Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Eitem 8: DM/2021/00357 Darparu 120 o anheddau ar barseli B ac C2 - Rockfield Farm, Gwndy, Sir Fynwy, NP26 3EL - Datganodd y Cynghorydd Sirol Tony Easson buddiant nad oedd yn rhagfarnol, fel Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio, mewn perthynas â diddymu ac adlinio llwybr troed y gellir ymgynghori yn ei gylch.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 160 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4ydd Hydref 2022 fel cofnod cywir.
|
|
Ystyried yr adroddiadau am Geisiadau Cynllunio gan y Prif Swyddog, Cymunedau a Lle (copïau wedi eu hatodi): |
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr cafodd eu derbyn, lle argymhellwyd eu cymeradwyo, yn amodol ar yr amodau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Cyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynllunio oherwydd cais gan y cyn-aelod o'r ward, gwrthwynebiad gan y cyngor cymuned leol a gwrthwynebiadau gan bum aelwyd.
Ar ôl ystyried adroddiad y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mae lorïau ac offer yn y cae amaethyddol. Mae'r cais yn caniatáu dychwelyd i ddefnydd amaethyddol. · Awgrymwyd argymhelliad i gyfyngu ar yr amseroedd y mae trelars yn cael mynediad i'r maes o ran goleuo. · Gofynnwyd am gadarnhad hefyd am nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi yn ystod digwyddiadau. · Holwyd os yw'r llifoleuadau diogelwch yn cael ei gysgodi'n iawn o ran llygredd golau.
Ymatebodd Rheolwr yr Ardal Ddatblygu:
· Mae defnydd tir dan ystyriaeth felly nid yw'r niferoedd a gyflogir yn berthnasol i’r cais Barn y swyddogion yw ei fod yn ddefnydd priodol o dir. · O ran defnydd hwyr yn y nos, byddai unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â defnydd storio yn cael ei reoli gan yr amod oriau gweithredu. Mae gwaith o fewn y defnydd B8 y tu allan i'r oriau hynny yn torri amodau a byddai'r swyddogaeth gorfodi cynllunio yn mynd i'r afael â hi. · Mae'r llifoleuadau ar adeiladau presennol ac nid oes unrhyw gyfyngiadau goleuadau datblygiad ar waith. Gellir edrych ar yr agwedd hon ar wahân.
Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol M. Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sirol S. McConnel bod cais DM/2019/01684 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid - 13 Yn erbyn - 0 Ymatal - 0
Cafodd y cynnig ei dderbyn.
Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2019/01684 yn amodol ar ddiwygio amod 10 fel a ganlyn: O fewn 3 mis i ddyddiad y penderfyniad hwn, rhaid cyflwyno cynllun adfer o'r cae amaethyddol cyfagos (gydag ymyl coch yng nghornel De-ddwyrain y safle fel y dangosir ar luniad graddfa 1:1250 R M Hockey) i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. shown on drawing R M Hockey Scale 1:1250) shall be submitted for approval in writing by the Local Planning Authority. Bydd y cynllun yn cynnwys manylion am symud unrhyw arwyneb caled a'i ddychwelyd i laswelltir, bydd hefyd yn cynnwys amserlen ar gyfer gweithredu hyn. Bydd y cynllun adfer cymeradwy yn cael ei weithredu yn unol â'r manylion a'r amserlen a gymeradwywyd.
RHESWM: Er budd amwynder gweledol, Polisi CDLl DES1.
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd yr adroddiadau ar gyfer ceisiadau DM/2020/00762 a DM/2020/00763 ynghyd a gyda gohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i'w cymeradwyo yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Mynychodd y Cynghorydd Graham Rogers, Cyngor Cymuned Llangybi’r cyfarfod gan amlinellu'r pwyntiau canlynol:
· Bydd y masnacheiddio a gynigir yn effeithio ar ddefnyddwyr y Ganolfan Chwaraeon D?r a gafodd ganiatâd yn wreiddiol i'r defnydd unigryw ar gyfer gweithgareddau d?r. · Mae'r effaith ar drigolion lleol, o ran s?n, llygredd golau, traffig a lles cyffredinol ymwelwyr sy'n dymuno cerdded neu eistedd yn dawel fwynhau byd natur, yn ystyriaethau pwysig. · Mae llawer o adar prin yn ymweld â'r safle; mae'r gronfa dd?r a'r tir o'i chwmpas yn Safle Dynodedig o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Rhaid i bob corff cyhoeddus gymryd camau rhesymol i hybu cadwraeth a gwella'r rhesymau dros y SoDdGA. · Ym Mholisi Cynllunio Cymru 11 mae rhagdybiaeth yn erbyn datblygiad sy'n debygol o niweidio SoDdGA a ailadroddwyd gan Julie James AoS dros Newid yn yr Hinsawdd, sy'n cynnig bod angen cryfhau'r amddiffyniad polisi a roddir i'r SoDdGA. Ni fydd y cynigion yn gwella'r SoDdGA. · Bydd y cynigion yn niweidio'r safle ac yn tarfu ar adar sy'n gaeafu yna. Mae’r awgrym na fydd hyn yn digwydd wedi'i seilio ar arolwg adar gaeafol sy’n ddiffygiol o ran cadernid. · Os bydd caniatâd yn cael ei roi, awgrymir amod pellach nad oes digwyddiadau dan do yn parhau ar ôl 5pm rhwng y 1af o Dachwedd a’r 28ain o Chwefror er mwyn lleihau'r risg i adar sy’n gaeafu.
Amlinellodd yr Aelod lleol ar gyfer Llangybi Fawr, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:
· Annog gohirio, neu gyfeirio at Banel Dirprwyedig, ar gyfer arolygon mwy manwl i sicrhau na fydd y SoDdGA yn cael ei effeithio ac na fydd effaith niweidiol ar fywyd gwyllt. · Dim cyfiawnhad credadwy i ymestyn oriau agor heblaw am reswm ariannol. Dim gwrthwynebiad i gynnal cyfarfodydd busnes ond gwrthwynebu swyddogaethau dan do ac awyr agored. · Bydd cyflwyno mwy o weithgaredd dynol a cherddoriaeth uchel yn cael effaith negyddol ar fywyd gwyllt. · Datganodd y Senedd argyfwng natur yn 2021. Bydd y cais hwn yn or-ddatblygiad o safle SoDdGA. · Mae gan CBS Torfaen wrthwynebiad dros dro oherwydd diffyg tystiolaeth yn yr arolygon. · Mae lonydd cefn gwlad troellog, cul i gael mynediad i’r safle heb unrhyw drafnidiaeth gyhoeddus, felly bydd cerbydau preifat a bysiau mini sy’n cyrchu swyddogaethau yn fygythiad i fywyd gwyllt (moch daear a dyfrgwn yn enwedig gyda’r hwyr neu’n gynnar yn y bore) heb unrhyw liniaru. · Bydd niferoedd mawr o gerbydau yn cael effaith ar drigolion yn hwyr yn y nos · Mae yna ddiffyg o arolygon adar gaeafu wedi'u cynnal. · Pryderu bod profion sain yn amlygu newidiadau amlwg yn ymddygiad hwyaid gwyllt. · Mae sawl sefydliad sy'n cynrychioli ceidwaid yr amgylchedd wedi gwrthwynebu. · Cyfeiriwyd at lythyr gan Gymdeithas Trigolion Coed-y-paen a oedd yn awgrymu bod ystyriaeth yn cael ei roi i ddiwygio'r amodau, os caiff ei gymeradwyo.
1. Amodau 2 a 3: Mae'r datblygiad awgrymedig yn dechrau dim ond ar ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Cofnodion: Cafodd y cais ei ystyried ynghyd â DM/2020/00762
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid - 2 Yn erbyn - 11 Ymatal - 0
Cafodd y cynnig, yn seiliedig ar argymhelliad y swyddog, ei wrthod.
Penderfynwyd gwrthod cais DM/2020/00762, er mwyn ei ohirio er mwyn ei drafod.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol Ben Callard ac eiliwyd y Cynghorydd Sirol Jan Butler, bod y rheswm o wrthod yn seiliedig ar resymau ecolegol ond, yn unol â'r protocol mabwysiedig, byddai'r mater yn cael ei adrodd yn ôl i Bwyllgor dilynol er mwyn i’r rheswm dros wrthod cael ei drafod.
|
|
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sirol Tony Easson fuddiant nad yw’n rhagfarnol, fel Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio, mewn perthynas â diddymu ac adlinio llwybr troed, y gellir ymgynghori yn ei gylch.
Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais a'r ohebiaeth hwyr a dderbyniwyd, a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad, a gohirio'r mater i'r panel dirprwyedig i ddatrys y materion o sut i oresgyn mabwysiadu'r briffordd.
Amlinellodd yr Aelod Lleol dros Ddwyrain Magwyr gyda Gwndy, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:
· Mae’r adran Briffyrdd yn cyfeirio at effaith ffiniau priffyrdd cyhoeddus presennol Silurian Road ac Elms Road lle mae problemau heb eu datrys o ran ffiniau eiddo a materion parcio · Sut bydd mynediad i a gadael y safle’n cael eu rheoli. · Diffyg isadeiledd · Mae'r datblygwyr wedi dewis cadw'r briffordd gyhoeddus gyda ffiniau priodol a darparu gwahaniad rhwng y lleiniau. Mae angen datrys hyn. · Mae pryderon ynghylch agosrwydd arfaethedig llain 64 lle mae ystod sylweddol o Briffordd gyhoeddus rhwng y droedffordd a blaen yr annedd. Mae'n debygol y bydd y Briffordd gyhoeddus yn cael ei hymgorffori o fewn ffin y llain. Gallai cynllun y llain gael ei newid neu gall yr ymgeisydd ystyried cais i ddiddymu’r Briffordd gyhoeddus y tu allan i bob llain.
Ymatebodd yr Uwch Swyddog Rheoli Datblygu:
· Cydnabyddir y diddymu, a nodir bod y Briffordd gyhoeddus yn rhedeg ar hyd ffin flaen y lleiniau. Y prif bryder yw llain 64 sydd â'r ehangder mwyaf o Briffordd fabwysiedig o fewn yr ardd flaen. · Y mater allweddol yw sicrhau nad oes tai na ffurf adeiledig o fewn lleoliad y Briffordd; ac nad oes. · Does gan briffyrdd ddim gwrthwynebiad i ddiddymu’r briffordd. Rydym yn bwriadu cymryd y modd o ddatrys y mater priffyrdd i'r panel dirprwyedig. · O ran mynediad, byddai hyn trwy'r B4245 a thrwy'r datblygiad newydd. Mae'r dyraniad hwn yn rhan o gynllun ehangach o bosibl yn cysylltu â datblygiadau sydd wedi'u cymeradwyo ar Vinegar Hill ac â Grange Road. Bydd hyn yn cael ei ystyried yn ddiweddarach.
Aeth yr Aelod Lleol dros Ddwyrain Magwyr gyda Gwndy ymlaen i ddweud:
· Mae yna faterion sydd heb eu datrys e.e. y gwrthwynebiad gan y swyddog bioamrywiaeth ar o leiaf wyth pwynt o bryder. Er enghraifft, nid oes eglurhad sut y bydd gwrychoedd coll yn cael eu hamnewid, na chwaith pa mor ddigonol y bydd y ddarpariaeth ar gyfer ystlumod ac adar. Ymatebwyd bod y sylwadau diweddaraf gan yr ecolegydd wedi dileu'r gwrthwynebiad, a’i fod nawr yn fodlon gyda'r gwelliannau arfaethedig. Cafodd hyd o wrych ei ddifrodi yn y gorffennol heb unrhyw fai ar yr ymgeisydd, ond maen nhw wedi gwneud iawn drwy ailblannu gwrychoedd ar hyd a lled y safle. Cynigir gwrychoedd a phlannu gwrychoedd brodorol o amgylch y sinc. · Mae'r gwrthwynebiad o hawliau tramwy cyhoeddus yn nodi bod modd mynd i'r afael â phryderon drwy osod yr amod yn yr adroddiad, ond mae yna bryderon eraill. Nid yw'r ymgeisydd yn cydnabod llwybr cyhoeddus 372/23 a dylid ailgyflwyno'r cynllun gan gynnwys manylion ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a gohebiaeth hwyr a dderbyniwyd, a gafodd ei argymell i'w gymeradwyo yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad, a'r amod ychwanegol i sicrhau gweithredu'r cynllun tirlunio meddal.
Amlinellodd yr Aelod lleol ar gyfer Llangybi Fawr, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:
· Croesawodd y cais sy'n diwallu anghenion y cynllun datblygu lleol a'r canllawiau sipsiwn a'r teithwyr gan Lywodraeth Cymru. · Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr angen am dri chae ar ddeg, ac os byddai'r cae hwn yn cyfrannu at y tri ar ddeg. · Nid oedd y gwrychoedd oedd wedi'u difrodi wedi'u hadfer ond cafodd ei gynnwys yn yr amodau. · Roedd pryderon, a godwyd ar y wefan ceisiadau cynllunio, wedi cael eu hateb yn adroddiad y swyddog. · Mae'r safle wedi'i gadw'n dda, wedi'i osod yn dda, ac mae i ddarparu ar gyfer aelod o'r teulu. · Cefnogwyd y cais gydag argymhellion y swyddogion
Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio fod ein hasesiad sipsiwn a theithwyr yn cadarnhau bod yn rhaid i'r awdurdod wneud darpariaeth ar gyfer tri chae ar ddeg. Byddai'r cae dan sylw yn cwrdd â rhan o'r angen hwnnw.
Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol F. Bromfield ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sirol M. Powell bod cais DM/2021/02005 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad a'r amod ychwanegol i sicrhau gweithredu tirlunio.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid - 12 Yn erbyn - 0 Ymatal - 0
Cafodd y cynnig ei dderbyn.
Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2021/02005 yn amodol ar yr amodau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais a gafodd ei gyfeirio gan y Panel Dirprwyo a’i argymhell i'w gymeradwyo, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad gyda'r amod ychwanegol fel y'i cyflwynir heddiw, fel a ganlyn:
· Cyn cynhyrchu d?r ffynnon wedi’i ganio, dylai cynllun rheoli s?n gael ei gyflwyno a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol. Dylai'r cynllun rheoli s?n fanylu ar fesurau a fydd yn cael eu gweithredu i reoli s?n o'r datblygiad arfaethedig, gan gynnwys oriau gweithredu, er mwyn atal effaith ar amwynder trigolion sy'n byw yn y fro. Bydd y datblygiad arfaethedig felly’n cael ei gynnal yn unol â'r cynllun rheoli s?n am byth, oni bai y cytunir yn ysgrifenedig fel arall gan yr awdurdod cynllunio lleol. Rheswm: Diogelu amwynder eiddo cyfagos ac i sicrhau cydymffurfiaeth â Pholisi CDLl EP1.
Amlinellodd yr Aelod lleol ar gyfer Llangybi Fawr, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:
· Croesawyd y cais i greu busnes fferm amrywiol. · Mae d?r ffynnon eisoes yn cael ei echdynnu a'i storio ar y safle. Does gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddim pryderon heblaw nodi, os yw'r busnes yn cael ei ehangu, y byddai hynny'n gwarantu cais cynllunio a bydd angen trwydded hefyd. · O ran y ffordd i'r fferm, defnyddir hyn yn aml gan HGVau i nifer o ffermydd, awgrymwyd na fyddai un HGV ychwanegol yr wythnos yn achosi effaith niweidiol. · Croesawyd y gwaith o blannu coed ffrwythau ar gyfer y bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ar y fferm. · Bwriedir i'r broses ganio fod yn gynaliadwy ac yn garbon niwtral. · Mae'r ymgeisydd wedi cydfynd â dyluniad yr adeilad a'i gadw'n debug i adeiladau presennol y fferm. · Ychydig iawn o s?n fydd yn cael ei gynhyrchu o'r broses ganio. Bydd yr oriau busnes o 7am i 6pm (Llun-Sadwrn)
Doedd dim siaradwyr o Gyngor Cymuned Llantrisant yn bresennol. Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd, siaradodd Jonathan Eadie, ar ran trigolion tri eiddo a gaiff eu heffeithio gan y cais, heb gynnwys eiddo'r ymgeiswyr.
· Mae tyllau turio’n cyflenwi'r tri eiddo ac maent wedi'u lleoli oddi ar yr Heol Ffordd, Llantrisant, sy'n ffinio â Choedwig Wentwood ac maent wedi'u hepgor o'r adroddiad. · Mae CNC wedi asesu gofynion d?r ar gyfer y fferm, yr anheddau presennol, a'r tai sydd wedi'u cymeradwyo, a'r gwaith canio newydd. · Mae Iechyd yr Amgylchedd eisiau ystyried lefelau s?n y gweithrediadau arfaethedig mewn sied fetel croen sengl israddol, sydd heb ei inswleiddio. Mae s?n sy'n deillio o ochr y dyffryn yn cael ei seinchwyddo tuag i fyny, yn groes i'r adroddiad ac nid yw'n cael ei liniaru gan lystyfiant, sydd wedi'i gilfachu yn y dyffryn. Gofynnwyd am gynllun rheoli s?n. · Mae'r cynnig yn groes i ddyletswydd CNC o dan Gynllun Cenedlaethol Cymru'r Dyfodol i gydbwyso anghenion d?r presennol ac yn y dyfodol (yr amgylchedd, cymdeithas, ac economi). · Mae echdynnu a symud o'r safle yn lleihau gwytnwch d?r ac yn gosod straen graddol ar ffynhonnell sengl. Mae lefelau d?r a phwysedd ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
Cofnodion: Cafodd cais DM/2022/00484 ei ohirio i gyfarfod Rhagfyr 2022.
|
|
ER GWYBODAETH – yr Arolygiaeth Gynllunio – Penderfyniadau am Apeliadau sydd wedi eu Derbyn |
|
CAS-01509-P1Z2X3 - 2-4 Monnow Street, Trefynwy, Sir Fynwy, NP25 3EE PDF 212 KB Cofnodion: Cawsom benderfyniad Apeliadau Arolygiaeth Gynllunio yngl?n â 2-4 Monnow Street, Trefynwy (cais cynllunio i newid o ddefnydd A1 (Siop Gerdd) i ganolfan gemau i oedolion). Gwrthodwyd y cais gan swyddogion dan bwerau dirprwyedig gan ddyfynnu pryderon am fywiogrwydd, atyniad a hyfywedd ein hardal siopa ganolog. Cafodd apêl ei gwneud ac nid oedd yr arolygydd yn teimlo y byddai defnydd o'r fath yn achosi niwed annerbyniol a byddai'n diogelu bywiogrwydd a, hyfywedd canol y dref ac yn cydymffurfio gydag un o'n polisïau manwerthu (RET2) yn y cynllun datblygu lleol presennol.
Nodwyd rhai unedau gwag yng Nghanol y Dref gan yr arolygydd, gan nodi y byddai'n cadw blaen siop ac nad oedd tystiolaeth na fyddai'n denu nifer o ymwelwyr.
Cafodd penderfyniad y swyddogion ei wyrdroi, a chaniatáu caniatâd cynllunio.
Nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Rhaid symud y ddau garwsél yn y ffenestr yn dilyn apêl i'r Comisiwn Hapchwarae. · Roedd Cyngor y Dref yn siomedig iawn am y penderfyniad yma ac mae wedi'i gofnodi yn y wasg leol fel penderfyniad Llywodraeth Cymru yn hytrach na bod yn un gan arolygydd annibynnol. · Holwyd a oedd yr holl amodau wedi'u bodloni gyda'r ddogfennaeth gywir. Ymatebwyd bod cais wedi'i wneud i'r Awdurdod Cynllunio lleol mewn perthynas ag amodau 3 a 4, ac mae ymgynghori'n mynd rhagddo gyda'r ymgynghorai perthnasol mewn perthynas â rheoli s?n, ac ymgynghorwyd â'r cynllun gwella gyda'n hecolegwyr. Mae'r cais yn aros i gael ei ystyried ar hyn o bryd. · Eglurwyd y gellir defnyddio'r ganolfan gan bobl dros 18 oed.
|