Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Batroini ddatganiad o fuddiant fel Uwch Ddadansoddydd ar Ddeddfwriaeth Ewropeaidd I’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r sefydliad Hawliau Dinasyddion sydd ynghlwm â’r weinyddiaeth.

 

2.

Fforwm Agored Cyhoeddus.

Cofnodion:

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

3.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019-20. pdf icon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Alan Burkitt yr adroddiad at atebodd gwestiynau’r aelodau.

Her:

Mae’r strategaeth hon yn gysylltiedig ag 8 arall – a ddylid crynhoi pob un ohonynt a sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar bethau penodol?Ai hwn yw’r cynllun trosfwaol, neu ai’r Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol yw hon? Ym mha fodd y mae’r ddau gynllun yn plethu?

O dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gennym gyfrifoldeb i lunio’r strategaeth yma. Mae llawer o waith da’n mynd rhagddo o ran yr agenda yma, ond mae’n anodd iawn plethu’r gwaith; byddai ‘gorgyffwrdd’ yn ddisgrifiad gwell. Mae’n wir y gallent asio’n well o bosib. Ond rydym yn trafod gyda’n gilydd fel grwpiau, felly mae cydweithio cadarnhaol yn digwydd, ac mae’r gwaith ar wahân. Gallem weithio mwy ar gysylltu gyda’n gilydd, dylem gadw hyn mewn cof. Efallai nad yw’r gwaith wedi ei strwythuro mor daclus ac sy’n bosibl, ond mae hyn yn ein brwdfrydedd i wneud cymaint o waith â phosibl.

Mae’n ymddangos bod y gwaith ar Dlodi ac Anghydraddoldeb yn digwydd ar ôl i gyllid gael ei ystyried. I ba raddau y mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yma, neu’r Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol, yn dylanwadu ar y broses gosod cyllidebau ar y cychwyn?

Mae’r ddogfen asesu’n edrych ar y nodweddion gwarchodedig, gan sicrhau nad yw’r bobl rheiny dan anfantais pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau. Rydym yn dueddol o gynhyrchu’r dogfennau yma pan mae adroddiad yn mynd i’r Cabinet neu i’r Cyngor, yn hytrach na’i defnyddio i siapio’r prosesau yn fuan. Nid fel hyn y dylai pethau fod. Golyga hyn nad yw’r asesiad yn benodol i’r penderfyniad hy mae’n digwydd ar ddiwedd y broses, pan mae’n llai effeithiol. O ran y Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS), nid dyma’r cynllun ei hun, ond y mesurau diogelu o fewn y Ddeddf Cydraddoldeb. Y broses y dylid ei defnyddio er mwyn ceisio sicrhau nad ydym yn rhoi pobl dan anfantais yw’r Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb (AEG). Fel sefydliad, mae angen i ni ddechrau edrych ar y ddogfen honno yn gynt.

Mae tudalen 19 yn cyfeirio at y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Mae wedi dod i’r amlwg fod plant mewn gofal a henoed sy’n ddinasyddion yr UE yn or-ddibynnol ar awdurdodau lleol i wneud cais drostynt. Faint o blant sy’n ddinasyddion yr UE sydd yn ein gofal a faint o henoed sy’n ddinasyddion yr UE sydd yn ein cartrefi gofal?

Nid wyf yn gwybod. Mae’n gwestian da ond nid wyf yn gweithio’n ddigon agos o ran y lefel yma o fanylder. Efallai fod gan Shaz Miah (Swyddog Cydlyniant Cymunedol) atebion, neu efallai mai hi fyddai’n gwneud y gwaith priodol.

Mae gorgyffwrdd posib yn bwysig, gan fod y rhan fwyaf o bethau yn gorgyffwrdd a ni ellir gwahanu dim bron i wahanol adrannau.

Ydi, mae’n anodd gwahanu materion. Mae llawer o waith da’n digwydd, ac mae lefel uchel o ymrwymiad. Mae’r gwahanol grwpiau yn gweithio gyda’u gilydd er mwyn croes gyffwrdd heb ddyblygu gwaith. Y peth pwysicaf i ni yw peidio â methu dim.

Mae angen i ni feddwl  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion y mae'r Adran Cynnal a Chadw Priffyrdd wedi'u hwynebu yn ystod pandemig Covid-19, a'r cyfeiriad o ran symud ymlaen ar gyfer y gwasanaeth hwn (adroddiad i ddilyn). pdf icon PDF 443 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Carl Touhig yr adroddiad, ac atebodd gwestiynau’r aelodau gyda Steve Lane a Mark Hand.

Her:

Rydym yn croesawu’r tro pedol o ran toriadau i gyllideb y maes yma. A yw’r broblem o ran pobl yn parcio ar fannau gwyrdd a llacio’r pridd a mwd yn un gyffredinol, a sut y gallwn atal hyn?

Ydi roedd parcio ar leiniau’r broblem yn Magwyr, ac roedd hyn yn gwthio’r mwd ar draws topiau dreiniau. Mae’n broblem gyffredinol ar draws y sir. Hefyd, mae cerbydau mwy’n defnyddio’r ffyrdd bach gan wrthio’r mwd i’r dreiniau – felly mae’n broblem yn y trefi ac yng nghefn gwlad. Byddwn yn siarad gyda Gorfodaeth Parcio i weld a oes modd i ni stopio pobl rhag parcio ar y lleiniau, er mae hyn hefyd yn fater i’r heddlu. Mae parcio’n dod yn fater cynyddol anodd i breswylwyr, gan nad oedd ffyrdd wedi eu dylunio ar gyfer cymaint o geir. Mae angen i ni wneud mwy o waith o ran addysgu a chodi ymwybyddiaeth o’r problemau a achosir gan barcio anghywir.

Pan fyddwn yn torri gwair, mae’n mynd i bobman – a fyddwn nawr yn ei gasglu?

Y llynedd, cychwynnom ‘Dorri a Chasglu’ mewn rhai ardaloedd, er mwyn symud y daioni o’r gwellt a chefnogi blodau gwyllt i dyfu. Yn hanesyddol, rydym wedi ‘Torri a Gadael’ hy torri’r gwellt a’i adael yn ei le – rydym yn cydnabod bod hyn yn achosi i’r gwair chwythu o gwmpas. Y syniad o ran Torri a Chasglu yw y byddai’r sgubwr yn gweithio’n agos gyda’r sugnydd-gyli a rhai o’n problemau cynnal a chadw eraill. Felly p’unai ein bod yn torri gwrychoedd neu’n torri gwair, gallai’r sgubwr fod yn yr un ardal i’w glirio. Byddem yn gobeithio y byddai’r casglu’n digwydd lai na wythnos yn ddiweddarach.

Calonogol yw clywed bod y dreiniau yn Whitehall Lane yn cael sylw – mae’r ddwy ochr wedi blocio ers blynyddoedd, ac mae hyn yn difrodi wyneb y ffordd.

Rydym yn ceisio bod yn rhagweithiol a thargedu ein gwaith, gan sicrhau ein bod yn cadw’r ffordd yn ddiogel. Gall unrhyw ddeunyddiau sy’n cael ei adael ar y ffordd wneud eu ffordd i’r gyli. Mae pob draen wedi ei dylunio i fod â swmp, felly, yn dechnegol mae gan bob draen swmp ar y gwaelod. Mae deunyddiau trwm yn syrthio i’r swmp dan sylw ac mae’r d?r yn mynd allan o’r peipiau. Y broblem yw, os nad ydym yn gwagio’r swmpiau’n gyflym ac yn ddigon aml, yna mae’r gweddillion trwm yn mynd i mewn i’r peipiau ac i’r all-lifau. Nid yw priffyrdd yn gadael unrhyw fwd na thorion ar y ffordd – trydydd parti sy’n gwneud hyn. CCyfrifoldeb y trydydd parti yw clirio’r gweddillion, er y gallwn eu helpu a’u cefnogi drwy raglennu ein gwaith. Rydym yn bell o fod mewn sefyllfa sy’n ein galluogi i orfodi yn anffodus. Yn achos y prosiect yma, wedi 4 mlynedd, bydd gennym rwydwaith a fydd yn ein galluogi i dargedu ein gwaith hy gwagio’r gyli yn Whitehall Lane yn fwy  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 558 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd ac arwyddwyd gofnodion cyfarfod y 28ain o Ionawr 2021 fel cofnod cywir.

 

6.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf. pdf icon PDF 563 KB

Cofnodion:

Bydd y Strategaeth Toiledau Cyhoeddus yn cael ei hystyried yn y cyfarfod nesaf ym mis Ebrill.

 

7.

Blaenraglen Waith y Cabinet a’r Cyngor. pdf icon PDF 170 KB

8.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.