Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 4ydd Mehefin, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Sir Phil Murphy yn Gadeirydd.

 

2.

Penodi Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Sir Dale Rooke yn Is-gadeirydd.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 29 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 8 Mai 2024 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

5.

Sheila Woodhouse, Cyn Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy

Cofnodion:

6.

Cais DM/2020/01438 – Datblygu 15 annedd (9 fforddiadwy a 6 marchnad agored) a datblygiad arall cysylltiedig a seilwaith. Tir ger Heol Tŷ Gwyn, Felinfach, NP4 0HU. pdf icon PDF 254 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106.

 

https://www.youtube.com/live/8zzQH0VSnxA?si=OUx-jryc5pxj6TN6&t=313

 

Wrth nodi manylion y cais a’r sylwadau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Fay Broomfield ac eiliodd y Cynghorydd Sir Meirion Howells ohirio ystyriaeth o gais DM/2020/01438 i gyfarfod yn y dyfodol o’r Pwyllgor Cynllunio er mwyn galluogi swyddogion i ymgynghori gyda Chyngor Cymuned Llanbadog ac Aelodau lleol am y cais hwn.

 

Pan roddwyd y mater i’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid y cynnig                    - 11 

Yn erbyn y cynnig       -           4

Ymatal                                     -           0

 

Cafodd y cynnig ei gario.

 

Penderfynwyd gohirio ystyriaeth o gais DM/2020/01438 i gyfarfod yn y dyfodol o’r Pwyllgor Cynllunio i alluogi swyddogion i ymgynghori gyda Chyngor Cymuned Llanbadog ac Aelodau lleol ynghylch y cais.

 

7.

Cais DM/2024/00384 - Newid defnydd tir amaethyddol i hwyluso lleoli arae solar wedi’I osod ar y ddaear I’w ddefnyddio gan Woodfield House. Woodfield House, Moor Lane, Pen y Fan, The Narth. pdf icon PDF 163 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

https://www.youtube.com/live/8zzQH0VSnxA?si=r6KT4e9TR3SbWIzk&t=3475

 

Wrth nodi manylion y cais a’r sylwadau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell ac eiliodd y Cynghorydd Sir Sara Burch y dylid cymeradwyo cais DM/2024/00384 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Dros gymeradwyo      -           13 

Yn erbyn cymeradwyo -         1

Ymatal             -           1

 

Cafodd y cynnig ei gario.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2024/00384 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.