Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 295 KB

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2022, ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

3.

Cais DM/2019/00800 – Dymchwel byngalo a’r tai allan ac adeiladu dwy annedd dau lawr gyda mynediad o’r briffordd, Homestead, Lôn Wainfield, Gwehelog, Brynbuga. pdf icon PDF 332 KB

Cofnodion:

Trafodwyd yr adroddiad ar y cais a’r ohebiaeth a ddaeth i law yn hwyr, a gyflwynwyd i wrthod y cais am un rheswm, fel a ganlyn:

 

·         Nid yw adeiladu dwy annedd ar y safle hwn yn gofyn am ddatblygiad mewnlenwi gan nad yw’n fwlch bach rhwng anheddau presennol ac felly byddai’r datblygiad yn mynd yn groes i Bolisi H3 o Gynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.

 

Roedd y cais wedi cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio ar 2 Chwefror 2021. Cydsyniwyd i ddymchwel byngalo a’i dai allan ac adeiladu dwy annedd sengl. Wedi hynny, roedd y penderfyniad yn destun Adolygiad Barnwrol gan breswylydd lleol, a’r unig sail a ddefnyddiwyd i herio’r caniatâd cynllunio oedd bod rhan o adroddiad y swyddog yn gamarweiniol iawn wrth drafod trefniadau draenio d?r budr, a hynny gan fod yna ganllaw o fewn dogfen gymeradwy H2 sy’n awgrymu y dylai caeau draenio fod o leiaf 15 metr i ffwrdd o adeilad. Pe byddai hynny wedi cael ei gymhwyso yn yr achos hwn, byddai wedi golygu bod gofyn i bob un o’r caeau draenio arfaethedig fod bum metr ymhellach o D? Cwtch a’r adeiladau arfaethedig.

 

Roedd y barnwr wedi dod i’r casgliad a ganlyn:

 

“O ddarllen adroddiad y swyddog yn ei gyfanrwydd, a oedd yn cynnwys adroddiad blaenorol, nodir pryderon y gwrthwynebwyr a’r cyngor cymuned lleol ynghylch y trefniadau draenio d?r budr, ac mae’r rhain yn cynnwys cyfeiriadau at yr hanes sy’n bodoli o ran trafferthion draenio yn yr ardal a’r ffaith bod y safle ar glai i raddau helaeth. Wrth ymdrin ag amwynder, nid yw’r adroddiad ond yn trafod amwynder gweledol a phreifatrwydd. Rwy’n credu, drwy beidio cyfeirio at y Cylchlythyr neu Ddogfen Gymeradwy H2, mae’r aelodau, hyd yn oed os ydynt yn ddarllenwyr hyddysg, yn debygol o fod wedi cael yr argraff, yn sgil y ffaith i’r swyddogion rheoli adeiladu bennu bod y cynigion draenio yn bodloni gofynion Rheoliadau 2010, bod hyn yn golygu mai dyna fyddai diwedd y mater o ran cynigion o’r fath. Yng nghyd-destun y maes cynllunio, rwy’n credu nad dyna’r achos. Roedd gadael y sefyllfa fel yna heb ymdrin yn llawn â digonoldeb y cynigion draenio yn y cyd-destun hwn yn gamarweiniol iawn yn fy nhyb i.”

 

Ar y sail hon, cafodd y penderfyniad ei ddiddymu, ac felly mae’r cais yn cael ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ei ystyried. Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi cynnal ail-arfarniad llwyr ar gyfer y cynnig datblygu yng ngoleuni’r dyfarniad hwn, ac mae wedi cynnal ymgynghoriad pellach ar ffurf ‘hysbysiad codi safle’ ar y safle ynghyd ag ymgynghori â’r cyngor cymuned lleol, partïon cyfagos ac ymgyngoreion statudol.

 

Amlinellodd Aelod lleol Llanbadog, a ddaeth i’r cyfarfod wedi iddo gael ei wahodd gan y Cadeirydd, y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Roedd yr Aelod lleol wedi dadlau yn erbyn y cais hwn yng nghyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Cynllunio, ac mae bellach yn falch bod swyddogion yn argymell y dylid gwrthod y cais erbyn hyn.

 

·         Mae’r safle eisoes wedi cael ei fewnlenwi gyda datblygiad T? Cwtch, ac nid oes  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cais DM/2020/01495 – Annedd 4 ystafell newydd ar dir sydd ger Gwesty’r Royal George. Tir i’r gorllewin o Westy’r Royal George, Heol Forge, Tyndyrn. pdf icon PDF 279 KB

Cofnodion:

Trafodwyd yr adroddiad ar y cais ynghyd â gohebiaeth a ddaeth i law yn hwyr, yr argymhellwyd y dylid ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106.

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio i’w ystyried ar 1 Mawrth 2022. Fodd bynnag, penderfynodd y Pwyllgor oedi’r amserlen ar gyfer ystyried y cais er mwyn rhoi amser i swyddogion drafod â’r sawl a wnaeth y cais gyda’r gobaith o ganfod nifer y mannau parcio a oedd ar gael ac ym mhle y byddant yn cael eu lleoli ar y safle. Gan hynny, ailgyflwynir y cais i'r Pwyllgor ei ystyried.

 

Amlinellodd Aelod lleol Llanarfan, sydd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Mae gwrthwynebiadau Cyngor Cymuned Tyndyrn i’r cais wedi cael sylw yn y wasg. Darllenwyd manylion y gwrthwynebiadau i’r Pwyllgor.

 

·         Dylid rhoi sylw i sylwadau’r Cyngor Cymuned wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

 

·         Mae’r Aelod lleol yn cynrychioli teimladau cryf y preswylwyr lleol sy’n gwrthwynebu’r cais. Yn benodol, y problemau o ran y trefniadau parcio ar safle’r gwesty a’r pryderon a godwyd ynghylch y prinder llefydd parcio.

 

·         Mae meysydd parcio cyfagos yn aml yn llawn ar benwythnosau ac yn ystod yr wythnos cânt eu defnyddio gan gerddwyr a thwristiaid yn rheolaidd. Mae twristiaeth yn dioddef yn Nhyndyrn oherwydd y diffyg llefydd parcio yn y pentref yn gyffredinol. Tyndyrn yw’r ardal fwyaf poblogaidd i dwristiaid yn y Sir.

 

·         Mae ffotograffau wedi cael eu cyflwyno i amlygu’r problemau parcio.

 

·         Nid yw’r Aelod lleol yn gallu cyfrifo faint o lefydd parcio fyddai eu hangen i ddiwallu gofynion ymwelwyr dydd, preswylwyr a staff.

 

·         Mae’r perchnogion yn awyddus i fyw ar y safle a rheoli’r gwesty.

 

·         Mynegwyd pryderon ynghylch sylwadau’r asiant.

 

·         Os byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo, gofynnwyd am amod pellach bod yr eiddo newydd ynghlwm wrth y gwesty ac na chaiff ei drin fel cais ar wahân.

 

·         Mae Heol Forge yn gul a’r palmant yn fach. Byddai cerbydau brys yn cael trafferthion wrth ddefnyddio’r lôn hon. Nid yw’r broblem o ran parcio wedi cael ei datrys ac nid oes ymweliad safle mewnol wedi cael ei gynnal.

 

·         Nid yw’r Aelod lleol yn derbyn argymhelliad y swyddog fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, a gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried gwrthod y cais.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad a’r sylwadau a gyflwynwyd, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Mae’r ardal sy’n cynnwys y 12 lle parcio yn eiddo i’r sawl sy’n gwneud y cais, sef perchnogion y gwesty.

 

·         Ni fyddai’r cyfleusterau parcio a ddarperir ar gyfer y datblygiad arfaethedig ond i’w defnyddio gan y sawl sy’n aros yn y t? ac nid i’w defnyddio gan y gwesty.

 

·         Mae’r cynllun maes parcio ar gyfer y gwesty a’r cabanau gwyliau yn ddigonol i’w ddefnyddio gan y gwesty wrth ychwanegu’r annedd a amlinellir yn yr adroddiad. Mae’r Adran Briffyrdd hefyd wedi cadarnhau y byddai’r maes parcio yn cydymffurfio â’r canllawiau priodol. Byddai 34 lle parcio yn ddigonol i ddarparu 16/17 ystafell wely ynghyd â thri lle parcio i staff. Gall  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cais DM/2021/01562 – Newid defnydd o C3 (annedd) i C4 (Tŷ Amlfeddiannaeth). Plot 5, Lower Hardwick, Hardwick Hill, Cas-gwent. pdf icon PDF 188 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ar y cais a’r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd y dylid ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Gwnaed y pwyntiau a ganlyn gan Aelod lleol Larkfield, Cas-gwent, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd:

 

·         Mae’r problemau sy’n cael eu cysylltu’n aml â thai amlfeddiannaeth yn cynnwys gwaethygiad mewn cydlyniant cymdeithasol gyda nifer uwch o breswylwyr dros dro a llai o aelwydydd hirdymor a theuluoedd sefydlog.

 

·         Mwy o ymddygiad gwrthgymdeithasol, s?n a throseddau posibl eraill yn gysylltiedig.

 

·         Ansawdd waeth i’r amgylchedd lleol a chyflwr strydoedd yn sgil mwy o lygredd sbwriel, tipio anghyfreithlon a mwy o adeiladau mewn cyflwr gwael.

 

·         Newid cymeriad yr ardal.

 

·         Mwy o straen o ran parcio cerbydau.

 

·         Llai o gyfleusterau cymunedol i deuluoedd a phlant.

 

·         Yn 2017, dywedodd Llywodraeth Cymru yn ei chanllawiau ar dai amlfeddiannaeth bod eu natur yn golygu nad oes cysylltiad rhwng y tai hyn a phreswylwyr ar incwm isel a grwpiau bregus ac y gallant fod yn fwy dwys nag aelwydydd sengl.

 

·         Mae Llywodraeth Cymru wedi annog awdurdodau lleol i roi’r gorau i  ddefnyddio tai amlfeddiannaeth a newid i dai mwy hunangynhwysol. Roedd y ceisiadau gwreiddiol ar gyfer yr holl dai ar y safle yn rhai i anheddau preswyl teuluol.

 

·         Mae angen rhagor o dai i deuluoedd yng Nghas-gwent.

 

·         Mae trafferthion eisoes yn bodoli o ran mynediad at y safle o deithio tua Lôn Hardwick Hill (Hardwick Hill Lane) oddi ar yr A48 a thua’r safle ei hun. Mae pryderon o ran y briffordd wedi eu mynegi gan yr Adran Briffyrdd, ac mae hyn yn cynnwys y straen o ran parcio a fydd yn cael ei achosi ar y strydoedd cyfagos os cymeradwyir y cais.

 

·         Mae’r cais ar gyfer pum ystafell wely, ond does dim ond tri lle parcio. Mewn gwirionedd, bydd mwy na thri char yn cael eu parcio yn y dreif, gyda chynnydd sylweddol yn nifer y bobl yn teithio ar Lôn Hardwick Hill.

 

·         Gan nad oes system unffordd ar Lôn Hardwick Hill, bydd trafferthion difrifol o ran y ffordd i mewn/allan a manwfro cerbydau.

 

·         O ran logisteg, mae’r safle yn anymarferol ar gyfer y cais hwn gan y bydd yn andwyol i ddiogelwch y briffordd.

 

·         Mae’r cais wedi ei leoli o fewn parth rheoli ansawdd aer ac mae’r man mynediad at Lôn Hardwick Hill gyferbyn â thiwb tryledu sy’n mesur lefelau’r llygredd yn yr ardal honno o’r parth. Yn y man mesur hwn y mae’r lefelau uchaf o nitrogen deuocsid yn y parth cyfan ers cael gwared ar dollau’r bont, sydd wedi arwain at ragor o draffig a mwy o lygredd.

 

·         Mae Cyngor Sir Fynwy wedi datgan argyfwng hinsawdd. Mae gan Bolisi Cynllunio rôl sylweddol i’w chwarae wrth gynorthwyo’r awdurdod i ddelio â’r rhybudd digwyddiad critigol hwnnw.

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol pa ymgynghoriad a wnaed gyda’r Adran Iechyd Amgylcheddol a Llywodraeth Cymru o ran y trefniadau i oruchwylio’r ffordd y caiff y parth ei reoli.

 

·         Byddai cymeradwyo’r cais hwn yn mynd yn groes i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cais DM/2021/01623 - Newid defnydd o C3 (annedd) i C4 (Tŷ Amlfeddiannaeth) ar gyfer uchafswm o 6 unigolyn. Little Hervells Court, 3 Hardwick Hill, Cas-gwent, NP16 5PT. pdf icon PDF 143 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ar y cais a’r ohebiaeth hwyr a ddaeth i law yr argymhellwyd y dylid ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Gwnaed y pwyntiau a ganlyn gan Aelod lleol Larkfield, Cas-gwent, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd:

 

·         Mae pwynt mynediad gwahanol ar ochr arall Hardwick Hill tuag at Stryd Steep gyda’r ffordd i mewn/allan a’r trafferthion parcio yn y lleoliad hwn.

 

·         Mae’r Adran Briffyrdd wedi gwrthwynebu’r cais ar seiliau diogelwch priffyrdd.

 

·         I reoli datblygiad tai amlfeddiannaeth ac atal eu llusogiad, ni ddylai awdurdodau ganiatáu i dai amlfeddiannaeth gael eu gosod yn agos at ei gilydd.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a’r sylwadau a gyflwynwyd, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Byddai strwythur mewnol y t? yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ac nid ystyriaeth wrth gynllunio yw hon.

 

·         Byddai gan y t? amlfeddiannaeth arfaethedig ardal gyffredin lle byddai cegin a lle bwyta i’w defnyddio gan y preswylwyr. Byddai hefyd ardd yng nghefn yr adeilad i’w defnyddio gan yr holl breswylwyr.

 

Daeth yr Aelod lleol i’r casgliad a ganlyn:

 

·         Os caiff y cais ei gymeradwyo, dylid ychwanegu amod iddo i gyfyngu ar nifer yr ystafelloedd a fyddai’n gwella’r amwynder byw ac yn cyfyngu ar yr effaith i’r ardal o ran traffig a llefydd parcio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir J. Higginson, wedi’i ategu gan y Cynghorydd Sir M. Powell, y dylid cymeradwyo cais DM/2021/01623 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad a bod amod 3 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:

 

Ni chaiff y t? gael mwy na chwe pherson yn preswylio ynddo ar unrhyw adeg o fewn defnydd Dosbarthiad C4 (T? Amlfeddiannaeth)

 

Wrth bleidleisio ar y mater, pleidleisiwyd fel a ganlyn:

 

O blaid y cynnig                      -           10

Yn erbyn y cynnig       -           1

Ymatal rhag pleidleisio            -           1

 

Pleidleisiwyd o blaid y cynnig i gymeradwyo’r cais.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2021/01623 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad a bod amod 3 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:

 

Ni chaiff y t? gael mwy na chwe pherson yn preswylio ynddo ar unrhyw adeg o fewn defnydd Dosbarthiad C4 (T? Amlfeddiannaeth)

 

7.

Cais DM/2022/00241 - Cynnig i adeiladu cyfarpar dŵr wyneb ar gyfer cartref gofal newydd ac anheddau sydd wedi eu cymeradwyo o dan gyfeirnod cynllunio: DM/2018/00696. Datblygu’r Tir i’r de o Heol Crug, Crug, Porthsgiwed. pdf icon PDF 179 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ar y cais a’r ohebiaeth hwyr a ddaeth i law yr argymhellwyd y dylid ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad y dylid cynnwys amod ychwanegol i sicrhau y cydymffurfir â Chynllun Rheoli’r Amgylchedd Adeiladu a gyflwynwyd.

 

Wrth nodi manylion y cais, cynigiodd y Cynghorydd Sir J. Higginson, wedi’i eilio gan y Cynghorydd Sir D. Evans, y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00241 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad a bod amod ychwanegol yn cael ei gynnwys i sicrhau y cydymffurfir â Chynllun Rheoli’r Amgylchedd Adeiladu a gyflwynwyd.

 

Wrth bleidleisio ar y mater, pleidleisiwyd fel a ganlyn:

 

O blaid y cais              -           12

Yn erbyn y cais                       -           0

Ymatal rhag pleidleisio            -           0

 

Pleidleisiwyd o blaid y cynnig i gymeradwyo’r cais.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00241 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad a bod amod ychwanegol yn cael ei gynnwys i sicrhau y cydymffurfir â Chynllun Rheoli’r Amgylchedd Adeiladu a gyflwynwyd.