedi ystyried adroddiad  y cais, mynegwyd y pwyntiau canlynol:

  • Bydd symudiadau traffig yn cael eu cadw mor isel ag sydd yn bosib. Mae maint cerbydau a’r tagfeydd yn debygol o leihau.  

 

  • Bydd y cladin a’r dyluniad yn gwella’r ardal o gwmpas.

 

  • Mae gwelededd yn glir pan yn mynd i mewn ac allan o’r safle. 

 

  • Mae’r busnes yn creu elw ac yn gynaliadwy. 

 

  • Bydd y cais yn helpu’r economi i dyfu. 

 

  • Mae yna amod ar y cais o ran dileu’r  datblygiad a ganiateir o safbwynt y goleuadau.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Jayne McKenna y dylid cymeradwyo cais DM/2021/00691 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn pleidlais, nodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

I’w gymeradwyo                                -            12                               

Yn gwrthwynebu cymeradwyo           -           0                                 

Ymatal rhag pleidleisio                                -  1                                 

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Cytunwyd y dylid cymeradwyo’r cais DM/2021/00691, a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad  a chytundeb cyfreithiol Adran 106.                               

 

 

 

7.

Cais DM/2021/02037 – Cynnig i newid defnydd tir amaethyddol i roi llwybr mynediad i Roseham Cottage, Lane End Cottage a Wyeswood. Roseham Cottage, Bigsnap Wood Lane, Pen y Fan, Y Narth, Trefynwy. pdf icon PDF 124 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo, a  hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.  

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer  Llanfihangel Troddi a  Thryleg Unedig, sydd hefyd yn Aelod Pwyllgor Cynllunio, wedi gwneud y pwyntiau canlynol: 

  • Mae’r ardal yn rhan o  AHNE Dyffryn Gwy. Fodd bynnag, nid oes modd ei weld o bwyntiau uchel yn sgil topograffi’r tir. Mae llawer o’r trac wedi ei orchuddio gan goed a pherthi gyda chyfran sylweddol ar ardal o goetir ar dir preifat. 

 

  • Dim ond un eiddo sydd yn medru cael ei effeithio gan y cynnig. Fodd bynnag, mae’r llwybr yn mynd i ochr yr annedd ac ni fydd hyn yn effeithio arno’n weledol.

 

  • Mae’r  ffordd sydd yn arwain at y tri eiddo yn gul gyda choed mawr sydd yn hongian drosto a wal gerrig ar y ddwy ochr a byddai cerbydau mawr yn  cael trafferth yn ei ddefnyddio - yn enwedig cerbydau’r gwasanaethau argyfwng.  

 

Wedi ystyried yr adroddiad a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

  • Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd o ran diffyg ymateb gan Uned AHNE Dyffryn Gwy, nodwyd na fyddai gofynion y polisi Cynllun Datblygu Lleol o ran AHNE Dyffryn Gwy yn cael eu cyfaddawdu ac nid oes modd ystyried yr effaith weledol heb fewnbwn Uned AHNE Dyffryn Gwy.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Jayne Mckenna ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Ann Webb y dylid cymeradwyo cais DM/2021/02037 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn pleidlais, nodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

I’w gymeradwyo                                -            13                   

Yn gwrthwynebu cymeradwyo           -           1                                 

Ymatal rhag pleidleisio                     - 0                                 

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Cytunwyd y dylid cymeradwyo’r cais DM/2021/02037 yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.  

 

8.

Cais DM/2022/00492 – Cynnig i adeiladu Gorsaf Heddlu (dosbarth defnydd B1) a gwaith cysylltiedig. Tir rhwng Depot Priffyrdd Llan-ffwyst a Fferm Llan-ffwyst, Heol Merthyr, Llan-ffwyst. pdf icon PDF 206 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo, a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ac yn amodol ar gytuno’r manylion o ran mynediad (ac unrhyw newidiadau bychain i’r ffordd y mae’r safle wedi ei gosod)  yn cael ei ddirprwyo i swyddogion drwy gyfrwng ymgynghoriad gyda Phanel Dirprwyo’r Cyngor. Hefyd, bydd rhywbeth yn cael ei ychwanegu yngl?n â llwybr teithio llesol o’r safle a bod Amod 8 yn cael ei newid i amod cydymffurfiaeth, yn hytrach nag amod cyn-cychwyn.

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Llan-ffwyst a Gofilon, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

  • Mae’n hynod gefnogol o’r cais ac yn cytuno gyda’r lleoliad.

 

  • Mynegwyd pryderon am uchder y ffens a’i fod yn gwrthwynebu’r  palmant ac yn gwneud y llwybr yma yn  ddigroeso.

 

Wedi ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

  • Mae Panel Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo’r cais.

 

 

  • Bydd y cynnig yn gwella’r ardal.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Jayne Mckenna ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Maureen Powell y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00492, a hynny ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar gytuno’r manylion o ran mynediad (ac unrhyw newidiadau bychain i’r ffordd y mae’r safle wedi ei gosod)  sydd i’w dddirprwyo i swyddogion drwy gyfrwng ymgynghoriad gyda Phanel Dirprwyo’r Cyngor. Hefyd, bydd rhywbeth yn cael ei ychwanegu yngl?n â llwybr teithio llesol o’r safle a bod Amod 8 yn cael ei newid i amod cydymffurfiaeth, yn hytrach nag amod cyn-cychwyn..


Byddai manylion am y ffens angen eu cytuno gan y Panel Dirprwyo sydd yn medru cynnwys yr Aelod lleol. 

Yn dilyn pleidlais, nodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

I’w gymeradwyo                                -            14                   

Yn gwrthwynebu cymeradwyo           -           0                                 

Ymatal rhag pleidleisio                     - 0                                 

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Roeddem wedi cytunoy dylid cymeradwyo cais DM/2022/00492 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad ac yn amodol ar gytuno’r manylion o ran mynediad (ac unrhyw newidiadau bychain i’r ffordd y mae’r safle wedi ei gosod)  sydd i’w ddirprwyo i swyddogion drwy gyfrwng ymgynghoriad gyda Phanel Dirprwyo’r Cyngor. Hefyd, bydd rhywbeth yn cael ei ychwanegu yngl?n â llwybr teithio llesol o’r safle a bod Amod 8 yn cael ei newid i amod cydymffurfiaeth i amod cyn-cychwyn.


Bydd manylion am y ffens yn cael eu cytuno gan y Panel Dirprwyo sydd yn medru cynnwys yr Aelod lleol.

9.

Cais DM/2022/00494 – Annedd newydd (Llain 2). Azalea Cottage, Old School Hill, Mynyddbach, NP16 6RP. pdf icon PDF 148 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo,a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a chytundeb cyfreithiol Adran 106.  

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Drenewydd Gelli-farch wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

  • Mynegwyd pryderon fod caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer dau blot sydd yn rhannu ffordd sy’n arwain atynt. Fodd bynnag, bydd y ffordd yma yn cael ei datblygu o dan amod  8.

 

  • Mae datganiad dull adeiladu yn perthyn i amod 11. Awgrymodd yr Aelod lleol fod y canlynol yn cael ei ychwanegu:

 

-       Cynllun i osgoi’r heol yn cael ei lenwi gan gerbydau adeiladu yn ystod amseroedd pan fydd yr ysgol gynradd yn dechrau a’n gorffen.  

 

  • Mae pryderon wedi eu mynegi yngl?n â’r problemau  o edrych dros y safle. Mae Amod 14 yn cyfeirio at y datganiad gwella bioamrywiaeth sydd i’w ddilyn yn 4. Mae hyn yn cyfeirio at ardal o goetir sydd i’w gadw yn ochr ogleddol y sir. Mae modd edrych dros yr eiddo yn yr ardal nawr. Roedd yr Aelod lleol wedi gofyn i’r coetir i gael ei wella gan fod hyn wedi ei gynnwys yn yr amodau cyfredol. Mae celynennau wedi eu tynnu oddi yno’n ddiweddar, sy’n golygu bod modd edrych dros y tai cyfagos hyd yn oed yn fwy

 

Roedd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu wedi ymateb fel a ganlyn:

  • Mae yna amod arfaethedig ar gyfer Datganiad Dull Adeiladu ond mae hyn yn ymwneud gydag ecoleg yn hytrach na’r cerbydau sydd yn mynd i mewn ac allan o’r safle. Fodd bynnag, mae modd   ychwanegu Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu drwy gyfrwng amod os yw’r Pwyllgor yn credu bod hyn yn angenrheidiol.  

 

  • Wrth edrych dros y tai cyfagos, mae yna ardd gefn 30 metr o gefn yr eiddo newydd i’r ffin. Mae yna 30 metr pellach o’r ffin i’r eiddo sydd y tu nôl sydd yn gyfystyr gyda phellter o 60 metr rhwng y ddau annedd.  Mae yna nifer o goed sylweddol sydd yn meddu ar Orchmynion Cadwraeth  Coed (TPOs) ar waelod yr ardd ac mae angen cadw’r rhain sydd o fewn yr ardal blannu. Mae yna  lethr sylweddol ar y safle. Felly, nid ydym yn credu fod yna effaith adweithiol o ran edrych dros y cymdogion. Yn sgil yr uchder a’r llystyfiant sydd rhyngddynt, mae amwynder y cymdogion yn cael eu diogelu. 

 

  • Mae rhai celynennau wedi eu tynnu i lawr er mwyn medru ail-leoli’r polyn trydan. Mae yna rai coed eraill sydd yn medru cael eu cadw. Mae yna resymau ecolegol eraill. 

 

  • Mae Amod 14 yn amlygu dyluniad a lleoliad y mesurau gwella ecolegol  a ddaw i rym pan fydd y datblygiad yn dechrau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Ben Callard ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Fay Bromfield y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00494, a hynny ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad a chytundeb cyfreithiol Adran 106 gydag amod ychwanegol ar gyfer Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu.

 

Yn dilyn pleidlais, nodwyd  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Cais DM/2022/00514 – Dymchwel adeiladau presennol a chodi 2 adeilad newydd yn cynnwys gofod manwerthu, storio a swyddfeydd ategol yn gysylltiedig gyda’r busnes manwerthu presennol. Gwelliannau i’r maes parcio presennol. pdf icon PDF 116 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo, a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.  

 

Wrth nodi manylion y cais, gwnaed y pwyntiau canlynol:

  • Byddwn yn gofyn i’r ymgeisydd ystyried gosod pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan a rhesel feiciau o fewn y maes  parcio.

 

  • Bydd gofyn i’r ymgeisydd i ail-ddefnyddio’r deunydd lle bo’n bosib.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Sue Riley ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Emma Bryn y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00514, a hynny ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn pleidlais, nodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

I’w gymeradwyo                                -            14                   

Yn gwrthwynebu cymeradwyo           -           1                                 

Ymatal rhag pleidleisio                     - 0                                 

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Cytunwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00514 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad

 

11.

Cais DM/2022/00851 – Llwybr caled o amgylch cae hamdden. Tir Hamdden, Heol Earlswood, Drenewydd Gellifarch. pdf icon PDF 103 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.  

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Drenewydd Gelli-farch wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

  • Roedd Cyngor Cymuned Drenewydd Gelli-farch wedi cynnal arolwg  o drigolion lleol sydd yn cael ei wneud pob pum mlynedd. Awgrymodd yr arolwg blaenorol  y dylid gosod llwybr pren ac roedd y Cyngor Cymuned wedi cynnwys hyn fel rhan o’r cynllun pum mlynedd. Mae’r cais wedi ei wneud yn sgil y cyfyngiadau amser am grantiau. 

 

  • Roedd yna nifer o wrthwynebiadau lleol i’r cais. 

 

  • Roedd y Cyngor Cymuned a’r Gymdeithas Hamdden wedi cytuno bod y Gymdeithas Hamdden yn medru cynnal arolwg gyda’r gymuned am hyn.  

 

  • Mae Cyngor Cymuned Drenewydd Gelli-farch wedi cytuno na fyddai’n bwrw ymlaen gyda hyn  tan fod y Gymdeithas Hamdden wedi cytuno.

 

  • Mae’r arolwg nesaf swydd i’w gynnal gan Gyngor Cymuned Drenewydd Gelli-farch i’w gynnal yn 2024.

 

  • Yn sgil yr amgylchiadau yma, y Pwyllgor Cynllunio ddylai ystyried a ddylid gohirio neu oedi’r cais.

 

Roedd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu wedi hysbysu’r Pwyllgor mai  Cyngor Cymuned Drenewydd Gelli-farch yw’r ymgeisydd ac nid yw’r Pwyllgor Cynllunio wedi derbyn cais i dynnu’r cais cynllunio yn ôl. 

Wedi ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Dale Rooke ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Emma Bryn y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00851 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn pleidlais, nodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

I’w gymeradwyo                                -            13                   

Yn gwrthwynebu cymeradwyo           -           0                                 

Ymatal rhag pleidleisio                     - 0                                 

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Cytunwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00851 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

 

12.

Cais DM/2022/00923 – Cynnig am ddwy ffenestr dormer i’r drychiad sy’n wynebu’r blaen/de ddwyrain. Ffenestr dormer cefn a theras to i’r drychiad yn wynebu i’r cefn/gogledd orllewin. Crooklands, Heol yr Eglwys, Gwndy, Cil-y-coed, NP26 3EN. pdf icon PDF 51 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo, a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.  


Wrth nodi manylion y cais, gwnaed y pwyntiau canlynol:

  • Ni fyddai modd edrych dros yr ardd gyfagos. Mae yna sgriniau preifatrwydd ar ochr y teras er mwyn diogelu’r amwynder y tu nol i’r eiddo ar naill ochr y Crooklands.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Ben Callard ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Jayne McKenna y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00923 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

Yn dilyn pleidlais, nodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

I’w gymeradwyo                                -            14                   

Yn gwrthwynebu cymeradwyo           -           0                                 

Ymatal rhag pleidleisio                     - 0                                 

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Cytunwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00923 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.