Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 26 KB Cofnodion: Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 4 Mehefin 2024 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106.
Ailgyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio yn dilyn y penderfyniad i gytuno ar gynnig i ohirio’r cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ddydd Mawrth 4 Mehefin 2024. Y rheswm am y gohiriad oedd galluogi ymgynghoriad ffurfiol gyda Chyngor Cymuned Llanbadog yn ogystal â’r Cynghorwyr Sir Tony Kear a Meirion Howells (Ward ddeuol Llanbadog a Brynbuga).
Pan gyflwynwyd y cais i ddechrau ym mis Hydref 2020, roedd y safle o fewn Cyngor Cymuned Goetre Fawr a Ward Goetre Fawr. Felly, cynhaliwyd ymgynghoriad bryd hynny gyda Chyngor Cymuned Goetre Fawr ac wedyn Aelod Ward Goetre Fawr, Cynghorydd Sir Bryan Jones. Fel y nodwyd ym mharagraff 1.3 adroddiad y cais, cafodd y cais ei roi ar encil ers dechrau 2021. Fodd bynnag, mae’r newidiadau gweinyddol i ffiniau wardiau a phlwyfi ym mis Mai 2022 yn golygu na ymgynghorwyd â’r Cyngor ac Aelodau newydd.
Yn dilyn gohirio yng nghyfarfod Cynllunio Mehefin 2024, cynhaliwyd yr ymgynghoriadau perthnasol ar 4 Mehefin 2024.
https://www.youtube.com/live/LYMFQ4VELzc?si=Px9iPFjZwqXfV2JO&t=122
Pan roddwyd y mater i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
Dros gymeradwyo - 11 Yn erbyn cymeradwyo - 2 Ymatal - 0
Cafodd y cynnig ei gario.
Ni wnaeth y Cynghorydd Sir Sue Riley bleidleisio ar y cais gan ei bod yn hwyr yn ymuno â’r cyfarfod.
Penderfynwyd cymeradwyo cais rhif DM/2020/01438 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn destun amod ychwanegol yn ymwneud â goleuadau.
https://www.youtube.com/live/LYMFQ4VELzc?si=6FhfGfrb2TNJzz6m&t=1785
Wrth nodi manylion y cais a’r farn a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Tony Easson ac eiliodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell y dylid cymeradwyo cais DM/2024/00549 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn destun amod ychwanegol yn ymwneud â goleuadau.
Pan roddwyd y mater i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
Dros gymeradwyo - 13 Yn erbyn cymeradwyo - 1 Ymatal - 0
Cafodd y cynnig ei gario.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2024/00549 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn destun amod ychwanegol yn ymwneud â goleuadau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei dderbyn gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn destun asesiadau priodol dan y Rheoiliadau Cynefinoedd a gytunir gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.
https://www.youtube.com/live/LYMFQ4VELzc?si=rCcBYAfFLSg2Kuo2&t=6376
Wrth nodi manylion y cais a’r sylwadau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Dale Rooke ac eiliodd y Cynghorydd Maureen Powell y dylid cymeradwyo cais DM/2024/00355 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar gytuno ar asesiad priodol dan y Rheoliadau Cynefinoedd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.
Pan roddwyd y mater i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
Dros gymeradwyo - 14 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymatal - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2024/00355 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar gytuno gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar asesiad priodol dan y Rheoliadau Cynefinoedd.
|
|
ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio - Penderfyniadau Apeliadau a Dderbyniwyd: Cofnodion: |
|
Yr Hen Gyfnewidfa Ffôn, Heol Crug, Crug. PDF 151 KB Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Cynllunio sy’n ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliadau safe a gynhaliwyd yn Yr Hen Gyfnewidfa Ffôn, Heol C`+``rug, Crug ar 3 Mai 2024.
Nodwyd y cafodd yr apêl ei gwrthod.
|