Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 7fed Rhagfyr, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod heddiw.

Cofnodion:

Fe wnaethom ethol y Cynghorydd Sir P. Jordan yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio a hynny i eistedd mewn cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio ac ar y Panel Dirprwyedig tan y gall y Cadeirydd parhaol ailgydio yn ei dyletswyddau.

 

2.

Penodi Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod heddiw.

Cofnodion:

Fe wnaethom ethol y Cynghorydd Sir A. Webb yn Is-gadeirydd dros dro y Pwyllgor Cynllunio a hynny i eistedd mewn cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio ac ar y Panel Dirprwyedig tan y gall yr Is-gadeirydd parhaol ailgydio yn ei ddyletswyddau.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 179 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd a llofnodwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 5 Hydref 2021 gan y Cadeirydd.

 

5.

Dirymu Arfaethedig Caniatâd Cynllunio DM/2020/00817. Tir yng Nghyffordd Twnnel Hafren, Ffordd yr Orsaf, Cil-y-coed ar gyfer Maes Parcio'r Orsaf ar Dir i'r De o Gyffordd Twnnel Hafren. pdf icon PDF 196 KB

Cofnodion:

Rydym wedi ystyried yr adroddiad ar y cais y gofynnir am gymeradwyaeth ar ei gyfer er mwyn galluogi’r Cyngor, fel yr Awdurdod Cynllunio perthnasol, i orchymyn dirymu caniatâd cynllunio DM/2020/00817 ar gyfer Maes Parcio’r Orsaf ar Dir i’r De o Gyffordd Twnnel Hafren.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 24 Mehefin 2020 ac fe’i dilyswyd ar 3 Gorffennaf 2020. Mae’r cais wedi’i gofrestru ers hynny a’r ymarfer ymgynghori priodol wedi’i gynnal. Cyflwynwyd y cais i’r Panel Dirprwyedig i’w ystyried ar 27 Hydref 2021 ac argymhellodd swyddog y dylid ei gymeradwyo. Cytunodd y Panel Dirprwyedig ag argymhelliad y swyddog ar ôl hynny a chymeradwywyd y cais ar 28 Hydref 2021 gydag amodau.

 

Yn dilyn cyhoeddi’r penderfyniad daeth yn amlwg na ddylai’r cais fod wedi’i gyflwyno i’r Panel Dirprwyedig. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor roedd yn ofynnol cyflwyno’r cais i’r Pwyllgor Cynllunio i benderfynu arno o gofio mai’r Cyngor oedd yr ymgeisydd a bod gwrthwynebiad cynllunio sylweddol i’r cynigion.

 

Felly cafwyd caniatâd i gyflwyno Gorchymyn Dirymu er mwyn dirymu’r penderfyniad yn gyfreithlon. 

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais cynigiodd y Cynghorydd Sir G. Howard y dylid gwneud gorchymyn dirymu o dan Adran 97 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 er mwyn dirymu’r cais cynllunio DM/2020/00817 ac y dylid cyflwyno’r cais a’i ystyried yn llawn yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol er mwyn penderfynu arno, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Sir M. Feakins.

 

Ar ôl cynnal pleidlais ar y mater, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid dirymu-           7

Yn erbyn dirymu         -           0

Ymatal             -           0

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Penderfynwyd gwneud gorchymyn dirymu o dan Adran 97 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 er mwyn dirymu’r cais cynllunio DM/2020/00817 ac y dylid cyflwyno’r cais a’i ystyried yn llawn yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol er mwyn penderfynu arno.

 

Nodwyd y byddai arolygiad o’r safle yn cael ei gynnal cyn cyflwyno’r cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol.

 

 

6.

ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio - Penderfyniadau o ran Apeliadau a Dderbyniwyd.

6a

73 Heol y Parc, Cil-y-coed. pdf icon PDF 145 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio yn ymwneud â phenderfyniad ar yr apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn 73 Heol y Parc, Cil-y-coed ar 7 Medi 2021.

 

Nodwyd bod yr apêl wedi’i gwrthod.