Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir Sara Burch fuddiant personol nad yw yn rhagfarnu yn unol â’r Cod Ymddygiad Aelodau yng nghyswllt cais DM/2023/01030, gan ei bod hefyd yr Aelod Cabinet perthnasol pan wnaed y penderfyniad i ryddhau’r safle i Gymdeithas Tai Sir Fynwy ar gyfer tai fforddiadwy.
Datganodd y Cynghorydd sir Phil Murphy fuddiant personol sydd yn rhagfarnu yn unol â’r Cod Ymddygiad Aelodau yng nghyswllt cais DM/2023/01042. Hysbysodd y Pwyllgor y cafodd posteri eu cylchredeg yn honni iddynt ddod ganddo ef yng nghyswllt mater gorfodaeth cynllunio ar yr un tir sy’n awr yn destun cais DM/2023/01042. Er bod y cais cyfredol ar wahân ac yn wahanol i’r achos gorfodaeth ac nad ef oedd wedi paratoi’r posteri, gadawodd y cyfarfod heb gymryd unrhyw ran yn y drafodaeth na phleidleisio arno yng nghyswllt y cais hwn.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. PDF 153 KB Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 5 Rhagfyr 2023 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd dros wrthod am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad.
Cafodd y cais ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio yn dilyn penderfyniad y Cyngor i beidio cytuno ar gynnig i gymeradwyo’r cais yn y cyfarfod ar 3 Hydref 2023. Felly, yn unol â Chod Ymarfer Cynllunio (Chwefror 2023), cafodd y cais ei ohirio i ystyried y rhesymau dros wrthod yn seiliedig ar y drafodaeth o fewn y cyfarfod.
https://www.youtube.com/live/Xt9tbCEMmCU?si=HYqrgI9FM6S1ZvpK&t=189
Wrth nodi manylion y cais a’r farn a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir John Crook ac eiliodd y Cynghorydd Sir Emma Bryant y dylid gwrthod y cais DM/2023/01042 am y rhesymau dilynol:
· Bydd y datblygiad yn arwain at lefel annerbyniol o draffig a fydd yn niweidiol i breswylwyr a defnydd presennol y lôn un trac presennol heb fawr o leoedd pasio, yn groes i Bolisi MV1 y Cynllun Datblygu Lleol.
Pan roddwyd y mater i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
Dros wrthod - 11 Yn erbyn gwrthod - 1 Ymatal - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynwyd gwrthod cais DM/2023/01042 am y rhesymau dilynol:
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd dros wrthod am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad.
https://www.youtube.com/live/Xt9tbCEMmCU?si=iCHwFEs_uzArSq7P&t=1655
Wrth nodi manylion y cais a’r farn a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Ann Webb ac eiliodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell y dylid gohirio ystyried cais rhif DM/2023/01329 er mwyn iddo gael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i’w gymeradwyo gydag amodau priodol.
Pan roddwyd y mater i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
Dros ohirio - 12 Yn erbyn gohirio - 1 Ymatal - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynwyd gohirio cais DM/2023/01329 er mwyn ei ailgyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i’w gymeradwyo gydag amodau priodol.
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
https://www.youtube.com/live/Xt9tbCEMmCU?si=BIXPa2srm7SD4S4X&t=3386
Wrth nodi manylion y cais a’r farn a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell ac eiliodd y Cynghorydd Su McConnel fod cais DM/2023/00711 yn cael ei gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Pan roddwyd y mater i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
Dros gymeradwyo - 14 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymatal - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2023/00711 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
https://www.youtube.com/live/Xt9tbCEMmCU?si=_nptMk7eL4INfDdx&t=4510
Wrth nodi manylion y cais a’r sylwadau a wnaed, cynigiodd y Cynghorydd Sir Dale Rooke ac eiliodd y Cynghorydd Sir Su McConnel gymeradwyo adroddiad DM/2023/01030 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Pan roddwyd y mater i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
Dros gymeradwyo - 12 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymatal - 1
Cariwyd y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2023/01030 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
https://www.youtube.com/live/Xt9tbCEMmCU?si=wiJ3trDZs_oCro43&t=6413
Wrth nodi manylion y cais a’r farn a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Su McConnel ac eiliodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell fod cais DM/2023/01242 yn cael ei gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Pan roddwyd y mater i’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
Dros gymeradwyo - 13 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymatal - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2023/01242 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad. |
|
ER GWYBODAETH – Yr Arolygiaeth Gynllunio- Penderfyniadau am Apeliadau a Costau a dderbyniwyd: Cofnodion: |
|
Penderfyniad Apêl - 25 Beaulieu Barn, Heol Kymin, y Kymin, Sir Fynwy. PDF 206 KB Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn 25 Beaulieu Barn, Heol Kymin, Y Kymin, Sir Fynwy ar 7 Rhagfyr 2023.
Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.
|
|
Penderfyniad ar Gostau - 25 Beaulieu Barn, Heol Kymin, y Kymin, Sir Fynwy PDF 182 KB Cofnodion: Cawyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at y penderfyniad costau yng nghyswllt 25 Beaulieu Barn, Heol Kymin, Y Kymin, Sir Fynwy.
Nodwyd y gwrthodwyd y cais am ddyfarniad costau.
|
|
Penderfyniad Apêl – Tir ger Hardwick Cottage, Hardwick Hill, Cas-gwent, Sir Fynwy PDF 222 KB Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd ar dir ger Hardwick Cottage, Hardwick Hill, Cas-gwent, Sir Fynwy ar 7 Rhagfyr 2023.
Nodwyd y cafodd yr apêl ei ganiatau ac y rhoddwyd caniatâd cynllunio gyda’r amodau a nodir yn rhestr yn adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio.
|
|
Penderfyniad Apêl – Tir gyferbyn â Rose Cottage, Llanbadog, Brynbuga, Sir Fynwy. PDF 192 KB Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd ar dir gyferbyn â Rose Cottage, Llanbadog, Sir Fynwy ar 7 Rhagfyr 2023.
Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.
|
|
Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Nistyllfa Silver Circle, Pleasant View Barn, Heol Ninewells, Cabrook, Tryleg, Sir Fynwy ar 9 Mai 2023.
Apêl A
Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.
Apêl B
Nodwyd y caniatawyd yr apêl yng nghyswllt sail (g) yn unig, ond y’i gwrthodwyd fel arall. Cafodd yr Hysbysiad ei amrywio drwy ddileu’r geiriau ‘tri mis’ a dodi’r geiriau ‘chwe mis’ yn eu lle o’r dyddiad y daeth yr Hysbysiad i rym. Cafodd yr Hysbysiad ei gynnal gyda’r amrywiad hwn.
|
|
Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at y penderfyniad ar gostau yng nghyswllt tir yn Nityllfa Silver Circle, Pleasant View Barn, Heol Ninewells, Catbrook, Tryleg, Sir Fynwy.
Nodwyd y gwrthodwyd y cais am ddyfarnu costau.
|