Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd yna ddatganiadau o fuddiant.  

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol

 

Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy

 

Os hoffech i rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

 

·      Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud) neu os yn well gennych;

·      Cyflwynwch gynrychiolaeth ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)


Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer
cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod.

 

Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

 

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gyflwyniadau cyhoeddus.  

 

 

3.

Adroddiad Perfformiad Diogelu’r Cyhoedd 2020/21 ac ymateb yr Adran i’r pandemig Coronafeirws pdf icon PDF 235 KB

Ystyried yr adroddiad perfformiad ar gyfer y gwasanaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd David Jones a Gareth Walters wedi cyflwyno’r adroddiadau ac wedi ateb y cwestiynau gan yr Aelodau gyda  Gillian Dicken.

 

Her:

 

O ran yr ymateb i’r pandemig, a fyddech yn gwneud rhywbeth yn wahanol flwyddyn nesaf o’i gymharu â’r llynedd?

 

Rydym yn ystyried yr hyn a wnaethom drwy gyfrwng  Aneurin Bevan: mae’r 6 tîm ‘Profi, Olrhain a Diogelu’ yn ystyried y gwersi sydd wedi eu dysgu ayyb. Roeddem wedi ymateb yn dda, gyda’r trefniadau llywodraethu wedi eu cadarnhau yn gyflym ac wedi gweithio’n dda. Rydym wedi cynnig adborth nad yw cyhoeddiadau ar b’nawn Gwener yn ddefnyddiol ar gyfer y rhengflaen, gan fod darparwyr (e.e. ysgolion) eisoes yn brysur wrth geisio dehongli’r cyhoeddiad cyn diwedd yr wythnos. Gwers arall yw y byddai’n ddefnyddiol cyd-lunio ychydig o’r canllaw gyda’r swyddogion rhengflaen e.e. y Gweithdrefnau gweithredol Safonol, gan fod llawer iawn ohonynt wedi eu cyhoeddi. Bydd yna adroddiadau rhanbarthol a chenedlaethol ar y gwersi sydd wedi eu dysgu a’r hyn y byddem wedi ei wneud yn wahanol.  

 

Faint o fusnesau neu unigolion ydych wedi erlyn yn y 12 mis a beth oedd y canlyniad?

 

Roedd wedi mabwysiadu agwedd lle’r oeddem yn ceisio annog defnyddwyr busnes, yn hytrach  na’n ffocysu ar orfodaeth. Roedd Trwyddedu wedi cyhoeddi 8 hysbysiad  gwella  e.e. ar gyfer cwsmeriaid tafarn sydd yn tramgwyddo’r rheolau - roeddem wedi mynd at y Goruchwylydd Safle dynodedig ac wedi delio gyda’r cwynion ac wedi ymweld  eto gyda’r safle er mwyn sicrhau bod pethau wedi gwella.  Mae Heddlu Gwent yn hapus mynychu canol y trefi ar nos Sadwrn a mynd i dafarndai gwahanol, sy’n seiliedig ar ein cyngor. Bydd llawer ohonynt allan yn  ar  ‘Black Friday’. Yn sgil ein ffocws yn gweithio gyda busnesau yn hytrach na’u gorfodi, mae ond llond llaw o lefydd wedi eu herlyn. 

 

A oedd unrhyw le wedi ei erlyn gan nad oedd yr  hylif diheintio dwylo yn cydymffurfio gyda’r safonau?

 

Yn ffodus, nid oedd llawer o gwmnïau yn creu’r hylif diheintio yma, oni bai am ambell fragdy a oedd wedi dechrau gwneud hyn. Roeddem wedi cynnig cyngor iddynt er mwyn medru creu’r hylif. Roedd unrhyw beth a oedd yn methu cydymffurfio gyda’r safonau yn cael ei gasglu a’i ddifa. Roedd y wybodaeth wedi ei throsglwyddo wedyn i’r awdurdod cartref  er mwyn iddynt hwy gymryd camau gweithredu. Byddwn yn cadarnhau ag Aelodau'r nifer o achosion yr ydym wedi erlyn. Ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), rydym eto yn ceisio cynnig cyngor, yn gweithio’n agos gyda’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, sydd wedi bod yn rhagweithiol yn cynnal gwiriadau. Mae busnesau Sir Fynwy wedi gwrando ar y cyngor a’i ddilyn. Rydym wedi cyhoeddi 22 hysbysiad gwella; 9 yn Lletygarwch, 6 yn Manwerthu Bwyd, 1 yn Manwerthu a 6 mewn gwasanaethau cyswllt personol agos, fel arfer siopau torri a thrin gwallt. 

 

Pa effaith y mae pasbortau Covid yn ei gael ar berfformiad y tîm?

 

Rydym wedi ceisio annog busnesau i gydymffurfio gyda phasbortau. Eto, mae cydymffurfiaeth wedi bod yn dda iawn.  Nid oes achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth gyda’r gofynion PPE. Bydd pasbortau yn ddefnyddiol  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol pdf icon PDF 136 KB

Craffu ar yr Adroddiad Monitro Blynyddol 2020-2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Alan Burkitt wedi cyflwyno’r adroddiad ac wedi ateb cwestiynau’r Aelodau.  

 

Her:

O ran anabledd, a ydym yn medru cynnig cyflogaeth i bobl sydd yn agosáu at ymddeoliad, neu wedi ymddeol?

 

Y cwestiwn yw a oes yna gyfyngiad ar y person yr ydym am gyflogi, o fewn y nodweddion gwarchodedig: er enghraifft, ni ddylai oedran wneud gwahaniaeth yngl?n ag a ddylid cyflogi rhywun. Bydd person h?n yn cynnig cyfoeth o brofiad ond mae angen taro cydbwysedd rhwng hyn  a’r angen i gyflwyno gweithwyr iau i’r sefydliad. Mae’r sefyllfa gyfredol o ran gweithio gartref wedi newid pethau - er enghraifft, mae person ag anabledd corfforol a fyddai wedi cael trafferth yn teithio i’r swyddfa nawr yn medru gweithio gartref gyda llai o gyfyngiadau. Gydag achos diweddar o berson ifanc ag awtistiaeth a’i gyflogwr yn ansicr sut i ddiwallu ei anghenion, rydym wedi gweithio er mwyn trefnu profiad gwaith ar ei gyfer a’i fentora. Felly, mae llawer o waith i’w wneud yn y maes hwn sydd yn cael ei wneud yn y cefndir.  

 

Mae’r term ‘cyflog bwlch rhwng y rhywiau’ yn peri penbleth yn sgil y gwahaniaeth rhwng y swyddi a’r gwahaniaeth rhwng y sawl sydd yn gwneud yr un rôl. Ai term Llywodraeth Cymru yw hwn?

 

Ydy - nid yw’r bwlch o reidrwydd yn ymwneud gyda’r gwahaniaeth rhwng y sawl sydd yn gwneud yr un ôl ond mae’n cymharu swyddi tebyg - gyda lefelau o gyfrifoldebau cymharol. Er enghraifft, fel cymdeithas, mae yna gwestiwn yngl?n â’r angen i hurio mwy o ofalwyr (sydd yn tueddu i fod yn fenywod) - a oes angen i ni asesu’r sgiliau sydd angen i fod yn ofalwr un-i-un, ac ailystyried yr hyn y maent yn cael eu talu, yn sgil yr hyn y maent yn cyfrannu ac yn darparu? Mae’n anodd cynnig manylion penodol ond mae’n ymwneud gyda phroblem sydd yn golygu, yn hanesyddol, nad yw gyrfa sydd wedi dominyddu gan fenywod yn cael ei thalu'r un peth â gyrfa sy’n cael ei dominyddu gan ddynion sydd  â sgiliau cyfatebol. Ni ddylid cael ystrydebau rhyw nawr o fewn swyddi ac mae angen newid hyn. Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni adrodd arno fel  rhan o’r Ddeddf Cydraddoldeb.    

 

Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ymwneud â’r geiriad. Cafwyd problem yn y gorffennol o fenywod yn cael eu talu’n llai na dynion tra’n gwneud yr un rôl. Ar y llaw arall, mae yna rai dynion sydd yn aros gartref nawr gan fod y partner yn medru ennill mwy o arian, ac felly, mae pethau’n dechrau newid.  

 

Oes, mae cryn ffordd i fynd ond rydym yn gweithio ar hyn. 

Ar dudalen 11, amcan 3, mae yna gyfeiriad at y platfform digidol  ‘Box Clever’. A ydych wedi ail-ddechrau profi hyn?

 

Ar yr adeg yr oedd yr adroddiad yn cael ei lunio, cafodd ei oedi yn sgil y pandemig. Nid oes yna wybodaeth bellach ar gael eto ond gallaf gadarnhau hyn a diweddaru Aelodau.  

 

Pa effaith y bydd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’n rhaid dod â’r Pwyllgor i ben yn gynt na’r disgwyl yn sgil trafferthion technegol. Bydd yr eitem hon o’r agenda yn cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf.  

 

6.

Blaenraglen Gwaith Cymunedau Cryf pdf icon PDF 509 KB

Cofnodion:

Bu’n rhaid dod â’r Pwyllgor i ben yn gynt na’r disgwyl yn sgil trafferthion technegol. Bydd yr eitem hon o’r agenda yn cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf.  

 

7.

Blaenraglen Gwaith y Cabinet a’r Cyngor pdf icon PDF 531 KB

Cofnodion:

Bu’n rhaid dod â’r Pwyllgor i ben yn gynt na’r disgwyl yn sgil trafferthion technegol. Bydd yr eitem hon o’r agenda yn cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf.  

 

8.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

25ain Ionawr 2022.