Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Oedolion - Dydd Mawrth, 26ain Ionawr, 2021 10.30 am

Lleoliad: Remote Meeting. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Roedd Paul Pavia wedi datgan buddiant fel ymgynghorydd ar gyfer  Practice Solutions Ltd. sydd yn meddu ar y contract ar gyfer ADSS Cymru, sef Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru.

 

 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

 

3.

Monitro Cyllideb: Craffu ar sefyllfa monitro cyfalaf a refeniw'r gyllideb ym Mis 7, gan osod y cyd-destun ar gyfer craffu ar gynigion cyllidebol. pdf icon PDF 919 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Tyrone Stokes yr adroddiad ac atebodd gwestiynau’r aelodau gyda sylwadau ychwanegol gan Jonathan Davies a’r Aelod Cabinet Phil Murphy.

 

Mae’r rhagolygon Alldro yn dangos y diffyg arian yn cynyddu o £24k ym Mis 2 i £180k ym Mis 7 – a yw hyn yn bennaf yn sgil y pandemig?

 

Fel cyd-destun, mae tua £8m o gyllideb gennym ar gyfer y maes Oedolion, ac felly, mae’r gorwario yma yn fach iawn. Nid yw’r gorwario yn ymwneud gyda Covid ond mae i’w briodol i’r dyfarniad cyflog a roddwyd i staff ynghyd â methu cyrraedd y tared o sicrhau arbedion effeithlonrwydd  o 2% ar gyfer gweithrediadau’r rhengflaen.  Mae yna arbedion effeithlonrwydd  o 2% yn cael eu tynnu oddi ar gyllidebau’r cyflogau ond nid yw’r gwasanaethau rhengflaen yn medru cadw’r swyddi yn wag,  ac felly, nid ydynt yn medru gwneud yr arbedion o ran effeithlonrwydd. 

 

Mae yna orwariant o £69k ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Diogelu, sydd yn bennaf yn sgil y gost gynyddol  o becynnau gofal – beth yw’r risg ar gyfer cartrefi gofal a’u cyflwr ariannol?

 

Mae’r farchnad o ran Gofal yn cael ei helpu’n sylweddol gan Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru  sydd yn caniatáu ni i wneud taliadau i Gartrefi Gofal ar gyfer unrhyw welyau gwag sydd ganddynt ynghyd  â lwfans o £50 yr wythnos er mwyn eu helpu i ddelio ag effeithiau’r pandemig. Nid ydym yn gweld unrhyw risgiau ar hyn o bryd gan fod y Gronfa Galedi ar gael tan 30ain Mawrth. Nid ydym yn gwybod fodd bynnag pa fath o adnoddau y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig wrth i ni ddod allan o’r pandemig - ni fyddwn yn medru mynd o’r pandemig i’r ‘normalrwydd newydd’ heb ryw fath o gyfnod pontio.

  

A oes modd cynnig mwy o fanylder yngl?n â’r gorwariant yn erbyn y tanwariant?

 

Mae’r portffolio Dethol Oedolion yn cynnwys y gyllideb Oedolion, sydd yn orwariant o £180k, ond mae yna danwariant o £4k ym maes Cymuned Gofal, tanwariant o £103k ym maes Comisiynu a £4k o danwariant ym maes Adnoddau a Pherfformiad. Mae’r tanwariant yn gyfanswm felly o £69k.

Beth yw’r rheswm dros y tanwariant ym maes Comisiynu?

 

Yn sgil y pandemig,  nid yw’n bosib ail-ddechrau nifer o gynlluniau e.e. gwasanaethau dydd gan fod pobl yn agos at ei gilydd mewn un adeilad; rydym wedi cynnig llawer o allgymorth i’r cleientiaid yma. Rydym wedi profi arbedion naturiol fel costau’r adeilad er enghraifft. At hyn, mae’r swydd fel Swyddog Comisiynu wedi bod yn wag am fwy na blwyddyn - rydym wedi  oedi’r cynlluniau ar gyfer recriwtio ac mae hyn wedi ychwanegu at y tanwariant. 

 

Nid yw canolfannau dydd ar agor fel cynt yn sgil y cyfnod clo. A oes unrhyw arbedion yn y maes hwn, a phan fydd y cyfnod clo yn dod i ben, a fydd y canolfannau yma dal yn gynaliadwy?

 

Bydd yr arbedion yno’r flwyddyn nesaf er mwyn helpu’r broses o ail-agor y canolfannau dydd, doed a ddelo’r ddarpariaeth y byddwn yn cynnig. 

 

O ran y costau cyfalaf ar gyfer Cartref Gofal  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Craffu ar y Gyllideb: Craffu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2021/22 pdf icon PDF 1 MB

Defnyddiwch y ddolen hon i gyrchu'r papurau ar gyfer yr eitem hon, os gwelwch yn dda - ar gael fel rhan o agenda'r Cabinet 20fed Ionawr 2021. 

 

 Cliciwch Yma   

 

Cofnodion:

1.    Craffu’r Gyllideb: Craffu’r cynigion cyllideb ar gyfer 2021/22

Roedd Jonathan Davies a Tyrone Stokes wedi cyflwyno’r cyflwyniad ac wedi ateb cwestiynau  gan aelodau, gydag Ian Saunders a Peter Davies.

 

Roedd y pwyllgor wedi derbyn adroddiad cyn hyn yn nodi y bydda’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn cael ei leihau o £900k i £600k?

 

Mae’r gefnogaeth ar gyfer y gyllideb gyfalaf o £900k ar gyfer y Grant Cyfleusterau i’r Anabl wedi bod yn rhan o’r cynigion am flynyddoedd lawer erbyn hyn. Felly, rydym wedi adrodd ers sbel y byddwn yn parhau ar lefel uwch na £600k, gyda’r £900k yn gyllideb sylfaen. Nid ydym yn sicr pa adroddiad yr ydych yn cyfeirio ato ond mi wnewn ni wirio hyn. 

 

Mae’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn cynnwys Diogelwch yn y Cartref, ac mae’r swm ar gyfer hyn yn cynyddu – a yw’r   £900k ar gyfer y Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn bendant, a faint o hyn sydd ar gyfer y Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn hytrach na Diogelwch yn y Cartref?

 

Rydym yn ceisio bod yn hyblyg gyda hyn o ddydd i ddydd. Rydym yn gweithio’n agos gyda Gofal Cymdeithasol yngl?n â’r rhaniad gan ein bod yn gwybod pa mor bwysig yw diogelwch yn y cartref.  Mae tua £100k o’r gyllideb yn cael ei neilltuo ar gyfer diogelwch yn y cartref ond byddwn yn hyblyg ac yn cael ein llywio gan OTE a Gofal a Thrwsio o ran y lefelau gwariant. Yn ogystal â’n cyllideb, rydym hefyd yn derbyn arian Hwyluso, sydd yn grant gan Lywodraeth Cymru sydd yn helpu ni sicrhau hyblygrwydd er mwyn addasu. 

 

Mae Covid yn rhannu’r gymdeithas – a yw’r Cyngor yn cydnabod y nifer o bobl sydd yn mynd drwy’r trafferthion yma a pha effaith y bydd hyn yn ei gael ar y modd y bydd gyllideb yn cael ei rhannu?

 

Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, nid ydym yn gwybod beth sydd o’n blaenau neu beth fydd y lefel newydd. O ran mynd i’r afael gyda’r  pandemig, mae Cronfa Galedi Covid Llywodraeth Cymru  wedi ein caniatáu ni i fynd i’r afael gyda’r pwysau yn y sector Gofal hefyd – mae’r gefnogaeth yma ar gael ar draws y gwasanaethau, gan gynnwys oedolion ifanc (gan gynnwys y rhai hynny ag anableddau corfforol a meddyliol) ac oedolion h?n (er mwyn helpu sefydlogi’r farchnad a mynd i’r afael gyda’r anghenion yma wrth i ni fynd drwy’r pandemig).  Roedd yna fuddsoddiad sylweddol yn y gyllideb eleni ar gyfer oedolion ag anableddau corfforol a dysgu: £1.044m. Rydym wedi ceisio mynd i’r afael ag anghenion y boblogaeth gyfan, gan sicrhau nad ydym yn gadael neb ar ôl, ac rydym wedi ymrwymo i barhau gyda hyn. 

 

Nid yw’r ffigyrau gan Ystadegau Cymru yn gyson gyda ffigyrau Sir Fynwy – a oes modd esbonio hyn?

 

Y rheswm am hyn yw y dylai ein cyllideb, sydd yn cael ei labelu gennym fel   ‘DFG’, o bosib ei enwi’n ‘Addasiadau ar gyfer Pobl Anabl’, ac felly, mae hyn ychydig yn gamarweiniol.

  

O ran y cynnydd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 462 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion ac fe’u harwyddwyd fel cofnod cywrain.  

 

 

 

 

6.

Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Dethol Oedolion pdf icon PDF 499 KB

7.

Blaengynllunydd Gwaith y Cyngor a’r Cabinet pdf icon PDF 198 KB

8.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf fel 16eg Mawrth 2021