Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Apwyntio Is-gadeirydd. Cofnodion: Apwyntiom y Cynghorydd Sir P. Jordan yn Is-Gadeirydd.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim wedi’u derbyn.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 296 KB Cofnodion: Cytunom i ohirio ystyried cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar y 12fed o Ionawr 2022 nes cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio er mwyn rhoi cyfle i gynrychiolydd cyfreithiol y Pwyllgor adolygu’r recordiad o’r cyfarfod gyda’r bwriad o roi eglurder ar gywirdeb y cofnodion o ran paragraff ar dudalen 10 sy’n ymwneud â chais DM/2019/01937. |
|
Cofnodion:
Mynychodd yr aelod lleol dros Larkfield y cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
· Mae’r Clwb Pêl-droed angen datblygu’r cae er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda meini prawf Cymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn galluogi’r clwb i gamu mlaen o fewn strwythur y gynghrair.
· Mae’r clwb wedi ei leoli mewn ardal breswyl ac mae angen iddo gymryd ei gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol o ddifri fel cymydog da.
· Mae pryderon yn lleol o ran ei gapasiti presennol a’i allu i reoli traffig ar ddiwrnod gêm a thraffig a ddaw yn sgil cystadlaethau pêl-droed a gynhelir yn y clwb. Mae’r cynigion ychwanegol wedi gwneud y pryderon yn waeth.
· Pwysleisiwyd fod angen i’r clwb ddangos tystiolaeth o ran y camau y mae’n bwriadu eu cymryd i reoli parcio ar y safle a thraffig ar y ffyrdd. Mae angen i hyn gael ei wneud drwy gyfrwng Cynllun Rheoli Traffig ac mewn partneriaeth weithredol gyda’r Heddlu er mwyn osgoi problemau pellach o ran sefyllfa parcio trigolion yn ystod y dyddiau y mae gêm yn cael ei chynnal. Mae’r cynlluniau diwygiedig o ran capasiti parcio ar y safle, a datblygu Cynllun Rheoli Traffig yn gam mawr y mlaen o ran mynd i’r afael â phryderon y preswylwyr. Mae’r cynllun yn ddibynnol ar wirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n briodol.
· Tynnodd yr Aelod Lleol sylw at ymateb yr Adran Priffyrdd a amlinellir yn yr adroddiad. Ystyriwyd fod angen sefydlu mecanweithiau adolygu er mwyn rhoi cyfle i’r holl randdeiliaid werthuso pa mor llwyddiannus y mae’r cynllun wedi’i gyflwyno ac a oes angen cymryd camau pellach, megis cyflwyno rheoliadau traffig, yn y dyfodol.
· Dylid rhoi’r Cynllun Rheoli Traffig ar waith cyn i’r datblygiad gael ei gwblhau er mwyn mynd i’r afael â’r problemau traffig sy’n bodoli’n barod.
· Yn dilyn adolygiad o’r cynlluniau, mae’n ymddangos mai bach iawn fydd effaith weledol y ddwy eisteddle newydd. Er hyn, teimlwyd fod angen i’r Pwyllgor asesu lleoliad yr eisteddleoedd drosto ei hun cyn gwneud penderfyniad ar y cais.
· Mae angen i’r clwb ddod o hyd i ffordd o gyd-fyw gyda phreswylwyr a sicrhau fod unrhyw effaith, nawr ac yn y dyfodol yn cael ei reoli a’i liniaru’n briodol.
Ymatebodd Rheolwr y Gwasanaethau Datblygu fel a ganlyn:
· Nid oes ymateb wedi’i dderbyn gan yr Heddlu hyd yma.
· Yn dilyn derbyn sylwadau gan yr Adran Priffyrdd, teimlwyd fod y cynllun yn ymarferol a’i fod yn cynnig gwelliant ar y sefyllfa bresennol.
· Mae’r Adran Priffyrdd yn cytuno i’r cynllun arfaethedig yn ddarostyngedig i amodau.
· Bydd yr amod sy’n ymwneud â’r Cynllun Rheoli Traffig yn dod i rym ar y dyddiad y mae’r caniatâd cynllunio’n cael ei roi.
· Nid oes sail i wrthwynebu gan fod y cynnig o ran y sefyllfa parcio a darparu Cynllun Rheoli Traffig yn welliant aruthrol o’i gymharu â’r sefyllfa bresennol.
· Mater i’r Heddlu a’r Adran Priffyrdd fyddai gorfodaeth o ran unrhyw broblemau parcio.
|
|
Cofnodion: Ystyriom adroddiad y cais a’r ohebiaeth a dderbyniwyd yn hwyr a oedd wedi’u hargymell i’w cymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Rhoddodd yr Aelod Lleol dros St. Mary’s, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, wybod i’r Pwyllgor ei fod yn croesawu’r cais a throi’r eiddo’n leoliad preswyl unwaith eto gan fod hyn yn well amwynder i’r cymdogion.
Yn dilyn ystyried yr adroddiad a safbwyntiau’r Aelod Lleol, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Dylid ystyried mesurau ynysu s?n yn yr adeilad o ystyried fod yr eiddo gyferbyn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion A3. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu wybod i’r Pwyllgor y gellid ychwanegu gwybodaeth er mwyn rhoi ystyriaeth i’r mater yma.
· Mae’r cais yn gynnig rhesymol i droi’r adeilad yn un a ddefnyddir at ddibenion preswyl unwaith eto.
Wrth gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 13 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Yn ymatal - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynom y dylid cymeradwyo cais DM/2021/01367 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad a fod gwybodaeth yn cael ei ychwanegu er mwyn ystyried yr angen i osod ynysu’r adeilad rhag s?n o ystyried fod yr adeilad sydd gyferbyn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion A3.
|
|
Cofnodion: Ystyriom adroddiad y cais a’r ohebiaeth a dderbyniwyd yn hwyr a oedd wedi’u hargymell i’w cymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynegodd yr Aelod Lleol dros St. Arvans, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei chefnogaeth i’r cais a chroesawodd ychwanegu’r paneli am eu bod yn cyd-fynd ag ymrwymiad y Cyngor i’w bolisi lleihau carbon
Yn dilyn derbyn yr adroddiad a safbwyntiau’r Aelod Lleol, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Bydd cymeradwyo’r cais yn gwella’r ardal leol
· Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â gwrthwynebiadau Cyfeillion Gorsaf Tyndyrn i’r cais hwn (amlinellir yn yr adroddiad) nodwyd fod y Swyddogion Cynllunio’n fodlon nad oedd y cais yn achosi niwed annerbyniol i’r ardal.
Wrth gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 13 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Yn ymatal - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynom y dylid cymeradwyo cais DM/2021/01421 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
ER GWYBODAETH – Yr Arolygaeth Gynllunio – Penderfyniadau Sydd Wedi Eu Derbyn Am Apeliadau: |
|
Ravensnest Fishery, Ravensnest Wood Road, Tyndyrn. PDF 209 KB Cofnodion: Derbyniom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl a wnaed yn dilyn ymweliad safle â Physgodfa Ravensnest, Ravensnest Wood Road, Tyndyrn ar yr 22ain o Dachwedd 2021.
Nodwyd fod yr apêl wedi cael ei ollwng.
Diolchodd yr Aelod Lleol dros St. Arvans y Swyddogion Cynllunio am eu gwaith mewn perthynas â’r mater yma.
|