Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Cytunodd y pwyllgor i gofnodi unrhyw ddatganiadau o fuddiant fel sydd angen ac yn briodol wrth drafod yr adroddiadau.  

 

 

2.

Fforwm Agored Cyhoeddus.

3.

Craffu ar y cynnydd o ran gweithredu Strategaeth Toiledau Lleol Sir Fynwy cyn diweddaru Llywodraeth Cymru (adroddiad i ddilyn). pdf icon PDF 597 KB

Gweler y ddolen isod i adroddiad Penderfyniad Aelod Cabinet Unigol sy'n ymwneud â Strategaeth Toiledau Lleol Sir Fynwy dyddiedig 12 Mehefin 2019.

 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=147&MId=3900

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd David Jones, Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd, wedi cyflwyno’r adroddiad a rannwyd fel rhan o’r agenda a gyhoeddwyd.  Esboniodd David mai pwrpas yr adroddiad oedd gweithredu’r strategaeth toiledau a gytunwyd ym Mehefin 2019. Dywedodd bod angen adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar y cynnydd a wnaed ar weithredu’r argymhellion dros y ddwy flynedd ddiwethaf a gofynnodd a oedd y pwyllgor am wneud argymhellion pellach.   

Roedd David wedi trafod cynnwys yr adroddiad yn fanwl, gan amlygu’r pwyntiau i’w gweithredu a’r canllaw statudol, gan ddefnyddio’r gwaith a wnaed er mwyn mapio’r holl gyfleusterau  ac esboniodd y camau allweddol i’r aelodau a amlinellwyd ym mharagraffau  3.7 a 3.8 ac atodiad 1. Mae’r pandemig covid wedi atal y tîm rhag bwrw ymlaen gyda'r gwaith i raddau  gan fod rhai o’r toiledau wedi eu cau pan yn ymweld gyda hwy, ond esboniodd fod gwelliannau wedi eu gwneud i rai cyfleusterau. O bersbectif cydraddoldeb a chenedlaethau’r dyfodol, esboniodd bod mwy o doiledau gennym  y pen o’r boblogaeth na nifer o siroedd eraill. Amlygodd  David y 10 prif gam gweithredu allweddol sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad a thrafodwyd bob un yn eu tro, cyn cymryd cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.   . 

Her gan Aelod: 

 

Roedd y cadeirydd wedi diolch i David am ei gyflwyniad  cynhwysfawr a diolchodd y tîm am eu gwaith yn ystod cyfnod heriol a digynsail. Gofynnodd y pwyllgor i ofyn eu cwestiynau a chytunodd i grynhoi’r cwestiynau er mwyn eu darparu i David a’r aelod cabinet fel a ganlyn:

 

·         Roedd Aelodau wedi gofyn iddynt ystyried gosod toiled yng Nghyffordd Twnnel Hafren, a hynny mewn partneriaeth gyda Thrafnidiaeth Cymru.  

·         Roedd y Pwyllgor wedi amlygu’r angen am arwyddion mewn toiledau er mwyn rhoi manylion am bwy sydd yn gyfrifol am lanhau a pha mor aml y mae’r toiledau yn cael eu glanhau.  

·         Roedd Aelodau wedi tynnu sylw at yr angen am  gadwyni diogelwch, gan awgrymu bod rhai problemau wedi eu profi gyda’r toiledau yng Nghil-y-coed.

·         Roeddynt hefyd wedi gofyn am gadarnhad bod problemau gyda’r ffôn hefyd wedi eu datrys a bod Profion Legionella wedi eu cynnal ar ôl cau’r toiledau yn ystod y pandemig.

·         Roedd Aelodau wedi gofyn i’r Cabinet i ystyried a oedd yn bosib i godi tâl am ddefnyddio toiledau.  

·         Roedd y pwyllgor wedi gofyn i swyddogion i ystyried eto i weithio gyda chyfleusterau preifat er mwyn eu hagor i’r cyhoedd.  

·         Roedd Aelodau wedi gofyn pam fod  toiledau White Horse Lane ar agor, a hynny er i’r Pwyllgor Dethol argymell y dylent gael eu cau am eu bod mewn cyflwr gwael.  Awgrymodd Aelodau ystyried y cyfleusterau gwell sydd ar gael mewn gwledydd eraill fel Seland Newydd, ac yna codi tâl ar gyfer eu defnyddio.  

·         Roedd yna bryder bod Toiledau Brynbuga yn teimlo’n anniogel yn sgil y ffordd y maent wedi eu gosod ac mae angen ystyried maint y toiledau er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb gan eu bod yn gul iawn. 

·         Roedd yna bryderon hefyd yngl?n â mynediad i’r anabl  a bod angen arwydd er mwyn rhoi gwybod ble  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf. pdf icon PDF 491 KB

Cofnodion:

Ni nodwyd unrhyw eitemau ychwanegol.  

 

 

5.

Blaenraglen Waith y Cabinet a’r Cyngor. pdf icon PDF 167 KB

Cofnodion:

Ni nodwyd unrhyw eitemau ychwanegol.

 

Roedd y pwyllgor wedi rhoi diolch i’r cadeirydd am gadeirio ardderchog yn ystod y flwyddyn a diolchodd hithau iddynt am eu caredigrwydd a’u cefnogaeth.   

 

 

 

 

6.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 467 KB

7.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.