Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Cymunedau Cryf - Dydd Iau, 30ain Mehefin, 2016 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Nodi penodiad y Cadeirydd Select

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Sir Simon Howarth fel Cadeirydd.

 

Gan ei bod yn Ganmlwyddiant Brwydr y Somme, gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau gofio’r bywydau a gollwyd mewn brwydr a chynhaliodd funud o ddistawrwydd.  

2.

Ethol Is Gadeirydd

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Sir Tony Easson fel Is-gadeirydd.

 

 

3.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnodion:

Derbyniasom ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Sir S. White, A. Webb, S. Jones a Hazel Llett.

 

Cododd y Cadeirydd bwynt o eglurder ynghylch presenoldeb yn y Pwyllgor. Tristawyd y Cadeirydd at y diffyg presenoldeb a’r diffyg ymddiheuriadau gan rai Aelodau ac addawodd fynd i’r afael â hyn drwy siarad ag Arweinydd y Cyngor.

 

 

 

4.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 130 KB

Held on the 28th April 2016.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf a gynhaliwyd ar 28ain Ebrill 2016 fel cofnod cywir ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

 

5.a Fforwm Agored y Cyhoedd

 

Ymunodd Carl Thomas ac Ian Hodgkinson o Dafarn y Glascoed â ni. Roeddent wedi cysylltu â’u haelod lleol,  Val Smith, parthed cyflymder  traffig ar heol y A472, yr heol y tu allan i’w tafarn.

 

Roeddent yn eiddgar i hyrwyddo’u busnes a gyda 7 erw o dir maent yn edrych i fwyhau’r defnydd o’r Dafarn a’i dir. Dywedasant fod cymdogion yn aml yn ei chael yn anodd tynnu allan o lonydd eu heiddo o ganlyniad i ddiffyg gwelededd, gyda’r cloddiau yn eu rhwystro rhag gweld yr heol yn glir a gofynasant am well arwyddion a’r posibilrwydd o osod camera cyflymder.

 

Gofynasant hefyd a allai’r Cyngor sicrhau y torrir y borfa a chynnal a chadw’r weirglodd a’r gwrthglawdd o Bentref Glascoed i Neuadd y Sir. 

 

Dywedodd yr Aelod Etholedig dros yr ardal nad oedd wedi ymlwybro ymhellach â’r mater yn ddiweddar ond roedd yn pryderu dros y preswylwyr a’u gofidiau.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Gweithgareddau a oedd data ar gael i’r heol hon, megis Asesiad o Effaith ar Draffig. Atebodd y Pennaeth Gweithgareddau y byddai’n dychwelyd i’r Pwyllgor gyda gwybodaeth bellach.  (GWEITHREDU R.H.)

 

 

 

6.

Adroddiad Alldro Refeniw a Chyfalaf pdf icon PDF 838 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Diben yr adroddiad hwn yw darparu gwybodaeth i Aelodau ar arolygon sefyllfa refeniw alldro'r Awdurdod ar ddiwedd cyfnod cofnodi 4 sy’n cynrychioli’r sefyllfa alldro ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16.

 

Caiff yr adroddiad ei ystyried hefyd gan aelodau’r Pwyllgor Dethol fel rhan o’u cyfrifoldeb i:

·         asesu a yw monitro effeithiol o’r gyllideb yn digwydd,

·         fonitro i ba raddau y caiff cyllidebau eu gwario yn unol â’r fframwaith cyllideb a pholisi a gytunwyd,

·         herio rhesymoldeb garariannu neu danariannu rhagamcanol, a

·         monitro a gyflawnwyd yr enillion effeithlonrwydd neu’r cynnydd a ragwelwyd mewn cysylltiad â chynigion o arbedion.

 

Materion Allweddol ac Argymhellion:

 

Bod Aelodau’n ystyried tanwariant refeniw alldro net o £676,000, gwelliant o  £878,000 ar ragolygon alldro chwarter 3.

 

Mae Aelodau yn ystyried gwariant alldro cyfalaf o £18.3m yn erbyn cyllideb ddiwygiedig o £18.8 miliwn, ar ôl llithriad arfaethedig o £43.7 miliwn, yn arwain at danwariant net o £508,000, y mae oddeutu £433,000 ohono ar gael i’w ailgylchu at brosiectau/flaenoriaethau eraill, yr argymhellir ei ddal nes adolygu’r pwysau ychwanegol.

 

Ystyried a chymeradwyo’r llithriad cyfalaf o £43.7miliwn a argymhellir, gan roi sylw i’r cynlluniau hynny a gynhwysir ym mharagraff 3.5.4 lle gwnaed cais am lithriad gan y rheolwr gwasanaeth, ond na chaiff ei argymell i lithro (£170,000), a nodi lefel sylweddol y llithriad sy’n ofynnol ar alldro heb ei amlygu’n gynt yn y flwyddyn, sy’n tanlinellu pryder parthed rhagolygon cyfalaf y rheolwyr i’r dyfodol.

 

Ystyried y defnydd o arian wrth gefn arfaethedig a nodi’r gostyngiad sylweddol ar lefelau'r arian wrth gefn a glustnodwyd ar ddiwedd 2015-16 a’r arwydd tebygol ar ddiwedd 2016-17.

 

Cymeradwyo ailddyrannu mantolenni’r arian wrth gefn, yn unol â pharagraff 3.9.5 yn dilyn yr adolygiad actiwaraidd o’r arian yswiriant wrth gefn ac adolygiad o’r mantolenni arian wrth gefn bychain eraill er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau ar yr arian wrth gefn a’r dosbarthiad o dan wariant cyffredinol wrth ategu lefelau’r arian wrth gefn fel a ganlyn:

£1,037 miliwn i’r gronfa wrth gefn ar gyfer Diswyddiadau a Phensiynau

£419,000 i arian wrth gefn TG               

£350,000 i arian wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio

 

Cymeradwyo’r defnydd o arian wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio yn ystod 2016-17 sy’n gwneud cyfanswm o £30,835 fel cyfraniad ychwanegol Cyngor Sir Fynwy er mwyn galluogi’r gwaith ar fenter y Fargen Ddinesig i barhau.

 

Craffu Aelodau:

 

Diolchodd Aelod i’r Swyddog am yr adroddiad ac ymatebodd i’w chais am wybodaeth yn ebrwydd ac yn effeithiol. Gan fod gan yr Aelod gwestiynau penodol a ddymunai ofyn i’r Swyddog, gofynnodd yr Aelod a allai siarad ag ef yn bersonol ar ddyddiad hwyrach.

 

Codwyd cwestiwn llithriad a theimlai’r Aelodau y dylid defnyddio gwell blaengynllunio yn y dyfodol. Atebodd y Swyddog i ffigyrau gael eu heffeithio’n arwynebol ar hyn o bryd gan agenda ysgolion y dyfodol.

 

Holodd Aelod faint o staff wnaed yn ddi-waith. Atebodd y Swyddog i 102 gael eu gwneud yn ddi-waith yn 2015/16; 99 o ddiswyddiadau gorfodol a 3 phecyn gadael arall.

 

Gofynnodd Aelod a oedd Swyddogion yn ymwybodol o’r angen i greu arbedion drwy Gyngor Sir Fynwy yn gyfan. Atebodd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Dyfodol y Contract Safle Amwynder Dinesig pdf icon PDF 425 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyniasom adroddiad gan y Rheolwr Strategaeth Ailgylchu a Busnes i gynghori’r Pwyllgor ar y ffordd ymlaen arfaethedig i gytundeb Dragon Waste.

 

          Materion Allweddol:

 

Drwy gydol yr Adolygiad ar Ailgylchu gwnaed cyfeiriad at ddyfodol ein Safleoedd Amwynder Dinesig a’n Gorsafoedd Trosglwyddo a sut y dônt i ateb y diben yn weithredol ac yn ariannol i ategu’n darpariaeth casglu ar garreg y drws a sicrhau bod cynnig ailgylchu cynaliadwy o safon uchel ar gael i breswylwyr Sir Fynwy.

 

Er eglurder, mae cytundeb cyfredol Dragon Waste yn cynnwys y gwasanaethau canlynol:

 

·         Rheoli a gweithredu 4 Safle Amwynder Dinesig* (Llanffwyst, Pum Lôn**, Troddi a Brynbuga sydd ym mherchnogaeth CSF ac a reolir gan Dragon Waste)

·         Rheoli a gweithredu 2 Orsaf Drosglwyddo– Llanffwyst a Phum Lôn

·         Cludo gwastraff gweddill i Brosiect Gwyrdd Ynni o Wastraff ym Mharc Trident, Caerdydd.

 

(* y term cyfreithiol ar y safleoedd yw Amwynder Dinesig. Fe’u hadwaenir yn fwy cyffredin fel Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Domestig ac felly fe gyfeirir atynt yn y modd hwn drwy gydol y papur.

** mae safleoedd Llanffwyst a Phum Lôn dan brydlesau cynnal a chadw llawn i Dragon Waste lle mae Troddi  Brynbuga ym mherchnogaeth CSF ac yn cael eu rheoli ar ein rhan gan Dragon Waste.)

 

Mae hwn yn gytundeb hen iawn ac wedi datblygu dros amser fel mae deddfwriaeth a blaenoriaethau’n newid.

 

Yn 1994, ffurfiodd Cyngor Sir Fynwy a Terry Adams gwmni cyd-fentro (CCF), Dragon Waste, i weithredu a rheoli gwaredu gwastraff a’r Safleoedd Amwynder Dinesig. Roedd hyn yn ymateb i ddeddfwriaeth nad oedd mwyach yn caniatáu Awdurdodau Lleol i weithredu Safleoedd Amwynder Dinesig a’r canlyniad oedd sefydlu Cwmnïau Cyd-fentro neu Gwmnïau Gwaredu Gwastraff hyd braich yr Awdurdod Lleol.

 

Gwerthodd Terry Adams ei gyfranddaliadau i Viridor ac ers yr 1990au hwyr  mae Viridor wedi parhau’n brif gyfranddaliwr (81%) Dragon Waste.

 

Yn 2014 ail-drafodwyd y cytundeb gyda Viridor i ganiatáu trosglwyddiad llyfn i Brosiect Gwyrdd, gosod costau rheoli tryloyw i alluogi cyflawni unrhyw gaffaeliad yn y dyfodol ar sail wirioneddol gymharol, cytundeb ailgylchu sy’n ateb y diben ac arbedion ar draws y cytundeb. Daethpwyd â chanlyniad y drafodaeth hon gerbron y Pwyllgor Dethol cyn ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Hydref 2014.

 

Mae Viridor hefyd yn dal y cytundeb organig ar gyfer ailgylchu gwastraff organig a gasglwyd ar garreg y drws. Mae’r cytundeb hwn yn gorwedd y tu allan i’r papur hwn gan fod y Pwyllgor Dethol a’r Cyngor eisoes wedi penderfynu ar ddyfodol hir dymor gwastraff organig ac wedi cytuno i bartneriaeth gyda Rhaglen Treulio Anaerobig Blaenau’r Cymoedd a fydd yn cychwyn o Ebrill 2018.

 

Mae’r ddeddfwriaeth sy’n caniatáu awdurdodau lleol i weithredu’u safleoedd eu hunain bellach wedi’i diddymu ac mae’r cyfle i redeg y safleoedd Amwynder Dinesig yn fewnol yn ddewis y mae rhai cynghorau wedi’i fabwysiadu.

 

Craffu Aelodau:

 

Cwestiynwyd a fyddai unrhyw faterion ymarferol neu anymarferol i’w hystyried parthed yr awgrymiadau i wella perfformiad megis agor bagiau du preswylwyr neu wneud rhai safleoedd yn rhai ailgylchu’n unig drwy gyfyngu ar waredu gwastraff bagiau du. Dywedwyd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adolygu Ailgylchu a Chynlluniau Gweithredu pdf icon PDF 4 MB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Er mwyn diweddaru’r Pwyllgor Dethol ar y casgliadau ailgylchu peilot y bwriedid eu cychwyn ym Medi eleni ac er mwyn i Aelodau nodi a gwneud sylw ar y cynigion ar gyfer yr arbrawf ar gyfer yr Adolygiad Ailgylchu fel yr adroddwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor a’r Cabinet.

 

          Materion Allweddol:

 

Mae’r adolygiad ailgylchu wedi bod gerbron y Pwyllgor Dethol sawl gwaith. Cytunwyd y byddai adroddiad pellach yn dod gerbron yr Aelodau gyda manylion y cynllun peilot a gymeradwywyd fel bod dealltwriaeth lawn o’r hyn roeddem yn ei gynllunio o flaen adroddiadau pellach yn gynnar yn 2017 gydag argymhelliad terfynol i’r awdurdod. I grynhoi bydd y cynllun peilot:

 Yn symud gwydr o’r bagiau porffor a’u casglu ar wahân

Y bagiau coch a phorffor i aros ar wahân ar gyfer yr arbrawf

Y gwastraff bwyd a gardd i’w gasglu fel ar hyn o bryd, gan gydnabod bod ymrwymid eisoes i’w casglu ar wahân

Gwastraff gweddill – bob pythefnos a 2 fag (gweler isod y cynnig i ailgyflwyno bagiau llwyd)

 

Mae’r ardal beilot wedi’i mapio, yn amodol ar adolygiad manwl o fynediad i gerbydau.

Dangosir y cylchoedd casglu yn atodiad 1. Fel y cofnodwyd yn flaenorol, roedd y cynllun peilot i’w leoli o gwmpas Gorsaf Drosglwyddo Llanffwyst oherwydd bod y safle’n gallu derbyn gwydr ar wahân heb yr angen am unrhyw fuddsoddiad mewn isadeiledd. Mae’r cynllun peilot yn cynnwys oddeutu 5,500 o gartrefi o fewn y Fenni, Gilwern, Llanwenarth, Goytre, Llanelen, Llanofer, Llangybi a Little Mill. Dewiswyd yr ardal hon am ei bod yn cynrychioli trawstoriad demograffig da o’r Sir ac mae’n cynnwys cymysgedd o ardaloedd dinesig, lled-ddinesig a gwledig.

 

Rydym yn dal i drafod gyda’r farchnad i benderfynu’r fanyleb derfynol ar gyfer y cerbyd peilot ond ein nod yw sicrhau cerbyd tair ffrwd gyda choden ar gyfer gwydr a chorff sy’n rhannu er mwyn casglu bagiau coch a phorffor ar wahân.

 

Mewn cyfarfodydd blaenorol pryderai’r Aelodau am y cynhwysydd a ddefnyddir i gasglu gwydr. Cynhaliwyd ymchwiliadau pellach a chredwn y dylid casglu gwydr mewn blwch. Paham? Rydym wedi ymchwilio i’r defnydd o flwch ynghyd â bag yn debyg i hesian y gellir ei ailddefnyddio gyda’n criwiau, awdurdodau eraill, ein swyddog Iechyd a Diogelwch gyda Chyngor Sir Fynwy ac ymgynghoriaeth Iechyd a Diogelwch allanol. Yr adborth a dderbyniwyd o bersbectif iechyd a diogelwch yw bod blwch yn fwy addas am nifer o resymau:

Bagiau – rhoddir straen ar un ysgwydd wrth gario/lwytho, Blwch – gwell technegau wrth godi, osgo ac ystum da, pwysau’n cael ei ddosbarthu rhwng y ddwy fraich.

Bagiau – posibilrwydd i lwythwyr gael eu hanafu oherwydd agosrwydd y bag yn ystod ei wacáu a pherygl i’r gwydr dorri.

Bagiau – Dim gwytnwch i gefnogi’r llwythwr yn ystod gwacáu, y blwch yn fwy gwydn, yn annhebygol o dorri, felly llai o berygl i’r llwythwr gael ei anafu.

Bagiau – Mwy o berygl iddynt chwythu i ffwrdd a sarnu ar y palmentydd.

Bagiau – Graddfa uwch o ddisodli o ganlyniad iddynt chwythu i ffwrdd a’u parhad yn fyr-dymor – amcangyfrifir oes bag  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Rheoli Mannau Agored Cyhoeddus pdf icon PDF 227 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Diben yr adroddiad yw ceisio barn y Pwyllgor ar y bwriad i gynnal adolygiad cynhwysol fydd yn penderfynu strategaeth Sir Fynwy yn y dyfodol ar gyfer rheoli a chynnal a chadw mannau agored cyhoeddus ym mherchnogaeth CSF.

 

          Materion Allweddol:

 

Mae Cyngor Sir Fynwy yn berchen ac yn rheoli amrywiaeth o fannau agored sy’n cyfateb i oddeutu 4’030’000m² ynghyd â nifer o safleoedd cefn gwlad a threftadaeth, gaiff eu cynnal a’u cadw’n bennaf naill ai gan Gynnal a Chadw Tiroedd, a leolir o fewn Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau/Gweithrediadau Gwastraff a Stryd neu Dwristiaeth, Hamdden a Diwylliant yn y Gyfarwyddiaeth Fenter.

 

          Craffu Aelodau

 

Croesawodd a derbyniodd yr Aelodau’r adroddiad.

 

 

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Ystyriodd y Pwyllgor y strategaeth ar gyfer rheoli a chynnal a chadw mannau agored cyhoeddus ym mherchnogaeth CSF yn y dyfodol a chytunodd â’r cynigion a gyflwynwyd yn yr adroddiad ac roeddent yn fodlon i’r adroddiad fynd yn ei flaen i’r cyfarfod Cabinet cyfleus nesaf.

 

 

 

 

 

10.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Cymunedau Cryf pdf icon PDF 180 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd yr eitem hon.

 

11.

Cabinet a'r Cyngor Ymlaen Gwaith Cynlluniwr pdf icon PDF 358 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd yr eitem hon.

 

 

 

12.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Thursday 21st July 2016 at 10am

Cofnodion:

21ain Gorffennaf 2016 am 10am