Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Oedolion - Dydd Mawrth, 16eg Mawrth, 2021 10.30 am

Lleoliad: Remote Meeting. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nidoedd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Nidoedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.

3.

Dysgu Cymunedol a Llyfrgelloedd - Trafodaeth ar sut y datblygodd y gwasanaethau er mwyn sicrhau bod oedolion yn Sir Fynwy yn parhau i gael mynediad at lyfrau, dysgu a chysylltiadau cymdeithasol tra'n aros gartref. pdf icon PDF 124 KB

Cofnodion:

Cyn yr eitem, cafwyd munud o dawelwch i’r Cynghorydd David Dovey.

Cyflwynodd Richard Drinkwater a Cheryl Haskell yr adroddiad gan ateb cwestiynau’r aelodau.

Her:

Beth yw'r union ddiffyg mewn gwariant a staff a gyflogir? Beth ellid ei wneud i wneud y gwasanaeth hyd yn oed yn well, pe bai mwy o arian?

Torrwyd y cyllidebau fel rhan o ostyngiad yn y gwasanaeth 4 blynedd yn ôl, pan dorrwyd y gyllideb lyfrau 50%. Mae hyn yn adlewyrchu'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru

Ceisiwn gylchredeg cymaint o ddeunydd ag y gallwn: yn flaenorol, efallai ein bod wedi prynu sawl copi o lyfr fesul llyfrgell ond nawr rydym yn prynu un neu ddau gopi ac yn eu cylchredeg. Rydym wedi dod yn fwy darbodus, felly, ond hefyd yn fwy creadigol, ac nid yw'r cwsmer ar ei golled. Os oes cais penodol am lyfr, yn y rhan fwyaf o achosion, gallwn gael y llyfr ar eu cyfer ac yna ei roi ar gadw ar gyfer cwsmeriaid eraill.

Gyda mwy o arian, byddem yn gwneud cymaint o bethau, felly mae'n anodd bod yn benodol. Rydym wedi buddsoddi mwy o arian bob blwyddyn mewn digidol, gan adlewyrchu’r tueddiadau newidiol a welwn.

O ran staffio, mae’r adroddiad yn ein hisraddio oherwydd ein bod yn hybiau cymunedol, nid llyfrgelloedd yn unig, ac nid yw Llywodraeth Cymru yn cyfrif yr oriau cyngor y mae ein cydweithwyr yn eu gweithio - dim ond cyfran o’u hamser y gallwn ei chyfri tuag at oriau’r llyfrgell. Ni fydd hynny’n newid cyn belled â’n bod ni’n hyb cymunedol. Unwaith eto, mae hyn yn adlewyrchu awdurdodau lleol eraill. Mae’r Fenni ychydig yn wahanol oherwydd bod y gwasanaeth yn cael ei gynnig ar draws dau lawr; felly, mae’r llif yn wahanol i’r hyn fyddai yn yr hybiau cymunedol eraill. Ond mae ein cydweithwyr i gyd yn gweithio drwy’r gwasanaethau - nid ydym yn eu gwahanu i’r cyngor a’r llyfrgell.

A yw’r cyngor cychwynnol i gadw llyfrau mewn cwarantîn am 72 awr wedi’i ddiweddaru?

Erys y canllaw y dylid rhoi llyfrau mewn cwarantîn am 72 awr. Cyhoeddir llyfrau trwy broses Gwnaed cais a Chasglu. Mae cwsmeriaid yn eu dychwelyd i’r hyb neu’r siop Un Stop yn y Fenni, lle cânt eu rhoi mewn blwch a’u tynnu allan o gylchrediad am 72 awr. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cynghori unrhyw beth gwahanol. Nid yw wedi achosi unrhyw anhawster i ni trwy gydol y pandemig, ac mae cwsmeriaid wedi bod yn ddeallgar iawn.

Aellid esbonio'r strwythur codi tâl ymhellach, yn benodol ynghylch Digidol?Byddai'n fwy adeiladol anfon y ffigurau allan i'r aelodau ar ôl y cyfarfod.

Mae'n debyg bod y rhai sy'n fwy caeth i'r t?, ac sy'n derbyn danfoniadau llyfrau, yn llai abl i gwblhau'r cyfrifiad?

Ar hyn o bryd, mae'r Fenni, Brynbuga a Chas-gwent yn ganolfannau Cymorth Cyfrifiad. Ar sail apwyntiad, gallwn gefnogi defnyddwyr dros y ffôn i lenwi eu papur cyfrifiad. Mae Matthew Gatehouse wedi gofyn i’r cwmni a allwn wneud rhywfaint o gymorth wyneb yn wyneb, gan  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Diweddariad llafar ynglŷn â'r sefyllfa bresennol o ran Gwasanaethau i Oedolion mewn perthynas â phwysau Covid-19.

Cofnodion:

Siaradodd Eve Parkinson gyda'r aelodau.

Dechreuwyd cyflwyno Cyfarpar Diogelu Personol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2020. Rydym yn darparu tua 360,000 o ddarnau o Gyfarpar Diogelu Personol bob pythefnos - rydym yn darparu ar gyfer ein gwasanaethau ein hunain a'r sector annibynnol. Ar ddechrau'r mis hwn, cafodd Profion Llif Unffordd eu cynnwys yn y cyflenwad hwnnw; rydym wedi rhoi 3 mis o gyflenwad i bobl. Mae lleoliadau preswyl wedi bod yn faes heriol iawn. Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda darparwyr, gan gynnal cyfarfodydd rheolaidd i fynd trwy ganllawiau a chynnig cefnogaeth. Rydym hefyd wedi darparu cymorth unigol, pan fo angen, gan gynnwys sut i hawlio drwy’r gronfa Caledi.

Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda chydweithwyr yn Iechyd yr Amgylchedd, y Bwrdd Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gefnogi cartrefi ag achosion. Rhagfyr ac Ionawr oedd y misoedd gwaethaf ar gyfer hyn – mewn rhai achosion, nid oedd staff a oedd yn darparu cymorth yn mynd adref am rai wythnosau. Mae cyflwyno Profion Llif Unffordd yn golygu bod llawer o waith ychwanegol i'r cartrefi ei wneud. Rydym nawr yn cefnogi cartrefi gyda sut y byddant yn gweithredu'r cyhoeddiad diweddar y gall ymweliadau ailddechrau.

Bu darparu gofal cartref yn her, ar adegau. Rydym wedi cael prinder staff, oherwydd ynysu a gwarchod, ac ati. Mae'r sector annibynnol wedi tueddu i gael cyfnod o amser pan nad yw'n gallu bodloni eu galw; rydym wedi gorfod eu cefnogi, ond ar rai achlysuron prin, nid ydym ni wedi cael y gallu i wneud hynny, ac rydym wedi dod ag asiantaethau allanol i mewn. Yn gyffredinol, mae ein staff ar draws y sector wedi bod yn ‘ymarferol’.

Mae gwaith ail-alluogi wedi parhau trwy gydol y pandemig. Mae peth ohono wedi bod yn rhithwir.

Mae effaith y cyfyngiadau symud wedi bod yn sylweddol: mae pobl yn sôn am ddod yn ‘ddatgyflyredig’, lle maent wedi dod yn fwy bregus a dibynnol. Felly rydym wedi gweld cynnydd yn rhai o’r atgyfeiriadau. Mae gwaith cymdeithasol hefyd wedi parhau, gyda rhai ymweliadau wyneb yn wyneb a rhai rhithwir.

Diogelu: bu cynnydd mewn atgyfeiriadau mewn rhai meysydd, yn ymwneud â phobl dan straen mawr, trais domestig, iechyd meddwl, camddefnyddio alcohol, pwysau o ran darparu gofal, ac ati. Mae brechiadau wedi bod yn heriol iawn ar adegau: ni oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r enwau staff rheng flaen ar draws y sectorau mewnol ac annibynnol, sef miloedd o enwau. Mae'r nifer sy'n manteisio ar frechiadau wedi bod yn dda iawn. Mae pob un o'n cartrefi wedi cael eu dogn cyntaf, gyda'r ail wedi’i archebu. 

Rydym wedi cael Chromebooks gan Lywodraeth Cymru, a roddwyd i ofalwyr ifanc fel y gallant weithio o bell a chysylltu â’i gilydd. Mae rhai wedi gweld gweithio o bell yn well mewn gwirionedd. Mae gwasanaethau dydd wedi parhau, ond yn wahanol, yn gwneud pethau’n fwy unigol. Pan nad ydym ar Lefel 4, rydym wedi parhau ag ymweliadau cartref yn ôl yr angen, tra rydym yn gwisgo'r holl Gyfarpar Diogelu Personol priodol.

Mae gofal seibiant wedi bod  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Tracio, Olrhain a Diogelu - Diweddariad llafar ar y sefyllfa bresennol a'r gwasanaethau a ddarperir.

Cofnodion:

Siaradodd Gill Dicken a Louise Driscoll â'r aelodau ac ateb eu cwestiynau.

Diweddarodd y tîm y pwyllgor ddiwethaf ym mis Gorffennaf. Ym mis Medi, fe ddechreuon ni nodi achosion. Roedd tîm iechyd yr amgylchedd yn gwneud y tracio a’r olrhain yn y cyfnod hwnnw, ac roedd tîm o gynghorwyr o dan Richard Drinkwater. Fe ddechreuon ni gasglu Tracio & Olrhain ar gyfer Caerffili a gogledd Cymru. Ym mis Hydref, daeth yr holl dîm Tracio & Olrhain o dan Iechyd y Cyhoedd a Diogelu'r Amgylchedd. Fe wnaethom ychwanegu strwythur i'r cynghorwyr a datblygu'r tîm. Ym mis Tachwedd, roedd y tîm mewn lle da. Roedd y niferoedd yn cynyddu. Erbyn mis Rhagfyr, fe gyrhaeddon ni niferoedd uchel iawn ond roeddem ni’n cyflogi pobl o bob rhan o’r cyngor – adleoli, o FywydMynwy, gwirfoddolwyr ac ati – ac fe wnaethom ni ddewis yn benodol bobl â chefndir iechyd amgylcheddol neu feddygol, gan roi’r gallu i ni ymateb i achosion a chlystyrau yn gyflym iawn. Pan ddechreuodd y cyfnod atal byr, roeddem yn hyderus y gallem reoli’r clystyrau.

Erbyn mis Chwefror, roedd y niferoedd yn gostwng, felly roeddem yn gallu dechrau lleihau'r tîm. Arhoswn nawr i weld beth sy'n digwydd yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf gydag ysgolion ar fin mynd yn ôl, profion Plu  yn mynd ymlaen, a mesurau cloi yn lleddfu'n raddol. Rydym ni'n gwybod nawr y gallwn ni ystwytho'r tîm i fyny ac i lawr pan fo angen.

Rydym ni nawr i lawr i 15 o olrheinwyr, yn gweithio 8 tan 8, 7 niwrnod yr wythnos. Mae niferoedd yn gostwng, felly mae cloi wedi gweithio’n dda iawn yn Sir Fynwy, ochr yn ochr â’r brechlynnau. Ers i ni ddechrau olrhain ym mis Mehefin, rydym wedi cael 4,174 o achosion yn Sir Fynwy; allan o'r rheini, rydym wedi ymateb i 99.7% o fewn cyfnod o 48 awr ar draws Gwent (gydag ystadegau Sir Fynwy ar frig y bwrdd arweinwyr). Mae’n stori o lwyddiant yng Nghymru. O'r 4,174 o’r  achosion hynny, cynhyrchwyd dros 6,000 o gysylltiadau. Rydym hefyd yn gweithio'n agos, ac yn cael cyfarfodydd dyddiol, gyda'n partneriaid eraill yng Ngwent. Mae gennym gyfathrebu da iawn i'n galluogi i ymateb i unrhyw weithleoedd a allai weld clwstwr o achosion. Rydym yn adolygu’r data hynny’n ddyddiol, ac yn adrodd yn wythnosol i ICC a Llywodraeth Cymru ar ein hachosion ac unrhyw bigynnau. Mae gan y tîm gysylltiad da â gweithleoedd, a sefydlwyd cyn Covid.

Hefyd, rydym wedi gwneud llawer o waith gydag ysgolion, sydd bellach yn cyflwyno'r profion Plu, sy'n rhoi canlyniad mewn ychydig funudau. Mae pob aelod o staff wedi cael y pecynnau hyn. Rydym yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'n penaethiaid, sydd wedi bod yn wych wrth weithio gyda ni.

Rydym wedi cael niferoedd isel, o gymharu â gweddill Gwent, oherwydd bod penaethiaid wedi gwneud gwaith gwych yn cael swigod i ynysu. Er, yn flaenorol, byddem yn ynysu'r gr?p blwyddyn gyfan, nawr rydym yn mynd yn ôl ac yn tracio ac yn olrhain i gyfyngu cymaint â phosibl ar nifer y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Blaen-raglen Waith y Pwyllgor Dethol Oedolion. pdf icon PDF 504 KB

Cofnodion:

Hoffai’rCynghorydd Pavia edrych ar y Cynllun Ar Dudalen, sef ffocws y Cyngor i’r dyfodol ar gyfer gweddill y weinyddiaeth hon. Mae angen trefnu gweithdy ar yr Asesiad o Anghenion Sipsiwn a Theithwyr. Cynigiodd y Cynghorydd Brown ricyn yn ystod y dydd ar gyfer hyn.

 

 

7.

Blaen-raglen Waith y Cyngor a'r Cabinet. pdf icon PDF 162 KB

8.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 626 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion 26 Ionawr 2021 a’u llofnodi fel cofnod cywir. Cynigwyd gan y Cynghorydd Woodhouse ac eiliwyd gan y Cynghorydd Brown.

 

 

 

9.

Cyfarfod Nesaf: Dydd Mawrth 27 Ebrill 2021 am 10.30am.

Cofnodion:

Holodd y Cynghorydd Powell a fyddai cychwyn am 10.00 y bore yn rhoi mwy o amser i aelodau rhwng cyfarfodydd, os oes ganddynt un arall yn y prynhawn. Cytunwyd ar 10.30 y bore ar ddiwedd 2020 i gynorthwyo rhai aelodau gyda’r rhediad ysgol, ac ati; cytunodd y pwyllgor i barhau â’r amser hwn am y tro.