Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd yna ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd. Select Committee Public Open Forum ~ Guidance
Our Select Committee meetings are live streamed and a link to the live stream will be available on the meeting page of the Monmouthshire County Council website
If you would like to share your thoughts on any proposals being discussed by Select Committees, you can submit your representation in advance via this form
· Please share your views by uploading a video or audio file (maximum of 4 minutes) or; · Please submit a written representation (via Microsoft Word, maximum of 500 words)
The deadline for submitting representations to the Council is 5pm three clear working days in advance of the meeting.
If representations received exceed 30 minutes, a selection of these based on theme will be shared at the Select Committee meeting. All representations received will be made available to councillors prior to the meeting. If you would like to attend one of our meetings to speak under the Public Open Forum at the meeting, you will need to give three working days’ notice by contacting Scrutiny@monmouthshire.gov.uk . The amount of time afforded to each member of the
public to speak is at the chair’s discretion, but to enable
us to accommodate multiple speakers, we ask that contributions be
no longer than 3 minutes.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gyflwyniadau cyhoeddus.
|
|
Trafod y Strategaeth Iaith Gymraeg newydd 5-mlynedd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Alan Burkitt wedi cyflwyno’r adroddiad, wedi crynhoi ymatebion yr ymgynghoriad ac wedi ateb cwestiynau gan Aelodau. Her: Mae yna nifer fawr o siaradwyr Cymraeg yn ne’r sir ond nid yw’r nifer cyn uched yng ngogledd y sir. Fodd bynnag, mae Ysgol Y Fenni yn gwneud yn dda ond mae Ysgol Y Ffin yn cael trafferth gyda niferoedd. A ydym yn deall pam? Ydy, mae’n rhyfeddol faint o siaradwyr sydd yn ardal Cil-y-coed - yn bennaf gan fod pobl wedi symud yno o fannau eraill yng Nghymru er mwyn chwilio am waith yn y diwydiant haearn. Ond mae’r Fenni hefyd yn cynnwys llawer o siaradwyr a nifer o gymdeithasau Cymraeg. Mae mwy o rwydwaith o gwmpas yr ysgol na’r hyn sydd ar gael i Ysgol Y Ffin. Nid yw bod yn siaradwr Cymraeg o reidrwydd yn arwain at bobl yn mynychu digwyddiadau Cymraeg eu hiaith. Mae rhiant yng Nghil-y-coed yn llai tebygol o roi eu plentyn ar fws i fynd i Ysgol Gyfun Gwent Isgoed yng Nghasnewydd pan eu bod yn medru mynd i’r ysgol uwchradd iaith Saesneg. Efallai bod hyn yn effeithio’n fwy ar Gas-gwent: os yw plentyn yn mynd o Gas-gwent i Ysgol Y Ffin, bydd rhaid iddynt fynd i Gwent Isgoed ar gyfer eu darpariaeth uwchradd, sydd yn dipyn o daith. Felly, mae’n anodd iawn. Mae’r ddarpariaeth uwchradd Gymraeg bresennol y tu allan i’r sir yn ardderchog ond mae’r ystyriaeth ddaearyddol o bosib yn creu rhwystr - pan mae rhieni yn cynllunio addysg eu plant, maent yn meddwl am y daith gyfan, ac mae’r ddiffyg ddarpariaeth uwchradd yn cael effaith sylweddol ar eu penderfyniad yngl?n â pha ysgol y dylid danfon eu plant iddi. Os yw plentyn yn mynd o Ysgol Y Ffin i Gwent Isgoed yng Nghansewydd, mae’n symud allan o gyfrifoldeb Sir Fynwy. Sut y mae modd i ni integreiddio sut y mae ysgolion yn gweithio ar draws y ffiniau? Pe bai ein darpariaeth ein hunain gennym yn y sir, byddem yn gofalu amdanynt yn well gan y byddem yn gwybod ble ydynt a byddem yn parhau gyda’n gofal a’n cyfrifoldebau ond mae hyn o bosib yn fwy o gwestiwn ar gyfer yr Adran Plant a Phobl Ifanc. Mae’n bwysig bod ysgol uwchradd gennym rywle yn Sir Fynwy, gan fod y pellter sydd angen teithio yn anodd i rieni, a bydd nifer o blant sydd mewn ysgolion cynradd Cymraeg wedyn yn symud i ysgolion Saesneg. Gobeithio y bydd yna ddarpariaeth Gymraeg newydd yn yr ysgol newydd yn y Fenni. Os oes rhywun am sicrhau bod eu plentyn yn dysgu Cymraeg yn Sir Fynwy, rhaid iddynt wneud ymdrech benodol. Mae’r un peth yn wir am addysg grefyddol e.e. o ran mynychu ysgol Gatholig, mae disgyblion ond yn medru mynd i St. Albans yn Nhorfaen. Eto, mae hyn o bosib yn fwy o gwestiwn ar gyfer r Adran Plant a Phobl Ifanc. O ran ymgysylltu â'r cyhoedd yn y dyfodol, beth sydd angen er mwyn caniatáu i rywun i fynychu’r Pwyllgor, gofyn cwestiwn yn Gymraeg ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 779 KB Cofnodion: Cadarnhawyd y cofnodion ac fe’i llofnodwyd fel cofnod cywrain, a chynigiwyd hyn gan y Cynghorydd Webb a’i eilio gan y Cynghorydd Edwards.
Cadarnhawyd y cofnodion hefyd ar 6ed Chwefror a chynigiwyd hyn gan y Cynghorydd Treharne a’i eilio gan y Cynghorydd Webb
|
|
Rhestr weithredu |
|
Cymunedau Cryf: blaenraglen gwaith PDF 492 KB Cofnodion: Byddwn yn cwrdd fel gweinyddiaeth newydd er mwyn llunio’r blaenraglen waith a fydd o bosib yn ddibynnol ar y strwythurau craffu newydd a fydd yn cael eu gweithredu.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf |