Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 28 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar y 5ed o Fawrth 2024 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.
|
|
Cofnodion: Gohiriwyd ystyried cais DM/2020/01438 er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth gyfredol yn gyhoeddus ar-lein ac er mwyn rhoi amser i gynnal proses ail-ymgynghori gyda chymdogion. Bydd adroddiad y cais yn cael ei ail-gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio yng nghyfarfod mis Mehefin 2024 ar gyfer ystyriaeth.
https://www.youtube.com/live/B19BQBemGKw?si=lCUTIJOjQO-sEEG&t=107
|
|
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cais a gohebiaeth a dderbyniwyd yn hwyr ac argymhellwyd eu bod yn cael eu cymeradwyo fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Cais yw hwn am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (LDC) ar gyfer Defnydd neu Ddatblygiad Arfaethedig, a’i ddiben yw canfod a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y defnydd arfaethedig. Byddai LDC yn rhoi sicrwydd ynghylch yr angen, neu beidio, am ganiatâd cynllunio.
https://www.youtube.com/live/B19BQBemGKw?si=J-R0hEHMl7p99_T-&t=180
Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Emma Bryn y dylid cytuno ar Dystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer defnydd C3 b) mewn perthynas â chais DM/2024/00206.
Fe’i rhoddwyd i bleidlais, a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid y cynnig - 14 Yn erbyn y cynnig - 0 Ymatal - 0
Derbyniwyd y cynnig.
Penderfynasom gytuno ar Dystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer defnydd C3 b) mewn perthynas â chais DM/2024/00206.
|
|
ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio – Penderfyniadau Apêl a Dderbyniwyd: Cofnodion: |
|
Rose Cottage, Grange Wood, Knollbury, Magwyr. PDF 193 KB Cofnodion: Derbyniom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliadau safle a gynhaliwyd yn Rose Cottage, Grange Wood, Knollbury, Magwyr ar y 18fed Mawrth 2024.
Nodwyd gennym bod yr apêl wedi'i wrthod.
|
|
Wisteria Lodge, Sandy Lane, Caerwent Brook, Caerwent PDF 192 KB Cofnodion: Derbyniom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliadau safle a gynhaliwyd yn Wisteria Lodge, Sandy Lane, Caerwent Brook, Caerwent ar y 16eg o Ionawr 2024.
Nodwyd gennym bod yr apêl wedi'i wrthod.
|
|
Apeliadau Cynllunio a dderbyniwyd -0 1 Ionawr i 31 Mawrth 2024. PDF 111 KB Cofnodion: Nodwyd yr apeliadau cynllunio a dderbyniwyd gan yr Adran Gynllunio ar gyfer y cyfnod 1af Ionawr i 31eg Mawrth 2024.
|