Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 226 KB Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2022, ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd yr adroddiadau ar y ceisiadau a’r ohebiaeth hwyr a ddaeth i law, yr argymhellwyd y dylid eu cymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiadau.
Fe wnaeth Aelod lleol Drenewydd Gelli-farch, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod wedi iddo gael ei wahodd gan y Cadeirydd, amlinellu’r wybodaeth a ganlyn:
· Mae’r gwahaniaeth yng ngwedd y ddau adeilad, ac effaith hyn ar y lleoliad ger Eglwys Mounton, yn cael ei amlygu drwy gymharu’r darlun o’r wedd ogledd-orllewinol bresennol a’r wedd ogledd-orllewinol arfaethedig yn ei chyd-destun.
· Mae'r defnydd o garreg ar waelod yr eiddo yn ymdebygu i’r eiddo sydd i'r dde wrth ddod o gyfeiriad y gylchfan i’r eglwys a'r eglwys ei hun.
· Mae'r defnydd o lechi du yn wahanol iawn i'r hyn a ddefnyddir ar eiddo lleol a gall greu ymddangosiad sefydliadol rywsut nad yw’n cyd-fynd â’r cyd-destun lleol.
· Ni fydd y lliw pren du yn pylu i liw bedwen arian.
· Er i’r arolygiad o’r safle gael ei gynnal yn ystod diwrnod cynnes o haf, mae'r ardal yn dywyll ac yn ddiflas iawn am ran helaeth o fisoedd y gaeaf.
· Disgrifiwyd y bwthyn presennol fel un nad yw’n tynnu sylw ato’i hun, gyda’i ochr yn wynebu’r ffordd, ond bydd yr adeilad arfaethedig yn fwy amlwg gan y bydd yn wynebu'r ffordd.
·
Yn ôl sylwadau Cyngor
Cymuned Matharn, er y cydnabyddir y problemau o ran llifogydd ar y
safle hwn a rhinweddau pensaernïol yr annedd arfaethedig,
teimlwyd mai dyma'r adeilad anghywir ar gyfer y lleoliad
hwn.
·
Nid yw’r bwthyn
presennol yn tynnu sylw ato’i hun yn ei ardal gadwraeth yn
Eglwys Mounton ar hyn o bryd, ond nid dyna’r achos
gyda’r adeilad arfaethedig. Nid yw'r cynnig yn cyd-fynd, yn
ategu nac yn ymdebygu i’r arddull lleol, ac mae ei faint a'i
linellau yn wahanol i'r anheddau eraill ym mhentref
Mounton. · Mae'r deunyddiau y bwriedir eu defnyddio yn wahanol i'r rhai mewn mannau eraill o fewn yr ardal gadwraeth yn y pentref.
· Am y rhesymau a grybwyllwyd, mae Cyngor Cymuned Matharn yn argymell y dylid gwrthod y cais.
· O ran Polisïau Cynllunio DES1, mae adran C yn cyfeirio at yr ymdeimlad o le ac mae adran G yn cyfeirio at yr angen i ddefnyddio'r bensaernïaeth draddodiadol lle bo'n briodol.
· O ran yr ardal o harddwch naturiol, mae Polisi LC4 yn cyfeirio at y graddau y mae ansawdd dyluniad a’r defnydd a wneir o ddeunyddiau priodol yn cyd-fynd â thirwedd yr ardal a'r traddodiad o ran adeiladau. Mae Polisi LC5 yn sôn am bwysigrwydd nodweddion a phatrymau traddodiadol. Mae TAN 12 yn cyfeirio at ddyluniad o ansawdd da o fewn y cyd-destun lleol. Mae'n sôn hefyd am elfennau nodweddiadol y lleoliad.
· Wrth ymweld â’r safle ar hyd Heol St. Lawrence, cyn cyrraedd Mounton, collir cymeriad yr ardal oherwydd yr amrywiaeth yn nyluniad y tai. Diben cadwraeth yw cadw neu wella cymeriad neu ymddangosiad yr ardal.
· Mae'r adeilad presennol wedi'i ddisgrifio yn y datganiad treftadaeth fel un nad yw’n tynnu gormod o sylw ato’i hun, ond mae'r adeilad hwn yn gwbl groes ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Cofnodion: Ystyriwyd yr adroddiad ar y cais a’r ohebiaeth hwyr a ddaeth i law, yr argymhellwyd y dylid ei gymeradwyo.
Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y wybodaeth a ganlyn:
· Mae digon o le i ddau gerbyd barcio y tu allan i’r adeilad.
· Pennwyd ardal i’w throi’n ardal addurniadol y gellid ei throi yn ôl yn lle parcio.
· Mae digon o le yn y lleoliad i ymwelwyr barcio cerbydau.
· Mae’n bosibl parcio heb gyfyngiadau ar ymyl y ffordd y tu allan i’r lleoliad.
· Y sawl sy’n gwneud y cais yw’r unig berchennog bellach ar y tir, sy’n eiddo preifat.
· Ystyriwyd nad oedd unrhyw reswm i wrthod y cais ar sail cynllunio.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir B. Callard, wedi’i eilio gan y Cynghorydd Sir J. McKenna, y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00699 fel yr argymhellwyd gan y swyddog yn yr adroddiad.
Wrth bleidleisio ar y cynnig, pleidleisiwyd fel a ganlyn:
O blaid y cynnig - 13 Yn erbyn y cynnig - 0 Ymatal rhag pleidleisio - 1
Pleidleisiwyd o blaid y cynnig.
Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00699 fel yr argymhellwyd gan y swyddog yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd yr adroddiad ar y cais, yr argymhellwyd y dylid ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106.
Ailgyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio at ddibenion egluro pwynt penodol. Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 8 Mehefin 2022, trafododd yr Aelodau’r cynnig a phenderfynwyd ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106, ac yn ddibynnol ar ddiwygio Amod 9 fel a ganlyn:
· Dylai graddfeydd uchaf ac isaf paramedrau taldra’r annedd fod yn 8 metr ar ei uchaf a 4 metr ar ei isaf.
Yn y cyfarfod, nodwyd bod diffyg eglurder yn y drafodaeth ynghylch y gwahaniaeth rhwng y man mynediad a’r dreif / man parcio a’r hyn a ystyriwyd yn y cyfnod amlinellol. Gan hynny, er mwyn cadarnhau’r mater hwn, ailgyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio.
Nodwyd bod y pwynt mynediad o’r lôn wedi’i osod o fewn y cais amlinellol ac nad oedd wedi dangos ffordd o gael mynediad at y safle. Heblaw’r mynediad ei hun, bydd dyluniad y dreif / man parcio yn cael ei ystyried fel rhan o’r materion sydd wedi eu cadw’n ôl.
Wrth nodi manylion y cais, cynigiodd y Cynghorydd Sir S. McConnel, wedi’i eilio gan y Cynghorydd Sir M. Powell, y dylid cymeradwyo cais DM/2021/00037 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106.
Wrth bleidleisio ar y cynnig, pleidleisiwyd fel a ganlyn:
O blaid y cynnig - 14 Yn erbyn y cynnig - 0 Ymatal rhag pleidleisio - 0
Pleidleisiwyd o blaid y cynnig.
Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2021/00037 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106.
|
|
DM/2021/0173 - Cadw garej ddomestig PDF 59 KB Cofnodion: Ystyriwyd yr adroddiad ar y cais a’r ohebiaeth hwyr a ddaeth i law, yr argymhellwyd y dylid ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar 5 Gorffennaf 2022 gydag argymhelliad y dylid cymeradwyo’r cais. Fodd bynnag, penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio oedi’r broses o ystyried y cais fel y gellid trafod ymhellach â’r sawl a wnaeth y cais.
Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 5 Gorffennaf 2022, rhoddodd swyddogion dri opsiwn i’r sawl a wnaeth y cais:
· Newid yn ôl i’r cynllun gwreiddiol (a gymeradwywyd). · Lleihad o 500mm i’w ystyried ymhellach. · Cadw’r cynnig fel ag y mae.
Yn dilyn trafodaethau gyda swyddogion, gofynnodd y sawl a wnaeth y cais i’r Pwyllgor Cynllunio benderfynu ar y cais fel y’i cyflwynwyd yn wreiddiol i’r Pwyllgor ar 5 Gorffennaf 2022.
Ar y sail hon, awgrymwyd y rheswm a ganlyn i wrthod y cais os yw’r Pwyllgor Cynllunio yn credu bod y cynnig presennol yn annerbyniol:
· Oherwydd ei raddfa a’i fàs annerbyniol, nid yw’r cynnig yn parchu ffurf, graddfa, màs a dyluniad y lleoliad ac felly mae’n mynd yn groes i faen prawf c) Polisi DES1 Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.
Wrth nodi manylion y cais, mynegodd y Pwyllgor Cynllunio ei siom nad oedd y sawl a gyflwynodd y cais wedi mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn y cyfarfod blaenorol.
Cynigiwyd felly gan y Cynghorydd Sir B. Callard, wedi’i eilio gan y Cynghorydd Sir M. Powell, y dylid gwrthod cais DM/2021/01735 am y rheswm a ganlyn: · Yn sgil ei raddfa a’i fàs annerbyniol, nid yw’r cynnig yn parchu ffurf, graddfa, màs a dyluniad y lleoliad ac felly mae’n mynd yn groes i faen prawf c) Polisi DES1 Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.
Wrth bleidleisio ar y cynnig, pleidleisiwyd fel a ganlyn:
O blaid gwrthod y cais - 11 Yn erbyn gwrthod y cais - 1 Ymatal rhag pleidleisio - 2
Pleidleisiwyd o blaid gwrthod y cais.
Penderfynwyd y dylid gwrthod cais DM/2021/01735 am y rheswm a ganlyn:
· Yn sgil ei raddfa a’i fàs annerbyniol, nid yw’r cynnig yn parchu ffurf, graddfa, màs a dyluniad y lleoliad ac felly mae’n mynd yn groes i faen prawf c) Polisi DES1 yng Nghynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.
|
|
ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio - Apeliadau a Dderbyniwyd: PDF 182 KB Cofnodion: Nodwyd yr apelau newydd a ddaeth i law yr Adran Gynllunio ar gyfer y cyfnod rhwng 28 Mai a 20 Gorffennaf 2022. |