Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Cymunedau Cryf - Dydd Iau, 23ain Ionawr, 2020 10.00 am

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

2.

Fforwm Cyhoeddus Agored

Cofnodion:

Siaradodd Peter Sutherland ar ran Cyngor Cymuned Llanbadog i godi 3 mater: 

 

·        Yr Ymgynghoriad Cyhoeddus ar ddrafft terfynol Cynllun Adfywio Brynbuga – ar ran Cyngor Cymuned Llanbadog, cydnabu’r adnoddau, cymhelliant a chefnogaeth swyddogion ac aelodau fel ei gilydd, gan ddweud fod y prosiect yn enghraifft o gydweithio effeithlon.

 

·        Materion yn ymwneud â Monkswood – Parcio tu allan i Eglwys St Mathew ac Arwyddion Gyrru – ni chynhaliwyd y cyfarfod safle a gynigiwyd rhwng y cyngor cymuned a swyddogion cyngor yn dilyn cais ym mis Rhagfyr a gofynnodd am symud ymlaen â hyn.. 

 

·        Cynnig i gau canolfan ailgylchu – gofynnodd am gofnodi fod y cyngor cymuned yn gwrthwynebu’n gryf i hyn am dri rheswm: cynnydd posibl mewn tipio anghyfreithlon, goblygiad cynnydd mewn ôl-troed carbon ac effaith negyddol ar y boblogaeth h?n drwy orfod gwneud trip cylch o 12 milltir ychwanegol i ymweld â’r safle arall agosaf. Hoffaii’r cyngor cymuned i’r cyngor ystyried cydweithio gyda Thorfaen sydd â chyfradd ailgylchu o 88%.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet gan ddweud y byddai cau Canolfan Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi Brynbuga yn cael ei drafod yn llawn yn y cyfarfod clwstwr y dydd Mawrth dilynol. Cytunodd y Cadeirydd i gysylltu â swyddogion am y cyfarfod safle yn Monkswood na chafodd ei gynnal. Awgrymodd y pwyllgor efallai mai Pwyllgor Ardal Cyngor Sir Fynwy fyddai’r fforwm priodol i godi materion cysylltiedig ag ardaloedd yn y dyfodol.

 

 

3.

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy pdf icon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd i’r Pwyllgor gynnal craffu cyn-penderfyniad o’r Cynllun Gwella Mynediad Cefn Gwlad (Cynllun Gwella Hawliau Tramwy) yn dilyn cwblhau’r ymgynghoriad cyhoeddus a chyn ei ystyried gan y Cabinet. Esboniodd swyddogion fod y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn gynllun statudol dan Ddeddf Hawliau Mynediad Cefn Gwlad a’i fod o’i hanfod yn Gynllun Mynediad Cefn Gwlad. Ymgynghorir ar y cynllun, ac mae atodiad 3 yn dangos y diwygiadau a gynigir fel canlyniad i’r ymgynghoriad. Cadarnhaodd swyddogion fod y Fforwm Mynediad Lleol yn fodlon gyda’r cynllun ac mai’r cam nesaf fyddai paratoi fersiwn terfynol yr hyn sydd ei angen dan y ddeddfwriaeth, a gaiff ei gyhoeddi wrth ymyl y cynllun a gymeradwywyd.

 

Her:

 

·      Mae’r adroddiad yn fanwl ac yn gynhwysol iawn. Y pryder yw fod y tîm cefn gwlad dan bwysau a bod ganddo bellach gyfrifoldebau ychwanegol, felly sut caiff hyn ei drin? Mae’r adroddiad yn sôn am oblygiadau ariannol, sut y caiff hyn ei liniaru? 

 

Mae’n rhaid i ni flaenoriaethu’r hyn y gwariwn arian arno o ddydd i ddydd gan fod ein cyllideb gyfalaf yn gyfyngedig. Byddai ein cyllideb ddelfrydol 10 gwaith y gyllideb bresennol. Ein dull gweithredu yw dangos manteision mynediad cefn gwlad, nid dim ond trin hyn fel gofyniad statudol ac mae’r dull hwn yn ein helpu i gael mynediad i gyllid drwy wahanol lwybrau, gan weithio’n agos gyda Gwastadeddau Gwent. Mae Pwyllgor Ardal Canol Sir Fynwy wedi nodi fod grantiau grwpiau unigol yn aml yn canolbwyntio ar Ddyffryn Gwy neu’r arfordir gyda ffocws datblygu twristiaeth. Rydym wedi adolygu ein holl weithdrefnau ac mae gennym gynlluniau blaenoriaethu yn eu lle. Ni allwn wneud popeth ac mae’r ddogfen yn rhoi llawer o bwysau ar werth partneriaethau ac agweddau gwirfoddoli, felly ceisio canfod cyllid drwy ddulliau eraill i wneud mwy o waith da yn y dyfodol yw ein blaenoriaeth. Rydym yn ffodus tu hwnt yn Sir Fynwy i gael cefnogaeth ardderchog gan y gymuned. Gallwn weld rhai enghreifftiau da yn cael eu cyflwyno, yn ymwneud ag arwyddbyst a gobeithiwn fod mewn sefyllfa gryf i gymryd rhan yn y gwahanol gynlluniau. Rydym yn ffodus tu hwnt i fod â nifer fawr o wirfoddolwyr sy’n gweithio gyda’r llysgenhadon twristiaeth ac yn edrych yn barhaus ar ffyrdd newydd i alluogi gwirfoddolwyr i wneud mwy i ni.

 

Canlyniad a chasgliad y Cadeirydd

 

Mae’r Pwyllgor hwn wedi croesawu craffu cyn-penderfyniad ar y cynllun. Rydym yn gefnogol iawn i’r gwirfoddoli y mae’r gwasanaeth yn cael budd mawr ohono; fodd bynnag, mae gennym beth pryder yn ymwneud ag adnoddau’r tîm. Ystyriwn fod y cynllun yn addas i’r diben a rydym yn eich cefnogi i fynd ag i’r Cabinet i gael ei gadarnhau ar 19 Chwefror.

 

 

4.

Cynllun Rheoli AHNE Dyffryn Gwy pdf icon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynllun Rheoli Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy 2020-2025

 

Gwahoddwyd y Pwyllgor i roi gwybodaeth ar gyfer yr adolygiad o Gynllun Rheoli Ardal Harddwch Naturiol Dyffryn Gwy (AHNE) 2020-2025 a dynodi unrhyw faterion y teimlent y dylent gael eu hystyried ymhellach. Esboniodd rheolwr yr AHNE fod gan y gyngor gyfrifoldeb ar y cyd gyda Swydd Henffordd, Swydd Caerloyw a Choedwig y Ddena i baratoi cynllun rheoli ar gyfer AHNE Dyffryn Gwy. Er mai’r Cydbwyllgor Ymgynghorol fydd yn datblygu hyn, gofynnir am fewnbwn y cynghorau perthnasol gan mai’r cynghorau hyn mewn gwirionedd sydd piau’r cynllun. Esboniwyd fod hon yn ddogfen greiddiol ar gyfer yr AHNE ac yn gweithredu fel cynllun ar y cyd ar gyfer pob un o’r 4 awdurdod lleol ac y caiff ei hanfon i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac i San Steffan. Hysbyswyd aelodau, er fod gennym nifer o gynlluniau, y teimlem fod adolygiad cyffyrddiad ysgafn yn gymesur ar y cam hwn gyda chymaint o ansicrwydd yn genedlaethol. Cynhelir adolygiad llawn ar gyfer y cynllun nesaf yn 2025. Clywodd y pwyllgor y cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ac y derbyniwyd 20 ymateb. Dangosodd gwerthusiad Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol nifer o ystyriaethau i gael eu cynnwys o fewn y cynllun, a gaiff eu hystyried gan y Cydbwyllgor Ymgynghorol ym mis Gorffennaf cyn mynd ag ef i bob un o’r cynghorau i gael ei fabwysiadu’n ffurfiol. 

 

Her:

 

·         A fedrwch esbonio’r trefniadau ariannol os gwelwch yn dda?

Mae’n gymhleth, ond mae fformiwla yn seiliedig ar sail ddaearyddol. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant ac am bob £1 a wariwn, derbyniwn £8 mewn cyllid, sy’n werth ardderchog am arian.

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

Mae’r pwyllgor yn rhoi ei gefnogaeth lawn i’r ddogfen ardderchog hon ac yn hapus eich bod yn symud ymlaen i’r cam nesaf, sef cytundeb gan y Cydbwyllgor Ymgynghorol..

 

 

5.

Adroddiad Monitro Cyllideb - Mis 7 pdf icon PDF 303 KB

Cofnodion:

Craffu Adroddiad Monitro Cyllideb Mis 7 a’r drafft gynigion Cyfalaf a Refeniw ar gyfer 2020-21 o fewn cyd-destun y Cynllun Ariannol Tymor Canol pedair blynedd

 

Yn ei flaen-gyfarfod, trafodwyd yr hoffai fynychu’r Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu ar 30 Ionawr gan fod materion o ddiddordeb a pherthnasedd i’r pwyllgor hwn ar agenda’r cyfarfod hwnnw. Gofynnwyd i aelodau os byddai’n bosibl cynnull cyfarfod ar y cyd o’r pwyllgorau fyddai’n galluogi aelodau Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf i gael cyfraniad cyfartal a hawliau pleidleisio ar y deunydd pwnc. Cadarnhaodd ein Swyddog Monitro y gellid trefnu hyn. Gofynnwyd i aelodau roi’r cyfarfod yn eu dyddiaduron.

 

Cytunodd y pwyllgor i drafod adroddiad Monitro Cyllideb Mis 7 mewn cysylltiad gyda’r drafft gynigion Cyfalaf a Refeniw ar gyfer 2020-21 ac mae adroddiad monitro’r gyllideb yn rhoi’r cyd-destun ehangach ar gyfer yr heriau a gaiff eu hwynebu yn y flwyddyn bresennol ac yn y dyfodol.

 

Clywodd aelodau fod y cyngor yn wynebu heriau sylweddol ym mis 7, gyda lefel gorwariant gwasanaethau yn sylweddol iawn ac yn rhyfeddol o gymharu â blynyddoedd diweddar. Esboniodd swyddogion i ni fod â hanes rhagorol o reoli gorwariant mewn blynyddoedd blaenorol fel ein bod ar bwynt all-dro’r gyllideb fel arfer yn torri’n wastad neu’n dychwelyd gwarged bach a’n bod yn parhau i geisio hynny.

   

Mae paragraff 3.2 yn rhoi tabl sy’n dangos gwarged cyngor net o £4 miliwn. Yn nhermau cyd-destun, daw’r rhain o 3 maes:

 

 

·         Pwysau gwasanaethau plant a phlant sy’n derbyn gofal

·         Pwysau mewn gofal cymdeithasol oedolion

·         Cefnogaeth ar gyfer plant gydag anghenion dysgu ychwanegol

 

Yn nhermau materion yn ymwneud â’r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau, y byddwn yn eu hystyried yn llawnach yn y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu yr wythnos nesaf, caiff pwysau eu crynhoi o amgylch parcio, cludiant teithwyr ac incwm cynllunio ac mae’r rhain yn gosod pwysau sylweddol ar y gyllideb refeniw.

 

Nid oes gennym lefelau sylweddol o gronfeydd wrth gefn felly bu’n rhaid i ni roi cynlluniau adfer ar waith ac adweithio ac ymateb i’r sefyllfa yr ydym ynddi. Mae cynlluniau adfer i gyfyngu pob gwariant nad yw’n hanfodol a, lle’n bosibl, edrych ar sicrhau arbedion pellach tra’n rhwystro’r sefyllfa bresennol.

 

Mae adran 3.10 yr adroddiad yn dangos y sefyllfa bresennol a manylion ein cynllun gweithredu. Rydym yn rhagweld diffyg o £3.987m a buom yn ffodus i fedru gwneud dyfarniadau cyflog athrawon yn y flwyddyn bresennol, gyda £310k yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr adenilliad o £1.9m o Dreth ar Werth yn dilyn rheoliad Ealing am incwm gwasanaethau hamdden hefyd yn cynorthwyo’r sefyllfa. Penodwyd ymgynghorwyr i weithio gyda ni ar sicrhau’r adferiad hwn ac mae gennym achos cryf. Yr agwedd olaf i hysbysu’r pwyllgor amdano yw ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru sy’n cynnig hyblygrwydd i ddefnyddio derbyniadau cyfalaf i gyllido costau’n gysylltiedig gyda diwygio gwasanaethau. Bu hyn yn ddefnyddiol i ni. Yn flaenorol, roedd angen caniatâd ond nawr yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru, gall y cyngor wneud y penderfyniad hwnnw. Ymhellach, buom yn ymchwilio ein gwariant i ddynodi costau’n gysylltiedig gydag ad-drefnu gwasanaethau a gallai  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Archwilio cynigion cyllideb drafft 2020/21 pdf icon PDF 187 KB

Cyfeiriwch at y ddolen isod am fanylion – Agenda’r Cabinet 20fed o Ragfyr 2019:

 

·         Cynigion Cyllideb Gyfalaf Drafft 2020/21 i 2023/24

·         Cynigion Cyllideb Refeniw Drafft 2020/21

 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=4192

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Drafft Gynigion Cyfalaf a Refeniw ar gyfer 2020-21

 

Esboniodd swyddogion, ar ôl iddynt siarad yn helaeth am y mannau pwysau ym mis 7 a fu yn flaenllaw yn yr her cyllideb, mae paragraff 3.4 yr adroddiad yn dangos pwysau o £9.7 miliwn, sydd yn ddigynsail. Esboniwyd y bu’n anodd iawn cyflwyno set o gynigion cydlynus i ymgynghori arnynt ac y byddai angen rhoi sylw i’r holl adborth i’r Cabinet ei ystyried ar 19 Chwefror cyn y Cyngor ar 5 Mawrth. Tynnodd swyddogion sylw at baragraff 3.7 sy’n cyflwyno’r drafft gynigion a gofyn i aelodau am eu barn. Gwnaed tybiaethau y byddai cyllid gan Lywodraeth Cymru yn cyllido dyfarniad cyflog athrawon a hefyd y byddai pensiynau yn cael eu hariannu’n llawn. Fe wnaethant ailadrodd y bydd y gallu i ddefnyddio derbyniadau cyfalaf i gynorthwyo’r gyllideb refeniw yn ddefnyddiol. Ymchwiliwyd ffioedd a chostau ac mae posibilrwydd y gellid gwneud arbediad o 2% i Gyllideb Ysgolion Unigol os metho popeth arall. Esboniodd swyddogion i’r dreth gyngor gael ei modelu ar lefel ddarbodus.

 

Her:

 

·        Rydych wedi cyfeirio ym mharagraff 3.5 at y pwysau ac rydych yn ei ddadansoddi ymhellach ym mharagraff 3.18. O ble daeth y pwysau hyn dros y 12 mis diwethaf. A oeddent yno bob amser neu a fu cynnydd sydyn?

Mae gwasanaethau plant wedi gweld cynnydd digynsail yn nifer achosion plant sy’n derbyn gofal a rydym yn ansicr pam, ond mae nifer o resymau posibl. Daethom yn fwy llwyddiannus mewn gweithgaredd ataliol ac mae hefyd fwy o ffocws ar yr ochr farnwrol yn nhermau barn llysoedd ar yr angen am gyfrifoldeb rhieni corfforaethol. Mae hyn wedi golygu cost sylweddol ond mae’n waith hollol hanfodol. Yn nhermau plant gydag anghenion dysgu ychwanegol, mae mwy o asesiad wedi arwain at ddynodi bod angen mwy o gymorth ar y pen mwyaf aciwt, yn nhermau lleoliadau allan o’r sir. Yn nhermau gofal cymdeithasol oedolion, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu mewn misoedd diweddar. Mae oedolion gydag anableddau yn byw’n hirach ac mae eu rhieni yn heneiddio ac yn methu gofalu amdanynt ac mae hyn yn digwydd yn genedlaethol.

 

·         A oes angen consyrn am y costau sy’n gysylltiedig gyda’r cwricwlwm ysgol newydd? A gafodd hyn ei ddynodi yn eich trafodaethau gydag ysgolion, yn neilltuol yng nghyswllt yr arbediad o 2% ar Gyllidebau Ysgolion Unigol?

Rydym wedi cynnal cyfarfodydd gyda phenaethiaid ysgol a digwyddiadau ymgynghori a thrafodaethau gyda’r fforwm cyllideb ysgolion ac mae adborth yn dod trwodd. Deallwn fod pwysau ar ysgolion ac mai dyma’r rhesymeg dros y dull benthyciadau sy’n rhoi hyd at 10 mlynedd i ysgolion weithredu eu cynlluniau adfer cyllideb i ddod â’u cyllidebau allan o sefyllfa ddiffyg. Nid oes unrhyw awydd i ni osod gostyngiad o 2% ar ysgolion, ond mae’r pwysau ariannol ar y cyngor mor sylweddol fel y bu’n rhaid i ni ystyried hynny. Os cawn unrhyw gyllid ychwanegol, byddwn yn ceisio ei ostwng neu ei ddileu.

 

·         A yw cynghorau eraill yn yr un sefyllfa â ni?

Mae eu fformiwla cyllid yn anfantais i rai cynghorau. Teimlwn fod Sir Fynwy dan  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Rhestr Gweithredu

8.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 122 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion.

 

9.

Blaenrhaglen waith Cymunedau Cryf pdf icon PDF 301 KB

Cofnodion:

Nodwyd rhaglen waith y Cyngor.

 

 

10.

Blaenrhaglen waith Cabinet a Chyngor pdf icon PDF 520 KB

Cofnodion:

Nodwyd y rhaglen ac ni wnaed unrhyw geisiadau am ddod ag adroddiadau i’r pwyllgor.

11.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf