Agenda and minutes

Special, Pwyllgor Craffu Cymunedau Cryf - Dydd Mawrth, 12fed Ionawr, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Remote Meeting. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni waned unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Fforwm Cyhoeddus Agored

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

3.

Strategaeth Ddiwygiedig ar Gyfiawnder Cymdeithasol pdf icon PDF 465 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Judith Langdon, Cath Fallon, Deserie Mansfield ac Ian Bakewell y cyflwyniad a’r adroddiadau a bu iddynt ateb cwestiynau’r aelodau. Gwnaed sylwadau ychwanegol gan yr Aelod Cabinet Sara Jones.

Her:

Nid yw’r adroddiad yn nodi’r amddifadedd a welir ar lawr gwlad. Sut y gallwn ni, fel awdurdod lleol, roi gwybod ble mae’r amddifadedd?

Ydi, mae hyn yn adlewyrchu’r hyn y mae swyddogion yn ei weld, sef amddifadedd gwasgaredig ei natur. Rydym yn gweithio ar fapio’r amddifadedd ar lefel cod post, ac mae hyn yn dangos ei fod yn frith ar draws y sir. Am ei fod mor wasgaredig, mae’n ymddangos nad yw’r ddeial yn symud, am nad yw’r crynodiadau’n ddigon mawr. Er hyn, os yw rhywun yn wynebu tlodi, incwm isel a’r effeithiau cysylltiedig, yr un yw’r profiad dim ots ble mae rhywun yn byw. Ond mae’n anodd dangos y darlun yma. Mae grwpiau gweithredu ynghlwm â phob un o’r blaenoriaethau sy’n rhan o’r Cynllun Mynd i’r Afael â Thlodi; un o dasgau cyntaf y gr?p Anghydraddoldeb fydd adeiladu cyfanwaith o ddata mwy soffistigedig a chymhellol sy’n ystyried sut y byddai’r darlun yn edrych pe byddai’r dotiau yn cael eu grwpio i mewn i un ward ddamcaniaethol, a sut y byddai’n cymharu ag ardaloedd eraill. Ynghyd â gwaith ymchwil meintiol a rhoi llais y rheiny sy’n wynebu amddifadedd wrth galon y gwaith, mae rhai meysydd sydd wedi datblygu amrywiaeth o gomisiynau er mwyn dod â phrofiadau pobl i’r amlwg. Bydd hwn yn brosiect cynnar a phwysig a fydd yn amlygu’r pa mor frith yw’r amddifadedd; gall hefyd ein helpu o ran cael sail dystiolaeth ar gyfer, er enghraifft, lobio am Grant Anghydraddoldeb gan Lywodraeth Cymru.

Rydym bellach mewn sefyllfa ble mae chwyddiant tai yn dod yn broblem i’r rheiny sy’n rhentu. Mae cyn dai Cymdeithasol wedi eu gwerthu’n ôl i ddatblygwyr preifat, sydd, yn eu tro, yn codi prisiau yn uwch na’r hyn y gall trigolion yr ardal ei fforddio.

Mae’r newid o ran amgylchiadau digartrefedd wedi amlygu nifer o sefyllfaoedd cudd y byddem wedi delio â hwy ers amser maith. Rydym nawr yn delio’n uniongyrchol gyda nifer sylweddol o bobl sy’n syrthio i mewn i’r categori amddifadedd, a sydd heb ddim wrth gefn. Mae hyn yn rhoi i ni garfan helaeth o bobl sy’n weladwy ac y gallwn weithio â hwy, a phobl y gallwn dargedu adnoddau sydd wir eu hangen atynt. Mae’r broblem o ran llety’n gywir, mae’n rhywbeth yr ydym yn ei wynebu trwy’r amser: ceisio sicrhau eiddo rhent preifat ar gyfer pobl, ond yn methu oherwydd lefel y rhent.

O ran tlodi bwyd, mae gennym system ddadansoddi data a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n brosiect sy’n datblygu – rydym yn adeiladu’r platfform ar hyn o bryd – a fydd yn cynnwys gwaith mapio cynhyrchwyr a busnesau bwyd, a bydd modd i ni ychwanegu data ar lefel ward. Gallwn osod y senario mynediad tlodi bwyd drosto. Mae mynediad i fwyd ffres, maethlon o fewn ein sir yn un o’r prif broblemau; mae hyn yn cynnwys drwy  ...  view the full Cofnodion text for item 3.