Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 3 Rhagfyr 2019 eu cadarnhau a’u llofnodi gan yr Is-gadeirydd.
|
|
Cofnodion: Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i’r pedair amod a amlinellir yn yr adroddiad.
Mynychodd Mrs. H. Trotman, yn gwrthwynebu’r cais, y cyfarfod ar wahoddiad yr Is-gadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:
· Ym mis Awst 2017 roedd yr ymgeisydd wedi codi wal blociau bris ar hyd y terfyn rhwng y ddwy annedd.
· Gosodwyd ffens newydd chwe throedfedd chwe modfedd ar ben y wal oedd wedi codi lefel y terfyn i 2.7 metr mewn uchder sy’n torri caniatâd datblygu a ganiateir. Bu hyn yn ei lle am ddwy flynedd a hanner, gan effeithio’n ddifrifol ar ei hamwynder preswyl.
· Ni fu unrhyw ymgynghori ymlaen llaw ac ystyriai’r gwrthwynebydd y byddai’n rhaid bod wedi tresmasu i wneud y gwaith adeiladu, yn groes i’r ddeddf ar waliau cydrannol.
· Ystyriai’r gwrthwynebydd fod yr ymgeisydd wedi torri cyfamodau cyfyngol David Wilson drwy beidio cael caniatâd ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol cyn datblygu.
· Wrth i amser fynd rhagddo roedd y gwaith daear yn niweidio tir y gwrthwynebydd. Ystyriwyd fod yr ymgeisydd wedi newid llif naturiol y tir gan adael i dd?r gronni yng ngardd y gwrthwynebydd.
· Mae’r wal yn cael effaith argae gyda chronnii difrifol ddilynol ar dd?r gydag unlle i’r d?r ddraenio iddo.
· Mae’r ymgeisydd wedi codi lefel y ddaear ar ei ochr ef o’r terfyn sy’n uwch na’r wal gan olygu fod pridd a daear yn gorlifo i ardd y gwrthwynebydd.
· Cynhaliwyd cyfarfod ar 10 Hydref 2019 gyda phob parti a chytunwyd fod niwed yn cael ei achosi i eiddo’r gwrthwynebydd. Gofynnwyd i’r gwrthwynebydd baratoi cynllun yn dangos system o ddraeniad i geisio datrys y broblem ar gost iddi hi.
· Mewn cyfarfod blaenorol awgrymwyd y gellid gosod system ddraeniad Ffrengig fyddai’n lliniaru’r problemau draeniad. Paratowyd cynllun ar y cyngor hwn. Mae’r cynllun yn rhoi system o ddraeniad ar gyfer eiddo rhif 19 a 21 yn rhedeg ar holl hyd y ddau derfyn. Byddai hyn yn cysylltu gyda draen storm y gwrthwynebydd ar ei heiddo. Roedd pawb yn y cyfarfod wedi cytuno i hyn.
· Rhoddwyd mynediad i eiddo’r gwrthwynebydd i wneud y gwaith hwn. Yn ystod y gwaith hwn, ystyriai’r gwrthwynebydd fod yr ymgeisydd wedi methu gosod y bibell ddraeniad ar ochr gardd y gwrthwynebydd. Ni hysbyswyd y gwrthwynebydd am y newid hwn yn y cynllun. Felly mae d?r yn dal i gronni gan nad oes ganddo unlle i ddraenio iddo.
· Mae llifogydd hefyd yn digwydd ar batio’r gwthwynebydd. Mae’r gwaith a wnaed wedi methu trin y difrod a achosir i eiddo’r gwrthwynebydd.
· Heb osod pibell rydyllog ar ochr y gwrthwynebydd i’r terfyn, ni fydd unrhyw welliant gan fod y lefelau a godwyd gan yr ymgeisydd yn ddieithr i’r datblygiad gwreiddiol.
· Mae dwysedd cerrig mân yr ymgeisydd wedi gwaethygu’r problemau llifogydd ymhellach. Mae difrod i ardd y gwrthwynebydd yn y maes hwn yn ddifrifol.
· Roedd y gwrthwynebydd wedi bod yn berchennog ei heiddo am dros flwyddyn o pan oedd yn newydd cyn i’r ymgeisydd adeiladu’r wal. Bu gaeaf caled yn ystod y ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Cofnodion: Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r saith amod a amlinellir yn yr adroddiad ac i Gytundeb Cyfreithiol Adran 106.
Mynychodd Aelod lleol Dixton gyda Osbaston y cyfarfod ar wahoddiad yr Is-gadeirydd ac amlinellu’r pwyntiau dilynol. Anerchodd y Pwyllgor Cynllunio fel yr Aelod lleol ac fel aelod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Tref Trefynwy.
· Roedd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Tref Trefynwy wedi trafod y cais ac wedi nodi y cynhaliwyd cyfarfod yr wythnos flaenorol i drafod y cais, bod Adran Cynllunio Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud argymhelliad i gymeradwyo’r datblygiad arfaethedig. Mynegwyd pryder nad oedd yn ymddangos fod Adran Cynllunio Sir Fynwy wedi ystyried barn Cyngor y Dref ac felly nad yw’r adroddiad ar y cais yn cynnwys barn Cyngor y Dref.
· Mae Cyngor Tref Trefynwy yn ystyried mai ei rôl yw cynrychioli preswylwyr lleol. Gofynnwyd cwestiynau a oes unrhyw bwynt cael Pwyllgor Cynllunio Cyngor Tref Trefynwy os na chaiff ei sylwadau eu rhoi i Aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Fynwy i’w hystyried.
· Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Tref Trefynwy yn ystyried y cafodd y broses ar gyfer y cais hwn ei ruthro. Fel arfer, mae gan Gynghorau Tref 21 diwrnod i ymateb i gais cynllunio. Fodd bynnag, yn yr achos hwn dim ond 14 diwrnod a roddwyd.
· Ni all y Pwyllgor gymeradwyo’r cais heddiw. Dim ond argymell cymeradwyo y gallai oherwydd mai diwrnod olaf yr ymgynghoriad yw 7 Chwefror 2020. Yn anffodus, gan na fu’r porth cynllunio ar gael ar-lein am gyfnod, ni all yr Aelod lleol wirio hyn. Mae angen eglurdeb cyn yr ystyrir y cais.
· Gofynnwyd am ohirio’r cais i alluogi’r Aelod lleol i gasglu gwybodateh gan breswylwyr. Fodd bynnag, ni chytunwyd i hynny.
· Mae Cyngor Tref Trefynwy yn ystyried fod y broses wedi tanseilio democratiaeth leol. Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Tref Trefynwy yn ystyried rhoi’r gorau iddi.
· Roedd Arolygwr Llywodraeth Cymru wedi gwrthod apêl yn erbyn arddull tebyg o ddatblygiad ar lain fwy tua 50 metr i ffwrdd tua 15 mlynedd yn ôl. Byddai’r rhesymau dros wrthdroi’r cais blaenorol yr un mor berthnasol i’r cais cyfredol sy’n cael ei ystyried.
· Ychydig o ddatblygiad fu ar Heol Beaufort yn y blynyddoedd cydrhwng, gan gadw ei chymeriad gwreiddiol.
· Mae’r datblygiad darniog hwn sy’n mynd rhagddo yn arwain, dros gyfnod, at newid sylweddol a niweidiol i gymeriad Dixton gyda Osbaston.
· Mae tair ffordd i gyrraedd Heol Beaufort. Mae pob un o’r ffyrdd yn ddarn sylweddol o ffordd un trac, lle na all dau gar basio ei gilydd. Felly mae angen i gerbydau facio neu ddefnyddio tramwyfeydd cartrefi i alluogi cerbydau i basio. Mae datblygiadau darniog wedi gwaethygu’r broblem hon.
· Mae’r datblygiad arfaethedig yn rhy bell i gerdded i ysgolion uwchradd. Nid oes unrhyw siopau na meddygfeydd yn yr ardal sy’n arwain at ddibyniaeth ormodol ar ddefnyddio ceir.
· Ychydig o balmentydd sydd sy’n llesteirio cerdded ar hyd y llwybr hwn.
· Nid yw’r datblygiad arfaethedig yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i greu cymunedau neilltuol. Mae risg y bydd effaith niweidiol ar gymeriad yr ardal. ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r 14 amod a amlinellir yn yr adroddiad a Chytundeb Cyfreithiol Adran 106.
Dynodwyd y pwyntiau dilynol wrth nodi manylion y cais:
· Croesawodd y Pwyllgor y cais.
· Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd am fannau gwefru trydan, dywedodd y Pennaeth Cynllunio y rhoddir ystyriaethau sylweddol i sut mae’r Awdurdod yn delio gyda lliniaru newid hinsawdd yn y Cynllun Datblygu Lleol amnewid.
· Cytunwyd y dylid ychwanegu amod ychwanegol i gytuno ar orffeniadau allanol.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir M. Feakins ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir A. Webb y dylid cymeradwyo cais DM/2018/00374 yn ddarostyngedig i’r 14 amod a amlinellir yn yr adroddiad a Chytundeb Cyfreithiol Adran 106. Hefyd, bod amod ychwanegol i gytuno ar orffeniadau allanol.
Pan roddwyd hynny i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
O blaid y cynnig - 14 Yn erbyn y cynnig - 0 Ymatal - 1
Cariwyd y cynnig.
Fe wnaethom benderfynu cymeradwyo cais DM/2018/00374 yn ddarostyngedig i’r 14 amod a amlinellir yn yr adroddiad a Chytundeb Cyfreithiol Adran 106. Hefyd, y dylid ychwanegu amod ychwanegol i gytuno ar orffeniadau allanol.
|
|
Cofnodion: Derbyniwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd ar gyfer gwrthodiad yn amodol ar y ddau reswm a amlinellir yn yr adroddiad.
Mynychodd yr Aelod lleol dros Lanfihangel Troddi y cyfarfod ar wahoddiad yr Is-gadeirydd ac amlinellu’r pwyntiau dilynol:
· Mae hwn yn gais a ail-gyflwynwyd a gafodd ei newid yn sylweddol. Cafodd ei ostwng mewn maint gan dros 50%.
· Cafodd yr adeiladau allanol diffygiol eu gadael allan o’r cyflwyniad diweddaraf.
· Caiff adroddiad peiriannydd ymgynghori ar yr adeiladau ei gadw o fewn y datblygiad a fernir yn addas ar gyfer eu addasu ac yn ystyried eu bod mewn cyflwr buddiol.
· Mae’r cais wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r lleoliad gwledig o ran ei ddyluniad a hefyd ei orffeniad.
· Nid oes gan y cais arddull trefol, modern a nodweddion y cais blaenorol.
· Mae’r ail-gyflwyniad yn cynnig gostwng lefel llawr yr adeilad drwy fabwysiadu ymarferiad tanategu i ddarparu ar gyfer elfen deulawr. Nid yw’r tanategu yn annodweddiadol o ysguboriau a addaswyd a bydd yn gwella sylfeini’r waliau cerrig presennol.
· Mae hefyd yn cynyddu maint a gofod defnyddiol yn yr adeilad.
· Awgrymodd yr Adran Cynllunio y byddai’n cefnogi addasu’r adeilad fel gosodiad gwyliau. Fodd bynnag, mynegodd yr Aelod lleol bryder gan y byddai’r ymddangosiad, dyluniad a maint y datblygiad yr un fath ag ar gyfer defnydd preswyl.
· Mae asiant yr ymgeisydd wedi tynnu sylw at nifer o ddatblygiadau tebyg a gafodd ganiatâd cynllunio. Roedd yr ymgeisydd yn ystyried y gallai’r Awdurdod gael ei weld yn anghyson ar ôl cymeradwyo ceisiadau tebyg ar gyfer trawsnewid strwythurau ategol.
· Ni fyddai’r datblygiad, sy’n cynnwys strwythur ysgubor carreg gwreiddiol, ynghyd ag addasu adeiladau ategol a godwyd yn y 1950au, yn cael ei farnu yn fodern yn unol â chofnodion cynllunio
· Os gwrthodir y cais, mae’n debygol y bydd yr ymgeisydd yn ystyried cyflwyno apêl ffurfiol.
· Derbyniodd y cais lawer o lythyrau cefnogaeth gan gymdogion agos a gan Gyngor Cymuned Llanfihangel Troddi sy’n cydnabod yr angen am ddarpariaeth tai fforddiadwy yn rhannau gwledig Sir Fynwy.
· Mae’r datblygiad arfaethedig yn cyflawni’r holl ganllawiau cynllunio atodol.
· Ni fu unrhyw wrthwynebiad lleol i’r datblygiad arfaethedig.
· Byddai datblygu’r safle ar gyfer defnydd preswyl yn welliant gweledol i’r ardal ac yn sicrhau fod yr adeiladau sydd ar hyn o bryd yn mynd yn ddiffaith yn cael eu tynnu oddi yno.
· Bydd y safle yn parhau i fod yn ddolur llygad os na chaiff ei ddatblygu.
· Mae cymdogion yn cydnabod y byddai’r addasu yn dod â’r adeiladau hyn, sydd mewn cyflwr gwael, yn ôl i ddefnydd fel cartref.
· Gofynnodd yr Aelod lleol i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried cymeradwyo’r cais.
Nodwyd y pwyntiau dilynol yn dilyn ystyriaeth o adroddiad y cais a’r sylwadau a fynegwyd:
· Nid oes digon o waith carreg neu ragoriaeth pensaernïol i’r adeiladau i alluogi ei addasu yn annedd breswyl.
· Byddai’n arwain at ddatblygiad mewn ardal wledig mewn lleoliad anghynaliadwy tu allan i derfyn anheddiad.
· Mae’r cais yn groes i bolisi cynllunio.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir G. Howard fod cais DM/2018/01720 yn cael ei wrthod ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Cofnodion: Fe wnaethom ystyried adroddiadau’r ceisiadau a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiadau.
Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau dilynol:
· Diolchodd y Pwyllgor i’r swyddogion am eu gwaith caled yn paratoi’r ddau gais i gael eu hystyried. Derbyniwyd cefnogaeth ar gyfer yr anheddau ac ar gyfer y cartref gofal. Bydd y ddau gais yn gydnaws â’r ardal.
· Gellid ychwanegu amod ychwanegol i gadw gofodau parcio ar gyfer dibenion parcio yn unig.
· Gellid ychwanegu amod ychwanegol i ddileu hawliau datblygu a ganiatawyd ar gyfer estyniadau to.
· Mae amodau ar y cynllun rheoli traffig adeiladu yn y cais amlinellol. Mae’r cais hwn ar gyfer materion a gadwyd.
· Yn nhermau darpariaeth bws, mae cyfraniad o £50,000 o fewn y Cytundeb Adran 106 i’r safle gael ei ddefnyddio i wella gwasanaethau bws lleol. Penderfyniad i Adran Trafnidiaeth y Cyngor Lleol yw sut y defnyddir hynny lle gwneir asesiadau i benderfynu ar y gwelliannau angenrheidiol. Gallai Swyddogion Cynllunio gydlynu gyda’r Adran Trafnidiaeth a’r Adran Stadau i ganfod os cynigir darparu safleoedd bws ychwanegol ar y safle hwn.
· Cynlluniwyd y safle gan roi sylw i barhauster gyda darparu cysylltiadau seiclo a cherddwyr. Mae cyllid ar gael o gyllid Adran 106 i ddatblygu’r llinell reilffordd.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir J. Higginson ac eiliodd y Cynghorydd Sir igymeradwyo ceisiadau DM/2019/01041 a DM/2019/01629 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad. Hefyd y dylid ychwanegu’r amodau dilynol:
· Yr amod a amlinellir mewn gohebiaeth hwyr am fanylion yr orsaf bwmpio
· Cadw gofodau parcio ar gyfer dibenion parcio yn unig
· Dileu hawliau datblygiad a ganiateir ar gyfer addasiadau to
Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
Dros gymeradwyo - 14 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymatal - 1
Cariwyd y cynnig.
Fe wnaethom benderfynu cymeradwyo ceisiadau a DM/2019/01041 a DM/2019/01629 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad. Hefyd, y dylid ychwanegu’r amodau dilynol:
|
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyo gyda’r saith amod a amlinellir yn yr adroddiad.
Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau dilynol:
· Bu gwaith cloddio ar y safle a mynegwyd pryder y gall tir yng nghefn y safle yn awr fod yn ansefydlog gyda choed, tyfiant a cherrig wedi eu symud. Gellid bod angen ymchwilio hyn cyn ystyried cymeradwyo’r cais.
· Mynegwyd pryder y byddai maint y datblygiad arfaethedig yn arwain at orddatblygiad o’r safle, yn neilltuol pan mae cerbydau teithio ar y safle.
· Mae’r safle yn cyd-ffinio â Border Waste Crick. Ni roddwyd caniatâd cynllunio i’r safle hwn gan fod pryder am lithriad tir tuag at y draffordd.
· Mynegwyd pryder y gallai’r gwaith cloddio effeithio’n niweidiol ar ddiogelwch preswyl yr ymgeisydd a’i deulu gan y gallai fod potensial ar gyfer tirlithriad yn yr ardal.
· Roedd Cyngor Cymuned Matharn wedi edrych ar Bolisi Cynllunio H8 ac mae’n ystyried nad yw’r cais yn ateb gofynion y polisi. Ystyriwyd nad oedd y safle yn ddigon mawr i ddarparu ar gyfer y datblygiad arfaethedig gan arwain at orddatblygiad y safle. Ystyriwyd nad oedd y safle i gyd yn addas ar gyfer ei ddatblygu.
· Dan y polisi parcio, bydd y ddau gartref parc, fel yr unedau preswyl, angen pum lle parcio. Dylid bod angen ardal droi er mwyn galluogi cerbydau i adael y safle mewn gêr symud ymlaen wrth ymuno â’r briffordd.
· Mae amodau model carafán yn amlinellu’r angen am fwlch o chwe metr rhwng carafanau a chartrefi symudol oherwydd eu natur fflamadwy.
· Mae’r Awdurdod lleol wedi cynnal asesiad sipsiwn a theithwyr ac amlinellwyd fod angen wyth safle o amgylch y Sir.
· Mae’r safle mewn perchnogaeth breifat ac mae’r ymgeisydd ar gyfer y safle yn byw o fewn yr asesiad. Mae’r ymgeisydd wedi sefydlu bod angen canfod cartref o fewn y Sir. Byddai’r safle hwn yn darparu’r angen hwnnw.
· Edrychwyd ar y safle yn nhermau polisi H8 a sefydlwyd fod y datblygiad yn diwallu’r maen prawf hwnnw.
· Mae wedi ei leoli mewn lleoliad cynaliadwy.
· Ystyrir bod yr amwynder gweledol yn dderbyniol.
· Ymchwiliwyd yr agwedd diogelwch priffordd a dynodwyd fod gwelededd yn dda o’r safle.
· Yn nhermau maint arfaethedig y datblygiad ar y safle, os ystyrir ei fod yn orddatblygiad o’r safle, dywedodd yr ymgeisydd y byddai’n fodlon cael dim ond y ddau gartref parc ar y safle ar ei gyfer ei hun a’i fab, a fyddai’n ganiatâd personol iddo ef a’i deulu gael cartref o fewn y Sir.
· Yng nghyswllt y gwaith cloddio yng nghefn y safle, dywedodd yr ymgeisydd wrth yr Adran Cynllunio nad oedd wedi gwneud unrhyw waith oedd angen caniatâd cynllunio. Nid oedd angen caniatâd cynllunio ar gyfer symud coed a thirlunio. Fodd bynnag, os oes gan y Pwyllgor bryderon, gellid ychwanegu amod cyn-dechrau i sicrhau sefydlogrwydd a diogelwch y tir yng nghefn y safle.
· Dywedodd Adran Iechyd yr Amgylchedd y byddai angen trwydded carafanau.
· Mae hwn yn safle mewn perchnogaeth breifat.
· Byddai tynnu’r pedair carafán deithiol o’r cais yn lliniaru’r problemau am or-ddatblygiad y safle. ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Apeliadau Newydd – 21 Tachwedd 2019 i 27 Ionawr 2020 Cofnodion: Nodwyd yr apeliadau newydd a dderbyniwyd rhwng 21 Tachwedd 2019 a 27 Ionawr 2020. |