Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Cymunedau Cryf - Dydd Iau, 12fed Tachwedd, 2020 10.00 am

Lleoliad: Remote Microsoft Teams Meeting

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni waned unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

 

2.

Fforwm cyhoeddus

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

3.

Craffu ar Adroddiad Perfformiad Diogelu'r Cyhoedd 2019/20 ac ymateb Covid-19 yn 2020. pdf icon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddogion David Jones, Huw Owen a Gareth Walters yr adroddiad a bu iddynt ateb cwestiynau’r aelodau.

Her:

A oes cyrsiau hylendid bwyd yn cael eu rhedeg unwaith eto?

Na, dim eto. Gallwn edrych pryd y maent yn debygol o ail gychwyn.

A oes modd i ni glywed am yr effaith y mae toriadau i’r gyllideb wedi ei gael ar arloesi? Yn gyffredinol mae gostyngiad wedi bod o ran perfformiad – a yw hyn yn sgil y toriadau i’r gyllideb? Ac a oes gostyngiad cyfatebol o ran niferoedd staff?

Mae’r gyllideb wedi aros yr un fath yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn yn gydnabyddiaeth o’r gwaith caled sy’n cael ei wneud. Mae nifer y staff hefyd yn ymateb i’r pandemig, felly bydd perfformiad eleni’n dioddef o ganlyniad. Mewn cyfarfod cenedlaethol diweddar, trafodwyd ac edrychwyd yn fanwl ar ffyrdd y gellir cryfhau’r gwasanaeth drwy Lywodraeth Cymru; gobeithio y bydd hyn yn barod erbyn mis Ebrill nesaf.  Er hyn, nid oes sicrwydd, ond rydym yn bendant yn trafod y gyllideb a’r hyn y gallwn ei ddarparu.

Rydym yn falch, fel y gwelir yn Ffig.1 Nad yw nifer yr ymweliadau rhagweithiol wedi gostwng. Rydym yn dueddol o gofnodi ein hystadegau a’n perfformiad mewn dwy ffordd: ymatebion mewn tri diwrnod gwaith, ac achosion sydd wedi eu cau o fewn tri mis. Mae’r diwethaf yn arbennig o bwysig am ei fod yn mesur pa mor gyflym ac effeithiol y mae ein swyddogion yn delio â chwynion. Mae’r niferoedd o ran y rhain wedi cynyddu, felly mae perfformiad swyddogion o ran delio gyda chwynion wedi gwella. Rydym yn wasanaeth rhagweithiol iawn. Cyfnod yr haf yw ein cyfnod prysuraf o ran y cwynion a dderbynnir, ond mae’r cyfnod yn gwrthdaro gyda’r amser y mae ein swyddogion eisiau mynd ar wyliau – rydym, felly, o dan bwysau yn ystod y misoedd yma ac mae hyn yn lleihau faint o waith rhagweithiol y mae modd i ni ei wneud.

O ran lles anifeiliaid, rydym wedi bod, bob amser, yn gyson o ran ymateb o fewn y 90 canradd, ond roedd y llynedd yn arbennig o anodd, oherwydd salwch staff amrywiol. Collom aelod pwysig o staff y flwyddyn flaenorol, a chawsom drafferth llenwi eu swydd. Cyn y cyni, roedd gennym bump swyddog iechyd anifeiliaid, ond erbyn hyn mae gennym 2.4 FTEs. Gan ein bod yn arwain yn strategol ar Safonau Masnach Cymru a Lles Anifeiliaid, mae gennym ychydig o gyllid ychwanegol o ran Iechyd Anifeiliaid ar draws Cymru. Gall y Swyddog Walters gydlynu hyn, ac mae’r arian wedi galluogi’r tîm i benodi swyddog profiadol na fyddai wedi bod â diddordeb yn y swydd fel arall. Ymunodd dau swyddog arall ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, ond mae Covid wedi cael effaith sylweddol ar eu datblygiad a’n gallu i’w hyfforddi. Rydym yn cyfathrebu’n gyson gyda Llywodraeth Cymru ar yr anawsterau y mae timau iechyd a lles anifeiliaid yn eu wynebu ym mhob awdurdod lleol. Yn ddiweddar, mae hyd yn oed yr RSPCA wedi gorfod lleihau’r gwaith y mae’n ei wneud  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Craffu ar Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Cofrestru 2019/20 ac ymateb Covid-19 yn 2020. pdf icon PDF 409 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddog Jennifer Walton yr adroddiad.

Her:

Pryd y bydd modd cofrestru genedigaethau mewn llyfrgelloedd unwaith eto?

Ym mis Mawrth, rhoesom y gorau i gofrestru mewn llyfrgelloedd a daethom a phopeth yn ôl i Swyddfa Brynbuga. Roedd hyn yn bennaf am ei bod yn haws i ni reoli’r amgylchedd pan fyddwn mewn un adeilad, ac mae’n rhoi mwy o gydnerthedd i ni pe byddai salwch ymysg staff. Rydym wedi bod allan ar gyfer rhai eithriadau, ee i Neuadd Nevill, ond nid oes cynllun ar hyn o bryd i fynd yn ôl allan i leoliadau eraill. Pe byddai anhawster a fyddai’n golygu bod angen i ni fynd i leoliad arall, wrth gwrs, byddem yn gwneud hynny. Hoffem i fwy o amser fynd heibio o ran y pandemig yn gyntaf cyn dychwelyd i batrwm arferol o fynychu’r holl leoliadau eraill.

A ydym yn rhagweld y bydd mewnlif mawr o ran gwaith i’ch tîm wrth symud ymlaen o ystyried faint o briodasau sydd wedi cael eu gohirio?

Mae gennym nifer fawr o briodasau wedi eu trefnu ar gyfer y flwyddyn nesaf. Maent wedi eu trefnu yn y fath fodd, mae modd i’r tîm sydd gennym ymdopi â hwy. Rydym yn wyliadwrus am fod llawer o bobl yn cychwyn gwneud cynlluniau eraill, felly mae’n anodd gweld sut y bydd y darlun mawr yn edrych yr haf nesaf. Os, yn y flwyddyn newydd, y bydd cyfyngiadau’n llacio, bydd nifer o’r seremonïau’n mynd yn eu blaen, ond os yw nifer y gwesteion i frecwast priodas yn cael ei gyfyngu i 15, bydd nifer eisiau gohirio.

Crynodeb y Cadeirydd:

Trafodom y posibilrwydd o symud cofrestriadau yn ôl i lyfrgelloedd, er mwyn bod yn fwy hyblyg i breswylwyr. Nid yw’r drefn arferol yn ôl yn ei lle, er mwyn gwarchod staff a chyflenwi yn ystod cyfnodau o salwch, ond mae’r staff wedi ymweld â Neuadd Nevill o dan amgylchiadau arbennig. Ow yw'r sefyllfa o ran y pandemig yn gwella, bydd y tîm yn edrych ar gychwyn rhedeg gwasanaethau yn y modd arferol eto.

 

 

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol

6.

Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf dyddiedig 17eg Medi 2020. pdf icon PDF 343 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod y cofnodion yn gofnod cywir.

 

7.

Cyfarfod Arbennig - Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf dyddiedig 28ain Medi 2020. pdf icon PDF 514 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod y cofnodion yn gofnod cywir.

 

8.

Rhaglen waith ymlaen Cymunedau Cryf pdf icon PDF 490 KB

Cofnodion:

Bydd y cyfarfod nesaf ar y 17eg o Ragfyr yn edrych ar y Cynllun Gweithredu Stategol ar Gydraddoldeb a’r gwaith ar doiledau cyhoeddus. Bydd cyfarfod arbennig ganol Ionawr er mwyn ystyried y Cynllun Gweithredu ar Dlodi.

 

 

9.

Rhaglen waith ymlaen y Cabinet a'r Cyngor pdf icon PDF 190 KB

10.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf