Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 2ail Mai, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Sir Emma Bryn wedi datgan buddiant personol, nad yw’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2022/01800, gan ei bod wedi cynorthwyo gyda’r astudiaeth dichonoldeb yn casglu data sydd ei angen i barhau â’r astudiaeth gychwynnol i’r hyfywedd y prosiect, gan siarad â defnyddwyr a phartïon â  chanddynt ddiddordeb. Anerchodd y Pwyllgor ond gadawodd y cyfarfod yn fuan wedyn heb gymryd unrhyw ran yn y drefn bleidleisio ar gyfer y cais hwn.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 189 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 4ydd Ebrill 2023 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

3.

Cais DM/2022/00848 – Addasu cyn ganolfan ddydd i 6 fflat preswyl, ac adeiladu adeilad newydd sydd yn cynnwys 9 flat preswyl. Newid defnydd o ddosbarth D1 i C3, parcio, ehangu’r dramwyfa a’n gwneud gwaith tirlunio. Canolfan Ddydd Boverton House, Heol Bulwark, Cas-gwent, NP16 5JE. pdf icon PDF 236 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr yr argymhellwyd ei chymeradwyo gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol A106.

 

Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Bydd y wal derfyn yn cael ei chadw.

 

  • Bydd gofod amwynder a rennir ar gyfer defnyddwyr y safle. Mae yna hefyd ardaloedd hamdden gerllaw.

 

  • Byddai'r datblygwr yn cael ei annog i osod pwyntiau gwefru e-feiciau yn, neu gerllaw'r lloches parcio beiciau arfaethedig, yn ogystal â darparu mannau gwefru allanol ar gyfer sgwteri symudedd trydan.

 

  • Bydd yr estyniad presennol yn cael ei ail-rendro a'i ail-baentio.

 

  • Cysylltwyd â thri Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) gyda'r bwriad o ddatblygu'r safle. Fodd bynnag, nodwyd y byddai'n anodd i LCC rannu rheolaeth a chynnal a chadw adeilad gyda landlord preifat. Felly, ni fanteisiodd un o'r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar y cynnig i ddatblygu'r safle. Derbynnir cyfraniad tuag at dai fforddiadwy oddi ar y safle pe caniateir y datblygiad. Byddai adolygiad hyfywedd yn cael ei gynnwys yn y cytundeb A106, i'w ysgogi os na fydd datblygiad yn dechrau o fewn 18 mis i ddyddiad y caniatâd.

 

  • Mae'r safle o fewn pellter cerdded i ganolfannau trafnidiaeth gyhoeddus. Darperir lefel resymol o lefydd parcio ar y safle. Bydd pob fflat yn cael o leiaf un lle parcio, gyda rhai yn cael dau le.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Jayne McKenna ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Ben Callard bod cais DM/2022/00848 yn cael ei ganiatáu gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol A106. Bydd adolygiad hyfywedd yn cael ei gynnwys yn y Cytundeb Cyfreithiol A106 i'w ysgogi os na fydd datblygiad yn dechrau o fewn 18 mis i ddyddiad y caniatâd. Hefyd, byddai'r datblygwr yn cael ei annog i osod pwyntiau gwefru e-feiciau yn, neu gerllaw'r lloches parcio beiciau arfaethedig, yn ogystal â darparu mannau gwefru allanol ar gyfer sgwteri symudedd trydan.

 

Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau a ganlyn:

 

O blaid y cynnig            - 14

Yn erbyn y cynnig         - 0

Ymatal                           - 0

 

Pleidleisiwyd o blaid y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2022/00848 yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol A106. Byddai adolygiad hyfywedd yn cael ei gynnwys yn y Cytundeb Cyfreithiol A106, i'w ysgogi os na fydd datblygiad yn dechrau o fewn 18 mis i ddyddiad y caniatâd. Hefyd, byddai'r datblygwr yn cael ei annog i osod pwyntiau gwefru e-feiciau yn neu gerllaw'r lloches parcio beiciau arfaethedig, yn ogystal â darparu mannau gwefru allanol ar gyfer sgwteri symudedd trydan.

4.

Cais DM/2022/01800 - Adeiladu pont bwa sengl ar draws yr Afon Gwy gan gynnwys tirlunio ar y glannau dwyreiniol a gorllewinol a’n gwella tir y cyhoedd. Tir i’r gogledd o’r Afon Gwy, Trefynwy. pdf icon PDF 298 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a’r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd ei chymeradwyo gyda’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cymeradwyo’r Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA).

 

Amlinellodd yr Aelod lleol dros Wyesham, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau a ganlyn:

 

  • Ym mis Tachwedd 2017 cyflwynodd trigolion lleol y syniad o bont cerddwyr yn Wyesham i'r Awdurdod lleol.

 

  • Ers blynyddoedd lawer, bu'n rhaid i gerddwyr a beicwyr ddefnyddio'r bont ffordd bresennol i groesi'r afon. Mae trigolion wedi gorfod ymgodymu â Cherbydau Nwyddau Trwm (HGVs), llygredd, diffyg cyfleusterau beicio a diffyg cysylltiadau diogel â Wyesham a thu hwnt.

 

  • Roedd Gr?p Llywio Teithio Llesol Cyngor Tref Trefynwy wedi'i sefydlu a gyda swyddogion Cyngor Sir Fynwy roedd yr Astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol wedi nodi'r angen am bont teithio llesol yn y lleoliad hwn.

 

  • Roedd gwirfoddolwyr lleol wedi treulio eu hamser yn casglu'r data angenrheidiol i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru. Pobl leol fu'n gyrru'r cynllun arfaethedig hwn.

 

  • Mae llawer iawn o draffig ar y ffordd yn mynd i Fforest y Ddena a thraffordd yr M50. Ystyriwyd y byddai hyn ond yn cynyddu yn y dyfodol gyda datblygiad tai arfaethedig yn Fforest y Ddena.

 

  • Darparodd yr Aelod lleol ddata ystadegol i'r Pwyllgor i gefnogi'r angen am bont teithio llesol ar draws yr afon Gwy yn Wyesham.

 

  • Y bont bresennol yw'r unig lwybr y gall trigolion Wyesham ei ddefnyddio i gael mynediad i addysg, gwaith a'r dref ac mae'n rhaid iddi rannu'r ffordd hon gyda HGVs a cherbydau eraill. Plant ysgol heb oruchwyliaeth sydd fwyaf mewn perygl o lifau traffig mor drwm yn ystod cyfnodau prysur o lif traffig dros y bont.

 

  • Mae’r bont yn rhan o’r llwybrau dynodedig, Llwybr Dyffryn Gwy, Llwybr Cerdded Cenedlaethol Clawdd Offa ac mae’n gyswllt hanfodol yn y rhwydwaith beicio cenedlaethol.

 

Wedi ystyried yr adroddiad ar y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         O ran hygyrchedd i bobl â nam ar eu golwg, byddai swyddogion yn trafod gyda'r datblygwr a ydynt wedi cael deialog gyda Sight Cymru ac unrhyw grwpiau diddordeb arbenigol eraill a allai roi cyngor ar y mater hwn. Nodwyd bod cyfarfod rhanddeiliaid hygyrchedd wedi'i gynnal ar 9 Mawrth 2023 ynghylch pobl â nam ar eu golwg.

 

·         Nid yw'r bont bresennol bellach yn ddiogel i feicwyr a cherddwyr.

 

·         Nid oes unrhyw fannau parcio beiciau arfaethedig i'w lleoli ger Clwb Rhwyfo Trefynwy. Fodd bynnag, gallai swyddogion roi'r mater hwn i'r ymgeisydd ei ystyried.

 

·         Mae amod yn adroddiad y cais am gynllun rheoli traffig adeiladu a allai fynd i'r afael â'r mater yn ymwneud â defnydd y maes parcio cyfagos gan weithwyr adeiladu, gyda’r nod o leihau unrhyw aflonyddwch.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd yngl?n â sut y gallai trigolion lleol mewn bythynnod cyfagos gael eu heffeithio gan y bont newydd arfaethedig, nodwyd y bydd y llwybr cerdded oddeutu 40 metr o ffenestri agosaf yr eiddo hyn a 25 metr i'r agosaf. rhan o'r gerddi. Bydd y bont yn uchel a bydd ganddi sgrin  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cais DM/2022/01831 – Gwelliannau i’r llwybrau i gerddwyr a seiclo ar draws Castle Meadows drwy ddarparu llwybrau sy’n cydymffurfio gyda Theithio Llesol. Mae hyn yn cynnwys uwchraddio’r llwybrau presennol, pwyntiau mynediad a gosod pont droed newydd dros yr Afon Gavenny. Tir yn Castle Meadows, y Fenni, Sir Fynwy. pdf icon PDF 357 KB

Cofnodion:

Roedd cais DM/2022/01831 wedi'i dynnu'n ôl ychydig cyn i'r Pwyllgor Cynllunio ddechrau gyda'r bwriad o'i gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn i ni ei ystyried.

 

 

 

6.

ER GWYBODAETH – Yr Arolygiaeth Gynllunio – Penderfyniadau am Apeliadau Sydd Wedi’u Derbyn

6a

Fferm Cefn Coed, Lôn Nannys, Kingcoed. pdf icon PDF 169 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi derbyn adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd ar Fferm Cefn Coed, Lôn Nannys, Kingcoed ar 14eg Chwefror 2023.

 

Gwnaethom nodi bod yr apêl wedi'i chaniatáu, a bod caniatâd cynllunio wedi'i roi i godi porth ar ran uchaf ogleddol yn Fferm Cefn Coed, Nannys Lane, Kingcoed, NP15 1DS, yn unol â thelerau'r cais, Cyf DM/ 2022/01298 5ed Medi 2022, a hynnyn yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr atodlen i’r llythyr penderfyniad.

6b

Pathways, Vinegar Hill, Gwndy. pdf icon PDF 161 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi derbyn adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Pathways, Vinegar Hill, Gwndy ar 20fed Mawrth 2023.

 

Gwnaethom nodi bod yr apêl wedi'i gwrthod.