Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Paul Pavla fuddiant personol nad yw’n achosi rhagfarn yn rhinwedd ei swydd fel Arweinydd Ymchwil a Pholisi ar gyfer Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

 

Datganodd y Cynghorydd Frances Taylor ddiddordeb personol nad yw’n achosi rhagfarn yn rhinwedd ei swydd fel Aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

3.

Craffu ar sut mae'r Cyngor yn defnyddio arian Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl i ddatblygu rhyngwyneb effeithiol rhwng tai a gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau canlyniadau hanfodol i ddefnyddwyr gwasanaeth. pdf icon PDF 121 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Pwyllgor am gael adroddiad ar sut mae’r Cyngor yn defnyddio arian Grant Cyfleusterau i’r Anabl i sicrhau canlyniadau hollbwysig i ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae Aelodau wedi craffu hyn dros nifer o flynyddoedd ond maent yn ceisio sut deall sut y gall gwaith partneriaeth effeithlon rhwng staff tai a gofal cymdeithasol ddarparu addasiadau i gartrefi a fyddai’n cynyddu annibyniaeth a hefyd lesiant person. Cyflwynwyd astudiaeth achos i’r cyfarfod sy’n dangos sut mae ramp tu allan i annedd wedi galluogi’r person i barhau eu diddordebau’n annibynnol yn y gymuned yn dilyn llawdriniaeth gritigol. Trafodwyd cyd-destun yr adroddwyd a nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

  • Roedd nifer yr achosion wedi gostwng ganol y llynedd dim ond i gynyddu yn yr hydref ac wedyn aros yn yr unfan. Gall y sefyllfa newid yn aml heb achos.

 

  • Mae rheolwr newydd yn ei swydd a chafodd y gwasanaeth ei adolygu’n ddiweddar. Mae staff yn hyderus y gallant wella’r amserlen o atgyfeiriad i weithredu a chyrraedd  targed o 7-10 diwrnod. Nid yw’r adolygiad wedi dynodi unrhyw elfennau penodol o’r broses sy’n achosi oedi, ond awgrymwyd fod sawl maes lle gellid gwneud pethau’n fwy prydlon.

 

  • Y blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth yw cryfhau’r cynnig a sicrhau fod y gwaith a wneir o ansawdd uchel tra’n gostwng yr amserlenni ar gyfer cwblhau. Gall peth o hyn fod wedi’i gyflawni drwy ganfod synergedd gyda chontractwyr.

 

Her:

 

  • Mae’r adroddiad yn dangos gostyngiad mewn cyllid o £900k i £600k a gellir gweld hyn hefyd yn y cynigion cyllideb. Beth yw goblygiadau hyn ?

 

Dyma’r sefyllfa bresennol. Derbyniodd y gwasanaeth gyllid ychwanegol ychydig flynyddoedd yn ôl i brosesu’r ôl-groniad o achosion. Mae’r cynnydd mewn cyllid yn golygu na fu’n rhaid i ni ddogni cyllid ar gyfer pobl.

 

  • Mae’r gostyngiad mewn cyllid pan nad ydym yn cyflawni ar ein targed ar hyn o bryd yn ymddangos yn ddisynnwyr ac yn bryder. Nid yw’r achosion heb eu trin yn awgrymu y dylem fod yn gostwng cyllid.

 

Aelod Cabinet dros Gyllid – Y £600k yw’r gyllideb sylfaenol a dyrannwyd £300k i glirio’r ôl-groniad. Rydym wedi gofyn am adroddiad cynnydd ar sut y mae’r £300k wedi lliniaru hynny felly mae angen i ni yn awr ystyried y canfyddiadau ac adolygu’r gyllideb cyfalaf i weld os oes cwmpas i ddarparu cyllid uwchben y lefel sylfaen.

 

  • Pwy all wneud atgyfeiriadau? A all aelodau wneud atgyfeiriad ar ran aelod o’r cyhoedd?

 

Gallant. Gall aelodau, cyfeillion a pherthnasau atgyfeirio pobl at y gwasanaeth a hefyd i Careline. Byddwn yn darparu gwybodaeth i bob aelod etholedig ar y gwasanaethau a sut i atgyfeirio.

 

  • A yw’r oedi mewn prosesu’r addasiadau hyn yn arwain at i bobl orfod aros mewn ysbyty am gyfnodau estynedig pan fyddent yn cael gwell gofal yn eu cartrefi? 

 

Nid yw hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei brofi ond mae ein harchwiliad manwl o hyn wedi dangos na allwn gwtogi’r amserlen 7-10 diwrnod ar gyfer cwblhau. Mae gennym berthynas dda gyda chontractwyr ac nid oes gennym unrhyw oedi yn gysylltiedig gyda therapyddion galwedigaethol yn prosesu ceisiadau, ond mae angen i  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adrodd ar berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ar gyfer 2019-20. pdf icon PDF 221 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad i aelodau a thynnwyd sylw at y pwyntiau allweddol dilynol yn nhermau esbonio perfformiad ar dargedau:

 

·           Mae ein ffocws ar ofal sy’n canolbwyntio ar y person a darparu’r deilliannau mae pobl eu heisiau. Gall fod yn anodd meintioli hynny ar ddangosyddion perfformiad Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘oedi wrth drosglwyddo gofal’. Mae rhai o’r problemau wrth gyrraedd targedau ar gyfer cael pecynnau gofal yn eu lle o fewn amserlen benodol yn gysylltiedig ag achosion cymhleth lle gall fod angen ailgartrefu person.

 

·           Mae ysbytai yn tueddu i weithredu egwyddor pwyll piau hi a derbyn pobl i ysbyty a’u cadw i mewn am gyfnod, pan deimlwn ni y gallent dderbyn gwell gofal yn eu cartrefi. Y cwestiwn yw pa waith ataliol fedrai helpu pobl i aros yn iach yn eu cartrefi fel nad yw’n rhaid iddynt gael eu derbyn i  ysbyty. Mae prosiect ‘Homefirst’ yn enghraifft allweddol o hyn.

 

·           Rydym yn ymwneud â gwaith partneriaeth effeithlon gydag iechyd i gynyddu rhyddhau o ysbyty. Mae tîm yn ei le yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall i sicrhau fod gan y person y gefnogaeth iawn i’w galluogi i adael yr ysbyty ac osgoi arosiadau maith diangen.

 

·           Mae’r targed am ddiogelu oedolion yn faes allweddol o gonsyrn – gwelsom gynnydd yn nifer y pryderon, sydd wedi rhoi pwysau ar y gwasanaeth. Mae’n gadarnhaol fod y ‘ddyletswydd i adrodd’ wedi arwain at weithredu ar bryderon ac mae’n dangos fod codi ymwybyddiaeth yn gweithio, fodd bynnag bydd angen rheoli capasiti yn y dyfodol a chaiff ei gynnwys o fewn ein trafodaethau ar y gyllideb.

 

 

 

Her:

 

·           Dengys yr adroddiad fod oedi wrth drosglwyddo gofal yn cael mwy o sylw yn yr ysbytai cymunedol gyda threfnu oriau gwaith wedi’i nodi fel rheswm. Ymddengys fod tîm rhyddhau ar y cyd mewn ysbytai mwy yn effeithlon. A yw’r rhain ar gael mewn ysbytai cymunedol hefyd? Ac os felly, beth yw’r rhesymau am y nifer uwch o achosion oedi wrth drosglwyddo gofal mewn ysbytai cymunedol?

 

Mae’r timau yn eu lle mewn ysbytai cymunedol. Y rheswm am y lefelau uwch mewn ysbytai cymunedol yw bod yr ysbytai hyn yn trin achosion mwy cymhleth. Mae’r prif ysbytai wedi rhyddhau pobl i’r ysbytai cymunedol oherwydd bod ganddynt anghenion cymhleth ac angen cefnogaeth arbenigol er mwyn medru dychwelyd adref. Mae’r timau therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion yn rhyddhau pobl cyn gynted ag sy’n bosibl ac mewn llawer o achosion, gall pobl fynd adref ond weithiau mae addasiadau cymhleth yn golygu fod angen i’r person symud i lety arall, ond ceisiwn osgoi hyn i’r graddau mwyaf posibl.

 

Canlyniad a Chasgliad y Cadeirydd:

 

Mae’r pwyllgor yn derbyn yr esboniadau am berfformiad y gwasanaeth yn nhermau bod ‘oedi wrth drosglwyddo gofal’ oherwydd achosion cymhleth. Sylweddolwn nad dim ond yn Sir Fynwy mae hyn yn broblem a bod pryderon am y sector gofal yn genedlaethol.

 

Yn nhermau’r cynnydd mewn pryderon am ddiogelu oedolion, sylweddolwn fod hyn yn broblem o fwy nag o elw nag o gapasiti. Gofynnwn am e-bost gan y Prif Swyddog am sut ydym yn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Monitro Cyllideb Mis 7 – Adroddiad ar gyfer craffu chwarterol. pdf icon PDF 297 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r pwyllgor ar y sefyllfa alldro refeniw a chyfalaf ym mis 7 sy’n amlinellu llithriadau cyfalaf a defnydd cronfeydd wrth gefn i gynorthwyo sefyllfa’r gyllideb refeniw. Tynnodd swyddogion sylw at baragraff 2.21 sy’n adrodd rhagolwg diffyg refeniw net o £3.99m a’r addasiadau i ddychwelyd y gyllideb i sefyllfa gytbwys cyn diwedd mis Mawrth 2020.

 

Cyflwynodd swyddogion y sefyllfa refeniw a’r sefyllfaoedd unigol ar gyfer pob maes gwasanaeth a amlinellir ym mharagraff 3.2. Hysbyswyd aelodau mai’r prif feysydd consyrn yw gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion a hefyd wasanaethau plant. Trafododd aelodau’r rhesymau gyda’r prif swyddog a esboniodd fod gwasanaethau ar gyfer oedolion iau gydag anableddau wedi cyfrannu tuag at y pwysau ar y gyllideb a bod sefyllfa’r gyllideb ar gyfer y maes gwasanaeth yn gymharol gyfnewidiol. Er bod y maes gwasanaeth yn hollol ymroddedig i gefnogi pobl ifanc sydd angen annibyniaeth drwy fyw â chymorth, esboniodd y gall pob achos effeithio’n sylweddol ar wariant ariannol y gwasanaeth.

 

Tynnodd swyddogion sylw at baragraffau 3.5 a 3.7 ac esboniodd ddefnydd hyblyg o dderbyniadau cyfalaf i wrthbwyso peth pwysau yn y gyllideb refeniw a thalu’r gwariant cost yn gysylltiedig gyda diwygio gwasanaeth. Er y croesawyd y defnydd o dderbyniadau cyfalaf, dywedodd y pwyllgor nad yw hyn yn cael gwared â’r broblem ar gyfer blynyddoedd y dyfodol ac na chaiff ei ystyried yn ddull gweithredu cynaliadwy ar gyfer y gyllideb.

 

Clywodd Aelodau fod y cyngor yn rhagweld arian ar hap unwaith yn unig yng nghyswllt adfer TAW gan HMRC o weithredu rheoliad Ealing, cyfraniad grant yn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer costau cyflogau athrawon a pheth cyllid ychwanegol yn deillio o’r gyfarwyddeb cyfalafu.


Her:

 

·           A oes angen i ni wario arian y Gronfa Gofal Integredig (IMF) mewn amserlen benodol ar gyfer ailddatblygu Heol Crug, oherwydd os felly, rydym yn bryderus am yr oedi mewn cynnydd.

 

Mae angen i ni wario’r arian ICF erbyn diwedd y flwyddyn nesaf a chawsom beth oedi sylweddol sy’n nodweddiadol o gynlluniau cyfalaf mawr, ond dylem fedru gwario’r arian ICF ac nid oes terfyn amser ar gyllid y cyngor.

 

·           Rwy’n bryderus am yr effaith ar ein cyllidebau ein hunain oherwydd bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi gostwng y cyllid ar gyfer gofal iechyd parhaus, yn neilltuol yn nhermau cymorth ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu. A oes cyfle i edrych ar gronni cyllidebau, gan y teimlaf y dylai’r bwrdd iechyd ystyried hyn o gofio y bu’r Ddeddf mewn grym am 6 mlynedd.

 

Mae gennym broblem fawr gydag anableddau dysgu a theimlwn y dylai’r ffocws fod ar yr unigolyn a sut y gallwn fel partneriaeth roi’r gefnogaeth orau iddynt. Yn nhermau cronni cyllidebau, mae’n gymhleth iawn yn gyfreithiol ond mae parodrwydd i edrych ar hyn. Mae swyddogion yn aelodau o Fwrdd Diogelu Oedolion Gwent a chawsom drafodaethau am hyn a byddwn yn parhau i fynegi ein dymuniad i edrych ar hyn o safbwynt rhanbarthol, ond rydym yn cydnabod ei bod yn anodd a bod ffordd bell i fynd ond mae’r trafodaethau yn dechrau.

 

·         Deallwn fod pwysau am  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Craffu ar y cynigion Cyfalaf a Refeniw drafft ar gyfer 2020-21 o fewn cyd-destun y Cynllun Ariannol Pedair Blynedd Tymor Canolig (adroddiadau i ddilyn). pdf icon PDF 565 KB

Gweler y linc isod am fanylion – Agenda'r Cabinet 20fed Rhagfyr 2019:

 

·         Cynigion Cyllideb Cyfalaf Drafft 2020/21 i 2023/24.

·         Cynigion y Gyllideb Refeniw Ddrafft 2020/21.

 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=4192

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan ein bod eisoes wedi gosod y cyd-destun ar gyfer y cynigion am arbedion yn y gyllideb drwy drafod y pryderon ac y cawsoch y cynigion ac asesiadau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Asesiadau Effaith Cronnus a aeth i’r Cabinet ym mis Rhagfyr, cawn esboniad byr o’r cynigion am arbedion cyn cymryd cwestiynau.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid fod proses gosod cyllideb bob blwyddyn yn dechrau gydag asesiad o’r gyllideb llinell sylfaen, pwysau hysbys, setliad Llywodraeth Cymru a’r mewnbwn Treth Gyngor ac yna geisio pontio’r bwlch rhwng hyn gyda chynigion am arbedion. Y prif bennawd yw fod gennym bwysau o £5.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf ar gyfer y maes gwasanaeth hwn. Mae’r gyllideb refeniw yn fwy perthnasol i’r maes gwasanaeth hwn gan nad yw’n cyfrannu’n sylweddol at y gyllideb cyfalaf. 

 

Pwysau Pennawd o £5.5 miliwn

 

·         Pwysau £1 miliwn ar gyfer oedolion gydag anableddau – oherwydd oedran cynyddol y boblogaeth, mwy o alw am leoliadau mewn colegau preswyl a lleoliadau byw â chymorth a’r trwybwn o blant yn dod yn oedolion.

 

·         Pwysau o £373k ar gyfer cynnydd mewn ffioedd darparwyr – caiff hyn ei glymu i’r cyhoeddiad diweddar o gynnydd o tua 6.2% mewn cyflog byw.

 

·         Troi’r Byd a’i Ben i Lawr (ein model gofal yn y cartref) – gydag angen yn dal i fod heb gael ei ddiwallu, byddwn angen £1.048 miliwn yn fwy o gyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

·         Prosiect MIST mewn gwasanaethau plant (tîm aml-asiantaeth yn edrych ar ofal pen uchel ar gyfer plant) – angen £287k i gynyddu cefnogaeth tîm.

 

·         Pwysau o £2.6 miliwn yn y flwyddyn ar wasanaethau plant.

 

·         Cynnig i gynyddu’r tîm diogelu ar gost o £153k.

 

Cynigion am arbedion yn gyfanswm o £1 miliwn:

 

·         £116k fel canlyniad i Lywodraeth Cymru yn cynyddu’r cap tâl wythnosol dibreswyl fydd yn rhoi incwm ychwanegol i ni.

 

·         Ailnegodi’r contract gyda’r gwasanaeth iechyd ar ddarpariaeth gwely yng nghontract Severn View a allai fod yn gyfanswm o £166k

 

·         Arbedion o fewn darpariaeth gyfreithiol mewn gwasanaethu plant yn gyfanswm o £100k.

 

·         MIST ~ er ei fod yn gofyn am fuddsoddiad o £287k, mae’n bwriadu sicrhau arbedion o £250k.

 

·         Ffioedd a chostau cyffredinol mewn gofal cymdeithasol (yn cynnwys costau diogelu’r cyhoedd) yn gyfanswm o £189k.

 

·         Rhai arbedion llai mewn effeithiolrwydd.

 

·         £150k fel rhan o’r agenda newid ymarfer.

 

Her:

 

  • Pam fod y Cyllid Gofal Integredig ar gyfer prosiect MIST wedi dod i ben? 
    Roedd yn brosiect penodol gyda Blaenau Gwent ar gyfer tîm amlddisgyblaeth ar gyfer gwasanaethau plant.

 

  • Er ein bod yn canolbwyntio’n bennaf ar gylch gorchwyl gwasanaethau oedolion, gan gydnabod fod y sefyllfa yn debygol o fynd yn gynyddol anodd a chydnabod bod angen datrysiad cenedlaethol, mae’n dal i fod angen i ni ystyried sut i gael cyllideb gytbwys. Felly mewn ymdrech i feddwl tu allan i’rblwch, bu Troi’r Byd a’i Ben i Lawr yn enghraifft mor dda o ymarfer arloesol, a fyddai’n well buddsoddi yn ein staff ein hun yn hytrach na chomisiynu darparwyr masnachol.? 

 

Mae cwestiwn p’un ai ‘dyfu eich gwasanaeth ei hun’ drwy fuddsoddi yn eich staff eich  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol

7a

Cydbwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc ac Oedolion - 5 Medi 2019. pdf icon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cofnodion 5 Medi – roedd y Cynghorydd Pavla wedi anfon ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn ond ni chofnodwyd hynny. Cytunwyd gwneud y gwelliant angenrheidiol.

 

7b

Pwyllgor Dethol Oedolion - 5 Tachwedd 2019 (i ddilyn). pdf icon PDF 137 KB

Cofnodion:

Cofnodion 5 Tachwedd 2019 – roedd y Cynghorydd Groucutt wedi anfon ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn ond ni chofnodwyd hynny. Cytunwyd gwneud y gwelliant angenrheidiol.

 

8.

Blaen-raglen Waith y Pwyllgor Dethol Oedolion pdf icon PDF 392 KB

Cofnodion:

Cytunwyd y caiff Gwasanaethau Iechyd Meddwl eu craffu ar y cyd gyda’r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc ac y cynhelir cyfarfod ym mis Ebrill, dyddiad i’w gadarnhau.

 

9.

Cynllunydd Blaenraglen Waith y Cyngor a'r Cabinet pdf icon PDF 520 KB

Cofnodion:

Nodwyd y rhaglen ac ni wnaed unrhyw geisiadau i ddod ag adroddiadau i’r pwyllgor.

 

10.

Cyfarfod nesaf: 10 Mawrth 2020, 10.00am