Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnodion: Derbyniasom ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Sir A. Webb.
|
||
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni dderbyniwyd un.
|
||
Fforwm cyhoeddus Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Sir V. Smith aelod o’i ward, John Nixon, aelod o’r cyhoedd a fynegodd bryderon ynghylch cyflymder y traffig y tu allan i’w gartref ger Gwesty Glan yr Afon a gobeithiai y gallai’r cyfyngiad cyflymder gael ei ostwng o 30 milltir yr awr i 20 milltir yr awr.
Cymeradwyodd y Cynghorydd Sir V. Smith fenter Brynbuga yn ceisio cyfyngiad cyflymder o 20 milltir yr awr gan ddweud mai llefydd i fyw ynddynt oedd trefi a phentrefi, ac nid llefydd i yrwyr yrru drwyddynt.
Mae’r Cynghorydd yn flaenorol wedi gofyn i’r cyfyngiad 20 milltir yr awr gael ei ehangu dros y bont i Woodside, cais a gafodd ei anwybyddu gan yr Adran Briffyrdd.
Awgrymwyd amrywiol ddatrysiadau ac awgrymiadau i swyddogion ond heb lwyddiant.
Awgrymodd Aelod bod Swyddog yn mynychu Cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol i fynd i’r afael â diogelwch y ffordd yn Sir Fynwy gyda gwahoddiad i’r holl aelodau.
|
||
Adroddiad Perfformiad Diogelu'r Cyhoedd 2015/16 PDF 94 KB Focus on Environmental Health Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyd-destun:
Ymgymryd â chraffu cyflenwi gwasanaeth a pherfformiad ar draws Amddiffyn y Cyhoedd yn 2015/16. Mae’r Is-adran Amddiffyn y Cyhoedd yn cynnwys Iechyd Amgylcheddol, Safonau Masnach a Thrwyddedu. Yr argymhellion yw i’r Pwyllgor ystyried a gwneud sylwadau ar gynnwys yr adroddiad yn dwyn yr enw ‘Perfformiad Amddiffyn y Cyhoedd’ ar gyfer y flwyddyn 2015/16.
Materion Allweddol:
Cymeradwyodd y Cabinet adroddiad ym Mawrth 2014 yn argymell gostyngiadau cyllideb i’r gwasanaethau Amddiffyn y Cyhoedd ar gyfer 2014/15 a’r blynyddoedd i ddod. Daeth y gostyngiad i £140,000, yn cynrychioli 7.2% o leihad mewn staff. Cafodd effaith y gostyngiad hwn ei graffu gan y Pwyllgor hwn yn Nhachwedd 2014, cyn i adroddiad fynd i’r Cabinet ar 7fedIonawr 2015. Ar yr adeg hon gwnaeth y Cabinet gais am adroddiadau bob chwe mis i’r pwyllgor Cymunedau Cryf i fonitro perfformiad ac asesu unrhyw effeithiau negyddol. Y bwriad oedd adolygu cynnydd a chymryd unrhyw gamau gweithredu a dybid yn angenrheidiol.
Cyflwynwyd adroddiad perfformiad i’r Pwyllgor hwn ar 14eg Medi 2015.
Mae’r adroddiad ynghlwm yn crynhoi perfformiad dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, 2015/16, ac mae’n tynnu sylw at y canlynol –
· mae’r pedwar tîm gwasanaeth, ar gyfer mwyafrif llethol y gwasanaethau maent yn eu cyflenwi, yn cwrdd â goblygiadau cyfreithiol yr Awdurdod mewn perthynas â’r gwasanaethau Amddiffyn y Cyhoedd. · bu ychydig ddirywiad mewn cau cwynion o fewn Amddiffyn y Cyhoedd, er enghraifft cwynion yn ymwneud â s?n ac achosion statudol eraill o niwsans. · bydd adroddiadau chwe misol yn parhau i gael eu gwneud i’r Pwyllgor hwn i asesu effaith gostyngiad yn y gyllideb ar berfformiad Amddiffyn y Cyhoedd. · mae archwiliadau diweddar, gan Swyddfa Archwiliad Cymru ac Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, yn dangos bod perfformiad cyfredol yn foddhaol o fewn Iechyd Amgylcheddol, ond byddai’r gwasanaeth yn ei chael hi’n anodd cymryd arno unrhyw ddyletswyddau statudol newydd sy’n amddiffyn y cyhoedd a’r amgylchedd.
Craffu Aelodau:
Gofynnodd Aelodau faint o staff oedd gan y Tîm Iechyd Amgylcheddol a dywedwyd wrthym 6.5 ynghyd â myfyriwr.
Dywedwyd wrthym fod swyddogaeth y Myfyriwr yn annatod i’r tîm. Adolygwyd holl ymweliadau’r myfyriwr am yr ychydig fisoedd cyntaf nes y teimlwyd bod y myfyriwr yn gallu gweithio’n annibynnol. Cynhwysai dyletswyddau’r myfyriwr ymweld â safleoedd gadael sbwriel yn anghyfreithiol, casglu samplau d?r, ymweld â safleoedd lle mae baw c?n.
Dywedodd y Swyddogion wrth y Pwyllgor am brosiectau cyfredol megis yr Eisteddfod, lle’r oedd eu cyfrifoldebau’n rhychwantu sawl maes gan gynnwys niwsans s?n a glanweithdra bwyd.
Gofynnodd Aelod sut oedd y tîm yn delio â llygredd aer a dywedwyd wrthym fod Iechyd Amgylcheddol yn monitro aer yn rheolaidd, Ar hyn o bryd mae gan Frynbuga a Chas-gwent drafferthion gydag ansawdd aer.
Trafododd yr Aelodau orfodaeth parthed baw c?n a gollwng sbwriel gydag Aelod yn dweud wrth y Pwyllgor am Gyngor lleol sy’n cyhoeddi lluniau o aelodau’r cyhoedd yn gollwng sbwriel fel ataliad.
Llongyfarchodd Aelodau’r Tîm Amgylcheddol ar ei waith a gofynnodd i swyddogion beth oedd eu pryderon. Mewn ymateb dywedwyd wrthym fod y tîm yn gweithio ar gapasiti ... view the full Cofnodion text for item 4. |
||
Adroddiad Perfformiad 2015/16: Amcanion Gwella a Chytundeb Canlyniad PDF 588 KB Year-end Performance Reporting together with Outcome Agreements and Improvement Plan. Cofnodion: Cyd-destun:
Ymgymryd â chraffu cyflenwi gwasanaeth a pherfformiad ar draws Amddiffyn y Cyhoedd yn 2015/16. Mae’r Is-adran Amddiffyn y Cyhoedd yn cynnwys Iechyd Amgylcheddol, Safonau Masnach a Thrwyddedu. Yr argymhellion yw i’r Pwyllgor ystyried a gwneud sylwadau ar gynnwys yr adroddiad yn dwyn yr enw ‘Perfformiad Amddiffyn y Cyhoedd’ ar gyfer y flwyddyn 2015/16.
Materion Allweddol:
Mae ffocws gwahanol i’r Cytundeb Canlyniadau a’r Amcanion Gwelliant:
Amcanion Gwelliant
Gosodir Amcanion Gwelliant yn flynyddol gan y Cyngor i gyflenwi ar flaenoriaethau. Er gwaethaf amcanion yn cael eu ffocysu ar yr hir dymor mae’r gweithgareddau penodol sy’n eu cefnogi’n ffocysu’n arbennig ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae gweithgarwch sy’n cyfrannu at rai amcanion yn trawstorri cyfrifoldebau’r Pwyllgor Dethol a chafodd y rhain eu hadrodd i’r pwyllgor(au) perthnasol eraill. Felly awgrymir bod aelodau’n canolbwyntio’u craffu ar y gweithgarwch sy’n berthnasol i’r Pwyllgor gan ystyried ei gyfraniad i’r amcan fel cyfanwaith.
Rhoddir sgôr i Amcanion Gwelliant yn seiliedig ar fframwaith gwerthuso Hunan-arfarnu’r Cyngor., fel yr amlinellir yng Nghynllun Gwelliant 2015/17, Tabl 1, a chofnodir perfformiad yn eu herbyn yng Ngham 2 y Cynllun Gwelliant a gyhoeddir ym mis Hydref bob blwyddyn.
Cytundeb Canlyniadau
Mae’r Cytundeb Canlyniadau’n gytundeb gyda Llywodraeth Cymru am gyfnod o dair blynedd, lle mae angen i’r Cyngor gyflenwi ar weithgarwch perfformiad a thargedau cysylltiedig sy’n cyfrannu at y Rhaglen Lywodraethu. Roedd y Cytundeb yn berthnasol ar gyfer y cyfnod o 2013 i 2016.
Yn haf 2015 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y flwyddyn derfynol o gyllid am berfformiad yn 2015-16. Ni fyddai cyllid mwyach yn gysylltiedig â pherfformiad yn y Cytundeb Canlyniadau a byddai’n cael ei dreiglo’n uniongyrchol i mewn i’r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer 2016-17. Golyga hyn fod y taliadau yn erbyn y targedau yn y cytundeb ar gyfer ar gyfer 2015-16, wedi’i sicrhau. Dyfarnwyd i’r Cyngor hefyd daliad llawn yn y ddwy flynedd flaenorol. Fodd bynnag o gofio’r pwysigrwydd a roddwyd ar y cytundeb fel rhan o fframwaith perfformiad y Cyngor cyflawnwyd gwerthusiad o berfformiad a gyrhaeddwyd dros y tair blynedd o gytundeb. Mae’r y gwerthusiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a’r dangosyddion perfformiad a osodwyd yn y Cytundeb Canlyniadau.
Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Mae Atodiad 3 yn amlinellu Dangosyddion Perfformiad Allweddol sydd yn y garfan dangosyddion Perfformiad Cenedlaethol a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru ac sydd dan gyfrifoldeb y Pwyllgor. Y prif bwrpas yw tynnu sylw at y perfformiad a gyflawnwyd yn 2015/16. Mewn rhai achosion gallai hyn arwain at ddyblygu dangosyddion a gynhwysir eisoes mewn rhannau eraill o’r adroddiad. Lle cyfeiria dangosyddion at berfformiad gwasanaethau sydd dan gyfrifoldeb mwy nag un pwyllgor caiff y rhain hefyd eu hadrodd i’r pwyllgorau perthnasol eraill.
Craffu Aelodau: :
Yn ystod trafodaeth gofynnodd yr Aelodau am lefelau salwch cynyddol a mynegi pryderon ynghylch llesiant staff.
Gofynnwyd paham fod canran y gwerthusiadau wedi disgyn, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Dywedwyd wrthym fod problemau cofnodi gyda dyfais ‘Clocio Mewn, Clocio Allan’ y Sir, a oedd yn cael eu datrys..
Gofynnwyd paham mai 76% oedd wedi manteisio ar y tocyn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
||
Scrutiny of the Annual Report for People Services Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyd-destun:
Cyflwyno adroddiad Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf gydag adroddiad cyntaf Blynyddol Gwasanaethau Pobl er gwybodaeth a sylwad. Rydym yn argymell bod y Pwyllgor Dethol yn ystyried cynnwys adroddiad blynyddol Gwasanaethau Pobl a dynodi unrhyw faterion y byddent yn dymuno i’r Tîm Gwasanaethau Pobl eu hystyried yn y dyfodol.
Materion Allweddol:
Mae’n pobl yng nghanol popeth a wnawn. Pwrpas casgliadol, angerdd a thalentau ein cydweithwyr, ar ac oddi ar y gyflogres, yw’r sylfeini i’n llwyddiant fel cyngor ac fel sir.. Rydym y credu bod pobl yn ymuno â’r gwasanaethau cyhoeddus i wneud gwahaniaeth ac rydym wedi datblygu gwasanaethau’n pobl er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i ymgysylltu, cefnogi a datblygu’n gweithlu, i sicrhau eu bod yn gallu gwneud hynny’n union, gwneud gwahaniaeth.
Er mwyn darparu eglurder pwrpas a chyfeiriad aethom ati i ddatblygu Strategaeth Pobl a Sefydliadau, yn cael ei hategu gan raglen gyflenwi uchelgeisiol. Rydym wedi cofnodi cynnydd yn erbyn y strategaeth yn 2015/16 ac mae Adroddiad blynyddol Gwasanaethau Pobl sydd ynghlwm, Mehefin 2016, yhn darparu crynodeb o weithgaredd yn erbyn ein meysydd gwelliant yn ystod y flwyddyn.
Gallwn fod yn falch o’r hyn mae’r gwasanaeth wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn a bydd hwn nawr yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer monitro gweithgarwch yn y dyfodol. Mae dod â’r gwahanol elfennau o wasanaethau’r Bobl ynghyd wedi cyflenwi gwasanaeth mwy clir, effeithiol ac effeithlon wedi’i drefnu o gwmpas diben cyffredin.
Craffu Aelodau:
Cwestiynodd Aelodau perthnasedd y data o ystyried dyddiad yr arolwg. Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd unrhyw gynlluniau i wneud yr arolwg yn flynyddol, teimlwyd bod ansawdd y cwestiynau yn hollbwysig, gyda staff yn cael eu holi ynghylch y cwestiynau y dymunent eu hateb.
Mynegodd Aelodau y teimlent fod y canlyniadau’n eu calonogi nad oedd y staff yn cael eu hanwybyddu.
Siaradodd Aelod ynghylch y Cyngor yn adeiladu strwythur tebyg i strwythur rhaglen Buddsoddi mewn Pobl; gyda phwysigrwydd yn cael ei osod ar siarad â staff, nodi’u diddordebau, meithrin eich staff eich hun.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod mentrau newydd yn digwydd, gyda llwybrau cod a hyfforddiant eisoes yno, mae’r cyfryngau cymdeithasol nawr yn chwarae rhan bwysig yn denu pobl i’r swyddi o fewn y Cyngor.
Gofynnodd y Pwyllgor am werthusiadau staff a dywedwyd wrthynt am y gwasanaeth newydd roddai bwyslais ar ansawdd yn hytrach na maintioli.
Dywedwyd wrthym fod gan y tîm arweinyddiaeth ddyletswydd i ofalu am ei staff.
|
||
Cymunedau Cryf Dewiswch Cynllunydd Gwaith i'r Dyfodol PDF 181 KB Cofnodion:
Trafododd Aelodau’r Rhaglen Waith ar gyfer Pwyllgor dethol Cymunedau Cryf. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Contractwr MRF · Toiledau cyhoeddus · Goleuadau Stryd · Cyflymdra ar yr Heolydd
Ychwanegwyd y rhain at y rhaglen waith.
Gofynnir i GAVO fynychu’r cyfarfod nesaf.
|
||
Cabinet a'r Cyngor Ymlaen Gwaith Cynlluniwr PDF 387 KB Cofnodion: Ystyriodd yr Aelodau Flaen-ddyddiadur Gwaith y Cabinet – ni ddynodwyd unrhyw faterion oedd angen craffu cyn gwneud penderfyniad.
|
||
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf Thursday 15th September at 10am Cofnodion: 15fed Medi 2016 am 10am.
|