Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Sir Emma Bryn wedi datgan buddiant personol, nad yw’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2022/01800, gan ei bod wedi cynorthwyo gyda’r astudiaeth dichonoldeb yn casglu data sydd ei angen i barhau â’r astudiaeth gychwynnol i’r hyfywedd y prosiect, gan siarad â defnyddwyr a phartïon â chanddynt ddiddordeb. Anerchodd y Pwyllgor ond gadawodd y cyfarfod yn fuan wedyn heb gymryd unrhyw ran yn y drefn bleidleisio ar gyfer y cais hwn.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 189 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 4ydd Ebrill 2023 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd. |
|
Cofnodion: Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr yr argymhellwyd ei chymeradwyo gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol A106.
Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Jayne McKenna ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Ben Callard bod cais DM/2022/00848 yn cael ei ganiatáu gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol A106. Bydd adolygiad hyfywedd yn cael ei gynnwys yn y Cytundeb Cyfreithiol A106 i'w ysgogi os na fydd datblygiad yn dechrau o fewn 18 mis i ddyddiad y caniatâd. Hefyd, byddai'r datblygwr yn cael ei annog i osod pwyntiau gwefru e-feiciau yn, neu gerllaw'r lloches parcio beiciau arfaethedig, yn ogystal â darparu mannau gwefru allanol ar gyfer sgwteri symudedd trydan.
Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau a ganlyn:
O blaid y cynnig - 14 Yn erbyn y cynnig - 0 Ymatal - 0
Pleidleisiwyd o blaid y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2022/00848 yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol A106. Byddai adolygiad hyfywedd yn cael ei gynnwys yn y Cytundeb Cyfreithiol A106, i'w ysgogi os na fydd datblygiad yn dechrau o fewn 18 mis i ddyddiad y caniatâd. Hefyd, byddai'r datblygwr yn cael ei annog i osod pwyntiau gwefru e-feiciau yn neu gerllaw'r lloches parcio beiciau arfaethedig, yn ogystal â darparu mannau gwefru allanol ar gyfer sgwteri symudedd trydan. |
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a’r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd ei chymeradwyo gyda’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cymeradwyo’r Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA).
Amlinellodd yr Aelod lleol dros Wyesham, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau a ganlyn:
Wedi ystyried yr adroddiad ar y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· O ran hygyrchedd i bobl â nam ar eu golwg, byddai swyddogion yn trafod gyda'r datblygwr a ydynt wedi cael deialog gyda Sight Cymru ac unrhyw grwpiau diddordeb arbenigol eraill a allai roi cyngor ar y mater hwn. Nodwyd bod cyfarfod rhanddeiliaid hygyrchedd wedi'i gynnal ar 9 Mawrth 2023 ynghylch pobl â nam ar eu golwg.
· Nid yw'r bont bresennol bellach yn ddiogel i feicwyr a cherddwyr.
· Nid oes unrhyw fannau parcio beiciau arfaethedig i'w lleoli ger Clwb Rhwyfo Trefynwy. Fodd bynnag, gallai swyddogion roi'r mater hwn i'r ymgeisydd ei ystyried.
· Mae amod yn adroddiad y cais am gynllun rheoli traffig adeiladu a allai fynd i'r afael â'r mater yn ymwneud â defnydd y maes parcio cyfagos gan weithwyr adeiladu, gyda’r nod o leihau unrhyw aflonyddwch.
· Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd yngl?n â sut y gallai trigolion lleol mewn bythynnod cyfagos gael eu heffeithio gan y bont newydd arfaethedig, nodwyd y bydd y llwybr cerdded oddeutu 40 metr o ffenestri agosaf yr eiddo hyn a 25 metr i'r agosaf. rhan o'r gerddi. Bydd y bont yn uchel a bydd ganddi sgrin ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Cofnodion: Roedd cais DM/2022/01831 wedi'i dynnu'n ôl ychydig cyn i'r Pwyllgor Cynllunio ddechrau gyda'r bwriad o'i gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn i ni ei ystyried.
|
|
ER GWYBODAETH – Yr Arolygiaeth Gynllunio – Penderfyniadau am Apeliadau Sydd Wedi’u Derbyn |
|
Fferm Cefn Coed, Lôn Nannys, Kingcoed. PDF 169 KB Cofnodion: Roeddem wedi derbyn adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd ar Fferm Cefn Coed, Lôn Nannys, Kingcoed ar 14eg Chwefror 2023.
Gwnaethom nodi bod yr apêl wedi'i chaniatáu, a bod caniatâd cynllunio wedi'i roi i godi porth ar ran uchaf ogleddol yn Fferm Cefn Coed, Nannys Lane, Kingcoed, NP15 1DS, yn unol â thelerau'r cais, Cyf DM/ 2022/01298 5ed Medi 2022, a hynnyn yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr atodlen i’r llythyr penderfyniad. |
|
Pathways, Vinegar Hill, Gwndy. PDF 161 KB Cofnodion: Roeddem wedi derbyn adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Pathways, Vinegar Hill, Gwndy ar 20fed Mawrth 2023.
Gwnaethom nodi bod yr apêl wedi'i gwrthod. |