Agenda and minutes
Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sirol P. Clarke fuddiant personol a rhagfarnol yn unol â chod ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2019/00351 gan ei fod yn Gyfarwyddwr gwesty Glen-yr-Afon House a gwesty'r Three Salmons. Mae'r ddau gwmni yn cynnal derbyniadau priodas. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio arno.
Datganodd Cynghorydd Sirol A. Davies fuddiant personol a rhagfarnol yn unol â chod ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2019/00595, gan ei fod yn gyfaill i wrthwynebydd i'r cais. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio arno.
Datganodd y Cynghorydd Sirol A. Easson fuddiant personol a rhagfarnol yn unol â chod ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2019/00595, gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio arno.
Datganodd y Cynghorydd Sirol D. Evans fuddiant personol a rhagfarnol yn unol â chod ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â cheisiadau DM/2019/00595 a DM/2019/00900 gan ei fod yn aelod o Gymdeithas Tai Sir Fynwy ac yn denant. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y trafodaethau na phleidleisio arno.
Datganodd y Cynghorydd Sirol R. J. Higginson fuddiant personol a rhagfarnol yn unol â chod ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2019/00900 oherwydd bod cyfaill teuluol yn rhan o’r cais. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio arno.
Datganodd y Cynghorydd Sirol P. Murphy fuddiant personol a rhagfarnol yn unol â chod ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â cheisiadau DM/2019/00595 a DM/2019/00796. DM/2019/00595 - yn agos at y cymdogion. DM/2019/00796 - mae'r ymgeisydd yn cyflogi ei fab. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio arno.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 3ydd Medi 2019 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd yn amodol ar y diwygiad fel a ganlyn:
Cais DM/2019/00346
Dylid diwygio pwynt bwled 4 i ddarllen:
Gofynnodd yr Aelod lleol os oedd y Pwyllgor o blaid rhoi caniatâd, ei fod yn ystyried dileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer estyniadau.
Hysbysodd y Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd y Pwyllgor fod angen diwygio cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 2il Ebrill 2019, fel a ganlyn:
Bu'r Pwyllgor Cynllunio yn ystyried cais DM/2018/02040 ar gyfer ymestyn y maes parcio yn Neuadd y Sir, Brynbuga ar 2il Ebrill 2019. Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad gyda 9 amod a gohebiaeth hwyr gyda 4 amod ychwanegol, yn ogystal â dau amod a adroddwyd ar lafar yn ymwneud â phwyntiau gwefru cerbydau trydan, i'w gosod o fewn 12 mis i'r defnydd cyntaf o’r maes parcio, a darparu stondinau beiciau. Cymeradwywyd y cais yn amodol ar yr amodau hynny. Fodd bynnag, wrth gyfeirio at yr amodau ychwanegol, mae'r cofnodion yn cyfeirio at 13 amod yn unig.
Cytunwyd y dylid cywiro'r cofnodion i gyfeirio at bob un o'r 15 amod.
|
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y deg amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynychodd y Cynghorydd I. Williams, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Llanhenwg, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd, ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
Mynychodd Caroline Thomas, a oedd yn cynrychioli gwrthwynebwyr y cais, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd, ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
|
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn amodol ar y tri amod a amlinellir yn yr adroddiad.
Mynychodd y Cynghorydd J. Harris, yn cynrychioli Cyngor Tref Cil-y-coed, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
Mynychodd Victoria Hallet, a oedd yn cynrychioli gwrthwynebwyr i'r cais, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd, ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
|
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr a gafodd ei argymell i’w gymeradwyo yn amodol ar yr wyth amod a amlinellir yn yr adroddiad.
Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:
Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol P. Murphy a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol A. Davies y dylid cymeradwyo cais DC/2017/01248 yn amodol ar yr wyth amod fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 12 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymatal - 1
ENILLWYD y bleidlais.
Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DC/2017/01248 yn amodol ar yr wyth amod fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w cymeradwyo yn amodol ar y ddau amod a amlinellir yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar waith Asesu Canlyniadau Llifogydd ychwanegol sy'n cael ei wneud i ddangos bod perygl llifogydd mewn perthynas â Nant Nedern ac unrhyw effeithiau ar drydydd partïon, yn cael eu hystyried fel yn dderbyniol i'r Cyngor.
Wrth nodi manylion y cais, roedd angen egluro nifer yr unedau gan fod dyluniad y cynllun yn gwrthdaro ag adroddiad y Pwyllgor.
Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol D. Evans a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol A. Easson y dylid cymeradwyo'r cais DM/2018/01071 yn amodol ar y ddau amod fel yr amlinellir yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar waith Asesu Canlyniadau Llifogydd ychwanegol sy'n cael ei wneud i ddangos bod y perygl o lifogydd mewn perthynas â Nant Nedern ac unrhyw effeithiau ar drydydd partïon yn cael eu hystyried fel yn dderbyniol i'r Cyngor. Hefyd, i egluro nifer yr unedau gan fod dyluniad y cynllun yn gwrthdaro ag adroddiad y Pwyllgor.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid y cynnig - 12 Yn erbyn y cynnig - 0 Ymatal - 0
ENILLWYD y bleidlais.
Penderfynwyd y dylai cais DM/2018/01071 gael ei gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod fel yr amlinellir yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar waith Asesu Canlyniadau Llifogydd ychwanegol sy'n cael ei wneud i ddangos bod y perygl o lifogydd mewn perthynas â Nant Nedern ac unrhyw effeithiau ar drydydd partïon yn cael eu hystyried fel yn dderbyniol i'r Cyngor. Hefyd, roedd angen egluro nifer yr unedau gan fod dyluniad y cynllun yn gwrthdaro ag adroddiad y Pwyllgor.
|
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried adroddiad y cais gydag argymhelliad, fel y cytunwyd gan y Pwyllgor Cynllunio yn ei gyfarfod ar 3ydd Medi 2019, am benderfyniad rhanedig. Sef, cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i'r tai ond gwrthod y garejys arfaethedig.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar 3ydd Medi 2019. Yn y cyfarfod hwnnw, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu ei fod o blaid rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer yr anheddau ond yn gwrthod rhoi caniatâd i'r garejys ar sail màs, maint a dyluniad, a gofynnodd a fyddai modd cynnal trafodaethau gyda'r ymgeisydd i ganiatáu ailystyried materion cyfeiriadedd, ôl troed a phriffyrdd a oedd yn ymwneud â'r garejys.
Ar ôl cyflwyno'r adroddiad ar y cais, hysbysodd Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd y Pwyllgor, pe bai'n bwriadu cytuno â'r argymhelliad fel yr amlinellir yn yr adroddiad, mai goblygiad y penderfyniad hwnnw fyddai’r angen i gymryd camau gorfodi i gael gwared ar un o'r garejys (a amlinellir mewn pinc ar y cynllun) ac i garej ychydig yn fwy gael ei hadeiladu (wedi'i hamlinellu mewn glas ar y cynllun).
Amlinellodd yr Aelod lleol ar gyfer Drenewydd Gelli-farch, sydd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:
Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod lleol, nodwyd y pwyntiau canlynol:
Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol G. Howard a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol L. Brown am benderfyniad rhanedig. Sef, cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i'r tai gyda'r amodau presennol yn aros ac ychwanegu amod ychwanegol i sicrhau bod y tri lle parcio fesul annedd am byth yn cael eu marcio, ond i wrthod y garejys arfaethedig.
|
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr a gafodd ei argymell i’w gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod a amlinellir yn yr adroddiad.
Wrth nodi manylion y cais, cafodd ei gynnig gan y Cynghorydd Sirol A. Easson a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol P. Murphy y dylai cais DM/2019/00900 gael ei gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid y cynnig - 11 Yn erbyn y cynnig - 0 Ymatal - 0
ENILLWYD y bleidlais.
Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2019/00900 yn amodol ar y ddau amod fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiadau'r ceisiadau a'r ohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w cymeradwyo, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiadau.
Mynegodd yr Aelod lleol ar gyfer Llangybi Fawr, sydd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, ei bryder i'r Pwyllgor y bydd y ceisiadau arfaethedig yn creu ystafell wydr a fydd yn rhwystro'r olygfa o ffenestr cegin yr eiddo drws nesaf.
Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod lleol, nodwyd y pwyntiau canlynol:
Cafodd ei gynnig gan y Cynghorydd Sirol P. Murphy a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol M. Powell y dylai ceisiadau DM/2019/00938 a DM/2019/01186 gael eu cymeradwyo yn amodol ar yr amodau fel yr amlinellir yn yr adroddiadau ac yn amodol ar ddileu hawliau datblygu a ganiateir.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 4 Yn erbyn cymeradwyo - 6 Ymatal - 1
Ni chafodd y cynnig ei dderbyn.
Felly, fe wnaethom gytuno ein bod yn bwriadu gwrthod ceisiadau DM/2019/00938 a DM/2019/01186 ar y sail bod dyluniad y to gogwydd sengl yn niweidio amwynder yr eiddo cyfagos a niweidio amwynder gweledol. Dylid ailgyflwyno'r cais i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol gyda rhesymau priodol dros wrthod.
|
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr a gafodd ei argymell i’w gymeradwyo yn amodol ar yr wyth amod a amlinellir yn yr adroddiad.
Amlinellodd yr Aelod lleol ar gyfer Drenewydd Gelli-farch, sydd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:
Dywedodd Rheolwr y Tîm Ardal Rheoli Datblygu wrth y Pwyllgor, ar ôl siarad â'r ymgeisydd, y nodwyd bod yr ymgeisydd yn y broses o brynu'r tair erw o dir. Mae'r ymgeisydd yn bwriadu rhoi’r gwrtaith ar y safle hwn a defnyddio’r safle ar gyfer pori. Dylai amod 7 fynd i'r afael â phryderon ynghylch storio gwrtaith. Er mwyn lleddfu unrhyw bryderon, gellid newid yr amod hwn i gynnwys cynllun rheoli i fynd i'r afael â storio'r gwrtaith.
Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod lleol, nodwyd y pwyntiau canlynol:
|
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w cymeradwyo yn amodol ar y chwe amod fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol o dan Adran 106.
Wrth nodi manylion y cais, fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol P. Clarke a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol M. Feakins y dylai cais DM/2019/01034 gael ei gymeradwyo yn amodol ar y chwe amod, fel yr amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol Adran 106. Hefyd, dylid sefydlu cynllun i fynd i'r afael â manylion y bargod a'r bondo cyn rhoi caniatâd.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid y cynnig - 10 Yn erbyn y cynnig - 0 Ymatal - 0
ENILLWYD y bleidlais.
Penderfynwyd y dylai cais DM/2019/01034 gael ei gymeradwyo yn amodol ar y chwe amod fel yr amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol Adran 106. Hefyd, dylid sefydlu cynllun i fynd i'r afael â manylion y bargod a'r bondo cyn rhoi caniatâd.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwnaethom ystyried cadarnhau Gorchymyn Diogelu Coed dros dro rhif MCC278 (2019). Hollycroft, Midway Lane, Y Fenni.
Gwnaethom gytuno i gadarnhau Gorchymyn Diogelu Coed rhif MCC278 (2019) – Hollycroft, Midway Lane, Y Fenni, heb ei addasu.
|
|
ER GWYBODAETH – Yr Arolygiaeth Gynllunio – Penderfyniadau am Apeliadau: |
|
24 Heol Belgrave, Y Fenni. Cofnodion: Cawsom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 17eg Mehefin 2019. Cyfeiriad y safle: 24 Heol Belgrave, Y Fenni.
Nodom fod penderfyniad yr apêl wedi'i wrthod.
|
|
Tir y Tu Nôl i Rosebrook, Watery Lane, Trefynwy. Cofnodion: Derbyniasom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 6ed Awst 2019. Cyfeiriad y safle: Land at Rear of Rosebrook, Watery Lane, Monmouth.
Nodom fod penderfyniad yr apêl wedi'i wrthod.
|
|
Heol Star, Nant-y-deri, Penperllenni. Cofnodion: Derbyniasom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 6ed Awst 2019. Cyfeiriad y safle: Heol Star, Nant-y-deri, Goetre.
Nodom fod penderfyniad yr apêl wedi'i wrthod.
|