Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sirol A. Easson fuddiant personol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2019/00997 gan ei fod yn un o lywodraethwyr Ysgol Gymraeg y Fenni.

 

Datganodd y Cynghorydd Sirol A. Easson fuddiant personol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2019/00997 gan ei fod yn aelod o Gomisiwn Heddlu a Throsedd Gwent.

 

Datganodd y Cynghorydd Sirol L. Brown fuddiant personol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2019/00997 gan ei bod yn aelod o'r Awdurdod Tân.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 158 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 1af Tachwedd 2019 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd yn amodol ar y diwygiad canlynol:

 

Dylid diwygio'r cynnig ar gyfer cais DM/2019/00796 fel a ganlyn:

 

Penderfynwyd bod cais DM/2019/00796 yn cael ei gymeradwyo yn ôl yr adroddiad gwreiddiol a gafodd ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio ar 3ydd Medi 2019 yn amodol ar ychwanegu at yr amodau a nodir amod ychwanegol i sicrhau bod tri lle parcio fesul annedd am byth yn cael eu nodi.

 

3.

Cais DM/2019/00426 – Newid defnydd llawr gwaelod (ac islawr bach) o siop Dosbarth A1 wag i werthwr tai Dosbarth A2. 22-23 Sgwâr Agincourt, Trefynwy, NP25 3DY. pdf icon PDF 139 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr a gyflwynwyd i'w gwrthod am un rheswm.

 

Daeth asiant yr ymgeisydd, Ms S. Matthews, i'r cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

 

·         Mae'r safle Sgwâr Agincourt wedi bod yn wag am dros 18 mis.

 

·         Byddai'r asiantaeth ystadau yn ddefnydd newydd deniadol a fyddai'n cynnal bywiogrwydd a hyfywedd ffryntiad y stryd drwy annog ymwelwyr a chysylltu teithiau gyda siopau a gwasanaethau eraill ar y stryd fawr yn ogystal â darparu arddangosfa ddeniadol yn y siop.

 

·         Byddai hefyd yn dyblu nifer y staff asiantaeth ystâd bresennol sy'n creu tair swydd newydd.

 

·         Mae Cyngor Tref Trefynwy a'r Siambr Fasnach yn cefnogi'r cynnig.

 

·         Mae gan y cais argymhelliad i wrthod oherwydd mân dorri polisi RET1.   Ar y cyfan, mae'r cynnig yn methu un is-bwynt un o dri maen prawf polisi RET1, gan yr ystyrir bod hyn yn uned amlwg a ddylai aros yn nosbarth defnydd A1. Rhaid i'r tebygolrwydd o sicrhau tenant o ansawdd da gael ei gynnwys yn y penderfyniad.

 

·         Mae amlygrwydd yr adeilad yn golygu ei bod yn bwysicach fyth dod o hyd i ddefnydd newydd.  Yn enwedig gan fod hwn yn adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi bod yn gorwedd yn wag am dros 18 mis.

 

·         Mae tystiolaeth marchnata wedi cadarnhau nad oes fawr o debygolrwydd o sicrhau tenant adwerthu o ansawdd da yn y tymor byr i ganolig oherwydd maint yr uned a bod meddianwyr adwerthu yn tueddu i ffafrio lleoliadau eraill yng nghanol y dref.

 

·         Mae'r heriau sy'n wynebu'r stryd fawr wedi'u dogfennu'n dda gyda chyfran y siopau gwag wedi cyrraedd dros 10% ledled y wlad.

 

·         Bydd gwrthod y cais yn parhau â'r swydd wag hirdymor sy'n creu effaith andwyol ar fywiogrwydd ac edrychiad y rhan hon o ganol y dref.  Fodd bynnag, bydd rhoi caniatâd cynllunio yn dod ag adeiladau yn ôl i ddefnydd, gan ddod â buddsoddiad, cefnogi busnes sydd eisoes yn bodoli, creu swyddi newydd a gwella bywiogrwydd Sgwâr Agincourt.

 

Ar ôl derbyn adroddiad y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Nid oes angen newid defnydd yr eiddo hwn.  Mae'r eiddo wedi'i leoli'n ganolog o fewn y dref ac yn ddelfrydol fel siop fanwerthu.  Mynegwyd pryder nad oedd yr eiddo wedi cael ei farchnata'n ddigon trylwyr fel siop wag dosbarth A1.

 

·         Mae'r cyfraddau gwag ar gyfer eiddo manwerthu yn Nhrefynwy yn cyfateb i 10.1% sydd wedi bod yn gwaethygu yn y dref yn y blynyddoedd diwethaf.

 

·         Mae llawr uchaf yr adeilad yn wag ar hyn o bryd.  Mae gan gefn yr adeilad ganiatâd cynllunio ar gyfer dwy uned breswyl sy'n lleihau faint o le llawr sydd i'w ddefnyddio ar gyfer manwerthu.

 

·         Nid yw teithiau cyswllt yn debygol ar gyfer asiantaethau ystadau gan eu bod yn tueddu i fod yn dripiau un pwrpas.

 

·         Mae angen i ganol trefi addasu a newid er mwyn ffynnu.  Ar hyn o bryd, mae 19 o siopau gwag yn y dref.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch nifer y cwsmeriaid, nodwyd bod yr Adran Gynllunio  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cais DC/2016/01342 – Trosiad, estyniad ac estyniad to “mansard” i’r eiddo er mwyn ffurfio 21 uned breswyl gyda pharcio beiciau a cherbydau a chyfleusterau sbwriel ac amwynder ar y safle. Tŷ Newbridge, Stryd Tudur, Y Fenni, NP7 5LH. pdf icon PDF 179 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a gyflwynwyd i'w gwrthod am un rheswm.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar 3ydd Medi 2019.  Yn y cyfarfod hwn, penderfynodd y Pwyllgor ohirio'r broses o ystyried y cais er mwyn caniatáu i swyddogion adolygu'r argymhelliad.   Roedd hyn mewn ymateb i wybodaeth a dderbyniwyd oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ddydd Llun 2il Medi 2019.  Roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau bod prydles newydd 10 mlynedd wedi'i llofnodi ar gyfer yr adeilad cyfan ym mis Rhagfyr 2017, ac roedd yn cwmpasu'r cyfnod o 2 Ebrill 2018 i 1 Ebrill 2028. Roedd opsiwn torri gan y tenant yn unig ar 31 Mawrth 2023.

 

Ni ystyrir bod y cynnig yn cydymffurfio â gofynion Polisi E1 ac felly ni fyddai'n llwyddo i ddiogelu tir cyflogaeth presennol rhag datblygiadau amgen.

 

Roedd asiant yr ymgeisydd, Mr R. Chichester, yn bresennol yn y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Ers y cyflwyniad gwreiddiol mae'r cynllun wedi esblygu i drafodaethau rhagweithiol swyddogion proffesiynol yr Awdurdod Cynllunio Lleol a Chomisiwn Dylunio Cymru.

 

·         Mae'r cynlluniau diwygiedig yn adlewyrchu'r holl amrywiadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y datblygiad arfaethedig.

 

·         Mae'r cynllun diwygiedig yn ddatblygiad deniadol a chynaliadwy sy'n ceisio adfywio adeilad sy'n bodoli eisoes o fewn Ardal Gadwraeth y Fenni.

 

·         Argymhellwyd y dylid cymeradwyo'r cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ym mis Medi 2019.  Fodd bynnag, ar ôl cael sylwadau hwyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, cadarnhawyd bod y brydles ar yr adeilad wedi'i hadnewyddu.  Felly, roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi gohirio ystyried y cais er mwyn adolygu'r arsylwadau hwyr.

 

·         Yn dilyn yr adolygiad hwn, mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol bellach yn credu na fydd y cais yn cydymffurfio â Pholisi E1 y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ac mae wedi cyflwyno argymhelliad ar gyfer gwrthod y cais.

 

·         Mae'r ymgeisydd yn anghytuno â safiad yr Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn dadlau, er gwaethaf sylwadau hwyr y tenantiaid presennol, y byddai'r cynllun arfaethedig yn glynu wrth Bolisi E1 ac na fyddai'n rhagfarnu'r tenantiaid presennol.

 

·         Nid yw'r ymgeisydd yn amau bod y tenantiaid wedi adnewyddu eu prydles ar yr adeilad presennol 12 mis yn ôl.  Fodd bynnag, mae angen deall cyd-destun a hanes adnewyddu'r brydles a'r cais cynllunio a gyflwynir i'r Pwyllgor heddiw.

 

·         Cyflwynwyd y cais gydag estyniad arfaethedig a throsi'r adeilad i fflatiau preswyl i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ym mis Rhagfyr 2016 yn dilyn cadarnhau'r tenantiaid o'u bwriad i adael yr adeilad oherwydd lleihau'n raddol gofynion y busnes.  Ategwyd hyn gan y ffaith bod y perchenogion wedi methu sicrhau tenantiaid ar gyfer llawr cyntaf ac ail lawr yr adeilad am oddeutu 14 mlynedd er eu bod yn mynd ati i farchnata'r lloriau gydag asiantau lleol.

 

·         Oherwydd sawl cais i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ynghylch cynllun a hyfywedd yr adeilad, mae'r cais wedi cymryd bron i dair blynedd i'w benderfynu.

 

·         Mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi cefnogi'r newid yn y defnydd o'r safle hwn i ddefnydd preswyl.

 

·         Yn ystod y broses ymgeisio a sawl wythnos cyn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cais DM/2019/00136 – Newid defnydd tir amaethyddol er mwyn sefydlu 5 cell glampio a bloc tŷ bach/cawod newydd. Tir ar Fferm Broadstone, Heol Dug Efrog, ger Staunton, Trefynwy. pdf icon PDF 152 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd eu cymeradwyo, yn amodol ar yr amodau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wrth nodi manylion y cais, rhoddwyd sylw i bryderon y preswylwyr.

 

Fe'i cynigiwyd gan y gan y Cynghorydd Sirol A. Davies a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol J. Becker y dylai cais DM/2019/00136 gael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid             -           14

Yn erbyn                     -           0

Ymatal             -           0

 

Cafodd y cynnig ei dderbyn.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2019/00136 yn amodol ar yr amodau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

6.

Cais DM/2019/00938 – Newid i amod 2 (hoffwn addasu dyluniad cefn yr eiddo) yn ymwneud â DC/2015/01588. 34 Stryd Maryport, Brynbuga, NP15 1AE. pdf icon PDF 88 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd eu cymeradwyo, yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiadau.

 

Roedd y ddau gais wedi'u cyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio ar 1af Hydref 2019 gydag argymhelliad ar gyfer cymeradwyaeth yn amodol ar amodau.  Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor wedi bod yn awyddus i wrthod y ddau gais oherwydd pryderon a godwyd ynghylch y cynllun ac effaith amwynder y gymdogaeth.

 

Fodd bynnag, roedd yr ymgeisydd wedi darparu lluniadau wedi'u diwygio ar gyfer y ddau gais i'r pwyllgor cynllunio eu hystyried i'w cymeradwyo yn amodol ar amodau.

Fodd bynnag, os oedd y Pwyllgor yn dal i ystyried gwrthod y ceisiadau, cyflwynwyd iddo'r rhesymau dros wrthod y cais.

 

Wrth nodi manylion y ceisiadau, roedd y ddau gais yn nes at y dyluniadau gwreiddiol a gynigiwyd.

 

Cafodd ei gynnig gan y Cynghorydd Sirol P. Murphy a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol M. Powell y dylid cymeradwyo ceisiadau DM/2019/00938 a DM/2019/01186 yn dilyn y newidiadau diweddaraf fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad gan ddileu'r hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer estyniadau.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid             -           11

Yn erbyn                     -           0

Ymatal             -           3

 

Cafodd y cynnig ei dderbyn.

 

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo ceisiadau DM/2019/00938 a DM/2019/01186 yn dilyn y newidiadau diweddaraf fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad gan ddileu'r hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer estyniadau.

 

 

7.

Cais DM/2019/00997 – Uned symudol newydd arfaethedig i ffurfio dau ddosbarth, tai bach, cegin ac ystafell gotiau. Ysgol Gymraeg Y Fenni, Heol Dewi Sant, Y Fenni, NP7 6HF. pdf icon PDF 89 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w cymeradwyo, yn amodol ar y tri amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Hysbysodd yr Aelod lleol dros Groesonen, sydd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y Pwyllgor fod hanes o broblemau parcio yn y lleoliad hwn.  Fodd bynnag, mae neuadd bentref wedi'i lleoli y drws nesaf i'r safle lle ceir cyfleusterau parcio.  Mae'r ysgol yn llwyddiannus iawn ac yn ehangu ac felly mae angen ystafelloedd dosbarth ychwanegol.  Er y bydd rhai problemau traffig ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol, byddai hyn yr un fath mewn unrhyw ysgol o fewn y sir.  Mynegodd yr Aelod lleol ei gefnogaeth i'r cais felly.

 

Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol: 

 

·         Byddai'r cabanau newydd arfaethedig yn darparu dau ddosbarth newydd a chyfleusterau cysylltiedig gyda chapasiti ar gyfer hyd at 60 o ddisgyblion a dau athro.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y Sir, nodwyd bod yr Adran Gynllunio wedi gweithio'n agos gyda'r Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc ynghylch yr atebion trafnidiaeth ar gyfer disgyblion. O safbwynt cynllunio, roedd yn ymwneud ag ystyried yr effaith ychwanegol ar y priffyrdd.   Mae yna fesurau rheoli y gellir eu sefydlu na fyddent yn arwain at deithiau ychwanegol a niwed ychwanegol i ddiogelwch ar y ffyrdd.

 

·         Dylai'r ysgol ystyried cynllun teithio llwybrau diogel i'r ysgol os cafodd y cais ei gymeradwyo.  Hefyd, dylid ystyried caniatâd dros dro o bum mlynedd hyd nes y bydd yr ysgol 3-19 yn y Fenni wedi'i hadeiladu.   Mewn ymateb, nodwyd bod amod tri yn yr adroddiad yn ymdrin â llawer o'r agweddau a godwyd.   O ran caniatâd dros dro, mae dau ddosbarth symudol eisoes yn eu lle. Ni fyddai unrhyw niwed cynllunio yn cael ei greu drwy gymeradwyo'r cais yn fythol-barhaus o ystyried bod cynigion ar gyfer adeiladu ysgol newydd 3-19 yn y Fenni maes o law a fyddai'n arwain at ail-ddarpariaeth i'r Ysgol Gymraeg.

 

Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol R. Harris a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol R.J. Higginson y dylai cais DM/2019/00997 gael ei gymeradwyo yn amodol ar y tri amod fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid             -           12

Yn erbyn                     -           1

Ymatal             -           1

 

Cafodd y cynnig ei dderbyn.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2019/00997 yn amodol ar y tri amod fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

8.

Cais DM/2019/01017 – Newid defnydd o garej i lety gwyliau. Garej dwbl sy’n Bodoli Eisoes yn Y Chateau, yr A466 Cwrt Catchmays i Bont Bigsweir, Llaneuddogwy, Trefynwy pdf icon PDF 88 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd eu cymeradwyo, yn amodol ar yr 12 amod fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol ar gyfer Llanarfan, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:

 

·         Ategir y cais gan bolisïau cynllunio.

 

·         Fodd bynnag, mynegwyd pryder ynghylch yr agweddau ar briffyrdd gan fod newidiadau sylweddol wedi bod ers adeiladu'r garej.   Mae traffig ar yr A466 wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y cyfnod hwn.

 

Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mynegodd rhai Aelodau gefnogaeth i'r cais gan ei fod yn cael ei gefnogi gan bolisïau cynllunio.

 

·         Mynegodd Aelodau eraill eu pryder gan fod y traffig wedi cynyddu'n sylweddol ers adeiladu'r garej. 

 

·         Pan ychwanegir estyniad y gegin.  Bydd yr echdynnydd wedi'i leoli gyferbyn â ffenestri preswylfa gyfagos.

 

·         Byddai'r gwyliau arfaethedig yn edrych yn well na'r garej bresennol.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, nodwyd y byddai'n ofynnol i'r safle gwyliau arfaethedig bodloni safonau rheoliadau adeiladu.

 

Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol A. Webb a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol J. Becker y dylai cais DM/2019/01017 gael ei gymeradwyo yn amodol ar y 12 amod fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid             -           8

Yn erbyn                     -           5

Ymatal             -           1

 

Cafodd y cynnig ei dderbyn.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2019/01804 yn amodol ar y 12 amod fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

9.

Cais DM/2019/01320 – Estyniad llawr cyntaf er mwyn creu ystafell wely newydd. 21 Ethley Drive, Rhaglan, NP15 2FD. pdf icon PDF 57 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd eu cymeradwyo, yn amodol ar y ddau amod fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wrth nodi manylion y cais, cafodd ei gynnig gan y Cynghorydd Sirol A. Webb a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol D. Evans y dylai cais DM/2019/01320 gael ei gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid             -           14

Yn erbyn                     -           0

Ymatal             -           0

 

Cafodd y cynnig ei dderbyn.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2019/01320 yn amodol ar y ddau amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

10.

Cais DM/2019/01327 – Cymeradwyaeth gynllunio am swyddfa heddlu sy’n bodoli eisoes (wedi’i gosod Hydref 2018) ac uned ychwanegol ar gyfer loceri, bagiau chwilio ac arfwisg corff. Gorsaf Dân Y Fenni, Heol Henffordd, Y Fenni, NP7 5PU. pdf icon PDF 71 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd eu cymeradwyo, yn amodol ar y ddau amod fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wrth nodi manylion y cais, cynigiodd y Cynghorydd Sirol P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sirol M. Powell y dylid cymeradwyo cais DM/2019/01327 yn amodol ar y ddau amod fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid             -           13

Yn erbyn                     -           0

Ymatal             -           1

 

Cafodd y cynnig ei dderbyn.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2019/01327 yn amodol ar y ddau amod fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

11.

Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Datblygiad Mewnlenwi Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Fynwy pdf icon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cawsom adroddiad ynghylch canlyniadau'r ymarfer ymgynghori ar y Canllawiau Cynllunio Atodol Datblygu Mewnlenwi drafft, i gefnogi'r polisïau a nodir yng Nghynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy (CDLl).

 

Wrth wneud hynny, gofynnwyd am i'r Canllawiau Cynllunio Atodol Datblygu Mewnlenwi drafft gael eu diwygio i gynnwys safle cornel wrth ochr y gwahanol fathau o ddatblygiadau mewnlenwi a nodwyd eisoes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Canllawiau Cynllunio Atodol Datblygu Mewnlenwi drafft yn ogystal â chynnwys safle cornel wrth ochr y gwahanol fathau o ddatblygiadau mewnlenwi a nodwyd eisoes, gyda'r bwriad o gyhoeddi ar gyfer ymgynghori ac argymell i'r Aelod Cabinet dros Arloesedd, Menter a Hamdden yn unol â hynny.

 

 

12.

Archeoleg yng Nghynllunio Drafft, Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Fynwy, Nodyn Cyngor Cynllunio. pdf icon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cawsom adroddiad ynghylch y Nodyn Archeoleg mewn Cynllunio a Chyngor Cynllunio Drafft ac i ystyried yr estyniadau arfaethedig i Ardaloedd Sensitifrwydd Archeolegol presennol yn y Fenni, Trefynwy a Thryleg ac ystyried dynodi Ardal Sensitifrwydd Archeolegol newydd yn Nhyndyrn.

 

Wrth wneud hynny, nodwyd y bydd y cyfnod ymgynghori yn dechrau ar 18fed Tachwedd 2019 ac yn cau ar 5ed Ionawr 2020.

 

Penderfynwyd cefnogi'r Nodyn Archeoleg mewn Cynllunio a Chyngor Cynllunio Drafft, yn cynnwys y newidiadau arfaethedig i'r ffiniau i’r Ardaloedd Sensitifrwydd Archeolegol presennol y Fenni, Trefynwy a Thryleg a'r bwriad i ddynodi Ardal Sensitifrwydd Archeolegol newydd yn Nhyndyrn.

 

 

13.

ER GWYBODAETH – Yr Arolygiaeth Gynllunio – Penderfyniadau Apêl wedi’i Dderbyn:

13a

26 Heol San Siôr, Cas-gwent. pdf icon PDF 67 KB

Cofnodion:

Derbyniasom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 28ain Awst 2019. Cyfeiriad y safle: 26 Heol San Siôr, Cas-gwent.

 

Nodom fod yr apêl wedi'i chaniatáu a'r cyfeirnod caniatâd cynllunio:  DM/2019/00027 ar gyfer cwblhau ystafell wydr strwythuredig bren bresennol ar falconi cefn y t?: Adeilad newydd - ymestyn rhan o'r balconi presennol yng nghefn y t? i gynnwys balconi Juliette i ddarparu llwybr (tua 70cm o led) i ystafell wydr blaen yn 26 Heol San Siôr, Cas-gwent, NP16 5LA a roddwyd ar 14 Mawrth 2019 gan Gyngor Sir Fynwy, yn cael ei amrywio drwy ddileu amodau 3, 4 a 5.

 

13b

Fferm Magor Pill, Whitewall, Magwyr. pdf icon PDF 75 KB

Cofnodion:

Derbyniasom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 5ed Medi 2019. Cyfeiriad y safle: Fferm Magor Pill, Whitewall, Magwyr.

 

Nodom fod yr apêl wedi'i gwrthod.

 

 

13c

Yew Tree Cottage, Rhaglan i’r A449, Rhaglan. pdf icon PDF 60 KB

Cofnodion:

Derbyniasom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 20fed Medi 2019.  Cyfeiriad y safle: Yew Tree Cottage, Rhaglan i’r A449, Rhaglan.

 

Nodom fod yr apêl wedi'i gwrthod.